Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|||
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2018 fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|||
Datganiadau o ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. |
|||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. |
|||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. |
|||
Cwestiynau gan y Cyhoedd - Heb fod yn fwy nag 20 munud |
|||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio Ieuenctid a Diwylliant oddi wrth Richard Spanswick PDF 52 KB O ystyried y ffaith
fod llyfrgell wych a
mawr ei
defnydd, wedi’i hadeiladu
i’r diben, ac o fewn
cyrraedd yn
rhwydd ar
ei safle
yn Brook Street, y Trallwng, a all y
Cyngor gadarnhau y bydd
yn blaenoriaethu anghenion
y gymuned o flaen y dymuniad
i ail-leoli
swyddfeydd y cyngor o Neuadd Maldwyn i adeilad y
llyfrgell gan leihau stoc a mwynderau’r llyfrgell ar
yr un adeg,
a diogelu’r cyfleuster hwn
ar gyfer
defnydd y cyngor yn y
dyfodol? |
|||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Dysgu a'r Iaith Gymraeg oddi wrth Buddug Bates PDF 62 KB A all yr Aelod gyda chyfrifoldeb portffolio dros Addysg gadarnhau pryd y bydd ysgol uwchradd newydd categori 2a gogledd Powys yn debygol o agor?” |
|||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio Addysg a'r Iaith Gymraeg oddi wrth Heidi Wilson PDF 60 KB O ystyried yr ymarferiad ail-dendro diweddar ar holl drefniadau cludiant o’r Cartref i’r Ysgol, a all y cyngor roi sicrwydd i mi a rhieni eraill y mae eu plant yn defnyddio bws lleol x48 (llwybr BW61 Llanddewi i Lanfair-ym-Muallt) fod asesiad risg llawn wedi’i gynnal a bod y cyngor yn fodlon fod mesurau diogelwch digonol ar waith petai damwain traffig yn digwydd ar y ffordd er mwyn diogelu ein plant cymaint ag sy’n bosibl ar y rhan beryglus hon o’r ffordd? Rwy’n gofyn hyn yn benodol mewn perthynas â’r disgyblion hynny sy’n gorfod sefyllfa tra’n defnyddio’r gwasanaeth hwn.
|
|||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio Priffyrdd, Ailgylchu ac Asedau oddi wrth Trudi Steadman PDF 49 KB Ynystod digwyddiad “cwrdd â’r cyngor” diweddar yn Y Gelli Gandryll, gofynnodd nifer o drigolion am faterion sy’n ymwneud â throsglwyddo asedau o Gyngor Sir Powys i Gyngor Tref Y Gelli Gandryll, gan fod hyn wedi bod dan drafodaeth am dros 3 blynedd. Fe fyddwn yn ddiolchgar petai aelod y cabinet yn gallu cynghori ar pryd y bydd trafodaethau’r cabinet yn cael eu cynnal o ran trosglwyddo asedau yn Y Gelli Gandryll a’r amserlen bosibl i gwblhau hyn fel y gellir sicrhau fod y wybodaeth hon ar gael i drigolion Y Gelli.
|
|||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio Priffyrdd, Ailgylchu ac Asedau oddi wrth Jane Rees PDF 57 KB O ystyried adroddiadau sy’n cadarnhau fod dros 300 o danau yn digwydd mewn gweithfeydd ailgylchu led led y DU*, pa mor fodlon mae Cyngor Sir Powys, petai digwyddiad o bwys yn y gwaith ailgylchu a gynllunnir yn Aber-miwl, na fyddai economi canolbarth Cymru yn cael ei barlysu trwy gau cefnffordd yr A483 a Llinell Reilffordd Cambrian? Byddai tân o’r fath mewn adeilad sydd wedi’i wasgu rhwng dwy ffordd brifwythiennol a chyda capasiti ciwbig o dros 18545m3, yn cael ei adael i losgi allan dros nifer o ddyddiau. Byddai hyn yn cael effaith drychinebus ar yr amgylchedd sensitif hwn ac yn arwain at gyfnod hir o aflonyddwch. Byddai angen i drigolion o fewn y pentref cyfagos adael eu cartrefi ar frys oherwydd y nwyon gwenwynig yr ydym yn gwybod sy’n cael eu rhyddhau o blastig yn llosgi+. O ystyried yr uchod, a ddylai’r Cyngor ystyried lleoliadau eraill sy’n fwy addas.*
|
|||
Rhybuddion o Gynigion |
|||
