Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
I awdurdodi’r Cadeirydd i arwyddo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 22 Chwefror, 8 Mawrth, 17 Ebrill, 8 Mai a 17 Mai fel cofnodion cywir.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiadau o ddiddordeb I dderbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau mewn perthynas ag eitemau sydd i’w trafod ar yr agenda.
|
|
Cwestiynau gan aelodau’r cyhoedd. |
|
Cwestiwn i’r Aelod Portffolio Cyllid, Cefn Gwlad a Thrafnidiaeth gan Graham Taylor PDF 87 KB Datgelwydyn yr arolwg a gynhaliwyd fel rhan o’r adolygiad i Gynllun Gwella Hawliau Tramwy mai’r prif broblem sy’n wynebu’r rhai sy’n defnyddio llwybrau troed a llwybrau ceffyl oedd y diffyg arwyddion a chyfeirbwyntiau. Nid oedd unrhyw bwnc arall yn fwy amlwg; gyda 75% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg yn codi’r mater. Mae hyn yn ategu’r cwynion sy’n cael eu derbyn gan y Cyngor am broblemau gyda’r rhwydwaith hawliau tramwy.
Mae’rCyngor yn awyddus iawn i hybu iechyd a lles trwy ddefnyddio cefn gwlad ac i annog yr economi lleol trwy ddenu ymwelwyr i gerdded a seiclo ym Mhowys. Mae’r diffyg arwyddion a chyfeirbwyntiau’n rhwystr amlwg i drigolion ac ymwelwyr sydd am wneud hyn.
Gall yr Aelod Cabinet sicrhau bod y Cynllun Gwella newydd sy’n cael ei lunio, yn rhoi blaenoriaeth i raglen waith a fydd yn mynd i’r afael i’r broblem hon?
|
|
Cwestiwn i’r Aelod Portffolio Cyllid, Cefn Gwlad a Thrafnidiaeth gan Peter Newman PDF 63 KB Yn 1968 cyhoeddwyd Deddf Cefn Gwlad a daeth yn gyfraith gan roi dyletswydd ar Awdurdodau Priffyrdd i godi arwyddion ar lwybrau cyhoeddus lle maen nhw’n gadael ffordd fetlin.
Rwy’ndeall mai dim ond 69 o arwyddion a godwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf sy’n cyfateb i 23 yr un ar gyfer hen siroedd Brycheiniog, Maesyfed a Maldwyn.
A yw’n bosibl rhoi amcangyfrif i gerddwyr, fy sefydliad i a phawb arall sydd â diddordeb, faint o arwyddion sydd eu hangen i gyflawni gofynion y Ddeddf, a’r amserlen os gwelwch yn dda?
|
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor.
|
|
Cyhoeddiadau'r Arweinydd I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. |
|
Briff gan y Prif Weithredwr I dderbyn briff gan y Dirprwy Brif Weithredwr.
|
|
I ystyried trosglwyddiadau ar gyfer cynlluniau cyfalaf parhaus sydd dros £500,000 na orffenwyd cyn diwedd y flwyddyn ariannol 2017/18 i’w dwyn ymlaen i 2018/19.
|
|
Adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 246 KB I ystyried adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.
|
|
Argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. |
|
Adolygu rôl Cadeirydd y Cyngor ac adolygu rolau dinesig. PDF 58 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Canlyniadau’r Arolwg Amserau Cyfarfodydd PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Canllawiau i Gynghorwyr ar Gyfryngau Cymdeithasol. PDF 53 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Adolygu Adran 13 y Cyfansoddiad – Cyfrifoldeb dros Swyddogaethau PDF 54 KB |
|
Strategaeth Datblygu Aelodau PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Newidiadau i’r Cyfansoddiad PDF 55 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
PENODI CADEIRYDD Y PWYLLGOR CRAFFU – DYSGU, SGILIAU A’R ECONOMI Mae angen i’r Cyngor nodi bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi penodi’r Cynghorydd Pete Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu – Dysgu, Sgiliau a’r Economi.
|
|
Lwfansau a Threuliau Aelodau 2017-18 PDF 57 KB I ystyried adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Penodi i Bwyllgorau a Chyrff Allanol I nodi bod y canlynol wedi’u penodi i gyrff allanol gan grwpiau gwleidyddol a’u cymeradwyo gan y Swyddog Monitro dan bwer dirprwyo cyffredinol a roddwyd gan y Cyngor ar 16 Mai 2013:
Penodi’r Cynghorydd Graham Breeze i Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn lle’r Cynghorydd Karen Laurie-Parry.
