Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Daeth Ymddiheuriadau am absenoldeb i law oddi wrth y Cynghorwyr Sir M Barnes, EA Jones, G Morgan a J Pugh.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorwyr y buont yn aelodau o’r Cyngor yn 2016/17 ddatgan buddiannau personol nad ydynt yn rhagfarnus yn eitem 10 Lwfansau a Threuliau Aelodau 2016-17.
Fe wnaeth pob aelod oedd yn bresennol ddatgan buddiannau personol nad ydynt yn rhagfarnus yn eitem 11 Rhestr o Daliadau Aelodau 2017 -18.
Fe wnaeth y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance ddatgan buddiant personol nad yw’n rhagfarnus yn eitem 9 Strategaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Powys fel aelod o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Fe wnaeth y Cynghorydd Sir E Michael Jones ddatgan buddiant personol nad yw’n rhagfarnus yn eitem 17b Hysbysiad o Gynnig – Ffioedd mewn Canolfannau Dydd Gofal Cymdeithasol fel un o ymddiriedolwyr canolfan ofal. Fe wnaeth y Cynghorydd Sir Francesca Jump ddatgan buddiant personol nad yw’n rhagfarnus fel gwirfoddolwr a oedd yn dosbarthu prydau i’r ganolfan ddydd yn y Trallwng. Fe wnaeth y Cynghorydd Sir Heulwen Hulme ddatgan buddiant personol a rhagfarnus yn yr eitem hon. Gofynnodd y Cynghorydd Sir Beverley Baynham am gyngor gan y Swyddog Monitro ac ni fu’n rhaid iddi ddatgan buddiant.
Fe wnaeth y Cynghorwyr Sir Timothy Van-Rees a Gareth Ratcliffe ddatgan buddiant personol nad yw’n rhagfarnus yn eitem 16 Gohebiaeth gan y Lleng Brydeinig Frenhinol fel aelod ac ymddiriedolwr, yn y drefn honno.
Fe wnaeth y Cynghorwyr Sir Dai Davies, David Meredith a Beverley Baynham ddatgan buddiant personol a rhagfarnus yn eitem 17c Hysbysiad o Gynnig Car y Cadeirydd.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 23 Chwefror, 7 Mawrth, 18 Mai a 13 Mehefin 2017 fel cofnodion cywir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn amodol ar ddileu set ddyblyg o ymddiheuriadau o gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Chwefror, awdurdodwyd y Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 23 Chwefror, 7 Mawrth, 18 Mai a 13 Mehefin 2017 fel cofnodion cywir.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd fanylion rhai o’r digwyddiadau a fynychodd gan gynnwys derbyniad gydag Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, pedwar gwasanaeth dinesig a chyngerdd yn Ystradgynlais.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. Cofnodion: Roedd yn bleser gan yr Arweinydd a’r Deilydd Portffolio gyda chyfrifoldeb dros Safonau Masnach gyflwyno’r Ditectif Gwnstabl Gemma Rees, a DCI Martin Slevin o Heddlu Dyfed Powys. Roedd DC Rees wedi ennill gwobr genedlaethol oddi wrth y gr?p atal nwyddau ffug ar ôl cael ei enwebu gan Safonau Masnach Cyngor Sir Powys. Derbyniodd y clod arbennig am waith a arweiniodd at ddwsinau o ymchwiliadau’n cael eu lansio a nwyddau ffug gwerth £300,000 yn cael eu hatafaelu.
Dywedodd yr Arweinydd ei bod wedi’i phenodi fel cyd-lefarydd gwledig CLlLC gydag Arweinydd Cyngor Gwynedd. Roedd y Cynghorydd Sir Aled Davies wedi cael ei benodi fel y dirprwy lefarydd.
Dywedodd hefyd fod amrywiol ddigwyddiadau a derbyniadau wedi’u trefnu ar gyfer y Sioe Frenhinol y gwahoddwydGweinidogion o Lywodraeth Cymru iddynt. Yn y Sioe Frenhinol hefyd byddai Gwasanaethau Busnes Calon Cymru (Heart of Cymru Business Solutions) y Cyngor yn cael ei lasio. Byddai’n gwerthu gwasanaethau cyflogres, DBS ac atal twyll i awdurdodau lleol eraill.