Hysbysiad o Gynnig - Ymgysylltu a'r Etholwyr Mae’rcyngor hwn yn credu fod awdurdodau lleol yn colli hyder yr etholaeth yn rhy aml gan eu bod yn ymddangos yn ddatgysylltiedig, ar wahân a ddim yn atebol. Mae angen gwneud mwy i ymgysylltu gyda’r etholaeth ac ennyn eu brwdfrydedd er mwyn gwneud llywodraeth leol yn rhan fwy bywiog a pherthnasol o’n cymunedau.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Gareth Pugh Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan |
|||
Hysbysiad o Gynnig ar gyfer gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ym Mhowys Trabo’r defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau wedi cael ei ystyried o bosibl fel adloniant yn y gorffennol, rydym, fel cymdeithas, wedi dod yn fwy gwaraidd dros amser ac mae nifer o’r farn mai creulondeb yw hyfforddi anifeiliaid gwyllt ac anifeiliaid heb fod yn ddomestig i wneud triciau ac i gadw anifeiliaid o’r fath mewn amodau cyfyngedig – yn enwedig pan fo syrcas ar daith. Yn wir, dywedir fod 45 o wledydd yn y byd eisoes wedi cyflwyno gwaharddiadau ar ddefnyddio anifeiliaid mewn syrcasau, gan gynnwys Yr Alban a’r Iwerddon. Rydym ni angen cyd-fynd â hyn. Mae’rpryderon wedi’u cydnabod gan Lywodraeth Cymru a gomisiynodd adroddiad, a gyhoeddwyd yn 2016, gan ganfod “nad yw bywyd i anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau … yn ymddangos i fod yn ‘fywyd da’ nac yn ‘fywyd sy’n werth ei fyw”. Ganymgynghori gyda’r cyhoedd ar y mater ehangach y llynedd, gofynnodd Llywodraeth Cymru hefyd a ddylid ystyried gwaharddiad ar anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Mae adroddiadau newyddion yn awgrymu fod yr ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn llethol, gyda Llywodraeth Cymru yn nodi fod “cefnogaeth gref o ran gwaharddiad”. Fodd bynnag, mae’n cymryd amser i ddeddfwriaeth ddod i rym a bydd syrcasau yn parhau i allu dod yn rhydd i Bowys, a fyddai, yn ôlcanlyniadau’r ymgynghoriad, yn erbyn dymuniadau nifer o’n trigolion. Er y cafwyd datganiad y bydd y mesur yn cael ei gyflwyno yn ystod y 12 mis nesaf, ac o ystyried ei fod wedi bod ar y gweill ers 2013, ac y gall brofi oedi pellach, mae camau y gall awdurdodau lleol eu cymryd yn y cyfamser. Gall y Cyngor weithredu’n uniongyrchol nawr ac annog syrcasau o’r fath i beidio â dod i’n sir. Mae 10 o Awdurdodau Lleol eisoes wedi gwahardd y defnydd o syrcasau sy’n defnyddio anifeiliaid gwyllt ar eu tiroedd. Mae angen i ni wneud yr un peth. Rydym angen anfon neges at Lywodraeth Cymru na ellir oedi gyda’r mater hwn ymhellach. Rydym angen dangos i’r cyhoedd ein bod yn cydnabod eu pryderon. Ymhellach at hyn, ers edrych ar y mater hwn, rydym wedi canfod fod syrcas sy’n defnyddio anifeiliaid gwyllt wedi bod ar daith i Bowys ac wedi cael ei hysbysebu trwy ysgolion, a mannau cyhoeddus CS Powys hyd yn oed. Rydym angen cyflwyno neges gref trwy ein holl adrannau, gan ddatgan nad ydym yn croesawu’r defnydd o anifeiliaid gwyllt yn y ffordd hon. Rwyf felly’n cyflwyno’r cynnig canlynol: Bod y cyngor hwn yn cynnig bod y camau perthnasol yn cael eu cynnig i wahardd unrhyw syrcas sy’n defnyddio anifeiliaid heb fod yn ddomestig a/neu anifeiliaid gwyllt, rhag llogi unrhyw dir sy’n eiddo i Gyngor Sir Powys. Bod y cyngor hwn yn cynnig, ymhellach at hyn, fod eiddo a gwasanaethau Cyngor Sir Powys (gan gynnwys Ysgolion ... gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem |
|||