Y Cynghorydd Jon Williams i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal a Thai yn lle’r Cynghorydd Joy Jones.
Y Cynghorydd Linda Corfield i’r Pwyllgor Archwilio yn lle’r Cynghorydd Liam Fitzpatrick.
|
|
Hysbysiadau o Rybuddion |
|
Cysylltedd ffonau symudol Mae’n rhaid i ni gael y signal a’r cysylltedd angenrheidiol yng nghefn gwlad Cymru i gefnogi’r economi a’n cymunedau yn yr unfed ganrif ar hugain. Felly, mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ddiwygio mesurau cynllunio i wella signal ffonau symudol fel sail i economi modern a hyfyw. Bydd hyn yn cynnwys caniatau mastiau yng Nghymru i fod yn 25m (82tr) o uchder yn hytrach na’r 15m (50tr) sydd ar hyn o bryd, felly’n helpu i ddatblygu economi entrepreneuraidd ym Mhowys a chefn gwlad Cymru.
Cynigydd: Cynghorydd Elwyn Vaughan
Eilydd: Cynghorydd Bryn Davies
|
|
Hawl Deiliaid Bathodynnau Glas mewn meysydd parcio sy’n berchen i’r Cyngor Mae’r Cyngor yn nodi’r ymgynghoriad a lansiwyd ddiwedd Mai mewn perthynas â chostau i ddeiliaid Bathodynnau Glas ym meysydd parcio’r Cyngor.
Mae’r Cyngor hefyd yn nodi mai’r dewis gorau gan grwpiau gweithredol yw dechrau codi tâl am ddefnyddio meysydd parcio y mae’r Cyngor yn eu perchen.
Mae’r Cyngor yn credu bod y rhai sy’n derbyn bathodynnau glas, gan gynnwys pobl ddall, cyn-filwyr gydag anableddau a thrigolion sy’n derbyn y budd-daliadau anabledd mwyaf llym, yn wynebu cyni eithafol. Ni ddylent fod o dan fwy fyth o anfantais.
Felly mae’r Cyngor yn annog yr Aelod Portffolio ar faterion Priffyrdd i ddiystyru unrhyw ddewis sy’n gofyn i ddeiliaid bathodynnau glas dalu pan maent yn defnyddio meysydd parcio’r Cyngor.
Cynigydd: Y Cynghorydd Sir Peter Roberts
Eilydd: Y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt
|
|
Ffordd Osgoi’r Drenewydd Mae’r Cyngor yn cydnabod bod adeiladu Ffordd Osgoi’r Drenewydd yn creu cyswllt trafnidiaeth pwysig y gellir ei gymharu â chysylltiadau rheilffyrdd a chamlas y dre yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r Ffordd Osgoi yn hynod o bwysig yn genedlaethol ac yn lleol.
Felly mae’r Cyngor hwn yn annog Llywodraeth Cymru i enwi’r Ffordd Osgoi Ffordd Robert Owen Way i gydnabod ei arwyddocâd rhyngwladol, cenedlaethol a lleol fel diwygiwr cymdeithasol ac fel un a fu’n ysbrydoli a symbylu’r mudiad cydweithredol.
Cynigydd: Y Cynghorydd Sir David Selby
Eilydd: Y Cynghorydd Sir Karl Lewis
|
|
Polisi Trafnidiaeth Ysgol
Roedd y polisi trafnidiaeth ysgol yn destun ymgynghoriad yn 2011 ac rwy’n credu mod i’n iawn i ddweud na chafodd ei fabwysiadu oherwydd barn gref y cyhoedd yn erbyn rhai o’r cynigion i newid dalgylchoedd yr adeg hynny. Lansiwyd ymgynghoriad arall ar 21 Mai eleni a fydd yn cau ar 20 Gorffennaf. Ychwanegwyd y ddogfen ymgynghori ar wefan Powys, ond ni chafodd ysgolion glywed ei fod yno tan tua’r 8fed Mehefin. Ni ychwanegwyd y mapiau dalgylch holl bwysig (sy’n nodi’r dalgylchoedd lle bydd cludiant am ddim yn cael ei gynnig) i’r wefan tan tua 26 Mehefin. Mae’r mapiau hyn yn anghywir ac mae bron yn amhosibl gwneud synnwyr ohonynt gydag enwau lleoedd a ffiniau afonydd yn y mannau anghywir.
