Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Sir J Charlton, S Davies, MJ Jones, K Laurie-Parry, S Lewis, J Pugh a T Van-Rees.
Safodd aelodau a swyddogion fel arwydd o barch at Peter Scott, a roes wasanaeth hir fel aelod o’r tîm Priffyrdd, Tiroedd a Gwasanaethau Stryd yn y depo yn Llangamarch, a fu farw’n dilyn damwain ffordd.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Awdurdodwyd y Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2017 fel cofnod cywir.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau o Ddiddordeb To receive any declarations of interest from Members relating to items to be considered on the agenda. Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Sir David Evans, Emyr Jones, Gary Price a Gareth Pugh fudd personol a rhagfarnus yn 15.2 Rhybudd o Gynnig - Gorchmynion Rheoli Tai Gwag.
Datganodd y Cynghorwyr Sir Mark Barnes, Beverley Baynham, Graham Breeze, Linda Corfield, Kelvyn Curry, Bryn Davies, Matthew Dorrance, Emily Durrant, James Gibson-Watt, Heulwen Hulme, Arwel Jones, David Jones, Joy Jones, Diane Jones-Poston, Karl Lewis, Peter Lewis, Maureen Mackenzie, Susan McNicholas, David Meredith, Claire Mills, Gareth Morgan, John Morris, William Powell, David Price, Gary Price, Gareth Ratcliffe, Pete Roberts, Kath Roberts-Jones, Kathryn Silk, Elwyn Vaughan, Angelique Williams, Jon Williams, Michael Williams, Roger Williams a Sarah Williams fudd personol ac anrhagfarnus yn 15.4 Rhybudd o Gynnig ar Gronfa Bensiwn Powys fel aelodau o’r Gronfa.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Eiddo a Gwastraff gan Phil Bettley PDF 58 KB Dros ddegawdau, rwyf wedi bod yn ddinesydd da, yn cadw ein cartref a'r amgylchedd yn daclus trwy fynd ag eitemau oedd yn aml yn rhai swmpus i gyfleuster ailgylchu. Yn aml, rwyf wedi helpu aelodau o’r teulu, cymdogion a ffrindiau i wneud yr un peth, weithiau trwy logi fan.
Mae eich polisi o orfodi gwastraff Masnachol i dalu
am gael gwared ar wastraff yn ddealladwy, ond mae eich proses o
gyflawni hyn yn ofnadwy. Fe ddylwn i, ac unrhyw un arall o fy
nghyfeiriad, alli fynd â gwastraff nad yw'n wastraff
masnachol i’r cyfleuster ailgylchu cynifer o weithiau ag y bo
angen, ym mha bynnag cerbyd, fan neu drelar rydym yn ei
ddewis.
Cafodd y system drwyddedu gyfredol ei chreu ar frys ac nid yw’n addas i’r diben. A fyddech gystal ag ailfeddwl y broses hon? Cofnodion: Dros ddegawdau, rwyf wedi bod yn ddinesydd da, yn cadw ein cartref a'r amgylchedd yn daclus trwy fynd ag eitemau oedd yn aml yn rhai swmpus i gyfleuster ailgylchu. Yn aml, rwyf wedi helpu aelodau o’r teulu, cymdogion a ffrindiau i wneud yr un peth, weithiau trwy logi fan.
Mae eich polisi o orfodi gwastraff Masnachol i dalu am gael
gwared ar wastraff yn ddealladwy, ond mae eich proses o gyflawni
hyn yn ofnadwy. Fe ddylwn i, ac unrhyw un arall o fy nghyfeiriad,
alli fynd â gwastraff nad yw'n wastraff masnachol i’r
cyfleuster ailgylchu cynifer o weithiau ag y bo angen, ym mha
bynnag cerbyd, fan neu drelar rydym yn ei ddewis.
Cafodd y system drwyddedu gyfredol ei chreu ar frys ac nid yw’n addas i’r diben. A fyddech gystal ag ailfeddwl y broses hon?
Ateb Mae’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Tai ar gael i breswylwyr waredu eu gwastraff t? eu hunain. Nid ydynt ar gael ar gyfer gwastraff masnachol oherwydd, o dan y ddeddfwriaeth, rhaid i fusnesau wneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer eu gwastraff a’u hailgylchu a thalu am y gwasanaeth hwn gan sicrhau bod ganddynt yr holl waith papur perthnasol i brofi eu bod wedi gwaredu eu gwastraff yn gyfreithlon.
Yn anffodus mae llawer o fusnesau’n twyllo ac yn defnyddio'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff T?’n anghyfreithlon. Wrth gwrs mae’n amhosib atal pob defnydd o'r fath ond mae rhoi mesurau yn eu lle i wrthod trelars a cherbydau masnachol yn ei gwneud yn anoddach. Gwerthfawrogwn nad yw hyn efallai’n gyfleus i breswylwyr sy’n defnyddio cerbyd masnachol fel eu dull cludiant arferol ond, yn anffodus, mae’n anodd iawn i weithiwr safle adnabod beth sydd, a beth sydd ddim yn wastraff masnachol oherwydd gallai edrych yn union yr un fath. Un enghraifft fyddai gwastraff wedi’i gynhyrchu drwy redeg llety gwyliau. Mae unrhyw wastraff a gynhyrchir gan y tenantiaid ar wyliau, deunyddiau glanhau neu wastraff gardd o gynnal a chadw tir llety o'r fath, yn cael ei ddosbarthu fel gwastraff masnachol ond gellid ei gamgymryd yn hawdd am wastraff domestig. Yn yr un modd, os cynhyrchir gwastraff o fusnes sy’n rhedeg o gyfeiriad domestig, mae’r gwastraff yn cael ei ddosbarthu fel masnachol ac ni ddylid mynd â fo i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff T?.
Mae rhedeg y safleoedd hyn, a phrosesu’r gwastraff gan gynnwys gwastraff gardd, yn costio’n ddrud. Er mwyn arbed arian, penderfynodd y Cabinet blaenorol dorri'n ôl ar ddiwrnodau agor pob safle i dridiau'r wythnos a gwahardd ... view the full Cofnodion text for item 4.1 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Arweinydd gan Michael McCarthy PDF 53 KB Comisiynwyd prif adolygiad allanol gan Gyngor Powys o
wasanaethau plant yn ystod 2015/16. Y
dasg oedd datblygu’r gwasanaeth, diwallu ei ddyletswyddau o
dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a
chadarnhau os oedd arbedion gwerth £2.7m yn bosibl ac yn
gynaliadwy. Cofnodion: Comisiynwyd prif adolygiad allanol gan
Gyngor Powys o wasanaethau plant yn ystod 2015/16. Y
dasg oedd datblygu’r gwasanaeth, diwallu ei ddyletswyddau o
dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a
chadarnhau os oedd arbedion gwerth £2.7m yn bosibl ac yn
gynaliadwy.
Ateb Mae’r Cyngor wedi llwyr dderbyn canfyddiadau Adroddiad AGGCC a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017. O ganlyniad mae’r Cyngor wedi cynhyrchu cynllun gwelliannau ac yn gweithio’n agos â chadeirydd annibynnol y Bwrdd Gwelliannau a benodwyd yn allanol. Fel Arweinydd newydd Cabinet newydd, rwyf yn ymroddedig i ddarparu’r gofal a’r gwasanaethau y mae plant a phobl ifanc Powys yn ei haeddu a’i ddisgwyl. Mae’n bwysig i ni ddysgu o ganfyddiadau’r adroddiad ac rydym eisoes yn dechrau gweld arwyddion cynnar o welliant.
Mae’n bwysig i mi bwysleisio bod diogelu wedi bod yn flaenoriaeth erioed i’r Cyngor a bod gan bob un ohonom rôl i’w chwarae mewn sicrhau bod plant sydd angen gofal a chymorth arnynt yn derbyn yr help iawn ar yr amser iawn i wella eu lles a’u hamddiffyn rhag niwed.
Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol Mr McCarthy ynghylch pam oedd AGGCC wedi cyfeirio at ddiogelu fel rhywbeth nad oedd yn flaenoriaeth ac a oedd gormod o bwyslais wedi’i roi ar arbedion, pwysleisiodd yr Arweinydd drachefn fod diogelu’n flaenoriaeth i’r Cyngor gan ddisgrifio’r camau sy’n cael eu cymryd mewn ymateb i adroddiad AGGCC gan gynnwys sefydlu Bwrdd Diogelu Corfforaethol a buddsoddi dros £4m mewn Gwasanaethau Plant.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Arweinydd gan Elizabeth Hunter PDF 53 KB Yn dilyn yr adroddiad hynod feirniadol gan AGGCC, pa sicrwydd gall yr arweinydd ei rhoi bod y diffyg dealltwriaeth amlwg rhwng uwch staff y cyngor ac arweinyddiaeth wleidyddol Cyngor Powys o flaenoriaethau Gwasanaethau Cymdeithasol Plant wedi cael ei datrys yn effeithiol, er mwyn sicrhau bod anghenion plant sy’n agored i niwed yn cael eu bodloni, ac o ystyried yr arolygiad o wasanaethau oedolion sydd i ddod, pa mor hyderus yw'r arweinydd bod y cabinet yn ddigon ymwybodol o'r holl faterion sy'n wynebu'r gwasanaeth hwnnw?
Cofnodion: Yn dilyn yr adroddiad hynod feirniadol gan AGGCC, pa sicrwydd gall yr arweinydd ei rhoi bod y diffyg dealltwriaeth amlwg rhwng uwch staff y cyngor ac arweinyddiaeth wleidyddol Cyngor Powys o flaenoriaethau Gwasanaethau Cymdeithasol Plant wedi cael ei datrys yn effeithiol, er mwyn sicrhau bod anghenion plant sy’n agored i niwed yn cael eu bodloni, ac o ystyried yr arolygiad o wasanaethau oedolion sydd i ddod, pa mor hyderus yw'r arweinydd bod y cabinet yn ddigon ymwybodol o'r holl faterion sy'n wynebu'r gwasanaeth hwnnw?
Ateb Yn dilyn yr arolygiad, aethom ati’n ddi-oed i roi cynllun gwelliannau yn ei le gan weithio gyda CLlLC a chymryd eu cyngor ar sut i fynd i’r afael â’r materion o bwys sy’n wynebu’r Gwasanaethau Plant a’r Cyngor.
Rhoesom Fwrdd Gwelliannau annibynnol yn ei le, fel y gofynnwyd i ni ei wneud gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi cwrdd deirgwaith. Mae ei aelodaeth yn annibynnol i’r Cyngor ac wedi’i benodi gan CLlLC / LlC.
Rydym yn cwrdd yn rheolaidd i dderbyn briffiau ar gynnydd a materion sy’n wynebu’r gwasanaethau plant gan ddatblygu Cynllun Gwelliannau a chofrestr risg i helpu i gadw llygad ar gynnydd.
Rydym wedi buddsoddi yn y gwasanaeth yn ariannol a hefyd ar ffurf cymorth gan uwch-swyddogion a thrwy gynnwys Cynghorwyr Sir. Rydym wedi cynyddu nifer y staff yn y gweithlu a hefyd wedi penodi ymgynghorwyr arbenigol (cynghorwyr) i helpu i wella ymarfer. Byddwn drwy hyn yn gallu gwneud cynnydd pellach i’n gwaith gyda theuluoedd.
Rydym wedi rhoi data ar weithgareddau’r gwasanaethau plant i’r Aelodau ac yn rhoi mwy o wybodaeth reoli, a gwybodaeth reoli well, i'n holl reolwyr rheng flaen.
Rydym wedi cynnal sioeau teithiol gyda’r staff i sicrhau eu bod yn wybodus am yr hyn yr ydym yn ei wneud a'r cynnydd sy’n digwydd.
Ym mis Rhagfyr daeth Arolygwyr o AGGCC i’r awdurdod am dridiau i adolygu ffeiliau plant a bodloni eu hunain bod y lefelau ymarfer a rheoli presennol yn foddhaol. Roeddent wedi gweld arwyddion cynnar ond cadarnhaol o welliant meddent, ond bod llawer ar ôl i'w wneud. Rydym wedi cymryd eu cyngor gan sicrhau yr ymgorfforwn eu canfyddiadau yn ein cynllun gweithredu / gwelliannau ac yn nysgu’r staff.