Hysbysiad o Gynnig yn Cefnogi ein Pobl Ifanc Mae ein pobl ifanc yn wynebu pwysau a heriau sylweddol. Rydymyn galw ar y Cyngor felly i: · Gydnabodyr her, y peryglon a’r pwysau ar ein pobl ifanc · Paratoistrategaeth gefnogi i bobl ifanc 16 – 25 mlwydd oed ym Mhowys trwy bontio o wasanaethau cymdeithasol i blant gan gynnwys: · Sicrhauprosiect Llesiant yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd · Sicrhaufod Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai yn cydweithredu i osgoi arwahanrwydd o fewn yr awdurdod. · Cydweithredugyda Ffermwyr Ieuainc i godi ymwybyddiaeth am unigrwydd mewn cymunedau gwledig, materion iechyd meddwl, rhywioldeb a chyffuriau · Cydnabodgwaith elusennau lleol a darparwyr y trydydd sector, gan weithio gyda hwy i sicrhau cynaliadwyedd eu gwasanaethau cefnogi ar gyfer y dyfodol · Cydweithredugyda Shelter Cymru i hyrwyddo hawliau tai · Cydweithredugyda Cais · Datblygucyfleoedd am brofiad gwaith · Datblygu un o dyddynnod y Cyngor i gynnig profiad o weithio ar y tir, garddwriaeth a’r awyr agored fel rhan o’r broses o atgyfnerthu a bod yn gryfach ar gyfer unigolion. Cynigiwydgan y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan Eiliwydgan y Cynghorydd Sir Bryn Davies
|
|||
Hysbysiad o Gynnig - Effaith Brexit Mae’rCyngor yn nodi cyflwr presennol y trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd ar y Cytundeb Ymadael ar gyfer ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd (UE) ar y 29 Mawrth 2019, a’r posibilrwydd parhaus o’r DU yn ymadael o’r UE heb gytundeb cyfreithiol ar waith (y sefyllfa o ‘Ddim Bargen’).
Mae’rCyngor yn nodi ymhellach at hyn y byddai perthynas fasnachu a gwleidyddol y DU gyda’r UE fwy na thebyg yn seiliedig ar delerau a ddynodwyd gan Sefydliad Masnachu’r Byd (WTO) yn unig, petai’n sefyllfa o ‘Ddim Bargen’.
Mae’rCyngor hefyd yn nodi nifer yr awdurdodau lleol Cymraeg a Saesneg sydd wedi cynnal asesiadau effaith Brexit ar gyfer eu hardaloedd o fewn y DU.
Mae’rCyngor felly’n gofyn i Gabinet Cyngor Sir Powys i weithredu’r canlynol:-
Ganddefnyddio dadansoddiadau Cymru-gyfan a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) fel sail o ran effaith y sefyllfaoedd Brexit amrywiol ar Gymru yn gyffredinol, y dylid comisiynu dadansoddiad cynhwysfawr o’r effaith y bydd yr un sefyllfaoedd yn eu cael ar:-
a) Economi Powys, gan gynnwys yr effaith ar sectorau busnes unigol a lefelau’r siroedd a’r rhanbarth. b) Yreffaith ôl-ddilynol ar gymunedau Powys ar lefel leol, gan gynnwys newidiadau demograffig a newidiadau i incymau cartrefi; ac i gynnwys yr effeithiau ar gyfleoedd diwylliannol a hamdden lleol. c) Yreffaith ar amgylchedd Powys yn y tymor byr, canolig a hir. d) Yreffaith ar yr iaith Gymraeg ym Mhowys. e) GalluCyngor Sir Powys i gyflwyno ei wasanaethau statudol ac anstatudol, gan gynnwys effaith bosibl Brexit ar weithlu a chyllidebau’r cyngor. f) Sicrhaufod yr holl effeithiau a ddynodwyd o fewn a) i e) yn cael eu cynnwys ar Gofrestr Risg y Cyngor.
a bod galwadau pellach am Gyfarfod Arbennig o’r Cyngor i drafod y materion pan fydd y dadansoddiadau effaith wedi’u cwblhau.
Cynigiwydgan y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt Eiliwydgan y Cynghorydd Sir Pete Roberts
|
|||
Hysbysiad o Rybudd - Pleidlais y Bobl Mae’rCyngor yn nodi fod: - Y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd ar ddydd Gwener, 29 Mawrth 2019; - Mae Cymru yn derbyn £245 miliwn yn fwy o’r Undeb Ewropeaidd nag y mae’n talu i mewn (Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, Mai 2016);
-
Fe fydd
yn cymryd
blynyddoedd i’r DU sicrhau
bargen masnachu newydd
ar gyfer
amaethyddiaeth gyda’r UDA neu
Awstralia. Yn y cyfamser,
bydd rhaid
i ffermwyr
fyw dan
reolau llym
Sefydliad Masnachu’r Byd
heb lawer o
gefnogaeth (Pwyllgor Materion
Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, Senedd,
Ionawr 2017); - Mae cyfran arwyddocaol o economi Powys yn dibynnu ar yr Undeb Ewropeaidd am gefnogaeth masnachu ac ariannol; - Byddaibargen ddrwg neu ddim bargen Brexit yn wael i Bowys, i swyddi ac i’n heconomi, ac - Mae ‘Datganiad Chequers’, a gyhoeddwyd ar 6 Gorffennaf 2018, a’r arwydd agosaf eto o’r hyn y gallai’r fargen derfynol fod, wedi llwyddo i elyniaethu’r sawl oedd eisiau aros (Remainers) yn yr Undeb Ewropeaidd a’r sawl oedd am adael (Brexiteers) fel ei gilydd.