Fodd bynnag, mae’n glir o’r mapiau y bydd dalgylchoedd rhai ysgolion yn hollol wahanol i’r presennol a fydd yn si?r o gael effaith ar nifer y disgyblion. Mae hefyd yn amlwg mai’r cynnig yw cludo rhai plant Powys sy’n siarad Saesneg y tu allan i’r sir ac i Loegr am eu haddysg lle na fyddan nhw’n cael unrhyw addysg Gymraeg na chyfle i ddysgu am ddiwylliant Cymru. Hefyd, mae’r holiadur yn gofyn am ymatebion i’r cynnig i godi tâl am addysg ôl-16, ond nid yw’r ddogfen ei hun yn sôn am hyn heblaw i nodi y bydd am ddim tan fis Medi 2019.
Er maint y newidiadau hyn, nid oes unrhyw gyfarfodydd ymgynghori cyhoeddus wedi’u trefnu a’r unig ddull o ymgynghori yw dros y we. Gallai’r newidiadau hyn gael effaith sylweddol ar nifer y disgyblion mewn rhai ysgolion a ‘does bosib bod angen trafod effaith hyn yn drwyadl. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr bod y penderfyniadau hyn ar gludiant yn cael eu gwneud ar wahân i’r adolygiad o addysg uwchradd a phenderfyniadau ar drawsnewid ysgolion, lle mae’r cyfan yn gysylltiedig. Heb achos busnes, mae’n bosibl y byddai’r cyngor yn talu mwy am y newidiadau hyn. Felly, rwy’n cynnig y dylid oedi’r newidiadau i’r polisi cludiant er mwyn gallu cysylltu’r cynigion â’r adolygiad o addysg uwchradd a thrawsnewid ysgolion a chael costau llawn ac achos busnes cadarn i’r newidiadau hyn.
Cynigydd: Cynghorydd Lucy Roberts Eilydd: Cynghorydd Elwyn Vaughan
|
|
Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad |
|
Ydy’r aelod portffolio’n gallu dweud wrthyf ac Aelodau faint yw cyfanswm taliadau honorariwm a dalwyd gan Gyngor Sir Powys i weithwyr yn y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf; gan roi cyfanswm ar gyfer pob blwyddyn?
|
|
Ydy’r aelod portffolio yn gallu dweud wrthyf faint o weithwyr dros dro (interim) sy’n cael eu cyflogi gan Gyngor Sir Powys a faint o weithwyr felly gafodd eu cyflogi gan Gyngor Sir Powys yn y deuddeng mis diwethaf?
|
|
O ystyried bod pum ysgol gynradd newydd wedi cael eu hadeiladu ym Mhowys, pryd fyddai’n ymarferol i dybio y gellid adeiladu ysgol newydd ym Mhontsenni, o gofio mai hon yw un o ysgolion hynaf Powys, a ddyluniwyd yn wreiddiol fel ysgol uwchradd a adeiladwyd ym 1939. Bellach mae angen gwaith atgyweirio cyson ar y lle. Mae problem fawr gwaredu carthion a phroblemau eraill megis teils y llawr yn codi trwy’r ysgol. Hefyd, rhaid i bob disgybl gerdded ar draws buarth yr ysgol i fynd i’r ffreutur lle nad oes cyfleusterau toiled.
Ar hyn o bryd mae 103 o blant yn yr ysgol gan gynnwys ffrwd GYMRAEG sy’n ferw o brysurdeb ac yn ffyniannus gyda 44 o blant. Bellach, mae cyfleusterau gwael iawn yn ei gwneud yn anodd dros ben yno. Serch hyn, credaf mai Ysgol Pontsenni gafodd y nifer uchaf o blant yn cymryd rhan yn Eisteddfod yr URDD Brycheiniog a Maesyfed. Aeth llawer yn eu blaenau i gynrychioli Sir Frycheiniog.