Mewn ymateb i’r cwestiwn ychwanegol yn gofyn pa fesurau penodol a gymerwyd i sicrhau bod arweinwyr gwleidyddol ac uwch-swyddogion y Cyngor yn gweithio gyda’i gilydd i flaenoriaethu Gwasanaethau Plant, ac nid y gyllideb, eglurodd yr Arweinydd fod hwn yn Gabinet newydd a Chyngor newydd oedd yn edrych o'r newydd ar y gwasanaeth. Roedd aelodaeth y Gr?p Rhianta Corfforaethol wedi ei ehangu i gynnwys holl aelodau'r Cabinet, y Cadeiryddion Craffu ac arweinwyr y gwrthbleidiau. Roedd Aelodau’r Cabinet a’r Pwyllgorau Craffu'n derbyn hyfforddiant i sicrhau y gallent ddarparu’r lefel ofynnol o her.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Eiddo a Gwastraff gan Francesca Garman PDF 52 KB O gofio'r opsiynau cyfyngedig ar gyfer gwaredu plastig yn y rhan hon o Bowys, a'r ffaith na all awdurdodau lleol yn gyfreithiol dympio eu gwastraff cyffredinol ar Tsieina bellach, ble mae gwastraff cyffredinol Powys yn mynd a pha fuddsoddiad sydd wedi'i gynllunio i ymdrin ag ailgylchu? Cofnodion: O gofio'r opsiynau cyfyngedig ar gyfer gwaredu plastig yn y rhan hon o Bowys, a'r ffaith na all awdurdodau lleol yn gyfreithiol dympio eu gwastraff cyffredinol ar Tsieina bellach, ble mae gwastraff cyffredinol Powys yn mynd a pha fuddsoddiad sydd wedi'i gynllunio i ymdrin ag ailgylchu?
Ateb Mae’r mater bod Tsieina wedi cyflwyno cyfyngiadau llym ar ansawdd y deunydd y mae’n ei dderbyn i’w ailgylchu’n broblem i’r Deyrnas Unedig gyfan. Y rheswm y gall Powys gasglu dim ond potiau, tybiau a threis ac nid ffilm blastig yw fel bod gennym gynnyrch o ansawdd i’w werthu i’r farchnad. Ar hyn o bryd mae holl ddeunydd plastig y sir a gesglir ar garreg y drws yn cael ei brosesu yn y DU, sy'n golygu y bydd y sefyllfa yn Tsieina'n effeithio llai arnom, er yn anochel, bydd effaith ganlyniadol ar brisiau marchnad.
Darperir casgliad ailgylchu wythnosol ym Mhowys ac o’i ddefnyddio’n gywir dylai olygu bod llawer llai o wastraff cyffredinol ar ôl. Dyna pam y gallwn gasglu gwastraff cyffredinol neu weddilliol bob tair wythnos. Mae’r gwastraff hwn yn mynd i gael ei dirlenwi ar hyn o bryd, ond fel rhan o’r contract gwaredu gwastraff presennol, o 2021 ymlaen prosesir y deunydd hwn drwy ffatri Ynni o Wastraff. Ni anfonir unrhyw wastraff cyffredinol i Tsieina.
O ran buddsoddi ar gyfer ailgylchu, mae gan y Cyngor gyfleusterau crynhoi strategol yn Aberhonddu a Rhaeadr ac ar hyn o bryd mae’n prynu safle yn Sir Drefaldwyn gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Caiff deunydd i'w ailgylchu a gesglir ar garreg y drws ei grynhoi yn y safleoedd hyn cyn eu symud i ffatrïoedd ailbrosesu, gan wneud y defnydd mwyaf effeithlon o gylchoedd casglu.
Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol Mrs Garman ynghylch pam y byddai plastig a pholystyren yn parhau i fynd i gael ei dirlenwi tan 2021, eglurodd yr Aelod Portffolio y gallai’r gwasanaeth ond casglu deunydd lle’r oedd marchnad ar ei gyfer a bod y contract gwaredu gwastraff presennol yn rhedeg tan 2021.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. Cofnodion: Defnyddiodd Cadeirydd y Cyngor ei gyhoeddiadau i dalu teyrnged i staff y Cyngor a fu’n gweithio drwy’r eira trwm ym mis Rhagfyr i gadw’r ffyrdd yn glir ac i ddarparu gwasanaethau gofal i gwsmeriaid gofal cymdeithasol. Roedd cynrychiolwyr o’r adran Briffyrdd a’r gwasanaeth Gofal ac Ailalluogi’n bresennol yn y Siambr a diolchodd y Cynghorwyr iddynt.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. Cofnodion: Briffiodd yr Arweinydd y Cyngor ar yr ymateb i adroddiad AGGCC ar y Gwasanaethau Plant a’r hysbysiad rhybuddio pellach gan y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol. Dywedodd fod yr arolygiad o’r Gwasanaethau Oedolion wrthi’n digwydd a bod Estyn yn arolygu’r Gwasanaeth Ysgolion. Dywedodd yr Arweinydd fod y pum ysgol newydd yn nalgylch Gwernyfed bron â chael eu cwblhau ar amser ac o fewn cyllideb a bod Ysgol Gynradd newydd Eglwys yng Nghymru’r Archddiacon Griffiths, Llyswen, wedi agor ei drysau’r wythnos honno. Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo rhaglen Ysgolion Band B y Cyngor ac y byddai’n darparu cyllid o 50% ar gyfer prosiectau cyfalaf. Hyd yma roedd £114m wedi’i fuddsoddi yn rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Nododd yr Arweinydd fod y Cyngor unwaith eto wedi derbyn un o’r setliadau ariannol isaf yng Nghymru. Roedd y Cyngor yn wynebu dyfodol heriol iawn a byddai’n rhaid iddo drawsnewid ei ffordd o weithio. Nododd lwyddiant y Gwasanaethau Busnes yn gwerthu gwasanaethau i awdurdodau lleol eraill gan groesawu apwyntiad Emma Palmer fel Pennaeth Polisi a Pherfformiad a Karen Grave fel y Pennaeth Adnoddau Dynol dros dro. Yn olaf, dywedodd fod gwaith yn parhau ar gytundeb twf posib ar gyfer y Canolbarth yn dilyn cyfarfod â Gweinidog y Swyddfa Gymreig, Guto Bebb, AS.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Briff gan y Prif Weithredwr Derbyn briff gan y Prif Weithredwr Dros Dro. Cofnodion: Cyfeiriodd y Prif Weithredwr Dros Dro hefyd at ymateb y Cyngor i arolygiad AGGCC o’r Gwasanaethau Plant ac at yr arolygiad o’r Gwasanaethau Oedolion. Dywedodd wrth y Cyngor fod y broses o benodi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar y gweill. Eglurodd y byddai’r Tîm Rheoli’n gweithio’n agos â’r Cabinet ar yr heriau y byddai cyllideb 2019/20 yn eu cyflwyno. Yn olaf, atgoffodd yr Aelodau y byddai Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Llanelwedd rhwng 28 Mai a’r 2 Mehefin.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddiadau Cyfalaf |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Sir Aled Davies, Aelod Portffolio ar faterion Cyllid. Cofnodion: Bu’r Cyngor yn ystyried ceisiadau i drosglwyddo arian cyfalaf o £2,675k yng nghyswllt Safonau Ansawdd Tai Cymru (WHQS) a gwaith gwerth £1,400k yng nghyswllt Llety Pobl H?n, gan drosglwyddo’r gyllideb i 2018/19 a 2019/20. Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Aled Davies ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Myfanwy Alexander ac o 63 pleidlais i 0
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Sir Aled Davies, Aelod Portffolio ar faterion Cyllid.
Cofnodion: Bu’r Cyngor yn ystyried cais i drosglwyddo arian o 2017/18 i 2018/19 ar gyfer y cynlluniau cyfalaf canlynol yn y Gyfarwyddiaeth Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu; £585k ar gyfer Cynllun Lliniaru Llifogydd Talgarth Cam 2; £4,800k ar gyfer y rhaglen adnewyddu fflyd; a £1,941k ar gyfer gweithdai fflyd. Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, eglurwyd fod angen y rhaglen adnewyddu fflyd ar gyfer cerbydau priffyrdd a cherbydau casglu gwastraff i sicrhau eu bod yn addas i’r pwrpas. Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Aled Davies ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Liam Fitzpatrick ac o 62 pleidlais i 0 gydag 1 yn ymatal
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Newidiadau i'r Ddarpariaeth Lleiafswm Refeniw PDF 90 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Sir Aled Davies, Aelod Portffolio ar faterion Cyllid. Cofnodion: Bu’r Cyngor yn trafod argymhellion y Cabinet i newid polisi’r Awdurdod ar y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw (MRP) er mwyn cael dull mwy darbodus gan wneud arbedion refeniw blynyddol a chaniatáu i hyd at £4,624k gael ei ddefnyddio yn 2017/18 i wrthbwyso’r diffyg a darparu arbedion untro’n unig am dair blynedd arall. Byddai’r addasiad cyntaf i’r Gofynion Cyllid Cyfalaf yn arwain at arbediad blynyddol o £48k a byddai modd arbed hyn dros y 50 mlynedd nesaf. Gallai’r Cyngor fanteisio ar swm untro’n unig o £624k yn 2017/18 a oedd yn cyfateb i leihad blynyddol o £48k drwy ôl-ddyddio dros 13 mlynedd. Roedd yr ail addasiad yn golygu diwygio’r dull o gyfrifo’r ddyled a’i gymhwyso’n ôl-weithredol o 2007/8 ymlaen a fyddai’n rhyddhau arbedion anghylchol o £19.988m yn raddol dros gyfnod: · 2017/18 £4m · 2018/19 £5m · 2019/20 £5m · 2020/21 £5m · 2021/22 £0.988m Byddai hyn yn helpu i gloriannu’r gyllideb ar ôl rhoi'r adnoddau ychwanegol i’r Gwasanaethau Plant ac yn rhoi ychydig o amser i’r Cyngor ail-ddylunio gwasanaethau i ymdopi â’r pwysau ar gyllid yn y blynyddoedd i ddod.
Gofynnodd nifer o’r aelodau am y risg o ohirio rhwymedigaethau ac eglurwyd fod y penderfyniad i newid y cyfrifiad MRP wedi’i wneud gan y Cyngor ddwy flynedd yn gynt ac yn hytrach na gohirio rhwymedigaethau y byddai’n byrhau'r cyfnod ad-dalu o 150 mlynedd i 50 mlynedd. Gofynnodd aelodau hefyd am yr incwm a allai gael ei golli o fuddsoddiadau pe bai cyfraddau llog yn codi ac eglurwyd y byddai'r colledion yn fach iawn o ystyried y cyfraddau cyfredol a rhagolygol.
Eglurwyd wrth y Cyngor fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi hysbysu bod addasu'r polisi MRP yn fater i’w benderfynu’n lleol ac nad oedd ganddynt unrhyw bryderon am y dull hwn a bod llawer o awdurdodau eraill yng Nghymru'n gwneud yr un peth.
Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, cadarnhaodd yr Arweinydd, oedd yn absennol pan wnaeth y Cabinet yr argymhelliad, ei bod yn ei gefnogi.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Aled Davies ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Myfanwy Alexander ac o 42 pleidlais i 22
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwella Gwasanaethau Plant Ystyried Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor y fersiwn ddiweddaraf o’r Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant a diweddariad gan yr Aelod Portffolio a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr ymateb i adroddiad AGGCC. Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau fod gwaith wedi’i wneud i wahaniaethu rhwng pwysau untro a phwysau rheolaidd ar y gyllideb oedd i'w hadlewyrchu yng nghyllideb 2018/19. Roedd peth rhwystredigaeth nad oedd gan Aelodau fynediad at y dangosfwrdd llawn o ddangosyddion perfformiad a chytunodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i godi hyn gyda’r Bwrdd Gwelliannau. Dywedodd yr Aelodau hefyd fod angen holi defnyddwyr gwasanaeth am eu profiadau ac y dylai fod ganddynt lais ar y Bwrdd Gwelliannau. Bu’r Aelodau hefyd yn trafod lefelau staffio gan gydnabod cyfraniad staff parhaol a staff asiantaeth.
Nododd yr Arweinydd ddau fân-ddiwygiad yr oedd angen eu gwneud i’r Cynllun Gwelliannau, bod Cadeiryddion Craffu ac arweinwyr y gwrthbleidiau wedi eu gwahodd i ymuno â’r Gr?p Rhianta Corfforaethol a’i bod yn cynnal sesiynau briffio wythnosol yn hytrach na phob pythefnos.