Mae’rCyngor hwn yn penderfynu: 1) Ychwanegu ei lais yn ffurfiol at y sawl sy’n galw am ‘Bleidlais y Bobl’ yn gyhoeddus ar y fargen Brexit derfynol; 2) Cysylltu ag ymgyrch swyddogol ‘Pleidlais y Bobl’ ar ffyrdd y gallai helpu i hyrwyddo ei deiseb; 3) Ysgrifennu at ei Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad, yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Prif Weinidog yn mynegi ei farn ac yn gofyn iddynt gefnogi Pleidlais y Bobl’; a 4) Gofyn i’r Arweinydd wneud sylwadau a’u hysgrifennu i’r perwyl hwn.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Susan McNicholas
|
|||
ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL DRAFFT 2017 - 18 PDF 84 KB Ystyried Adroddiad Perfformiad Blynyddol Drafft 2017-18. Dogfennau ychwanegol: |
|||
Ystyried trosglwyddiad cyfalaf ar gyfer Safonau Ansawdd Tai Cymru.
|
|||
DATGANIAD DRAFFT O EGWYDDORION, DEDDF HAPCHWARAE 2005 PDF 93 KB Ystyried cymeradwyo’r Datganiad Drafft o Egwyddorion dan y Ddeddf Hapchwarae 2005. Dogfennau ychwanegol: |
|||
PENODIAD AR GYNGOR IECHYD CYMUNEDOL Penodi aelod i wasanaethu ar y Cyngor Iechyd Cymunedol.
|
|||
Trefniadau i lenwi swydd wag ar y Pwyllgor Safonau PDF 83 KB Ystyried y trefniadau i lenwi un swydd wag yn dilyn cwblhau tymor yn y swydd gan Aelod (Lleyg) Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau. |
|||
PENODI AR BWYLLGORAU A CHYRFF ALLANOL Nodi bod y canlynol wedi’u penodi ar gyrff allanol gan grwpiau gwleidyddol a’u cymeradwyo gan y Swyddog Monitro dan b?er dirprwyo cyffredinol a roddwyd gan y Cyngor ar 16 Mai 2013:
Y Cynghorydd Sir Sarah Lewis wedi ymddiswyddo oddi ar y Pwyllgor Craffu Iechyd, Gofal a Thai
Penodi’rCynghorydd Sir Iain McIntosh ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn hytrach na’r Cynghorydd Sir Sarah Lewis
Y Cynghorydd Sir Gary Price wedi ymddiswyddo oddi ar y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
Y Cynghorydd Sir Maureen Mackenzie wedi ymddiswyddo oddi ar y Pwyllgor Craff Iechyd, Gofal a Thai. |
|||
Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad |
|||
I ba raddau mae mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru o fewn Powys yn cefnogi Gwasanaeth Ieuenctid statudol y cyngor? |
|||
Rydym, yn ddigon haeddiannol, yn dathlu’r lefel uchel o wastraff o’r cartref a ailgylchir gan drigolion Powys, ond beth yw’r llwybr a gymerir, a chyrchfan terfynol yr holl ddeunyddiau ailgylchu a gesglir o fin y ffordd gan Wasanaethau Gwastraff yr Awdurdod?