Roedd yr Arweinydd yn falch o nodi bod y gwaith mewn ysgolion yn nalgylch Gwernyfed yn bwrw ymlaen ar amser ac o fewn y gyllideb ac y sicrhawyd grant o £120,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith ar y llyn yn Llandrindod.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Diweddariad y Prif Weithredwr Derbyn diweddariad gan y Prif Weithredwr. Cofnodion: Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Cyngor, yn dilyn trasiedi T?r Grenfell, fod y cladin a ddefnyddiwyd ar adeiladau’r Cyngor wedi cael eu harchwilio a’u bod yn bodloni safonau uchaf y diwydiant. Dywedodd hefyd fod trefniadau cynllunio brys y Cyngor yn cael eu hadolygu mewn ymateb i’r tân a’r ymosodiadau diweddar gan derfysgwyr.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at Daith Baton Gemau Cymanwlad y Frenhines a fyddai’n ymweld ag Aberhonddu, Rhaeadr, Llanidloes a’r Drenewydd ym mis Medi a chadarnhaodd y byddai’r Cyngor yn ailadrodd y ffair yrfaoedd lwyddiannus mewn digwyddiad ar 8 Mawrth 2018. Yn olaf, dywedodd fod y Tîm Rheoli wedi cynnal cyfres o drafodaethau bwrdd gyda staff mewn lleoliadau ar draws y sir a bod yr enwebiadau ar gyfer gwobrau staff wedi agor.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddiadau Cyfalaf |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddiad Cyfalaf ar gyfer Cerbydau Newydd y Cyngor PDF 63 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Sir Aled Davies, Aelod Portffolio ar faterion Cyllid. Cofnodion: Roedd y gyllideb ar gyfer adnewyddu’r fflyd yn dangos tanwariant o £925k yn 2016/17 a cheid arian digonol yn y gyllideb ar gyfer 2017/18 felly cynigiwyd tynnu’r swm hwn o’r gyllideb. Fe’i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Aled Davies ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Sir Liam Fitzpatrick a gyda 61 pleidlais i 0 gydag 1 yn ymatal
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddiad Cyfalaf ar gyfer Canolfan Ddiwylliannol Aberhonddu PDF 63 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Sir Aled Davies, Aelod Portffolio ar faterion Cyllid.
Cofnodion: Oherwydd yr oedi gyda’r prosiect ar ddechrau 2017 oherwydd i’r ffrâm ddur gyrraedd yn hwyr, roedd trosglwyddiad yn ofynnol i ddwyn ymlaen £2.255m i 2017/18 er mwyn parhau â’r prosiect. I ateb cwestiynau gan yr aelodau, cadarnhaodd y Prif Weithredwr y ceid cymalau cosb yn y contract gyda’r contractwr am fethu â chyflawni. Dywedodd hefyd y byddai’n rhai i ddogfennau yn ymwneud â’r contract gael eu harchwilio cyn y gellid eu rhyddhau’n gyhoeddus oherwydd y gellid bod ynddynt wybodaeth fasnachol-gyfrinachol.
Fe’i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Aled Davies ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Sir Rosemarie Harris a gyda 60 pleidlais i 0 gydag 1 yn ymatal
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 93 KB Derbyn ac ystyried adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Strategol – Pobl interim ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2016/17 fel Cyfarwyddwr statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol. Cydnabu waith ei rhagflaenydd Amanda Lewis gan ddiolch i’r staff, rhanddeiliaid a phawb oedd yn cefnogi gofal cymdeithasol ym Mhowys. Nododd y berthynas waith agos rhwng y Cyngor a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a’r ymdrech barhaus i integreiddio er mwyn darparu gwell gwasanaethau yn fwy effeithlon ac effeithiol. Cyfeiriodd at lansiad strategaeth iechyd a gofal Powys yn ddiweddar a osodai’r uchelgais ar gyfer y dyfodol.
I ateb cwestiynau gan aelodau, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Strategol y craffwyd ar yr adroddiad er bod yr etholiadau llywodraeth leol wedi cwtogi ar y broses honno. Cadarnhaodd y byddai’n fodlon adolygu’r adran o’r adroddiad a roddai sylw i gyllid er mwyn rhoi ystyriaeth i ganfyddiadau’r Gweithgor Archwilio/Craffu ar Ofal Cymdeithasol.
Wrth gynnig ac eilio’r adroddiad fe wnaeth y Cynghorydd Sir Stephen Hayes y Deilydd Portffolio Gofal Cymdeithasol i Oedolion a’r Cynghorydd Sir Rachel Powell y Deilydd Portffolio Gwasanaethau Plant gydnabod cyfraniad y Cyfarwyddwr Strategol – Pobl interim ers ei phenodiad a’r fantais o gael swyddog mor uchel gyda rôl ddeuol yn y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd.
Gyda 61 pleidlais i 0 gydag 1 yn ymatal
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Strategaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Powys PDF 73 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Sir Stephen Hayes, Aelod Portffolio ar faterion Gofal Cymdeithasol i Oedolion a’r Cynghorydd Sir Rachel Powell, Aelod Portffolio ar faterion Gwasanaethau Plant, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Hamdden. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cabinet a BIaP wedi cymeradwyo’r Strategaeth Iechyd a Gofal ac fe’i lansiwyd yn ffurfiol ar 5 Gorffennaf gyda chopi yn cael ei gyflwyno i’r Gweinidog yn Llywodraeth Cymru. Roedd y Strategaeth yn ddogfen allweddol i ddylanwadu ar y sylfeini ar gyfer cynllunio gwasanaethau iechyd a gofal i’r dyfodol ym Mhowys ac i ddylanwadu ar yr elfennau ehangach yng Nghynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sydd hefyd yn effeithio ar iechyd a lles, sef tai, addysg a mynediad. Roedd yn gam pwysig at yr amcan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig i Oedolion, a chyfrannai hefyd at yr amcanion ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.
Cynigiwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Sir Stephen Hayes, Deilydd Portffolio Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Sir Rachel Powell, Deilydd Portffolio Plant, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Gwasanaethau Hamdden a gyda 66 pleidlais i 0
Torrodd y Cyngor rhwng 11.40 a.m. a 12.00 p.m. Gadawodd y Cynghorydd Sir William Powell y cyfarfod.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Lwfansau a Threuliau Aelodau 2016-17 PDF 57 KB Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Strategol – Adnoddau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor er gwybodaeth fanylion y symiau a dalwyd i aelodau fel cyflogau a lwfansau yn 2016/17. Roedd gofyn i’r Cyngor gyhoeddi’r wybodaeth erbyn 30 Medi 2017. Cynigiwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Sir E Michael Jones ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Sir Timothy Van-Rees a gyda 60 pleidlais i 0 gyda 4 yn ymatal
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhaglen Taliadau Aelodau 2017- 18 PDF 63 KB Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Strategol - Adnoddau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu’r Cyngor yn ystyried y Rhestr o Daliadau’r Aelodau ar gyfer 2017/18. Rhoddodd yr aelodau ystyriaeth i a ddylid parhau i dalu lwfans band eang misol o £15. Yn dilyn cynnig gan y Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Phil Pritchard gyda 63 pleidlais i 1 gyda 2 yn ymatal
Yn dilyn cynnig gan y Cynghorydd Sir Linda Corfield a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Michael Williams gyda 62 pleidlais i 0
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyngor Tref Y Trallwng PDF 71 KB Ystyried adroddiad gan Gyfreithiwr y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Sir Phil Pritchard ddatgan buddiant personol nad yw’n rhagfarnus yn yr eitem hon fel aelod o Gyngor Tref y Trallwng.
Roedd Cyngor Tref y Trallwng wedi gwneud cais i’r Cyngor Sir wneud y trefniadau angenrheidiol i gynnal etholiad i lenwi dwy sedd wag.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir E Michael Jones ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Sir Francesca Jump a gyda 64 pleidlais i 1 yn erbyn gydag 1 yn ymatal
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Protocol ar gyfer Cyfraniadau gan y Cyhoedd yng Nghyfarfodydd y Cyngor PDF 75 KB Ystyried adroddiad gan Gyfreithiwr y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor argymhelliad y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y dylai’r drefn o ganiatáu cyfranogaeth y cyhoedd yng nghyfarfodydd y Cyngor gael ei gweithredu am flwyddyn ac yna ei hadolygu. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi argymell, os oedd aelod o’r cyhoedd yn methu â bod yn bresennol i gyflwyno cwestiwn atodol, y gallent wneud hynny drwy lythyr neu e-bost. Nodwyd nad oedd yr opsiwn hwn yn agored i aelodau’r Cyngor. Cytunodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i edrych ar hyn yn ogystal ag ar sylwadau y dylid bod gwerthusiad o sut roedd y cynllun yn gweithredu.
Cynigiwyd yr argymhelliongan y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Sir Joy Jones a gyda 61 pleidlais i 1
Gadawodd y Cynghorydd Sir Maureen Mackenzie am 12.30 p.m.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau i Bwyllgorau Nodi’rpenodiadau canlynol i Bwyllgorau a wnaed gan grwpiau gwleidyddol a chymeradwywyd gan y Swyddog Monitro o dan bwerau cyffredinol o ddirprwyaeth a roddwyd gan y Cyngor ar 15 Mai 2013:
Penodwyd y Cynghorydd Sir Iain McIntosh i Bwyllogr Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy gan y Grwp Ceidwadol i lenwi swydd wag.
Penodwyd y Cynghorydd Sir Iain McIntosh i Bwyllgor y Ddeddf Trwyddedu 2003 gan y Grwp Ceidwadol yn lle’r Cynghorydd Sir Mark Barnes.
Penodwyd y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt i Bwyllgor Craffu B gan y Grwp Democratiaid Rhyddfrydol yn lle’r Cynghorydd Sir Francesca Jump. Cofnodion: Nododd y Cyngor y penodiadau canlynol i Bwyllgorau a wnaed gan grwpiau gwleidyddol ac a gymeradwywyd gan y Swyddog Monitro dan y p?er dirprwyo cyffredinol a roddodd y Cyngor ar16egMai 2013:
· Penodwyd y Cynghorydd Sir IainMcIntosh i’r Pwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy gan y Gr?p Ceidwadol i lenwi sedd wag. · Penodwyd y Cynghorydd SirIain McIntoshi Bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003gan y Gr?p Ceidwadol yn lle’r Cynghorydd Sir MarkBarnes. · Penodwyd y Cynghorydd SirJames Gibson-Watti Bwyllgor Craffu B gan gr?p y Democratiaid Rhyddfrydol yn lle’rCynghorydd Sir FrancescaJump.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau i Gyrff Allanol PDF 31 KB Ystyried penodiadau i’r cyrff allanol:
Bwrdd Gofal a Thrwsio Powys – 1 Aelod Cyngor Llyfrau Cymru – 1 Aelod Pwyllgor Ymgynghorol Mordwyol Wy – 1 Aelod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 15.1 Bwrdd Gofal a Thrwsio
15.2 Cyngor Llyfrau Cymru
15.3 Pwyllgor Ymgynghorol Mordwyo Gwy
15.4 Bwrdd Tai Canolbarth Cymru
Dywedodd y Cadeirydd, gan fod y Deilydd Portffolio Addysg yn gorfod gadael amser cinio, ei fod yn newid trefn yr agenda i gymryd cwestiynau iddi hi nesaf.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Addysg gan y Cynghorydd Sir Phil Pritchard PDF 52 KB Sawlcyfarfod â gynhaliwyd rhwng Swyddogion Cyngor Sir Powys a chynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru ynglyn â chreu dwy ysgol newydd yn y Trallwng yn lle ysgolion presennol Oldford, Ardwyn, Gungrog a Maesydre?