Gohiriwyd y Cyngor am 13.15 tan 14.00.
YN BRESENNOL
Y Cynghorydd Sir D E Davies (Cadeirydd)
Y Cynghorwyr Sir MC Alexander, M Barnes, B Baynham, G Breeze, L V Corfield, K W Curry, A W Davies, B Davies, P Davies, M J Dorrance, E Durrant, D O Evans, J Evans, L Fitzpatrick, J Gibson-Watt, M R Harris, S M Hayes, H Hulme, A Jenner, E A Jones, D R Jones, E Jones, G Jones, J R Jones, E M Jones, D Jones-Poston, F H Jump, H Lewis, K Lewis, P E Lewis, MC Mackenzie, I McIntosh, S McNicholas, D Meredith, C Mills, G Morgan, JG Morris, N Morrison, R Powell, WD Powell, GD Price, P C Pritchard, G Pugh, G W Ratcliffe, L Roberts, P Roberts, E Roderick, D Rowlands, D Selby, K S Silk, D A Thomas, R G Thomas, E Vaughan, M Weale, J Wilkinson, A Williams, G I S Williams, D H Williams, J Williams, J M Williams, R Williams and S L Williams
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwobrau Ysgolion Iach Derbyn cyflwyniadau gan ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Crughywel, Ysgol Penmaes ac Ysgol GG Mount Street sy’n derbyn Gwobr Ansawdd Cenedlaethol Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru. Cofnodion: Cafwyd cyflwyniad gan Catie Gilbert o Ysgol Uwchradd Crughywel, y Pennaeth Julie Kay, y Prif Fachgen Ethan Long a’r Brif Ferch Abbie Townsend o Ysgol Penmaes a Shan Kenchington (Pennaeth), Vicci Holloway (Cydlynydd) a chan y disgyblion Martha Dunne Rees ac Ollie Edwards, ar y gwaith a wnaeth yr ysgolion ar gyfer derbyn y Wobr Ysgolion Iach.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiadau gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd PDF 63 KB Ystyried argymhellion gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, yr argymhellion a wnaed yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr, a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Linda Corfield, Is-gadeirydd Pwyllgor y Pwyllgorau Sirol:
ARGYMHELLIAD bod y Cyngor Sir yn cadw’r Pwyllgorau Ardal (Sirol) a’u swyddogaethau presennol, bod cyfarfodydd chwarterol yn cael eu cynnal a bod gan y Cadeirydd hawl i alw cyfarfodydd ychwanegol mewn achosion brys.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan ddiwygiad, a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Phyl Davies.
“Mae’r Cyngor yn sylweddoli’r pwysau ariannol aruthrol sydd ar breswylwyr, cymunedau ac ysgolion ac felly’n derbyn bod angen newid ei strwythurau i arbed adnoddau gwerthfawr. Mae felly’n cytuno i roi’r gorau i gynnal pwyllgorau sirol o ddyddiad Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor yn 2018 a galluogi aelodau i weithio yn eu hardaloedd fel rhan o’r fforymau lleol. Gan felly arbed tua £175k drwy gydol oes y Cyngor hwn.”
Bu’r Cyngor yn dadlau’r diwygiad ac ar ôl cynnal pleidlais fe’i pasiwyd o 34 pleidlais i 22 gyda 2 yn ymatal. Pleidleisiodd y Cyngor ar y prif gynnig ac o 32 pleidlais i 10 gyda 3 yn ymatal
PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn sylweddoli’r pwysau ariannol aruthrol sydd ar breswylwyr, cymunedau ac ysgolion a’i fod felly’n derbyn bod angen newid ei strwythurau i arbed adnoddau gwerthfawr. Mae felly’n cytuno i roi’r gorau i gynnal pwyllgorau sirol o ddyddiad Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor yn 2018 a galluogi aelodau i weithio yn eu hardaloedd fel rhan o’r fforymau lleol. Gan felly arbed tua £175k drwy gydol oes y Cyngor hwn.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance yr argymhellion a wnaed yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Roger Williams yng nghyswllt newidiadau i Adrannau 4, 6, 7, 9, 16, 18 a 19 yn y Cyfansoddiad.
Tynnodd y Swyddog Monitro sylw’r Cyngor at y diwygiad a gynigiwyd i 6.14 lle’r oedd angen i’r Arweinydd benodi Dirprwy Arweinydd a dywedodd y dylai hyn fod yn ôl disgresiwn yr Arweinydd. Eglurodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd mai’r rheswm dros argymhelliad y Pwyllgor oedd er mwyn sicrhau bod ganddynt arweinyddiaeth wleidyddol pe na bai’r Arweinydd ar gael am gyfnod o amser maith. Ar ôl ystyried cyngor y Swyddog Monitro ac eglurhad Cadeirydd y Pwyllgor, o 50 pleidlais i 3 gyda 4 yn ymatal
PENDERFYNWYD cymeradwyo adrannau diwygiedig 4, 6, 7, 9 16, 18 a 19 yn y Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance yr argymhelliad a wnaed yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Roger Williams y dylid gwneud y rhaglen ddatblygu wedi’i chysylltu i raglen welliannau’r Cyngor yn orfodol. Y sancsiwn ar gyfer unrhyw Aelod nad oedd yn cyflawni hyfforddiant gorfodol fyddai eu hatgyfeirio at y Pwyllgor Safonau. O 48 pleidlais i 5 gyda 4 yn ymatal
PENDERFYNWYD y dylid gwneud y rhaglen ddatblygu wedi’i chysylltu i raglen welliannau’r Cyngor yn orfodol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ystyried argymhellion y Pwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu’r Cyngor yn ystyried cynnig i ddirprwyo gwneud penderfyniad ar orchymyn i addasu’r map diffiniol er mwyn ychwanegu llwybr ceffyl o Bankshead, Sir Amwythig at Shepherdswhim, Powys i’r map diffiniol, i Gyngor Sir Amwythig. Roedd y cynnig wedi cael ei ystyried a’i gefnogi gan y Pwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy. Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Jonathan Wilkinson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Myfanwy Alexander ac o 50 pleidlais i 0 gydag 1 yn ymatal
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodi Aelod (Lleyg) Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau PDF 67 KB Ystyried adroddiad gan Gyfreithiwr y Cyngor. Cofnodion: Bu’r Cyngor yn ystyried argymhelliad Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau ar benodi Aelod (Lleyg) Annibynnol i fod ar y pwyllgor yn dilyn cyfweliadau. Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Martin Weale ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt ac o 56 pleidlais i 0
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Blaen Raglen Waith y Cyngor PDF 52 KB Derbyn blaen raglen waith y Cyngor ar gyfer 2018, er gwybodaeth. Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor fanylion am ei flaenraglen waith ar gyfer 2018. Roedd cyfarfod ychwanegol wedi’i drefnu ar gyfer 20 Ebrill i ystyried y Cynllun Gwella Corfforaethol a’r Cynllun Llesiant. Dywedodd Aelod fod Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi trefnu i gyfarfod ar y diwrnod hwnnw.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybuddion o Gynigion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynigion - Gwasanaethau Ieuenctid Mae'r
Cyngor yn cydnabod:
Bod y Cyngor hwn yn penderfynu:
1: Nodi
ei bryder am gau Canolfannau Ieuenctid ar draws Powys;
Cynigydd: Cynghorydd Sir Matthew Dorrance Eilydd: Cynghorydd Sir Huw Williams
Cofnodion: Bu’r Cyngor yn trafod y cynnig ar Ganolfannau Ieuenctid a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Huw Williams:
1: Mae gwasanaethau ieuenctid yn gwneud gwaith hanfodol bwysig yn ein cymunedau. Mae’r manteision a roddir i bobl ifanc yn rhai gwirioneddol a pharhaus.
2: Mae llawer o wasanaethau cyhoeddus eraill yn camu i’r bwlch pan fydd problemau’n digwydd ond mae gwasanaethau ieuenctid yn atal gymaint o’r trafferthion hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf.
3: Mae gwasanaethau ieuenctid yn helpu pobl ifanc i fyw bywydau cadarnhaol fel aelodau o gymdeithas.
4: Mae Canolfannau Ieuenctid mewn lleoliadau strategol ar draws Powys yn chwarae rôl hanfodol mewn darparu’r Gwasanaeth Ieuenctid statudol.
5: Mae adeiladau Canolfannau Ieuenctid yn aml wrth galon y gymuned ac yn allweddol i ddarparu gwasanaethau lleol gwerthfawr eraill.
Mae’r Cyngor hwn yn penderfynu:
1: Nodi ei bryder am gau Canolfannau Ieuenctid ar draws Powys;
2: Y dylai’r Cabinet ymgysylltu â phobl ifanc ym Mhowys yn defnyddio’r fforymau, cyfryngau a’r adnoddau y gall pobl ifanc eu defnyddio i ddatblygu cynllun i fuddsoddi mewn cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc.
3: Y dylai’r Cabinet adolygu effaith cau Canolfannau Ieuenctid ar bobl ifanc gyda nodweddion a warchodir, ac ar gymunedau tlotach, o fewn 12 mis i’w cau.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Amanda Jenner ddiwygiad i bwynt 3 a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Graham Breeze:
“Bod y Cabinet yn adolygu ansawdd a hygyrchedd Gwasanaethau Ieuenctid i bobl gyda nodweddion a warchodir ac mewn cymunedau tlotach ar draws Powys o fewn 12 mis i’w cau.”
Pleidleisiodd y Cyngor ar y diwygiad ac fe’i pasiwyd o 30 pleidlais i 20 gyda 5 yn ymatal. Pleidleisiodd y Cyngor ar y prif gynnig ac o 46 pleidlais i 4 gyda 7 yn ymatal
PENDERFYNWYD
1: Nodi ei bryder am gau Canolfannau Ieuenctid ar draws Powys;
2: Y dylai’r Cabinet ymgysylltu â phobl ifanc ym Mhowys yn defnyddio’r fforymau, cyfryngau a’r adnoddau y gall pobl ifanc eu defnyddio i ddatblygu cynllun i fuddsoddi mewn cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc.
3. Bod y Cabinet yn adolygu ansawdd a hygyrchedd Gwasanaethau Ieuenctid i bobl gyda nodweddion a warchodir ac mewn cymunedau tlotach ar draws Powys o fewn 12 mis i’w cau.
Gadawodd y Cynghorydd Sir William Powell am 15.37. Gadawodd y Cynghorydd Sir K Lewis am 16.30.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig - Cronfa Bensiwn Powys Ym mis Ebrill, bydd Cronfa Bensiwn Powys yn ymuno â Phartneriaeth Pensiwn Cymru (WPP), cyfuniad o wyth Cronfa ar wahân ar draws Cymru. Unwaith y bydd y broses hon wedi digwydd, bydd y gwaith yn cychwyn ar lywodraethu amgylcheddol a chymdeithasol (ESG) o Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Mae gan bob Cronfa unigol yn y bartneriaeth y cyfle i gyfrannu at y broses hon trwy nodi meysydd o flaenoriaeth llywodraethu amgylcheddol a chymdeithasol ac i lobio i gael y rhain wedi’u cynnwys ym Mhartneriaeth Pensiwn Cymru.
Mae'n amserol felly, i Aelodau gymryd nid yn unig y risgiau cymdeithasol ond hefyd y rhai ariannol o newid yn yr hinsawdd yn ddifrifol trwy gymryd camau i gyfyngu risg aelodau Cronfa Bensiwn Powys i buddsoddiadau mewn tanwydd ffosil [1], sydd nid yn unig yn farchnad sy’n marw ond hefyd un sydd â risg uchel. Mae arbenigwyr yn cytuno y bydd yn rhaid i'r mwyafrif (oddeutu 75%) o'r tanwydd ffosil sy’n parhau yn y ddaear aros yno os ydym i osgoi effeithiau trychinebus newid yn yr hinsawdd [2] ac mae hyd yn oed Llywodraethwr Banc Lloegr wedi rhybuddio bod asedau glo ac olew mewn perygl a bod dad-carboneiddio yn gyfle mawr i fuddsoddwyr [3]. Felly, byddwn yn gwarchod buddiannau ein pensiynwyr orau trwy fuddsoddiadau sy'n edrych ymlaen i’r dyfodol o dyfu diwydiannau gwyrdd, megis ynni gwyrdd a allai fod yn allweddol i ddyfodol economaidd Cymru ei hun.