Dogfennau ychwanegol: |
|||
Ymmis Hydref 2017, cytunodd y Cyngor i gefnogi’r cynnig canlynol: PENDERFYNWYD 1. Bod y Cyngor yn credu y dylai wneud cymaint ag y gallai i helpu trigolion mewn tlodi tanwydd i liniaru’r sefyllfa; a) Byddaitrigolion Powys yn cael budd mawr o filiau ynni llai trwy gynllun newid ynni casgliadol a gynhelir gan Gyngor Sir Powys; b) Gall yr awdurdod ymuno ag awdurdodau a sefydliadau eraill yng Nghymru trwy gynllun Cyd Cymru; c) Mae cynlluniau a gynhelir gan Geredigion yn cynnig y model gorau ar arfer i redeg clybiau tanwydd o’r fath; d) Gall yr awdurdod ddefnyddio ei b?er i fargeinio’n gasgliadol ar gyfer cynlluniau prynu tanwydd ac olew deuol
2. Gofyni’r Pencampwr Gwrthdlodi a’r Gr?p Gwrthdlodi i archwilio dichonoldeb gweithredu ei gynllun ei hunan neu ymuno â chynllun Cyd Cymru. 3. Gofyni’r Pencampwr Gwrthdlodi a’r Gr?p Gwrthdlodi i archwilio dichonoldeb gweithredu cynllun prynu olew led led Powys. 4. Gweithiogyda chymdeithasau tai lleol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, grwpiau gwirfoddol, cartrefi gofal a chartrefi led led Powys i gynyddu ymwybyddiaeth ac i’w hannog i gofrestru ac ymuno gyda’r cynlluniau hyn. A ellir cyflwyno adroddiad ar y sefyllfa bresennol i ni a diweddariad ar gynnydd o ran y materion hyn? |
|||
Mae’rymgynghoriad yn gynharach eleni ar godi tâl am ddefnyddio mannau anabl ym meysydd parcio ceir yr awdurdod wedi achosi lefel sylweddol o bryder ac ansicrwydd i nifer o ddefnyddwyr. Tra fy mod yn gwerthfawrogi ac yn croesawu’r estyniad ar yr ymgynghoriad hwn, mae dros fis wedi mynd heibio ers iddo ddod i ben ac mae pryderon arwyddocaol yn parhau dros y cynlluniau sydd gan y cyngor ar y mater hwn.
A allaf ofyn felly
i’r aelod portffolio: 2. Pa lefel o gefnogaeth y mae pob opsiwn wedi’i dderbyn a phryd y bydd yn cyflwyno’r cynigion ffurfiol i’r Cabinet o ganlyniad i’r ymgynghoriad hwn neu a fydd yn rhoi ei gynlluniau i godi tâl ar ddeiliaid bathodynnau glas i’r neilltu?
|
|||
Pa waith mae Cyngor Sir Powys wedi’i gyflawni i gael dealltwriaeth well o’r cynnydd enfawr mewn Plant mewn Gofal sydd yn ei ofal?
|
|||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio Economi a Chynllunio oddi wrth y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan O ystyried y cynnig a gafodd ei basio gan y Cyngor hwn y llynedd yn pwysleisio’r angen i gynyddu canran y nwyddau a gwasanaethau a brynir gan Bowys, a oes gennym adroddiad diweddaru ar y sefyllfa ddiweddaraf?
|
|||
O’r 1 Hydref 2018, mae Cyngor Sir Powys yn tynnu ei Gynllun Cymhorthdal Llaeth mewn Ysgolion yn ôl ac ni fydd bellach yn gwneud hawliadau i’r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) am y cymhorthdal llaeth mewn ysgolion ar ran ysgolion cynradd y sir. O’r dyddiad hwnnw, bydd rhaid i ysgolion cynradd weinyddu’r cynllun a hawlio’r cymhorthdal drostynt eu hunain os ydynt yn dymuno parhau o fewn y cynllun.
Ar y rhagdybiaeth mai hi oedd wedi gwneud y penderfyniad, a all yr Aelod Portffolio gadarnhau a oedd hi wedi cynnal Asesiad Effaith llawn ai peidio i benderfynu’r effaith y caiff y newid hwn ar y nifer sy’n ceisio cael cymhorthdal llaeth mewn ysgolion a darparu llaeth am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd Powys cyn gwneud y penderfyniad hwn? |
|||
Mae goblygiadau ariannol tymor hir ar gyfer prosiectau presennol yn dibynnu ar gefnogaeth nawdd Ewropeaidd a sut y bydd y bylchau’n cael eu pontio.
A all yr aelod portffolio roi arwydd i’r cyngor o ba brosiectau sy’n cael eu hariannu ar hyn o bryd trwy nawdd cyfatebol uniongyrchol neu gysylltiadau nawdd Ewropeaidd eraill i brosiectau lleol i Bowys gyfan megis gwelliannau i Briffyrdd, prosiectau o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol (yn cynnwys Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant), prosiectau cyfalaf a phrosiectau seilwaith?