Cofnodion: A allech chi ddweud wrthyf faint o gyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng Swyddogion CS Powys a chynrychiolwyr Yr Eglwys yng Nghymru yngl?n â chreu dwy ysgol newydd yn y Trallwng yn lle ysgolion Oldford, Ardwyn, Gungrog a Maesydre?
Ateb Mae prosiect Ad-drefnu Ysgolion y Trallwng wedi cael ei reoli gan y Bwrdd Rhaglen Ad-drefnu Ysgolion. Yn unol â’r adolygiadau ardal eraill a wnaed yn ardaloedd dalgylch Ystradgynlais, Gwernyfed, John Beddoes, Llanidloes a Bro Ddyfi, gwnaed yr adolygiad drwy fwrdd prosiect ardal wedi’i hwyluso. Roedd gan y bwrdd prosiect gynrychiolwyr o’r 5 ysgol gychwynnol a gynhwyswyd yn yr adolygiad ynghyd â chynrychiolwyr o gyrff eraill sydd â diddordeb gan gynnwys cynrychiolaeth o Esgobaeth Llanelwy.
Fel rhan o’r gwaith a wnaeth y bwrdd prosiect roedd swyddogion o’r gwasanaeth ysgolion wedi helpu’r bwrdd ac unrhyw is-grwpiau i’r gr?p; mae’r gwaith hwn wedi cynnwys cyfarfodydd a sgyrsiau ffôn gydag unigolion neu grwpiau bach o gynrychiolwyr ysgolion. Yn ystod y broses cafwyd nifer fechan o drafodaethau gyda’r Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol neu ei chynrychiolydd, nid yw union nifer y trafodaethau / cyfarfodydd hyn wedi’i gofnodi ond amcangyfrifir nad yw’n fwy na 15. Byddai hyn yn cynnwys trafodaethau / cyfarfodydd gyda’r Deilydd portffolio, pennaeth y gwasanaeth ysgolion, yr uwch reolwr – gwasanaethau canolog a’r uwch reolwr- ad-drefnu o fewn y gwasanaeth ysgolion. Byddai nifer debyg o gyfarfodydd, sgyrsiau ayb, wedi cael eu cynnal gyda chynrychiolwyr o bob un o’r ysgolion dan sylw yn yr adolygiad.
I ateb cwestiwn atodol y Cynghorydd Pritchard pam na rannwyd gwybodaeth gyda chyrff llywodraethu’r ysgolion, cynigiodd y Deilydd Portffolio gyfarfod y Cynghorydd Pritchard yn ystod yr wythnos ar ôl y Sioe Frenhinol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Addysg gan y Cynghorydd Sir Graham Breeze PDF 54 KB Mae nifer o drigolion yn Ward Llanerchyddol Y Trallwng wedi lleisio pryderon am gau ysgol Iau a Babanod Ardwyn yn 2018 ac yn benodol am ddyfodol yr adeilad.
A all yr Aelod Portffolio amlinellu pa ystyriaethau a roddwyd i ddyfodol yr adeilad ar ol cau’r ysgol yn 2018, yn enwedig o ystyried bod gan yr adeilad statws Rhestredig Gradd II, mynediad cyfyngedig ac unrhyw effaith y gallai hyn ei gael ar y trigolion gerllaw?
Cofnodion: Mae llawer o drigolion yn Ward Llanerchyddol y Trallwng wedi lleisio’u pryderon yngl?n â chau Ysgol Iau a Babanod Ardwyn yn 2018 ac yngl?n â dyfodol yr adeilad yn benodol. A allai’r Deilydd Portffolio amlinellu pa ystyriaethau a roddwyd i ddyfodol yr adeilad hwn ar ôl cau’r ysgol yn 2018, yn enwedig o ran ei statws fel Adeilad Rhestredig Gradd II, mynediad cyfyngedig ac unrhyw effaith bosibl ar y trigolion cyfagos?