Ar un adeg roedd gan Bontsenni bwll nofio poblogaidd yr oedd llawer yn ei ddefnyddio ond yn anffodus roedd rhaid cael gwared â fe oherwydd diffyg gwaith cynnal a chadw. Gyda’r amcangyfrifon y bydd niferoedd disgyblion yn codi mwy fyth yn sgil rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer hanner cant o dai newydd, mae’n flaenoriaeth i Bontsenni gael ysgol fwy, gyda chyfleusterau gwell a mwy cyfoes.
A wnaiff yr Aelod Portffolio ymrwymo i roi ysgol gynradd newydd ym Mhontsenni?
|
|
Cwestiwn i Aelod Portffolio dros Bobl Ifanc a Diwylliant gan y Cynghorydd Huw Williams PDF 75 KB Faint o staff o asiantaethau llawn amser, rhan amser a dros dro, o bob graddfa, y mae’r adran Gwasanaethau Plant yn eu cyflogi? Sut mae’r niferoedd hyn yn cymharu â faint oedd yn cael eu cyflogi adeg arolwg Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Gorffennaf 2017? Faint o swyddi sy’n wag?
|
|
Cwestiwn i’r Arweinydd gan y Cynghorydd James Gibson-Watt PDF 63 KB Ydy’r Arweinydd yn gallu cadarnhau faint o weithiau y buodd Cyngor Sir Powys yn destun Adolygiad Barnwrol yn 2015/16, 2016/17a 2017/18; Faint o’r adolygiadau barnwrol hyn aeth o blaid y Cyngor a faint gafodd yn ei erbyn; beth oedd cyfanswm cost yr Adolygiadau Barnwrol hynny i’r Cyngor, gan gynnwys y rhai hynny y penderfynodd y Cyngor beidio eu hamddiffyn?
|
|
Mae data a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Powys yn dangos ei fod yn talu merched 10.7 y cant yn llai yr awr na dynion.
Beth fydd y weinyddiaeth yn ei wneud i sicrhau bod merched yn cael yr un tâl â dynion?
|
|
A wnaiff y Cabinet gyhoeddi costau llawn rhentu Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff gynt gan gynnwys:
1. Costau rhent 2. Costau gwasanaethau cyfleustodau: d?r, trydan, nwy ac yn y blaen 3. Costau yswirio 4. Costau atgyweirio a chynnal a chadw 5. Costau cyfreithiol 6. Unrhyw gostau eraill?
Dogfennau ychwanegol: |
|
Fe wyddoch fod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi dewis dal gafael yn y symiau gohiriedig ar gyfer tau fforddiadwy a gasglwyd o fewn ffiniau’r parc a phenderfynu lle i’w gwario er gwaethaf y ffaith mai Powys yw’r awdurdod tai yn ardal y parc. Maent wedi gwneud hyn ar ôl ceisio cyngor cyfreithiol ond ni wnânt ryddhau’r cyngor cyfreithiol hwnnw i Gyngor Sir Powys neu eu haelodau eu hunain hyd yn oed.
Cefais wybod bod y swm o arian maent yn ei gadw’n barod neu sy’n aros i gael ei dalu iddynt sy’n dod o ddatblygiadau presennol a rhai yn y dyfodol yn dod i gyfanswm o tua £2 filiwn. Gan fod 80 y cant o dir y Parc Cenedlaethol ym Mhowys byddai rhan fawr o'r arian hwn yn cael ei godi yn rhannau’r parc sydd ym Mhowys.
Hyd heddiw, serch bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dal gafael yn yr arian a gasglwyd ym Mhowys am fwy na dwy flynedd, maent wedi gwrthod rhyddhau’r un geiniog ar gyfer prosiect tai fforddiadwy ym Mhowys. Hefyd maent yn ennill llog ar yr arian a gedwir a’i ddefnyddio i ariannu cyllideb Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Nid ydynt yn ei ychwanegu i’r gronfa tai fforddiadwy.