Pa gynlluniau sydd ar waith i sicrhau parhad gwasanaethau yn y tymor hir yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod?
|
|||
|
|||
Sutmae’r Cyngor yn sicrhau fod pobl ifanc yn derbyn prydau bwyd iach a chytbwys o ran maeth mewn ysgolion led led Powys? |
|||
Cwestiwn i'r Arweinydd oddi wrth y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance PDF 63 KB Mae mwy na blwyddyn wedi mynd heibio ers i reoleiddwyr y Cyngor arolygu Gwasanaethau Plant a chanfod methiannau difrifol. Mae adroddiad perfformiad diweddaraf y Gwasanaethau Plant (Awst 2018) yn dangos methiant y Cyngor i gyflwyno yn erbyn y pum prif ddangosyddion perfformiad. A fydd yr Arweinydd yn esbonio i’r Cyngor pam mae ei gweinyddiaeth, flwyddyn yn ddiweddarach, yn parhau i fethu plant, pobl ifanc a theuluoedd ym Mhowys?
|
|||
Cawsomwybod yn Ystradgynlais fod Safleoedd Casgliadau Ailgylchu mewn ardaloedd eraill yn parhau i fod mewn defnydd. Dywedwyd wrthym fod rhaid i ni gytuno i gau ein safleoedd er mwyn i’n Safle Ailgylchu barhau ar agor. Nidydym eisiau i safleoedd eraill gau ond rydym eisiau cael ein trin yn gyfartal. A all yr Aelod Portffolio ddweud wrthym ni beth yw’r sefyllfa mewn gwirionedd? |
|||
Yngynharach eleni, fe wnaeth yr aelod portffolio ar y pryd godi’r moratoriwm ar orchymynion traffic ym mhob cwr o’r sir. Tra bo cymuned Y Gelli Gandryll yn deall fod rhwymedigaethau ariannol difrifol ar gyllideb Cyngor Sir Powys oherwydd toriadau mewn nawdd a chynnydd mewn costau ar draws gwasanaethau’r cyngor sy’n taro cyllideb megis y gyllideb priffyrdd yn galetach, dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae datblygiadau o bwys o fewn y gymuned a fydd yn golygu cyflwyno gorchmynion traffig ar gyfer eu gwaith. A fydd yr aelod portffolio yn cefnogi Cyngor Tref Y Gelli a’r gymuned leol wrth ymgysylltu gyda hwy cyn cyflwyno unrhyw orchmynion i gefnogi cynllun y dref wrth gadw’r gostyngiad ar gyflymder o fewn y dref a gorchmynion traffig i gefnogi trafnidiaeth ddiogel o amgylch y dref?
|
|||
Mae trigolion Y Gelli Gandryll yn croesawu symud ymlaen tuag at reiliau newydd ar bont Y Gelli. Mae’n rhywbeth y mae Cyngor y Dref a minnau wedi bod yn gwthio amdano am nifer o flynyddoedd i’w wneud yn ddiogel ac i ddiweddaru un o’r mynedfeydd i’n cymuned dros yr afon Gwy. A all yr aelod portffolio gadarnhau fod gan y cyngor gynlluniau i ddechrau’r gwaith yn ystod y flwyddyn ariannol hon? |
|||
Mae Powys wedi cael llawer o lwyddiannau yn ddiweddar wrth erlyn masnachwyr diegwyddor a rhaid rhoi clod i’r swyddogion sy’n helpu i gadw ein strydoedd yn ddiogel. A all yr Aelod Portffolio wneud sylwadau am faint o arian sydd wedi’i godi o Enillion Troseddau?
|
|||
Rwyf yn gofyn am wybodaeth ar y broses i ymgeisio am Orchmynion Traffig y Ffyrdd gan nad yw’r Pwyllgorau Rhanbarthol bellach yn bodoli.
Mae’r Cyng. Davies wedi bod yn barod iawn i helpu wrth geisio dilyn mater lleol i mi yn Llangatwg ac yn parhau i gefnogi fy ngheisiadau rheolaidd am ddiweddariad. Yn anffodus, nid yw’n gallu darparu unrhyw rai ac rwy’n deall mai dyma yw’r achos i Gynghorwyr eraill hefyd.
A allai’r Cyng. Davies gadarnhau fod Gorchmynion Traffig y Ffyrdd yn cael eu trafod, sut mae’r broses yn gweithio a sut y gall Cynghorwyr gael syniad yn gyffredinol o le mae eu ceisiadau unigol o fewn y system?
|
|||
A all yr Aelod Portffolio Addysg ddweud wrth y Cyngor pa ddulliau cyflwyno digidol newydd y mae hi’n eu hyrwyddo i weledigaeth y Cyngor ar gyfer 2025? |
|||
A all yr Aelod Portffolio roi diweddariad i’r cyngor ar gyflwyno 250 o gartrefi newydd i’r Cyngor?