Ateb Disgwylir i’r ddwy Ysgol Gynradd newydd fod wedi’u hadeiladu a’u meddiannu erbyn dechrau Blwyddyn ysgol 2019-20 ym mis Medi 2019. Bydd y gwasanaeth ysgolion yn datgan na fydd arnynt angen y 3 safle gwag, Ysgol Gungrog yr Eglwys yng Nghymru, Ysgol Meithrin a Babanod Oldford ac Ysgol Meithrin a Babanod Ardwyn a bydd yn gofyn i’r adran eiddo corfforaethol naill ai drosglwyddo’r safleoedd i wasanaeth arall neu werthu’r safleoedd. Bydd rhan o safle Ysgol Gungrog yr Eglwys yng Nghymru yn mynd yn ôl i ddwylo Awdurdodau Eglwys Llanelwy. Mae swyddogion o’r gwasanaeth eisoes wedi codi argaeledd posibl y 3 safle wrth y bwrdd asedau strategol aml-wasanaeth ac mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar sut gellir defnyddio’r safleoedd i fodloni blaenoriaethau strategol yr awdurdod. Gallaf sicrhau’r Cynghorydd Breeze yr hysbysir ac yr ymgynghorir â thrigolion ei ward yngl?n â defnyddio adeiladau’r ysgolion i’r dyfodol.
Ni chafwyd cwestiwn atodol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Addysg gan y Cynghorydd Sir Sandra Davies PDF 51 KB Cofnodion: Beth yw polisi Cyngor Sir Powys ar ddefnyddio Cyllidebau dirprwyedig ysgolion i ddarparu cludiant rhwng y cartref a’r ysgol i ddysgwyr ac a yw’r Cyngor yn ymwybodol o unrhyw ysgolion yn y Sir sy’n gwneud hyn ac os felly, pa gyngor a gawsent?
Ateb Mae’r Awdurdod yn datgan, dan adran 5.2 o’r Cynllun Ariannu Ysgolion, na all ysgolion ddefnyddio’u cyllideb ddirprwyedig at ddiben y mae’r awdurdod yn gyfrifol amdano fel arfer, gyda chludiant rhwng y cartref a’r ysgol yn cael ei nodi’n benodol. Bydd y Cynghorydd Davies yn ymwybodol yr ymchwiliwyd i’r sefyllfa yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin yn ystod y cyngor diwethaf, gydag adroddiad dilynol yn cael eu gwneud ar 2 Ysgol Uwchradd arall. Ym mhob achos, hysbyswyd yr ysgolion eu bod yn torri rheolau’r cynllun ac mae’r awdurdod wedi gorchymyn i’r Cyrff Llywodraethu sicrhau na ddefnyddir dim cymhorthdal o’r gyllideb ddirprwyedig ar gyfer darparu cludiant rhwng y cartref a’r ysgol i ddisgyblion anghymwys o fewn amserlen y cytunwyd arni.
I ateb cwestiwn y Cynghorydd Davies yngl?n â pha drefniadau a oedd ar waith i sicrhau y cydymffurfiwyd â’r polisïau, dywedodd y Deilydd Portffolio fod y Cyngor yn mynd i gysylltu’n amlach â chyrff llywodraethu wrth iddynt bennu cyllidebau a bod angen cynnal adolygiad brys o bolisïau ar gyfer disgyblion o’r tu allan i’r sir.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Question to the Portfolio Holder for Education from County Councillor Pete Roberts Cofnodion: A fyddai’r Aelod Cabinet dros Addysg yn esbonio’r effaith y bydd cadw addysg cyfrwng Cymraeg yn Aberhonddu yn ei chael ar hyfywedd Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-muallt /Llandrindod a pha gamau y bydd yn eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Ateb
Dywedodd y Deilydd Portffolio Addysg mai ei huchelgais oedd cynyddu nifer y dysgwyr cyfrwng Cymraeg a chael ffrydiau cyfrwng Cymraeg cynaliadwy yn y ddwy ysgol. Aeth ymlaen i ddweud bod swyddogion yn paratoi adolygiad o addysg cyfrwng Cymraeg yng nghanolbarth Powys a fyddai’n cael ei gyflwyno i gynnwys de’r sir a bod angen recriwtio mwy o athrawon sy’n siarad Cymraeg fel y gellir cynnig cwricwlwm ehangach.
Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cyng Pete Roberts a oedd unrhyw gynlluniau i Ysgol Llanfair-ym-muallt /Llandrindod uno yn 1 safle a dywedodd y Deilydd Portffolio nad cheid cynlluniau o’r fath a bod 1 ysgol ar 2 safle yn fodel a oedd wedi gweithio mewn mannau eraill.
Torrodd y Cyngor am ginio rhwng 1.06 p.m. a 2.00 p.m.