Ydych chi’n cefnogi safiad Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog? Os na, pa fesurau rydych chi wedi eu cymryd ers cymryd lle’r Aelod Portffolio blaenorol a aeth i’r wasg i gondemnio’r Parc am wrthod rhyddhau’r arian ac addo y byddai’n gweithredu i ddatrys y sefyllfa?
|
|
I ofyn i’r Aelod Portffolio i gadarnhau a gyflwynodd Cyngor Sir Powys ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar newidiadau arfaethedig i gyflwyno trwyddedau Bysiau Mini Adran 19 a 22 i ddarparwyr cludiant cymunedol, a: a) Oscyflwynodd y Cyngor ymateb, i roi copi o’r ymateb hwnnw i bob aelod, a b) Osna chyflwynodd y Cyngor ymateb, i egluro pam na wnaed hyn?
|
|
Cwestiwn i’r Arweinydd gan y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt PDF 59 KB A wnaiff Arweinydd y Cyngor roi manylion cost cael cyngor gan Fargyfreithiwr. Roedd hyn i weld a oedd y pleidleisiau yng nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 17 Mai 2018 i ‘gymeradwyo’ penodiad y gr?p gwleidyddol Gadeiryddion i’r Pwyllgorau Iechyd, Gofal a Thai, a Dysgu, Sgiliau a’r Economi, yn cydymffurfio â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011?
|
|
Cwestiwn i’r Aelod Portffolio dros Ddysgu a’r Iaith Gymraeg gan y Cynghorydd John Morris PDF 59 KB Rwy’n sicr y byddech yn cytuno bod Ysgol Uwchradd Crughywel yn ysgol lwyddiannus sy’n cyrraedd safonau uchel er gwaetha’r ffaith mai dyma’r ysgol sy’n cael y cyllid isaf fesul disgybl ym Mhowys. Tra buoch yn ymweld â Chyngor Tref Crughywel yn ddiweddar, gwelaf o ddarllen cofnodion y cyngor a gymeradwywyd, pan ofynnwyd i chi am gyllid cyfalaf Ysgol Uwchradd Crughywel o’i chymharu ag Ysgolion Uwchradd eraill yr ardal, dywedasoch: Cyfrifoldeb Powys yw darparu seilwaith i blant Powys, nid plant sydd yn dod o'r tu allan i’r sir. Ydy Powys yn gwahaniaethu yn erbyn ysgolion sydd yn derbyn disgyblion o’r tu allan i’r sir wrth ystyried ei wariant cyfalafol? Pa ysgolion sy’n derbyn plant o’r tu allan i’r ysgol ar draws Powys, ac ydy Llywodraeth Cymru’n cefnogi’ch safiad ar y mater hwn?
|
|
CEFNDIR Yn ystod cyfarfod y llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Llangatwg ar 26 Mehefin daethpwyd â mater brys i sylw’r Llywodraethwyr yngl?n â chynlluniau arfaethedig i wella ac ymestyn yr adeilad i ddisgyblion presennol a darpariaeth deirblwydd a h?n. Roedd hyn i fod i ddechrau ym mis Mai eleni. Cafodd yr ysgol ei hannog i gyflwyno’r ddarpariaeth 3 oed a h?n gan fod diffyg cefnogaeth ar gyfer y dosbarth oedran hwn yn Ne Powys. Buont yn cyflawni’r ddarpariaeth hon gydol y flwyddyn academaidd ddiwethaf a chafodd Powys gyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud hyn. Mae’r Eglwys yng Nghymru a Chronfa Addysg Llangatwg wedi cefnogi cost y gwaith ymestyn a gwella trwy roddi £120,000 tuag at gyfanswm y gost. Dylai’r gwaith fod wedi dechrau tair wythnos yn ôl, a bu peth oedi’n barod ers hydref y llynedd. Cafwyd addewidion yn sicrhau y gellid cynllunio’n iawn i ddychwelyd wedi gwyliau’r haf. Dylai’r cynhwysydd i fynd ag offer dosbarth fod wedi cyrraedd ddydd Llun, 25 Mehefin 2018. Pan na ddaeth, cysylltodd y Pennaeth â’r contractwr. Dywedon nhw nad oedd Cyngor Sir Powys wedi ei gymeradwyo eto. Pan gysylltodd hi â Phowys roedd yn ymddangos nad oedd y cyngor wedi awdurdodi’r cyllid. Yr ymadrodd a ddywedwyd wrth y Pennaeth oedd bod hyn yn ‘peryglu’r prosiect’. Roedd clywed hyn yn ei digio a’i phryderu. CWESTIWN Ydy’r aelod portffolio’n gallu fy sicrhau a’r ysgol y bydd y prosiect adeiladu’n dechrau mewn pryd a chael ei gwblhau fel y cynlluniwyd? Bydd hyn yn sicrhau y gallwn ddechrau addysgu plant yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru, Llangatwg ym mis Medi. Hefyd, ydy hi’n gallu fy sicrhau y bydd cefnogaeth ariannol llawn yn cael ei roi i’r ysgol ar gyfer y cynnydd mewn darpariaeth – nad yw wedi dod i law eto? Mae’r ysgol wedi talu am gostau 3+ hyd yma oherwydd yr estyniad a gwelliannau i ystafelloedd dosbarth a addawyd.