|
|||
Cwestiwn i'r Arweinydd oddi wrth y Cynghorydd Sir Diane Jones-Poston PDF 53 KB A all yr Arweinydd roi diweddariad i’r cyngor ar gynnydd Bargen Twf Canolbarth Cymru?
|
|||
A all yr Aelod Portffolio Cyllid ddiweddaru’r cyngor ar ba drafodaethau sy’n cael eu cynnal i sicrhau fod Powys yn derbyn ei ddyraniad teg o nawdd o fewn y fformwla cyllideb gan Lywodraeth Cymru?
|
|||
O ystyried pryderon a fynegwyd dros yr haf gan arweinydd y Gymdeithas Comisiynwyr Heddlu a Throseddau (APCC) ynghylch peryglon Brexit ‘Dim Bargen’, pa gynlluniau wrth gefn sydd gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd dros Ddyfed-Powys, gyda’i gydweithwyr sy’n gomisiynwyr yn ardaloedd heddluoedd Gogledd Cymru, De Cymru a Gwent?
O ystyried y pryderon gwirioneddol a fynegwyd ynghylch diogelwch cyflenwadau bwyd a chyflenwadau meddygol, petai’n sefyllfa o ‘Ddim Bargen’, pa ystyriaeth a roddwyd i ganslo cyfnodau o absenoldeb/gwyliau ar draws Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mawrth/Ebrill 2019 i sicrhau diogelwch cymunedol?
Ynychwanegol at hyn, pa gamau gweithredu sy’n cael eu cymryd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd i arwain paratoadau gyda’r Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus ym Mhowys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, yn wyneb y posibilrwydd anffodus hwn?
|
|||
Cwestiwn i'r Arweinydd oddi wrth Cynghorydd Sir William Powell PDF 54 KB Mae’nfater o gofnod cyhoeddus fod tref Talgarth a’i economi wedi profi aflonyddwch sylweddol yn ystod y blynyddoedd yn arwain at gau hen Ysbyty Canolbarth Cymru o 1995 - 2000 ac yn dilyn hynny. Yn ystod y ddegawd ddiwethaf, roedd agor Ffordd Liniaru A479 Talgarth, oedd yn falchder, menter a phwrpas dinesig o’r newydd, a sefydlu Ysgol y Mynydd Du yn gynharach eleni oll wedi arwain at fod yn arwydd o hyder newydd yn nyfodol y dref.
Fodd bynnag, mae graddfa aruthrol y safleoedd sy’n eiddo i Gyngor Sir Powys yng nghanol y dref, ar hyn o bryd neu i’w ddatgan yn fuan fel eiddo dros ben, ar y cyd â’r ymgynghoriad ar y Briff Datblygu gyda safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru a safleoedd dyranedig eraill unwaith eto yn gweld y dref ar groesffordd.
O ystyried ei dealltwriaeth o sialensiau a chyfleoedd ar draws portffolios y mae Talgarth yn eu hwynebu, pa asesiad mae’r Arweinydd wedi’i gwneud o rinweddau’r Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer Talgarth? Gyda’r Cyngor Sir yn gweithio mewn partneriaeth sydd wedi’i hadnewyddu gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Tref Talgarth a thrwy harneisio egni a gweledigaeth pobl leol, byddai cynllun o’r fath yn hyrwyddo datblygiad holistig a chynaliadwy'r dref ar adeg o dwf digynsail. I’r perwyl hwn, a all yr Arweinydd ymrwymo i alw cyfarfod i sefydlu’r gwaith cychwynnol ar gyfer cynllun o’r fath? |
|||
Ganfod y rhestr bresennol o ffermwyr a chontractwyr y galwyd arnynt i glirio’r eira trwm a gafwyd yn ystod y gaeaf diwethaf wedi cael trafferth i ymdopi, a fydd yr aelod portffolio priffyrdd yn ystyried creu ail restr o ffermwyr a chontractwyr gydag offer sy’n addas i glirio eira, fel y gellir galw arnynt petai’r un lefel o eira a gafwyd yn ystod y gaeaf diwethaf yn digwydd ar ryw adeg yn y dyfodol?
|
|||
Mae’rffyrdd o amgylch Yscir mewn cyflwr gwael iawn. Mae angen wyneb newydd ar y ffyrdd mewn nifer o ardaloedd ac mae nifer o dyllau yn y ffordd yn parhau heb eu llenwi. A all yr aelod portffolio priffyrdd gynnig unrhyw sicrwydd i drigolion mewn wardiau gwledig megis Yscir y bydd eu ffyrdd yn cael eu hatgyweirio hyd at safon well yn fuan?
|
|||
Beth sydd gan Adar y Pâl a Chanolfan Ddiwylliannol Y Gaer, Aberhonddu yn gyffredin? Mae’r ddau yn dod gyda dirgelion mawr!. (nid dyna’r cwestiwn) Ymmhapur y Brecon and Radnor Express wythnos diwethaf, cafwyd tudalen flaen syfrdanol yn ein cynghori y bydd Y Gaer (canolfan ddiwylliannol Aberhonddu) yn profi oedi tan y flwyddyn nesaf oherwydd anawsterau gyda cherrig ac Adar y Pâl yn paru.