YN BRESENNOL Cynghorydd Sir D E Davies (Cadeirydd)
Cynghorwyr Sir B Baynham, G Breeze, J Charlton, L V Corfield, A W Davies, B Davies, P Davies, S C Davies, M J Dorrance, E Durrant, D O Evans, J Evans, L Fitzpatrick, L George, J Gibson-Watt, M R Harris, S M Hayes, H Hulme, A Jenner, DR Jones, E Jones, EM Jones, G Jones, J R Jones, M J Jones, D Jones-Poston, F H Jump, K Laurie-Parry, H Lewis, K Lewis, S Lewis, I McIntosh, S McNicholas, DW Meredith, C Mills, JG Morris, N Morrison, R Powell, D R Price, P C Pritchard, G Pugh, G W Ratcliffe, L Roberts, P Roberts, K M Roberts-Jones, E Roderick, D Rowlands, D Selby, K S Silk, D A Thomas, R G Thomas, T J Van-Rees, E Vaughan, M Weale, J Wilkinson, A Williams, G I S Williams, D H Williams, J Williams, J M Williams, R Williams, S L Williams
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor lythyr gan y Lleng Brydeinig Frenhinol a oedd yn galw ar y Cyngor i gefnogi eu hymgyrch “Count them in” sy’n galw am wneud newidiadau yng nghyfrifiad y DU er mwyn cofnodi data ar lefel awdurdodau lleol yngl?n â maint ac anghenion y Gymuned Lluoedd Arfog.
Fe’i cynigiwyd gan yCynghorydd Sir Timothy Van-Rees ac fe’i heiliwyd yn briodol a gyda 53 pleidlais i 0 gyda 4 yn ymatal
PENDERFYNWYD cefnogi’r cynnig canlynol:
Mae’r Cyngor hwn yn nodi:
1. Y rhwymedigaeth sydd arno i gymuned y Lluoedd Arfog ym Mhowys fel y corfforwyd yng Nghyfamod y Lluoedd Arfog; na ddylai cymuned y Lluoedd Arfog fod dan anfantais o ran darparu gwasanaethau a bod ystyriaeth arbennig yn briodol mewn rhai achosion, yn enwedig i’r rheini sydd wedi rhoi’r mwyaf. 2. Absenoldeb ystadegau diffiniol a chynhwysfawr ar faint neu ddemograffeg cymuned y Lluoedd Arfog ym Mhowys. Mae hyn yn cynnwys personél Rheolaidd ac Wrth Gefn sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr, a’u teuluoedd. 3. Byddai data o’r fath o gymorth mawr i’r cyngor, asiantaethau partner lleol, y sector gwirfoddol a’r Llywodraeth genedlaethol i gynllunio a darparu gwasanaethau i roi sylw i anghenion y Gymuned Lluoedd Arfog ym Mhowys.
Yng ngoleuni’r uchod, mae’r Cyngor yn cynnig cefnogi a hybu galwad y Lleng Brydeinig Frenhinol i gynnwys testun newydd yng nghyfrifiad 2021 yn ymwneud â gwasanaeth milwrol ac aelodau o gymuned Lluoedd Arfog. Ymhellach, galwn ar Senedd y DU, a fydd yn cymeradwyo holiadur y cyfrifiad terfynol drwy ddeddfwriaeth yn 2019, i sicrhau bod cyfrifiad 2021 yn cynnwys cwestiynau am ein cymuned Lluoedd Arfog.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybuddion o Gynigion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig ar Ganolfannau Gwastraff ac Ailgylchu o'r Cartref Ynystod ymgyrch etholiadol diweddar y cyngor sir bu nifer o drigolion yn datgan pryderon difrifol am y newidiadau i amseroedd agor a dull gweithredu’r Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu o’r cartref (HWRC’s). Felly, rydym yn galw ar aelod porffolio perthnasol y Cabinet i gynnal adolygiad brys o sut y mae’r HWRC’s yn cael eu rhedeg ar hyn o bryd er mwyn sicrhau eu bod yn cynnig gwasanaeth cywir a phriodol. Cynigydd: Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe Eilydd: Cynghorydd Sir James Gibson-Watt Cofnodion: Trafododd y Cyngor y canlynol a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt: “Yn ystod ymgyrch yr etholiad cyngor sir yn ddiweddar, fe wnaeth llawer o drigolion fynegi pryderon dwys am y newidiadau diweddar i amseroedd agor a dulliau gweithredu’rCanolfannau Ailgylchu Gwastraff o Gartrefi’. Rydym felly yn galw ar y Deilydd Portffolio perthnasol yn y Cabinet i gynnal adolygiad brys o’r ffordd y gweithredir y Canolfannau ar hyn o bryd er mwyn sicrhau eu bod yn cynnig gwasanaeth addas a phriodol.” Ceid cefnogaeth gyffredinol i benderfyniad y Cabinet i adfer y drefn agor 5 diwrnod yr wythnos ar gyfer Canolfannau a chyflwyno cynllun trwydded ar gyfer cerbydau masnachol ac ôl-gerbydau. Anogodd Cynghorwyr Machynlleth a Glantwymyn y Cabinet i ailedrych ar ddarparu cyfleuster i drigolion Dyffryn Dyfi. Cadarnhaodd y Deilydd Portffolio Eiddo a Gwastraff y byddai’n cyfarfod â Chyngor Tref Machynlleth. Roedd yn cydnabod gwerth y safleoedd i helpu’r Cyngor i gyrraedd ei dargedau ailgylchu ond esboniodd, oherwydd y toriadau yr oedd y Gwasanaeth Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu yn eu hwynebu, na allai ymrwymo i wasanaeth 7 diwrnod yr wythnos. Roedd y Cyngor yn fodlon bod y Cabinet yn symud i’r cyfeiriad iawn ac felly tynnodd y cynigiwr y cynnig yn ôl.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig - Taliadau yng Nghanolfannau Dydd Gofal Cymdeithasol Cyflwynwyd cynnydd o 50% yn y taliadau am brydau bwyd ac am fynychu canolfannau dydd gofal cymdeithasol ym Mhowys gan y Cabinet cyn diwedd y cyngor blaenorol ac arôl i’r Cyngor Sir osod ei gyllideb ar gyfer 2017 – 18. Rydym o’r farn bod y penderfyniad, a gymerwyd heb rybudd ymlaen llaw nac ychwaith ymgynghoriad gyda defnyddwyr y gwasanaeth a’u gofalwyr, yn gam-ddefnydd o’r broses ac rydym yn galw ar Gabinet presennol y Cyngor i adfer y taliadau i’w lefelau blaenorol ar unwaith.