Trwyymuno â Phartneriaeth Pensiwn Cymru, mae gennym gyfle i ddylanwadu ar fuddsoddi tua £16 biliwn yn lle £620 miliwn – i nifer ohonom, cyfle sy’n digwydd dim ond unwaith mewn bywyd i gael effaith go iawn ar lesiant ein cenedlaethau’r dyfodol a’r rheiny dros y byd i gyd.
Byddai’rcamau hyn nid yn unig yn cefnogi’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ond hefyd cynllun Llesiant drafft Powys ei hun hefyd, sydd â’r nod i “ddatblygu strategaeth sy’n cael effaith bositif ar garbon ac sy’n gwneud y mwyaf o gynhyrchu ynni gwyrdd”.
Rwyffelly’n galw ar y Cyngor i gefnogi’n gyhoeddus yr egwyddor o ddadfuddsoddi mewn tanwydd ffosil ac i ddechrau lobïo Partneriaeth Pensiwn Cymru i gynnwys dadfuddsoddi mewn tanwydd ffosil yn ei flaenoriaethau ESG. Yn benodol, rwy’n gofyn;
1. I’rArweinydd i ysgrifennu at Gronfa Bensiwn Powys yn galw iddynt: a. Gefnogi’regwyddor o ddadfuddsoddi b. LobïoPartneriaeth Pensiwn Cymru i leihau ei fuddsoddiadau mewn tanwydd ffosil i sero dros y 5 mlynedd nesaf, yn cynnwys cynlluniau i arallgyfeirio i ddulliau adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni a thechnolegau storio ynni. 2. Y Gyngor a Chronfa Bensiwn Powys i weithio gydag awdurdodau lleol eraill sy’n cael eu gwasanaethau gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru i weithio gyda’i gilydd ar ddadfuddsoddi ac arallgyfeirio. 3. I weithio gyda chynrychiolwyr undebau llafur a’r gweithlu i’w cynnwys mewn cynlluniau ar gyfer dadfuddsoddi ac arallgyfeirio.
Erna ellir cyfeirio’r Pwyllgor Pensiynau a Buddsoddi i weithredu camau 1.a ac 1.b, mae’n hanfodol eu bod yn cael eu hystyried i’w mabwysiadu yn ystod camau cynnar Partneriaeth Pensiwn Cymru.
Cynigydd ... gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem 16.2 Cofnodion: Bu’r Cyngor yn trafod y cynnig canlynol a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Emily Durrant ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan.
“Yn Ebrill, bydd Cronfa Bensiwn Powys yn ymuno â Phartneriaeth Bensiynau Cymru (WPP), cyfuniad o wyth o wahanol Gronfeydd ar draws Cymru. Yn dilyn y broses hon, bydd gwaith yn dechrau ar drefniadau llywodraethu amgylcheddol a chymdeithasol (ESG) ar gyfer y WPP. Mae gan bob Cronfa unigol yn y bartneriaeth gyfle i gyfrannu i’r broses hon drwy adnabod meysydd ESG blaenoriaeth a lobio i’w cynnwys yn y WPP.
Mae’n amserol felly bod yr Aelodau nid yn unig yn cymryd risg gymdeithasol, ond hefyd risg ariannol y newid yn yr hinsawdd o ddifrif drwy symud i gyfyngu cysylltiad aelodau o Gronfa Bensiwn Powys i fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil, sydd nid yn unig yn farchnad sy’n darfod ond hefyd yn un risg uchel. Mae arbenigwyr yn cytuno bod angen i’r rhan fwyaf (tua 75%) o’r tanwyddau ffosil sydd ar ôl yn y ddaear aros yno os ydym am osgoi effeithiau trychinebus gwaethaf y newid hinsawdd ac mae Llywodraethwr Banc Lloegr hyd yn oed wedi rhybuddio bod asedau glo ac olew mewn perygl a bod datgarboneiddio’n gyfle mawr i fuddsoddwr. Felly, yr hyn a fyddai o’r budd mwyaf i’n pensiynwyr fyddai buddsoddi’n flaengar mewn datblygu diwydiannau gwyrdd fel ynni gwyrdd a allai fod yn allweddol i ddyfodol economaidd Cymru.
Wrth ymuno â’r WPP, mae gennym gyfle i ddylanwadu ar fuddsoddiad o tua £16 biliwn yn lle £620 miliwn – i lawer ohonom, mae’n gyfle mewn oes i gael effaith wirioneddol ar lesiant cenedlaethau’r dyfodol a llesiant pobl ar draws y byd.
Byddai gwneud hyn nid yn unig yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ond Cynllun Llesiant drafft Powys ei hun sy’n ceisio “datblygu strategaeth garbon bositif sy'n achub ar bob cyfle i gynhyrchu ynni gwyrdd".
Galwaf felly ar y Cyngor i gefnogi’n gyhoeddus yr egwyddor o ddadfuddsoddi mewn tanwyddau ffosil a dechrau lobio Partneriaeth Bensiynau Cymru i wneud dadfuddsoddi mewn tanwyddau ffosil yn un o’i blaenoriaethau ESG. Yn benodol, gofynnaf:
1. Bod yr Arweinydd ysgrifennu at Gronfa Bensiwn Powys yn galw arni: a. I gefnogi dadfuddsoddi mewn egwyddor. b. I lobio’r WPP am strategaeth i leihau ei buddsoddiadau mewn tanwyddau ffosil i sero dros y 5 mlynedd nesaf, gan gynnwys cynlluniau i arallgyfeirio i ynni adnewyddadwy a thechnolegau arbed ynni a storio ynni. 2. Y Cyngor a’r PPF i weithio gydag awdurdodau lleol eraill a wasanaethir gan y Bartneriaeth Bensiynau i weithio gyda’i gilydd ar ddadfuddsoddi ac arallgyfeirio. 3. Iddi weithio gyda chynrychiolwyr undebau llafur a’r gweithlu i’w cynnwys mewn cynlluniau ar gyfer dadfuddsoddi ac arallgyfeirio.”
Roedd y bleidlais ar y cynnig yn gyfartal gyda 24 dros ac yn erbyn a 5 yn ymatal ac fe’i collwyd ar bleidlais fwrw'r Cadeirydd.
Gadawodd y Cynghorwyr Sir N Morrison a D Rowlands am 16.44.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig - Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag Dim ond tri Awdurdod Lleol yng Nghymru sydd wedi defnyddio Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag (EDMO), pwerau a ddefnyddir gan Awdurdodau Lleol i gymryd drosodd eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf ddwy flynedd. Nid yw Powys yn un ohonynt. Cyflwynodd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Lloegr Cais Rhyddid Gwybodaeth i Lywodraeth y DU i ddarparu ffigurau anheddau gwag fesul ardal awdurdod lleol ledled y DU. Wedi’i atodi mae’r daenlen a ddarparwyd mewn ymateb i’r cais ac mae’n dangos y ffigurau anheddau gwag ar gyfer pob awdurdod lleol yn y DU ac os ydynt wedi defnyddio'r pwerau uchod. Cofnododd Cyngor Sir Powys 1810 o anheddau gwag gyda 25 yn cael eu defnyddio gan y Cyngor yn 2016/17, er nad oedd y Cyngor wedi darparu ffigurau am ba mor hir roedd y cartrefi hyn wedi bod yn wag. Mae'n un o ddim ond ychydig o gynghorau nad ydynt yn cofrestru'r ystadegau hyn ar hyn o bryd. O'r 279 o awdurdodau lleol ar y rhestr dim ond 65 o awdurdodau ar draws y DU sydd â mwy na 1000 o anheddau gwag. https://docs.google.com/spreadsheets/d/1mrO1Aj9jQa1tzkG02kI-Xz82dA08l-yrTI4bFre67lI/edit#gid=0
Cynnig Mae Gr?p Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn annog y Cyngor i ofyn i’r Cabinet i ddarparu dadansoddiad pam fod 1810 o anheddau gwag ym Mhowys ac i ddarparu ffigurau am gyfnod yr amser y mae'r cartrefi hyn wedi bod yn wag; ac mae’n gofyn ymhellach bod Cyngor Sir Powys, yn dechrau defnyddio Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag (EDMO) ar unwaith i helpu lleddfu’r pwysau ar y galw am dai lleol a'r argyfwng tai cenedlaethol.
Cynigydd: Cynghorydd Sir James Gibson-Watt Eilydd: Cynghorydd Sir John Morris
Cofnodion: Gadawodd y Cynghorwyr Sir David Evans, Emyr Jones, Gary Price a Gareth Pugh y Siambr ar gyfer y drafodaeth ar y mater hwn ar ôl datgan buddiannau personol a rhagfarnus.
Bu’r Cyngor yn trafod y cynnig canlynol a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir John Morris: “Dim ond tri awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi defnyddio Gorchmynion Rheoli Tai Gwag (EDMO), pwerau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i feddiannu eiddo a fu’n wag am ddwy flynedd o leiaf. Nid yw Powys yn un ohonynt. Cyflwynodd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Lloegr Gais Rhyddid Gwybodaeth i Lywodraeth y DU am ffigurau tai gwag yn ôl ardaloedd awdurdod lleol ar draws y DU. Mae’r daenlen amgaeedig a dderbyniwyd mewn ymateb yn dangos y ffigurau tai gwag ar gyfer pob awdurdod lleol yn y DU ac a wnaethant ddefnyddio’r pwerau uchod. Yn 2016/17 cofnododd Cyngor Sir Powys fod 1810 o dai’n wag a bod y Cyngor wedi rhoi defnydd newydd i 25, er nad oedd y Cyngor wedi rhoi ffigurau am ba mor hir y bu’r cartrefi hyn yn wag. Mae’n un o ddim ond ychydig o gynghorau nad ydynt yn cofrestru’r ffigurau hyn ar hyn o bryd. Allan o’r 279 o awdurdodau lleol ar y rhestr, dim ond 65 o awdurdodau ar draws y DU sydd â dros 1000 o dai gwag. Cynnig Mae Gr?p Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n pwyso ar y Cyngor i fynnu bod y Cabinet yn darparu dadansoddiad o'r rhesymau pam fod 1810 o dai gwag ym Mhowys ynghyd â ffigurau ar ba mor hir y bu’r cartrefi hyn yn wag; a hefyd yn mynnu, a hynny ar unwaith, bod Cyngor Sir Powys yn dechrau defnyddio Gorchmynion Rheoli Tai Gwag (EDMO) i helpu i ysgafnu’r pwysau ar y galw am dai lleol a’r argyfwng tai’n genedlaethol.” Collwyd y cynnig o 18 pleidlais i 21 gyda 4 yn ymatal. Gadawodd y Cynghorydd Sir Claire Mills am 17.00.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig - Dydd Gwyl Dewi Bod y Cyngor yn cefnogi'r alwad trawsbleidiol i greu Dydd Gwyl Dewi yn wyl banc cenedlaethol. Yn y cyfamser fod y Cyngor yn cydnabod hyn drwy godi baner Dewi Sant ar safleoedd y Cyngor ar y cyd efo'r Ddraig Goch yn ystod yr wythnos o amgylch y 1af o Fawrth, ac hefyd yn codi baner Glyndwr o amgylch y wythnos sy'n cynnwys yr 16eg o Fedi.
Cynigydd: Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan Eilydd: Cynghorydd Sir Bryn Davies Cofnodion: Bu’r Cyngor yn trafod y cynnig canlynol a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Bryn Davies:
“Bod y Cyngor yn cefnogi’r alwad drawsbleidiol i Ddydd G?yl Dewi ddod yn ?yl banc genedlaethol. Yn y cyfamser, bod y Cyngor yn cydnabod hyn drwy godi baner Dewi Sant ar safleoedd y Cyngor a hefyd baner y Ddraig Goch yn ystod yr wythnos o gwmpas 1 Mawrth, a hefyd yn codi baner Glynd?r yn ystod yr wythnos yn cynnwys y dyddiad 16 Medi.”
Cytunodd y Cyngor i dderbyn y cynnig mewn dwy ran, y gyntaf yn galw am wneud Dydd G?yl Dewi’n ?yl banc a’r ail ar chwifio baneri.
Rhoddwyd rhan gyntaf y cynnig “Bod y Cyngor yn cefnogi’r alwad drawsbleidiol i Ddydd G?yl Dewi ddod yn ?yl banc genedlaethol” i’r bleidlais gan golli o 12 pleidlais i 25 gydag 1 yn ymatal.