Foddbynnag, dywedodd arbenigwr lleol ar adar a’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) mai dim ond ym mis Ebrill a Mai mae Adar y Pâl yn magu’n flynyddol ac nad ydynt yn gynhenid i Bowys ond y gellir dod o hyd iddynt yn Sgandinafia, ynghyd ag Ynys Manaw, Swydd Efrog ac Ynys Skomer. Mae pastai Adar y Pâl yn ddanteithfwyd yn Jamtland yng ngogledd Sweden wrth gwrs, ac rwy’n si?r y bydd y seren Michelin yn Ynyshir yn golygu y bydd yn ymddangos cyn bo hir yng ngogledd Powys.
Ganystyried na fydd Adar y Pâl yn elwa Punt Powys yn fuan ac mai Hydref yw hi ac nid mis Ebrill, ac nad ydynt yn magu, fe wnaf ofyn y cwestiwn i aelod y cabinet yn awr.
A fyddai aelod y Cabinet yn cytuno â’r canlynol: nad dyma’r esgus mwyaf chwerthinllyd erioed o bosibl dros anallu ers y clasur ‘mae’r ci wedi bwyta fy ngwaith cartref’ mae’n gwbl annheg fod holl drethdalwyr y cyngor led led Powys yn gorfod parhau i dalu am y ffars yma, lle mae tebygolrwydd, gyda’r toriadau cyllidebol yn 2019 ar gyfer llyfrgelloedd, amgueddfeydd a chanolfannau diwylliannol eraill, na fydd yr adeilad gyda digon o adnoddau hyd yn oed i agor?
|
|||
Mae Llywodraethu Da yn hanfodol mewn Llywodraeth Leol ac wrth weithio tuag at Weledigaeth a Gytunwyd ac a Gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Powys. O ran y datblygiad tai preifat i’r de o hen Ysgol G G Bronllys a Phentref Bronllys yn gyffredinol, sut oedd y Digwyddiad Ymgysylltu Cyhoeddus i chi a sut wnaethoch chi ymgysylltu gydag unigolion arwyddocaol o fewn y broses yn arwain at y diwrnod?
|
|||
O ran Caffael Cymdeithas Dai/Datblygwr Preifat, a ydych yn fodlon fod Cynghorwyr a Swyddogion wedi cydymffurfio â’r gweithdrefnau a’r canllawiau cywir a fabwysiadwyd gan Gyngor Sir Powys ac a allwch chi esbonio’r weithdrefn a ddefnyddiwyd?
|
|||
Materion wedi'u Heithrio Mae'r Swyddog Monitro wedi penderfynu bod yr eitem ganlynol yn destun categori 1 y Rheolau Trefn Mynediad at Wybodaeth. Ei farn o ran prawf lles y cyhoedd (wedi ystyried darpariaethau Rheol 14.8, Rheolau Mynediad at Wybodaeth y Cyngor), oedd y byddai gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus yn groes i egwyddorion y Ddeddf Gwarchod Data ac yn datgelu data personol yn ymwneud ag unigolyn. Oherwydd hyn a chan nad oedd yn ymddangos bod yna alw mawr ymhlith y cyhoedd am ddatgelu'r data personol yma, roedd o'r farn bod diddordeb y cyhoedd wrth gadw'r eithriad yn fwy pwysig na diddordeb y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth. Gofynnir i Aelodau ystyried y ffactorau hyn wrth benderfynu ar brawf lles y cyhoedd, a dylent benderfynu hyn wrth iddynt ystyried eithrio'r cyhoedd o'r rhan hon o'r cyfarfod. |
|||
Hysbysiad o Gynnig Y dylai’r Cyngor drafod, ystyried a gwneud unrhyw argymhellion i Swyddogion i gytuno ar eithriad unigryw i Gynllun Dyrannu Tai'r Cyngor i ddyrannu eiddo gwag i fam tenant sydd wedi marw yn Y Trallwng o ran diddordebau plant y tenant sydd wedi marw yn unol â’r Rheoliadau Hawliau Plant Ewropeaidd, a deddfwriaeth arall.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Phil Pritchard Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Michael Williams
|
|||