|
|
Cwestiwn i’r Arweinydd gan y Cynghorydd Emily Durrant PDF 55 KB Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru’n gyfle amserol i ddenu buddsoddiad sylweddol i’r Sir. O ystyried yr holl arian sydd ar gael a’r effaith posibl ar dirwedd economaidd a chymdeithasol Powys, pa fesurau sydd yn eu lle i sicrhau agwedd deg ac agored at ddewis prosiectau a’u datblygu? A wnaiff yr Arweinydd ddatgan yr amserlenni a’r prosesau ymgynghori a gwneud penderfyniadau fydd yn cael eu defnyddio i flaenoriaethu’r prosiectau fydd Cyngor Sir Powys yn eu hargymell i’r Fargen a beth fydd y trefniadau craffu?
|
|
Cwestiwn i’r Aelod Portffolio Dysgu a’r Iaith Gymraeg gan y Cynghorydd David Jones PDF 57 KB Cyhoeddodd y Cabinet y datganiad canlynol i’r Wasg ar 11 Ebrill:
“Bydd dros £5m yn cael ei wario ar ysgolion Powys dros y tair blynedd ariannol nesaf fel rhan o gynllun gwella sylweddol.
Mewn cyfarfod yn Llandrindod heddiw ( Ebrill) rhoddodd y cabinet ei sêl bendith i gronfa gwella flynyddol o dros £2m ar gyfer prosiectau i wella ysgolion cynradd ac uwchradd dros y ddwy flynedd ariannol nesaf gyda £1m ychwanegol ar gyfer 2020/2021.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar faterion Addysg, y Cynghorydd Myfanwy Alexander: “Rydym yn buddsoddi mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig ar hyd a lles y sir, i wella’r amgylchedd dysgu i ddysgwyr a staff.
“Rwy’n hynod falch i weld buddsoddiad i wella mynediad i’r rhai sydd ag anableddau corfforol. Mae’n bwysig bod disgyblion ag anableddau’n gallu mynd i ysgolion prif ffrwd os ydyn nhw’n dewis gwneud hynny.”
Bydd y gwaith sydd ar y gweill yn cynnwys £374,000 i adnewyddu Ysgol Gynradd Llangatwg gan gael gwared ar fannau anaddas, adeiladu toiledau newydd ac ardal blynyddoedd cynnar ychwanegol, £290,000 dros dri chyfnod i wella mynediad i gerddwyr, ehangu’r maes parcio a gosod wyneb newydd yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaeadr a £100,000 yr un ar gyfer ffensys terfyn newydd i wella diogelwch yn ysgolion Brynllywarch a Chrughywel.
Bydd £330,000 yn cael ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf i wella’r to a’r ffenestri a’r bloc gwyddoniaeth yn Ysgol Uwchradd Y Drenewydd a £300,000 yn cael ei wario dros y tair blynedd nesaf i wella’r toiledau a mynediad i’r anabl yn Ysgol Uwchradd Caereinion.
Bydd Ysgol Uwchradd Llandrindod hefyd yn elwa o dros £500,000 o fuddsoddiad i wella’r to a gwaith mewnol ynghyd â buddsoddiad o £133,000 i ehangu’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yn Ysgol Trefonnen yn Llandrindod.