Cafodd ail ran y cynnig sef “bod y Cyngor yn cydnabod hyn drwy godi baner Dewi Sant ar safleoedd y Cyngor a hefyd baner y Ddraig Goch yn ystod yr wythnos o gwmpas 1 Mawrth, a hefyd yn codi baner Glynd?r yn ystod yr wythnos yn cynnwys y dyddiad 16 Medi” ei basio o 36 pleidlais i 1.
PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn codi baner Dewi Sant ar safleoedd y Cyngor a hefyd baner y Ddraig Goch yn ystod yr wythnos o gwmpas 1 Mawrth, a hefyd yn codi baner Glynd?r yn ystod yr wythnos yn cynnwys y dyddiad 16 Medi.
Gadawodd y Cynghorwyr Sir Amanda Jenner, Gary Price a Lucy Roberts y cyfarfod am 17.28.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig - Lleihau'r Defnydd o Blastig Mae erchyllion ein dibyniaeth ar blastig bellach yn wybodaeth gyffredin. Mae gan blastig lle pwysig yn ein datblygiad technolegol ac mewn llawer o ffyrdd mae’n gynnyrch dyfeisgar a chwyldroadol. Serch hynny, mae'n bryd am chwyldro plastig arall. Mae'n bryd i gael gwared ar blastig un-defnydd. Ar ôl cael fy ethol i'r Cyngor ym mis Mai, roeddwn yn siomedig iawn gan nifer y cwpanau plastig un-defnydd a chwpanau cyfansawdd un-defnydd a ddefnyddir gan Aelodau, staff ac ymwelwyr bob dydd. Mae'r ymateb i'r ymgyrch ddiweddar 'Powys Di-blastig’ yn arwydd y byddai trigolion yn debygol o fod yr un mor siomedig.
A) Hyrwyddo Powys fel awdurdod sydd ar flaen y gad i gwtogi plastig B) Datblygustrategaeth i: 1. Annog staff a thrigolion i: a. Gludo poteli d?r y gellir eu hail-lenwi ac yn yr hir-dymor, ystyried ffynhonnau ddwr yng nghanol trefi lle gellir eu hail-lenwi. b. Cludo cwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio ac i wrthod cwpanau coffi un-defnydd (er enghraifft, mae codi tâl o 5c ar gwpanau coffi un-defnydd mewn adeiladau sy’n cael eu rhedeg gan y cyngor yn un syniad) c. Osgoi cynhyrchion gyda gleiniau micro a chofio i fflysio papur yn unig yn eu toiledau. Byddai peidio â fflysio weips bach, ffyn gwlan cotwm a lensys cyffwrdd i lawr y toiled yn lleihau'r plastig yn y môr ac yn helpu'r system garthffosiaeth.
Eilydd: Cynghorydd Sir Bryn Davies
Cofnodion: Yn absenoldeb y cynigydd a gyda chytundeb yr eilydd, cytunwyd gohirio ystyried y rhybudd o gynnig hwn tan y cyfarfod nesaf.
Gadawodd y Cynghorydd Sir Gwynfor Thomas y cyfarfod am 17.30.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Beth oedd cyfanswm cost gwreiddiol datblygiad 'y Gaer' yn Aberhonddu a beth yw cyfanswm y gost erbyn hyn? Sut y cafodd ei ariannu a sut y mae’n cael ei ariannu nawr?
Cofnodion: Beth oedd cyfanswm cost wreiddiol datblygiad 'y Gaer' yn Aberhonddu a beth yw cyfanswm y gost erbyn hyn? Sut y cafodd ei ariannu a sut y mae’n cael ei ariannu nawr?
Ateb
[1] Nodyn: Dyfarniadau cyllid gan y HLF yn cynnwys – £141,200 + £2,497,100 + £373,800 [2] Nodyn: Mae’r ffigur o £10,387,577 yn cynnwys y gost o Adnewyddu To Blaen Amgueddfa Brycheiniog am £630,503.
Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol y Cynghorydd Vaughan, sicrhaodd yr Aelod Portffolio na fyddai gorwariant arall o £5m ar y prosiect.
Gadawodd y Cynghorwyr Sir Linda Corfield a Gareth Jones am 17.31.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Adfywio gan y Cynghorydd Sir Kathryn Silk PDF 66 KB Pa ganran o ddeiliaid tai a busnesau ym Mhowys sydd â mynediad at gyflymderau band eang o 10Mbs neu fwy; beth mae'r Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod pob cartref a busnes yn cael mynediad o'r fath; a pha asesiad mae'r Cabinet wedi'i wneud o'r anfantais economaidd i ddeiliaid tai a busnesau sydd heb fynediad o'r fath?
Cofnodion: Pa ganran o ddeiliaid tai a busnesau ym Mhowys sydd â mynediad at gyflymderau band eang o 10Mbs neu fwy?
Ateb Mae argaeledd gwasanaethau band eang ar draws Powys yn amrywio yn ôl y math o seilwaith sydd wedi’i osod neu sy’n cael ei ddefnyddio. Mae ehangder y sir a’i natur wledig yn gofyn cael amrywiaeth o ddulliau darparu. Yn ôl y ffigurau diweddaraf gan Think Broadband.com (Mehefin 2017) mae’r lefelau darparu canlynol wedi eu cyflawni ym Mhowys: · Mae gan ychydig dros 80% o eiddo fynediad at gyflymderau band eang o 10MB neu fwy. · O ran cyflymderau arferol Band Eang Cyflym Iawn ar draws y DU (cyflymder lawrlwytho o 24MB o leiaf) mae tua 77% o eiddo ar draws Powys yn gallu derbyn y gwasanaeth. · O ran argaeledd Ffibr Llawn gan Openreach (y cyflymder uchaf sydd ar gael) mae tua 15.93% o eiddo ar draws Powys wedi’u cysylltu.
Beth y mae'r Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod pob cartref a busnes yn cael mynediad o'r fath?
Ateb · Mae'r Cyngor wedi cefnogi Llywodraeth Cymru gyda chyflwyno seilwaith band eang ar draws Powys fel rhan o Gam 1 ei rhaglen weithredu hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2017.
· Bydd y gefnogaeth hon yn parhau yng ngham nesaf y rhaglen rhwng Ionawr 2018-2023 fydd yn ceisio rhoi sylw i ardaloedd anodd eu cyrraedd na chawsant eu cynnwys yng ngham cyntaf y rhaglen.
· Mae’r Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i annog busnesau a defnyddwyr domestig ar draws Powys i dderbyn y gwasanaeth newydd.
· Ym mis Gorffennaf 2017, rhoddodd y Cyngor ei ymateb i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Allwedd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf. Roedd yr ymateb yn tynnu sylw at ardaloedd daearyddol posib ym Mhowys y dylai Cam 2 y rhaglen roi blaenoriaeth iddynt gan bwysleisio pa mor bwysig oedd cefnogi atebion ac opsiynau eraill ar gyfer cysylltu cymunedau a busnesau ynysig.
· Mae cefnogi’r gwaith o wella cysylltedd digidol a chael mwy o bobl i fanteisio arno ar draws y Sir hefyd wedi’i gynnwys, ac yn weithredu blaenoriaeth yn Rhaglen Economi Gweledigaeth 2025 y Cyngor. Pa asesiad y mae'r Cabinet wedi'i wneud o'r anfantais economaidd i ddeiliaid tai a busnesau sydd heb fynediad o'r fath?
Ateb · Mae’r Cyngor wedi asesu effaith darparu band eang ym Mhowys drwy’r dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer Cynllun Powys ar gyfer Gweithredu Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Ar ôl dadansoddi cyflymderau rhyngrwyd mewn 131 lleoliad neuadd bentref yn y sir ym Medi 2016, cadarnhawyd fod cysylltedd yn broblem fawr mewn cymunedau gwledig y tu allan i’r prif ganolfannau trefol.
· Casglwyd tystiolaeth o’r effaith economaidd ar fusnesau drwy ddigwyddiadau Gweithdai Band Eang Cyflym Iawn a gynhaliwyd ar draws Powys ers 2015. Roedd cwestiwn ychwanegol y Cynghorydd Silk yn gofyn pa gymorth y gall aelodau unigol ei roi i’r Aelod Portffolio i roi pwysau ar y llywodraeth i wella cyflymderau band eang. Byddid yn gofyn i’r Aelod Portffolio a oedd yn absennol am ymateb.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Arweinydd gan y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance PDF 52 KB A fydd yr Arweinydd yn cyhoeddi adroddiad cynnydd ar gyflawni dogfen ei gweinyddiaeth - Gweledigaeth 2025?
Cofnodion: A fydd yr Arweinydd yn cyhoeddi adroddiad cynnydd ar gyflawni dogfen ei gweinyddiaeth - Gweledigaeth 2025?
Ateb Nid oeddwn wedi bwriadu cyhoeddi “Adroddiad Cynnydd” ar y Weledigaeth ond gallwn wneud hynny – efallai’n flynyddol. Roeddwn wedi bwriadu, ac rydyn ni wedi dechrau cynnal seminarau rheolaidd ar gyfer y Cyngor cyfan oherwydd rwyf am i’r holl Gynghorwyr fod yn rhan o unrhyw drafodaethau. Mae'r swyddogion hefyd yn y broses o sefydlu’r grwpiau trafod fydd yn cefnogi’r Byrddau Rhaglen bychain a ddynodwyd i bob maes gwaith. Ar ôl eu sefydlu, bydd gan bob Cynghorydd gyfle i gyfrannu mewnbwn i unrhyw faes gwaith ar y Weledigaeth. Hyd yma, mae gwaith ar y gweill i gyflawni Cytundeb Twf Economaidd ar gyfer y Canolbarth, yn enwedig ers y cyhoeddiad a wnaed yng Nghyllideb Llywodraeth y DU. Mae’r Cabinet hefyd wedi cyfarfod a thrafod y ffordd ymlaen gyda Guto Bebb AS a oedd, ar y pryd, yn Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac rydym yn y broses o drefnu cyfarfodydd gwleidyddol rhyngom ni, Cyngor Sir Ceredigion a Gweinidogion. Mae nifer o adroddiadau cadarnhaol ar wahanol agweddau ar y gwaith yn y Weledigaeth a bwriedir adrodd arnynt yn un o Seminarau’r Cyngor.
Mewn
ymateb i gais y Cynghorydd Dorrance am fwy o fanylion am y cynnydd
gyda phedair prif gonglfaen y Weledigaeth, dywedodd yr Arweinydd
fod gwaith yn mynd rhagddo ar y pedair ac y byddai seminar bellach
i'r Aelodau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pa asesiad a wnaed gan y Cabinet o’r effaith y bydd y cau sydd wedi’i gynllunio o Ganolfan Croeso Aberhonddu yn ei gael ar yr economi leol? Cofnodion: Pa asesiad a wnaed gan y Cabinet o’r effaith y bydd y cau sydd wedi’i gynllunio o Ganolfan Croeso Aberhonddu yn ei gael ar yr economi leol?
Ateb Cafodd y strategaeth gyffredinol ar gyfer delio â thoriadau i’r gyllideb ei chytuno gan y Cyngor llawn yn Chwefror 2014 fel rhan o'r broses o bennu’r gyllideb a chafodd y cynllun presennol i wneud arbedion erbyn Mawrth 2018 ei gadarnhau gan Bennaeth y Gwasanaethau Adfywio a Rheoleiddio, fel yr oedd ar y pryd, a minnau fel yr Aelod Portffolio ar Adfywio a Chynllunio, yng Ngorffennaf 2017. Mae’r ffordd y mae ymwelwyr yn cael gafael ar wybodaeth wedi newid yn aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf a disgwylir i ddatblygiadau technoleg newydd a newidiadau yn ymddygiad defnyddwyr barhau i ddylanwadu ar wasanaethau gwybodaeth i ymwelwyr yn y dyfodol. I adlewyrchu’r duedd hon ac i ateb disgwyliadau ymwelwyr, mae’r Gwasanaeth Twristiaeth yn rhoi mwy o bwyslais ar ddarparu gwybodaeth yn ddigidol drwy ddatblygu gwefannau, technoleg ffonau symudol, datblygu apiau ac ehangu posibiliadau’r cyfryngau cymdeithasol drwy Facebook, Twitter, Instagram etc, a thrwy weithio gyda phartneriaid fel Croeso Cymru, awdurdodau lleol cyfagos a chyrchfannau lleol i wneud gwybodaeth yn haws ei chyrchu i ymwelwyr. Yn y tymor hirach, rydym yn disgwyl i lawer mwy o wybodaeth gael ei darparu’n ddigidol na thrwy ddulliau eraill a bydd datblygiadau yn y maes hwn yn flaenoriaeth i gwrdd ag anghenion y rhan fwyaf o ymwelwyr nad ydynt ar hyn o bryd yn defnyddio canolfannau gwybodaeth o gwbl. Ni chafodd asesiad o effaith y cynlluniau i gau ei wneud pan wnaed y penderfyniad gwreiddiol ond, ers hynny, mae asesiad wedi’i wneud ac wedi cael ei adolygu gan Is-gr?p y Cabinet. Mae copi o’r asesiad o effaith ar gael, pe bai ei angen.