Cynigydd: Cynghorydd Sir James Gibson-Watt
Eilydd: Cynghorydd Sir Matthew Dorrance
Cofnodion: Esboniodd y Swyddog Monitro mai ymgais i alw i mewn un o benderfyniadau’r Cabinet oedd y cynnig. Heb greu cynsail, roedd y Deilydd Portffolio wedi cytuno y gellid ei drafod ond esboniodd y Cyngor na allai’r Cyngor wyrdroi’r penderfyniad er y gallai ofyn i’r Cabinet ailedrych arno.
Trafododd y Cyngor y cynnig, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance:
“Cyflwynodd y Cabinet gynnydd o 50% mewn ffioedd am fynychu ac am brydau bwyd mewn canolfannau dydd gofal cymdeithasol ym Mhowys cyn diwedd y cyngor diwethaf ac ar ôl i’r Cyngor Sir osod ei gyllideb ar gyfer 2017-18. Rydym yn credu bod y penderfyniad hwnnw, a wnaed heb rybuddio nac ymgynghori ymlaen llaw gyda defnyddwyr gwasanaethau na’u gofalwyr, yn achos o gamddefnyddio prosesau ac rydym yn galw ar y Cabinet i adfer y ffioedd i’w lefelau blaenorol ar unwaith.”
Wrth siarad o blaid y cynnig dadleuai’r Cynghorwyr Gibson-Watt a Dorrance nas ymgynghorwyd yn briodol â defnyddwyr gwasanaethau a nas cynhwyswyd y cynnig yng nghyllideb 2017-18 yr oedd y Cyngor wedi cytuno arni. Dadleuent y byddai’r ffioedd yn atal y rhai mwyaf agored i niwed rhag mynychu’r canolfannau dydd a rhag cael gafael ar brydau cynnes.
Esboniodd y Deilydd Portffolio Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod y Cyngor, yn 2014, fel rhan o’i gynigion ar gyfer y gyllideb, wedi penderfynu cau canolfannau dydd ond na weithredwyd y penderfyniad ac na chymerwyd yr arbedion. Roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn 2016 yn ei gwneud yn glir y byddai’n achosi cryn galedi i ddefnyddwyr a gofalwyr ac na fyddai’n helpu’r Cyngor i fodloni’r anghenion a aseswyd. Yn ystod yr ymgynghoriad dywedodd pobl y byddent yn barod i dalu mwy am y gwasanaeth yn hytrach na’i golli. Fe wnaeth y Cabinet wyrdroi’r penderfyniad i gau’r canolfannau dydd gan roi’r arbedion yn ôl yn y gyllideb, fodd bynnag, roedd yn rhaid i’r gweithgareddau dydd arbed £150,000. Atgoffodd y Deilydd Portffolio yr aelodau y ceid uchafswm o £70 ar y ffioedd wythnosol a bod asesiadau ariannol yn golygu nad oedd y rhai mwyaf agored i niwed yn gorfod talu.
Cododd dros 10 o aelodau i ofyn am bleidlais gydag enwau’r pleidleiswyr.
Gyda 30 pleidlais i 28 gyda 2 yn ymatal
PENDERFYNWYD galw ar Gyngor y Cabinet presennol i adfer y ffioedd i’w lefelau blaenorol ar unwaith.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig - Defnydd o Gerbyd gan y Cadeirydd Rydym yn galw ar y Cyngor i ddod â’r arfer o brynu neu brydlesu cerbyd i’w ddefnyddio gan y Cadeirydd i ben.
Cynigydd – Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan
Eilydd – Cynghorydd Sir Bryn Davies Cofnodion: Gadawodd y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Is-gadeirydd Cynorthwyol y Siambr ar gyfer yr eitem hon ar ôl datgan buddiant personol a rhagfarnus. Etholwyd y Cynghorydd Sir E Michael Jones gan yr aelodau i gadeirio’r eitem hon.
Trafododd y Cyngor y cynnig canlynol, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Bryn Davies:
“Rydym yn galw ar y Cyngor i roi’r gorau i’r arfer o brynu neu brydlesu car ar gyfer y Cadeirydd.”