Gallwch weld rhestr lawn o’r rhaglen wella yn: http://powys.moderngov.co.uk/mgCommitteeDetails.aspx?ID=137” Pwy roddodd ganiatâd i gyhoeddi’r datganiad i’r wasg?
|
|
Mae’ncael ei dderbyn yn eang y byddai diffyg cytundeb ar Brexit yn fygythiad dirfodol i ddyfodol ffermio da byw yng Nghymru. · Arhyn o bryd mae 90% o allforion cig o Gymru’n cael eu hallforio i Farchnad Sengl yr UE. · Arhyn o bryd mae taliadau fferm yr UE yn 80% o gyfanswm incymau fferm yng Nghymru. · Nidoes urnhyw eglurder o ran cyfundrefnau cefnogi amaethyddol ar ôl 2022. Yn y cyd-destun hwn, a gan fod Powys yn fwy agored i gynnwrf o fewn y sector da byw nag unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru, beth mae Cyngor Sir Powys yn ei wneud ar hyn o bryd i greu cadernid a datblygu capasiti er mwyn diogelu dyfodol yr economi lleol?
|
|
Cais am absenoldeb I ystyried ceisiadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Gary Price a’r Cynghorydd Jonathan Wilkinson.
|
|
Eitemau Eithriedig Mae'r Swyddog Monitro wedi penderfynu bod yr eitem ganlynol yn destun categori 1 y Rheolau Trefn Mynediad at Wybodaeth. Ei farn o ran prawf lles y cyhoedd (wedi ystyried darpariaethau Rheol 14.8, Rheolau Mynediad at Wybodaeth y Cyngor), oedd y byddai gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus yn groes i egwyddorion y Ddeddf Gwarchod Data ac yn datgelu data personol yn ymwneud ag unigolyn. Oherwydd hyn a chan nad oedd yn ymddangos bod yna galw mawr ymhlith y cyhoedd am ddatgelu'r data personol yma, roedd o'r farn bod diddordeb y cyhoedd wrth gadw'r eithriad yn fwy pwysig na diddordeb y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth. Gofynnir i Aelodau ystyried y ffactorau hyn wrth benderfynu ar brawf lles y cyhoedd, a dylent benderfynu hyn wrth iddynt ystyried eithrio'r cyhoedd o'r rhan hon o'r cyfarfod.
|
|
Adroddiad Cyfrinachol – Mater Personel Preifat I ystyried adroddiad gan yr Arweinydd.
|
|
Hysbysiad o Rybudd – Cynllunio Ieithyddol ym Mhowys CYNLLUNIO IEITHYDDOL YM MHOWYS – MAE’N IAITH BAWB
Wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu gweledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 gyda’r polisi’n cael cefnogaeth y gwrthbleidiau ym Mae Caerdydd, mae angen i ni ym Mhowys ystyried sut y gallwn gyfrannu at hyn. Bydd angen i Bowys geisio codi canran y siaradwyr Cymraeg o 19% o Gyfrifiad 2011 i 33% - tipyn o her.
Mae’n golygu edrych ar y sefyllfa gyfan, deall yr heriau, bod yn flaengar a gweithredu ar sawl lefel, ac i fod yn uchelgeisiol yn ein gweledigaeth.
Mae cyfle i Bowys arwain ac i fod yn flaengar trwy ystyried y Gymraeg fel rhan allweddol o dreftadaeth yr hen sir hon, ond hefyd fel adnodd cymdeithasol ac economaidd i’r dyfodol. Trwy ddefnyddio a rhoi’r pecyn cymorth hwn ar waith, credwn y byddai Powys yn cyfrannu’n bositif at gynaliadwyaeth y Gymraeg a thua gweledigaeth Llywodraeth Cymru.
Felly mae’r Cyngor:
1. Yn cydnabod yn glir pa mor bwysig yw’r Gymraeg fel rhan annatod o dreftadaeth hanesyddol Powys. 2. Yn cadarnhau fod yr iaith yn eiddo i bob rhan o’r Sir 3. Yn credu fod yr iaith yn fater o gynaliadwyaeth sy’n clymu egwyddorion cymunedol, economaidd a chynaliadwyaeth cymdeithasol. 4. Yn credu fod yr iaith yn sgil ac yn adnodd allweddol i ddinasyddion y dyfodol. 5. Yn poeni am y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a welwyd yng Nghyfrifiad 2011 ac yn derbyn yr angen am gamau dybryd i fynd i’r afael â’r duedd hon. 6. Felly mae galw ar y Cyngor i lunio cynllun strategol a fydd yn adlewyrchu’r egwyddorion hyn ac a fydd yn gyson â Deddf yr Iaith Gymraeg 2011 a’r Safonau, gyda phwyntiau gweithredu clir fel y bydd Powys yn gallu cyfrannu at y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg.
|
|