Cwestiwn ychwanegol y Cynghorydd Dorrance oedd gofyn beth oedd gan y Cabinet i’w guddio drwy beidio â chyhoeddi’r asesiad o effaith. Byddai’r cwestiwn hwn yn cael ei anfon ymlaen i’r Aelod Portffolio am ymateb.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Beth yw’r blaenoriaethau ar gyfer plismona ein cymunedau gwledig iawn ym Mhowys? Cofnodion: Beth yw’r blaenoriaethau ar gyfer plismona ein cymunedau gwledig iawn ym Mhowys?
Ateb Diolch i chi am y cwestiwn. Mae Troseddu Gwledig ar draws ardal Heddlu Dyfed Powys yn flaenoriaeth i’r Heddlu ac i’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Mae’r Comisiynydd Dafydd Llywelyn yn cynnwys troseddu gwledig a bywyd gwyllt fel rhan o’i Flaenoriaeth Gyntaf yng Nghynllun Heddlu a Throseddu 2017-2021: Cadw Cymunedau’n Ddiogel (wele isod). ‘Gyda’r heddlu a phartneriaid eraill, gallaf ddeall troseddu gwledig a bywyd gwyllt yn well, ei effaith ar gymunedau gwledig a sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i warchod ein hamgylchedd naturiol’. Mae gan y Comisiynydd hefyd Strategaeth Troseddu Gwledig ar y cyd â Heddlu Dyfed Powys lle mae’r Comisiynydd yn ailadrodd blaenoriaethau ei Gynllun Heddlu a Throseddu (wele isod). Cadw ein cymunedau’n ddiogel · Diogelu pobl agored i niwed · Gwarchod ein cymunedau rhag bygythiadau difrifol · Cysylltu gyda chymunedau Mae’r Strategaeth Troseddu Gwledig yn cynnwys y Prif Heriau ar gyfer Dyfed Powys o ran troseddu gwledig (wele isod). · Amddiffyn pobl agored i niwed · Troseddu amaethyddol ac ar ffermydd · Troseddau treftadaeth · Ynysu gwledig · Twristiaeth · Troseddau busnes a bwyd · Diogelwch Ffyrdd · Troseddu difrifol a chyfundrefnol · Troseddau bywyd gwyllt
Bydd cynlluniau Heddlu Dyfed Powys ar droseddu gwledig yn cael eu gorfodi ar draws ardal yr Heddlu.
Rwyf yn cynnwys dolen i Strategaeth Troseddu Gwledig 2017 er gwybodaeth. https://www.dyfed-powys.police.uk/cy/cyngor/plismona-gwledig/ Gall fy nghydweithwyr ar y Panel Heddlu a Throseddu, y Cynghorwyr David Evans a Les George a minnau ofyn am ddiweddariad gan y Comisiynydd ar unrhyw gwestiynau pellach y gallai fod gennych yng nghyfarfod y Panel Heddlu a Throseddu ar 26 Ionawr yn Neuadd y Sir Ceredigion yn Aberaeron.
Cwestiwn ychwanegol y Cynghorydd Vaughan oedd gofyn i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys ddod i annerch y Cyngor.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Addysg gan y Cynghorydd Sir Sandra Davies PDF 55 KB Cofnodion: Fel arfer, mae’r Fformiwla Ariannu Teg yn cael ei chylchredeg ar gyfer ymgynghori o amgylch tymor y Nadolig – hyd yn hyn rwy’n gwybod nid yw wedi cael ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghori eto: pryd bydd y fformiwla’n cael ei chylchredeg?
Ateb O dan Reoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003, rhaid i bob awdurdod lleol fod â fforwm cyllideb ysgolion lleol (a elwir yn fforwm ysgolion). Mae fforymau ysgolion yn allweddol i ddatblygu deialog wybodus a hyderus rhwng awdurdodau a’u hysgolion ar faterion cyllideb, gan gynnwys lefelau ariannu ysgolion yn y blynyddoedd i ddod, pwysau ar gyllidebau yn y dyfodol, newidiadau i’r fformiwla ariannu leol ac adolygu cytundebau lefel gwasanaeth / contractau ar gyfer darparu gwasanaethau i ysgolion.
Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori â'u fforwm ysgolion yn flynyddol ar faterion yn ymwneud â'r Gyllideb Ysgolion a newidiadau i’w Cynllun ar gyfer Ariannu Ysgolion. Gall awdurdodau hefyd ymgynghori â’u fforymau ar faterion eraill yn ymwneud ag ariannu ysgolion, er enghraifft goblygiadau ariannol eu trefniadau i ddarparu prydau ysgol am ddim, trefniadau yswiriant ac i ddefnyddio unedau atgyfeirio disgyblion ac i addysgu plant heblaw am yn yr ysgol. Cynhaliwyd y cyfarfod diweddaraf o’r Fforwm Ysgolion ar 23 Ionawr a bwriedir cyflwyno cyngor y Fforwm yn ffurfiol i Gynghorwyr fel rhan o bennu'r gyllideb ar gyfer 2018-19.
Yn ogystal, mae’r Awdurdod Lleol yn cyflawni adolygiad llawn o’r Fformiwla Ariannu Ysgolion, yn ôl gweithgaredd. Nid yw gwneud hyn yn cynhyrchu cyllid newydd i’r Awdurdod Lleol na’r ysgolion ond bydd yn sicrhau ein bod yn parhau i ddosbarthu’r cyllid sydd ar gael yn deg rhwng yr ysgolion.
O ystyried y toriadau i grantiau penodol eleni a’r pwysau parhaus ar gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus, mae’n dalcen caled o hyd wrth i Gyrff Llywodraethu ysgolion geisio cwrdd â’u cyfrifoldebau statudol i beidio â chreu diffyg cyllideb a pharhau i ddarparu cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel i’n plant a’n pobl ifanc. Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar am eu holl ymdrechion gwirfoddol wrth gyflawni eu cyfrifoldebau llywodraethu statudol. Byddwn hefyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i flaenoriaethu cyllid ysgolion yn yr hinsawdd ariannol anodd sydd ohoni.
Nid oedd unrhyw gwestiwn ychwanegol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mae tipyn wedi cael ei ddweud yn ddiweddar am y boblogaeth sy’n heneiddio a’r pwysau cysylltiedig ar wasanaethau rheng flaen. Mae cynnydd mewn dementia, pobl sydd â phroblemau symudedd a rhagor o alwadau ar ofalwyr / darparwyr gofal.
Nidyw Powys yn darparu rhestr o ddyddiadau ar gyfer casgliadau sbwriel sy’n gallu achosi dryswch i bobl a’u gofalwyr. Nid oes mynediad gan bawb i gyfrifiadur i gael hyd i wybodaeth.
Roeddhi’n anffodus y cafwyd problemau gyda’r casgliadau gwastraff cyn y Nadolig oherwydd y tywydd. Nid oedd hi’n glir pryd yr oedd y sbwriel yn cael ei gasglu. Ynogystal â hyn roedd y dryswch am y newid i’r diwrnod casglu arferol dros y Nadolig a diwrnod casglu gwahanol ar gyfer y cyfnod dros y Flwyddyn Newydd?
Pa gynllun sydd gan yr aelod portffolio ar faterion sbwriel/ailgylchu i wneud yn si?r bod aelodau o’r cyhoedd yn gwybod pryd i roi eu sbwriel allan i’w gasglu: biniau du (sachau porffor) a blychau lliw? Ayw’r ddau aelod portffolio yn cydweithio gyda’i gilydd i wneud yn si?r bod hyn yn cael ei gyfathrebu’n effeithiol? Cofnodion: Mae tipyn wedi cael ei ddweud yn ddiweddar am y boblogaeth sy’n heneiddio a’r pwysau cysylltiedig ar wasanaethau rheng flaen. Mae cynnydd mewn dementia, pobl sydd â phroblemau symudedd a rhagor o alwadau ar ofalwyr / darparwyr gofal.
Nid yw Powys yn darparu rhestr o ddyddiadau ar gyfer casgliadau sbwriel sy’n gallu achosi dryswch i bobl a’u gofalwyr. Nid oes mynediad gan bawb i gyfrifiadur i gael hyd i wybodaeth.
Roedd hi’n anffodus y cafwyd problemau gyda’r casgliadau gwastraff cyn y Nadolig oherwydd y tywydd. Nid oedd hi’n glir pryd yr oedd y sbwriel yn cael ei gasglu. Yn ogystal â hyn oedd y dryswch am y newid i’r diwrnod casglu arferol dros y Nadolig a diwrnod casglu gwahanol ar gyfer y cyfnod dros y Flwyddyn Newydd?
Cwestiwn: Pa gynllun sydd gan yr aelod portffolio ar faterion sbwriel/ailgylchu i wneud yn si?r bod aelodau o’r cyhoedd yn gwybod pryd i roi eu sbwriel allan i’w gasglu: biniau du (sachau porffor) a blychau lliw? A yw’r ddau aelod portffolio yn cydweithio gyda’i gilydd i wneud yn si?r bod hyn yn cael ei gyfathrebu’n effeithiol?
Ateb
Rydym wedi bod yn mynd drwy broses o optimeiddio’r holl lwybrau casglu gwastraff ac ailgylchu i wneud ein criwiau a'n cerbydau mor effeithlon â phosib. O ganlyniad bydd diwrnod casglu’r rhan fwyaf o aelwydydd yn newid. Bydd hyn yn cael ei gyfathrebu’n glir drwy lythyr cyn i’r newid hwn ddigwydd. Gyda’r llythyr bydd canllawiau newydd ar ailgylchu ynghyd â dyddiadau’r tri chasgliad gwastraff gweddilliol wythnosol.
Pan gyflwynwyd y tri chasgliad gwastraff gweddilliol wythnosol, cafodd rhestr o ddyddiadau am y flwyddyn ganlynol ei nodi. Yna cyflwynwyd cyfleuster gwirio codau post ar ein gwefan lle gall preswylwyr deipio eu cod post i dderbyn y pum dyddiad casglu nesaf. Nid yn unig y mae’n gyfleus iawn i’r rhan fwyaf o breswylwyr sy’n defnyddio’r dechnoleg, mae hefyd yn amhrisiadwy i’n staff gwasanaethau cwsmeriaid sydd, pan fydd preswyliwr yn galw, yn mewnosod y cod post a rhoi’r dyddiadau i’r galwr. Mae’r system wedi gweithio’n dda iawn a hefyd yn arbed y gost sylweddol o anfon calendr allan at breswylwyr.
Yn anffodus mae tywydd garw, fel y cawsom cyn y Nadolig, yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarparwn. Wrth gwrs mae’n hanfodol ein bod nid yn unig yn mynd â cherbydau allan ar y ffordd pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, rhaid i ni hefyd ystyried diogelwch ein staff wrth drin gwastraff ac ailgylchu ar garreg y drws. Ceisiwyd cael y neges ar darfu ar gasgliadau allan i gymaint o bobl â phosib drwy’r wefan, y cyfryngau cymdeithasol a’r gwasanaethau cwsmeriaid. Fodd bynnag, oherwydd natur amodau tywydd cyfnewidiol, mae’n anodd cyfathrebu’r newidiadau hyn yn syth.
Mae casgliadau dros y Nadolig yn broblem i bob awdurdod lleol wrth iddynt geisio cydbwyso darparu gwasanaeth a chaniatáu i staff fwynhau’r gwyliau a threulio amser gyda’u teuluoedd. Cafodd hyn eto ei gyfathrebu bob tro lle’r oedd yn bosib, gan gynnwys yn yr holl bapurau lleol a’r gwefannau cyfryngau cymdeithasol. Eto, mae anfon taflen allan ... view the full Cofnodion text for item 17.7 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Addysg gan y Cynghorydd Sir David Meredith PDF 54 KB Cofnodion: Rwy’n deall bod dau ymgynghorydd wedi’u cyflogi i gynorthwyo drafftio Polisi Ysgolion - Ariannu Teg diwygiedig. Gan fod yr apwyntiadau hyn yn ychwanegol at gyflogi Cyfarwyddwr Addysg parhaol, a all yr Aelod Cabinet ar faterion Addysg wneud datganiad ar ddefnydd yr Adran o ymgynghorwyr?
Ateb Yr ymgynghorydd sy’n cael ei defnyddio i helpu gydag Adolygu’r Fformiwla yw Susan Fielden. Mae’n gweithio ar gomisiwn gan dîm y Gyfarwyddiaeth Adnoddau. Mae Susan yn cael ei chydnabod fel arbenigwraig yn ei maes – ar ôl rhoi cyngor i lywodraeth y DU ar ei pholisi ariannu a gweithio’n agos hefyd ag ASCL – Cymdeithas yr Arweinwyr Ysgolion a Cholegau, i ddadansoddi ariannu addysg. Penodwyd Susan i gynnal ymweliad undydd i gyflawni “Archwiliad Iechyd” ac i gynnig barn am y Fformiwla Ariannu Ysgolion presennol. Defnydd cymharol ychydig o ymgynghorwyr y mae’r Gyfarwyddiaeth Addysg neu'r Gwasanaeth Ysgolion wedi’i wneud. Ar hyn o bryd mae un ymgynghorydd tymor byr, rhan amser a phrofiadol iawn yn cefnogi gwelliannau allweddol mewn ysgolion a newidiadau i’r strategaeth Gynhwysiant / ADY. Mae wedi’i benodi ar gytundeb ariannu tymor byr fel bo’r Cyfarwyddwr yn gallu cyflawni rôl arweinyddiaeth allweddol yn datblygu’r Cynllun Arweinyddiaeth a Llywodraethu Corfforaethol mewn ymateb i bryderon rheoleiddio. Y brif sefyllfa arall lle defnyddiodd y Gyfarwyddiaeth Addysg neu’r Gwasanaeth Ysgolion ymgynghorwyr yn ddiweddar oedd yn yr achosion busnes datblygu technoleg i sicrhau cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau sylweddol er budd cymunedau lleol. Ychydig iawn felly o ymgynghorwyr a ddefnyddiwyd gan y Gyfarwyddiaeth, ac ym mhob achos, mae etifeddiaeth o sgiliau a phrofiad wedi’i throsglwyddo i’n gweithlu lleol. Ar hyn o bryd mae’r Gyfarwyddiaeth Adnoddau – Cyllid yn chwilio am gymorth interim i lenwi swydd y Rheolwr Cyllid Ysgolion. Gallai gael ei llenwi naill ai gan asiantaeth neu ymgynghorydd, gan ddibynnu ar beth sydd ar gael.
Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol y Cynghorydd Meredith yn gofyn a oedd gan aelod o staff yr arbenigedd i ddrafftio fformiwla ariannu teg ar gyfer ysgolion, eglurodd yr Aelod Portffolio nad oedd gan y staff y sgiliau ar hyn o bryd i gydbwyso’r cwricwlwm a dyna pam y penodwyd yr ymgynghorydd.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pa asesiad a wnaed gan y Cabinet o berfformiad (a) ariannol a (b) gweithredol Gwasanaethau Eiddo Calon Cymru Cyf? Cofnodion: Pa asesiad a wnaed gan y Cabinet o berfformiad (a) ariannol a (b) gweithredol Gwasanaethau Eiddo Calon Cymru Cyf?
Ateb Cwmni a sefydlwyd yn 2017 yw Heart of Wales Property Services Ltd, wedi’i berchnogi ar y cyd gan Gyngor Sir Powys a Kier Ltd, sy’n darparu gwasanaethau cynnal a chadw ymatebol i dai cyngor, eiddo corfforaethol (gan gynnwys ysgolion) ynghyd â gwasanaethau dylunio adeiladau.
a) Mae’n rhy fuan i gyflawni asesiad llawn o’r sefyllfa ariannol oherwydd dim ond ers 3 Gorffennaf 2017 y mae HOWPS wedi bod yn masnachu ac nid yw blwyddyn ariannol y Cyngor wedi dod i ben eto. Adroddir ar gyllid yn y cyfarfodydd Bwrdd misol.
b) Mae Fforwm Rheoli Contractau misol a fynychir gan swyddogion allweddol o HOWPS a Chyngor Sir Powys lle caiff perfformiad gweithredol HOWPS ei fesur yn erbyn Dangosyddion Perfformiad Allweddol ac Adroddiadau Gweithredol. Mae’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol hefyd yn cael eu trafod mewn Cyfarfod Bwrdd misol a fynychir gan Aelodau’r Bwrdd (4 o Kier a 4 o Gyngor Sir Powys). Lle caiff mater ei adnabod, codir y mater a chaiff y cynnydd gyda'i ddatrys ei olrhain yn wythnosol.
Cytunodd yr Aelod Portffolio ar faterion Tai a Gwasanaethau Cefn Gwlad i gwestiwn ychwanegol y Cynghorydd Williams yn gofyn am ddiweddariadau ariannol rheolaidd gan y cwmni.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Priffyrdd gan y Cynghorydd Sir Roger Williams PDF 73 KB Pa asesiad a wnaed gan y Cabinet o gyflwr ffyrdd ddi-ddosbarth ym Mhowys?
Cofnodion: Pa asesiad a wnaed gan y Cabinet o gyflwr ffyrdd di-ddosbarth ym Mhowys?
Ateb Mae cyflwr ein ffyrdd di-ddosbarth yn cael ei fonitro drwy archwiliadau rheolaidd o’r rhwydwaith ffyrdd. Caiff pa mor aml y cyflawnir yr archwiliadau ei benderfynu ar sail hierarchaidd, fel arfer ar sail cylchoedd o 6 neu 12 mis. Mae ffyrdd mewn ardaloedd trefol yn gwasanaethu ardaloedd preswyl, neu a ddefnyddir yn drwm, yn cael eu harchwilio'n amlach, gyda rhai mewn ardaloedd gwledig sy’n arwain at ddim ond ychydig o dai'n cael eu cyflawni bob 12 mis. Pwrpas yr archwiliadau hyn yw adnabod gwaith sydd angen ei wneud yn y tymor byr ac asesu cyflwr yn gyffredinol gan roi gwaith mwy sylweddol, fel mân-drwsio’r wyneb, yn y rhaglen. Ar hyn o bryd mae arolygon SCANNER yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru dim ond i asesu cyflwr ffyrdd dosbarthiadol ar draws Cymru. Ni ystyrir bod yr arolygon technegol a mwy manwl hyn, sy’n defnyddio dadansoddiad cyfrifiadurol, yn rhoi gwerth am arian ar gyfer ffyrdd di-ddosbarth. Fodd bynnag, fel rhan o ddatblygu’r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd (HAMP), bwriedir cyflwyno rhaglen archwilio newydd fydd yn cynnwys bras asesiad gweledol o gyflwr y ffordd fel rhan o bob archwiliad. Er nad yw’n asesiad cynhwysfawr na gwyddonol ei natur, dylai roi bras syniad o gyflwr y ffordd.
Er gwybodaeth, cafodd yr arolygon SCANNER diwethaf o ffyrdd di-ddosbarth i gael eu cofnodi eu gwneud yn 2011/2012 ar sail egwyddorion arolygu SCANNER. Mae’r arolwg yn cofnodi ystod o ffactorau gan gynnwys proffil ar hyd y ffordd (ansawdd y siwrne); ar draws y ffordd (rhychau); dyfnder graen yr wyneb a’r cracio (sgidio) cyn eu cyfuno i gynhyrchu un ffactor sy'n cael ei adrodd ar sail goleuadau traffig (Coch / Oren / Gwyrdd). Wele <http://www.ukroadsliaisongroup.org/en/asset-condition/road-condition-information/data-collection/scanner/> am fwy o fanylion.
Dangosir cyflwr y ffyrdd diddosbarth a gofnodwyd yn 2011/2012 yn y tabl isod, gyda 30.2% yn y categori coch (lle mae angen ymchwiliad pellach iddynt) ac yn cyfateb i 640km. Rhoddir cymariaethau ar gyfer ffyrdd C ac A yn yr un flwyddyn a’r flwyddyn gyfredol 2016/2017.
Yn 2011/2012 roedd canran y ffyrdd U yn y categori coch ddwywaith yn fwy na'r ganran o ffyrdd C er bod y cyfanswm yn y categorïau Oren a Choch fwy neu lai'r un fath. Gan edrych ar ffyrdd C ar gyfer 2016/2017, mae eu cyflwr wedi dirywio mewn cymhariaeth â 2011/2012 ac mae’r cyflwr diddosbarth felly’n debygol fel bod canran y ffyrdd yn y categori Coch hefyd wedi cynyddu dros 30.2%.
Ar sail data 2011/2012 o 30.2% o ffyrdd diddosbarth yn y categori coch, pe bai'r ... view the full Cofnodion text for item 17.10 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: A all yr Aelod Portffolio ar faterion Gofal Cymdeithasol Oedolion egluro pa wasanaeth penodol sy’n cael ei arwain gan angen a sbardunodd y cais llwyddiannus i’r Cabinet ar ddiwedd 2017 am gymorth ariannol ychwanegol?
Ateb Ni dderbyniodd y Cabinet gais am gymorth ariannol ychwanegol yn y flwyddyn ariannol bresennol. Ni wnaed cais ychwaith i’r Gronfa Gofal Gwasanaethau Oedolion sy’n cynnwys £2.75m a grëwyd i ddarparu cymorth ychwanegol yn erbyn achos busnes yn y flwyddyn ariannol bresennol, er bod achos wrthi’n cael ei baratoi i ofyn am £321k o’r gronfa hon yn ystod y flwyddyn, am y gost o baratoi ar gyfer ac ymateb i arolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru o Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. Fel rhan o greu argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor ar gyllideb 2018-19, mae’r Cabinet wedi ystyried pwysau o £9.4m y bydd y gwasanaeth yn eu hwynebu yn y flwyddyn i ddod, ac fel y bydd aelodau eisoes yn ymwybodol, mae’r gyllideb sydd i’w hargymell yn cynnwys ymgodiad o £6.8m i reoli rhan o’r pwysau hynny; a’r gweddill i gael ei gwrdd gan y gwasanaeth allan o’r adnoddau presennol. Yn ogystal, gofynnwyd i’r gwasanaeth wneud arbedion effeithlonrwydd o £1.4m yn ystod y flwyddyn ariannol. Caiff ei gydnabod bod peth risg ynghlwm â'r dull hwn. Bydd rhan fawr o’r ymgodiad arfaethedig unwaith eto’n cael ei ddal yn ôl fel arian wrth gefn, a’i ryddhau ond yn erbyn achos busnes.
Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol y Cynghorydd Williams ynghylch a oedd adroddiad arolygiad anffafriol i’w ddisgwyl ar y Gwasanaethau Oedolion, dywedodd yr Aelod Portffolio nad oedd am fentro barn ond bod y gwasanaeth wedi paratoi'n dda am yr arolygiad.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
O ystyried yr Adolygiad diweddar a hysbysebwyd o Gynllun Datblygu Lleol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (2007 – 2022), sut y bydd Aelodau’r Parc Cenedlaethol yn sicrhau bod yr Awdurdod yn ymgysylltu’n rhagweithiol gyda ei chymunedau cyfansoddol a’u cynrychiolwyr Cynghorau Sir, Tref a Chymuned, i wella effeithiolrwydd ac eglurder y broses?
Ynenwedig, sut y bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn sicrhau bod adolygiad y CDLl yn seiliedig ar egwyddorion datblygu cynaliadwy ac yn ystyried sut y gellir cyflawni dyraniadau tai a digonolrwydd dyraniadau cyflogaeth a safleoedd defnydd cymysg, i ddiwallu dyheadau ac anghenion y gymuned leol, yn ogystal â blaenoriaethau polisi trosfwaol Llywodraeth Cymru? Cofnodion: O ystyried yr Adolygiad diweddar a hysbysebwyd o Gynllun Datblygu Lleol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (2007 - 2022), sut y bydd Aelodau’r Parc Cenedlaethol yn sicrhau bod yr Awdurdod yn ymgysylltu’n rhagweithiol â'i gymunedau cyfansoddol a’u cynrychiolwyr Cynghorau Sir, Tref a Chymuned, i wella effeithiolrwydd ac eglurder y broses?
Yn enwedig, sut y bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn sicrhau bod adolygiad y CDLl yn seiliedig ar egwyddorion datblygu cynaliadwy ac yn ystyried sut y gellir cyflawni dyraniadau tai a digonolrwydd dyraniadau cyflogaeth a safleoedd defnydd cymysg, i ddiwallu dyheadau ac anghenion y gymuned leol, yn ogystal â blaenoriaethau polisi trosfwaol Llywodraeth Cymru?
Ateb Diolch yn fawr am y cwestiwn hwn ac am roi cyfle i mi dynnu sylw’r Aelodau a’r cyhoedd at y broses ymgynghori. Ar hyn o bryd mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar ddechrau’r broses o ddatblygu’r Adroddiad ar ei Adolygiad felly mae cwestiynau am fanylion unrhyw gynllun newydd yn gynamserol ar y funud. Unwaith y bydd yr Awdurdod wedi drafftio’r Adroddiad, bydd yn ymgynghori â’r cyhoedd arno am gyfnod o wyth wythnos. Bydd angen i’r Awdurdod ymgynghori â’i randdeiliaid a’i gymunedau ar wahanol adegau drwy broses yr Adolygiad, ac fel unrhyw Awdurdod Cynllunio Lleol arall bydd angen iddo fodloni’r 'profion cadernid’ sy’n ofynnol ym Mholisi Cynllunio Cymru ac yn Llawlyfr Llywodraeth Cymru ar Gynlluniau Datblygu Lleol. Er mwyn hwylustod cyfeirio, y rhain yw: • Prawf 1: Ydy’r cynllun yn cyd-fynd? (h.y. yn gyson â chynlluniau eraill?) • Prawf 2: Ydy’r cynllun yn briodol? (h.y. yn briodol i’r ardal yng ngoleuni’r dystiolaeth?) • Prawf 3: A fydd y cynllun yn cyflawni? (h.y. yn debygol o fod yn effeithiol?) Rwyf yn barod iawn i ddiweddaru’r Aelodau wrth i’r ymgynghoriad fynd yn ei flaen os ydynt yn dymuno.
Nid oedd unrhyw gwestiwn ychwanegol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mae penderfyniad diweddar y Cabinet i gau Canolfan Addysg Awyr Agored Penffordd-las wedi achosi tipyn o bryder ledled Powys. A all yr aelod portffolio cadarnhau bod ymgynghoriad cyhoeddus llawn (yn cynnwys gydag ysgolion Powys) ynghyd ag Asesiad Effaith llawn wedi cael ei gynnal cyn bod yr eitem wedi dod o flaen y Cabinet am benderfyniad yn unol â gofynion y Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant?
Cofnodion: Mae penderfyniad diweddar y Cabinet i gau Canolfan Addysg Awyr Agored Penffordd-las wedi achosi tipyn o bryder ledled Powys. A all yr aelod portffolio cadarnhau bod ymgynghoriad cyhoeddus llawn (yn cynnwys gydag ysgolion Powys) ynghyd ag Asesiad Effaith llawn wedi cael ei gynnal cyn bod yr eitem wedi dod o flaen y Cabinet am benderfyniad yn unol â gofynion y Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant?
Ateb
Pan ystyriwyd yr opsiynau i wneud yr arbedion angenrheidiol o’r Gwasanaeth Hamdden yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, cytunodd y Cabinet blaenorol nad oedd angen ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar gyfer Penffordd-las. Roedd y Gwasanaeth Ysgolion canolog yn cael ei ddiweddaru’n llawn ac yn rhan o drafodaethau’r Bwrdd Prosiect a datblygiadau drwy gydol y broses. Cafodd yr ysgolion hefyd eu diweddaru ar y datblygiadau, ond mae’n anffodus mai dim ond nifer fach o ysgolion ym Mhowys sy’n defnyddio canolfan Penffordd-las (a'r darlun yn un tebyg ers blynyddoedd lawer, gyda nifer yn defnyddio gwasanaethau y tu allan i'r sir), felly ystyriwyd bod yr effaith yn fach i gymedrol. Cafodd asesiad o effaith llawn ei gyflawni cyn cyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet, gan gynnwys sylwadau gan amrywiaeth o wasanaethau.
Nid oedd unrhyw gwestiwn ychwanegol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gyda’rgwaith bron a dod i ben ar Ysgol ardal y Mynydd Du gyda llyfrgell/cyfleusterau cymunedol ar Heol y Gelli, Talgarth, bydd safleoedd ysgolion cyfredol Bronllys a Thalgarth yn dod yn segur cyn bo hir, yn ogystal â Llyfrgell Gangen Talgarth. Er y deallir y pwysigrwydd bod Cyngor Sir Powys yn dilyn protocol, ac yn osgoi unrhyw gamau byrbwyll, mae’n bwysig gwneud cynlluniau cynhwysfawr i ymgynghori ar y defnydd o’r safleoedd hyn yn y dyfodol, gan ystyried nid yn unig polisi’r Cyngor Sir ond hefyd teimladau cymunedol a dyheadau lleol.
Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun asedau Talgarth, gan eu bod yn fwy eang ac yn syrthio o fewn cyfundrefn cynllunio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn cynnwys: yr hen Ganolfan Ieuenctid a Chymunedol, yr Ysgol Gynradd bresennol, Caban Cadlanciau’r Fyddin, y Llyfrgell a’r Cae Ysgol sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr yn lleol.
O ystyried lefel y diddordeb a phryder yn lleol am y safleoedd allweddol hyn, a fydd yr Aelod Cabinet yn cysylltu â’i gydweithwyr portffolio perthnasol a minnau fel yr Aelod Lleol i drefnu cyfarfod i drafod yn agored a thryloyw, dyfodol yr asedau hyn yng nghalon y dref?
O gofio profiad hanesyddol yn lleol o esgeuluso hen Ysbyty Canolbarth Cymru, a’r diffygion yn gysylltiedig â gwaredu’r safle hwnnw, mae’n hanfodol ein bod yn mabwysiadu dull agored a rhagweithiol ac un a fydd yn cynnwys Cyngor Tref Talgarth, rhanddeiliaid lleol a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cofnodion: Gyda’r gwaith bron a dod i ben ar Ysgol ardal y Mynydd Du gyda llyfrgell/cyfleusterau cymunedol ar Heol y Gelli, Talgarth, bydd safleoedd ysgolion cyfredol Bronllys a Thalgarth yn dod yn segur cyn bo hir, yn ogystal â Llyfrgell Gangen Talgarth. Er y deallir y pwysigrwydd bod Cyngor Sir Powys yn dilyn protocol, ac yn osgoi unrhyw gamau byrbwyll, mae’n bwysig gwneud cynlluniau cynhwysfawr i ymgynghori ar y defnydd o’r safleoedd hyn yn y dyfodol, gan ystyried nid yn unig polisi’r Cyngor Sir ond hefyd teimladau cymunedol a dyheadau lleol.
Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun asedau Talgarth, gan eu bod yn fwy eang ac yn syrthio o fewn cyfundrefn cynllunio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn cynnwys: yr hen Ganolfan Ieuenctid a Chymunedol, yr Ysgol Gynradd bresennol, Caban Cadlanciau’r Fyddin, y Llyfrgell a’r Cae Ysgol sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr yn lleol.
O ystyried lefel y diddordeb a phryder yn lleol am y safleoedd allweddol hyn, a fydd yr Aelod Cabinet yn cysylltu â’i gydweithwyr portffolio perthnasol a minnau fel yr Aelod Lleol i drefnu cyfarfod i drafod yn agored a thryloyw, dyfodol yr asedau hyn yng nghalon y dref?
O gofio profiad hanesyddol yn lleol o esgeuluso hen Ysbyty Canolbarth Cymru, a’r diffygion yn gysylltiedig â gwaredu’r safle hwnnw, mae’n hanfodol ein bod yn mabwysiadu dull agored a rhagweithiol ac un a fydd yn cynnwys Cyngor Tref Talgarth, rhanddeiliaid lleol a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Ateb Byddwn yn fodlon cae cyfarfod â chi i glywed unrhyw adborth sydd gennych ar ddyfodol yr asedau yn Nhalgarth. Wrth gwrs bydd angen i unrhyw benderfyniadau terfynol gael eu gwneud ar ôl derbyn cyngor proffesiynol ac yn unol â'n polisïau ni ac amcanion y Cyngor.
Nid oedd unrhyw gwestiwn ychwanegol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Arweinydd gan y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt O ystyried y digwyddiadau diweddar yn gysylltiedig â chwymp Carillion, a all yr Arweinydd sicrhau ni bod yr holl gytundebau allanol a roddir gan y Cyngor Sir wedi’u geirio lle bod achosion lle defnyddir is-gontractwyr lleol gan y prif gontractwr bod y telerau talu heb fod yn fwy na 30 diwrnod a hefyd a allith hi amlinellu pa fesurau sydd gan Gyngor Sir Powys yn ei le er mwyn sicrhau bod taliadau o’r fath yn cael eu gwneud mewn dull amserol? A yw hi’n gallu ein sicrhau ymhellach na fydd y Cyngor Sir yn dioddef unrhyw golledion uniongyrchol, un ai o ran contractau wedi’u oedi neu unrhyw golled ariannol gwirioneddol o ganlyniad i Carillion yn cael ei roi yn nwylo gweinyddwyr?
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: O ystyried y digwyddiadau diweddar yn gysylltiedig â chwymp Carillion, a all yr Arweinydd sicrhau ni bod yr holl gytundebau allanol a roddir gan y Cyngor Sir wedi’u geirio lle bod achosion lle defnyddir isgontractwyr lleol gan y prif gontractwr bod y telerau talu heb fod yn fwy na 30 diwrnod a hefyd a allith hi amlinellu pa fesurau sydd gan Gyngor Sir Powys yn ei le er mwyn sicrhau bod taliadau o’r fath yn cael eu gwneud mewn dull amserol? A yw hi’n gallu ein sicrhau ymhellach na fydd y Cyngor Sir yn dioddef unrhyw golledion uniongyrchol, un ai o ran contractau a ohiriwyd neu unrhyw golled ariannol wirioneddol o ganlyniad i Carillion yn cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr?
Ateb
Mae’r Cyngor yn ddiweddar wedi mabwysiadu cymalau taliadau teg cenedlaethol gymeradwy ar gyfer contractau adeiladu’r Cyngor gan fwriadu eu gwneud yn orfodol ar draws y Cyngor ar gyfer pob contract priodol fel rhan o'r Strategaeth Cyrchu’n Lleol (Gweledigaeth 2025). Mae hyn yn cynnwys telerau talu pob anfoneb o fewn 30 diwrnod.
Yn amlwg mae cwymp Carillion wedi cael effaith andwyol fawr iawn ar nifer o gontractwyr ac isgontractwyr a bydd uned Gomisiynu a Chaffael y Cyngor yn monitro’n ofalus yr holl gyngor a chanllawiau a ddaw allan o'r gwersi a ddysgir o fethiant y cwmni gan sicrhau y cymerir pob cam rhesymol i ddiogelu isgontractwyr yn y dyfodol.
Ni fyddai’n ymarferol, heb adnoddau ychwanegol sylweddol, monitro a gwirio’r holl daliadau a wneir i isgontractwyr gan brif gontractwyr, ac nid oes cynlluniau i wneud hyn ar hyn o bryd. Fodd bynnag, lle mae isgontractwyr yn codi pryderon gyda’r Cyngor Sir am dalu’n hwyr, rydym yn ymchwilio iddynt. Gofynnwyd i bob gwasanaeth adolygu eu contractau ac unrhyw gysylltiad i risg bosib o ganlyniad i fethiant Carillion. Mae’r asesiadau hyd yma’n awgrymu bod gan y Cyngor risg isel iawn o gysylltiad ac ni ddisgwylir y bydd y Cyngor Sir yn dioddef unrhyw golledion uniongyrchol o ganlyniad i fethiant cwmni Carillion.
Nid oedd unrhyw gwestiwn ychwanegol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyniad gan Chwaraeon Powys Derbyn cyflwyniad gan Chwaraeon Powys sydd wedi ennill achrediad Efydd ‘insport’ Anabledd Chwaraeon Cymru. Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon i’w thrafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.
|