Dadleuai’r cynigydd a’r eilydd nad oedd cyfiawnhad dros brynu na phrydlesu car i Gadeirydd y Cyngor ac, ar adeg o gyni a thoriadau i wasanaethau, y dylai’r Cyngor fod yn gosod esiampl drwy wneud arbedion mewn gwariant ar swyddogaethau dinesig.
Gadawodd y Cynghorydd Sir Pete Roberts y cyfarfod am 3.29 p.m.
Eglurodd y Prif Weithredwr pam bod car awtomatig yn angenrheidiol gan fanylu ar gostau’r pryniant a pham ei bod yn fwy cost-effeithiol na phrydlesu neu adael i’r Cadeirydd ddefnyddio’i gar ei hun a hawlio costau teithio. Esboniodd ei fod, fel car cronfa, hefyd ar gael i swyddogion ac aelodau eraill ei ddefnyddio.
Gadawodd y Cynghorydd Sir Jon Williams y cyfarfod am 3.37 p.m.
Gwnaed y gwelliant gan y Cynghorydd Sir Gwilym Williams ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Sir David Jones:
“Rydym yn galw ar y Cyngor i gyfeirio’r mater o’r arfer o brynu neu brydlesu car ar gyfer Cadeirydd y Gwasanaethau Democrataidd ac adolygu rôl y cadeirydd a’r holl rolau dinesig i’r dyfodol.”
Gadawodd y Cynghorydd Sir Gwynfor Thomas y cyfarfod am 3.55 p.m.
Cafodd y gwelliant ei basio gyda 30 pleidlais i 18 gyda 0 yn ymatal a daeth yn gynnig o bwys.
Gadawodd y Cynghorwyr Sir Francesca Jump ac Emyr Jones am 4.06 p.m.
Pleidleisiodd y Cyngor ar y cynnig o bwys a gyda 31 pleidlais i 12 gyda 0 yn ymatal
PENDERFYNWYD cyfeirio’r mater o’r arfer o brynu neu brydlesucar ar gyfer Cadeirydd y Gwasanaethau Democrataidd ac adolygu rôl y cadeirydd a’r holl rolau dinesig i’r dyfodol.
Torrodd y Cyngor rhwng 4.10 a 4.20 p.m. Gadawodd y Cynghorwyr Sir Gareth Jones, Karl Lewis, Neil Morrison a Kathryn Silk y cyfarfod. Dychwelodd y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Is-gadeirydd Cynorthwyol i’r Siambr a dychwelodd y Cynghorydd Sir Dai Davies i’r gadair.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Priffyrdd gan y Cynghorydd Sir John Morris PDF 58 KB Rydymwedi clywed trwy ddatganiad i’r wasg eich bod yn bwriadu adolygu’r penderfyniad i godi taliadau mewn 9 maes parcio ym mherchnogaeth y cyngor oedd am ddim yn flaenorol. Ar hyn o bryd mae anghysondeb ar draws Powys gyda rhai meysydd parcio gyda’r drefn talu ac arddangos a rhai am ddim. Er mwyn bod yn deg ac yn gyfartal i holl drethdalwyr Powys ac i gefnogi’r economi a fyddwch yn ymestyn eich cylch gwaith i adolygu polisi taliadau meysydd parcio ar draws Powys gyfan?
Cofnodion: Rydym wedi dysgu drwy ddatganiad i’r wasg eich bod yn bwriadu adolygu’r penderfyniad i godi tâl mewn 9 maes parcio sy’n eiddo i’r cyngor a oedd am ddim o’r blaen. Ceir anghysondeb ar hyn o bryd ar draws Powys gyda rhai meysydd parcio yn rhai talu ac arddangos a rhai am ddim. Er mwyn tegwch a chydraddoldeb i holl dalwyr y dreth gyngor ar draws Powys ac i gefnogi’r economi, a wnewch ymestyn eich cylch gorchwyl i adolygu’r polisi codi tâl mewn meysydd parcio ar draws Powys gyfan?
Ateb Diolch ichi am eich cwestiwn ac rwy’n ddiolchgar am ichi ei ofyn gan ei bod yn bwysig bod ein penderfyniadau yn gyfiawn a theg ar draws y sir gyfan.
Bwriad fy adolygiad yw edrych i ddechrau ar hyfywedd y naw maes parcio y penderfynodd y Cabinet na ddylent fod am ddim mwyach. Bydd yr adolygiad hwn yn edrych ar y materion penodol a godwyd gan y cymunedau (yr elfen gwerth cymdeithasol) yn ogystal â’r incwm a ragwelir o’i gymharu â’r costau (yr elfen dadansoddi cost a budd). Ar ôl cwblhau’r adolygiad hwn, byddaf yn cychwyn adolygiad pellach o’r holl feysydd parcio i benderfynu ar ddefnydd yr ardaloedd parcio hyn i’r dyfodol a’u hyfywedd a sut orau i’w rheoli, eto yn seiliedig ar y gwerth cymdeithasol i’r gymuned a’r dadansoddiad o gost a budd. “Meddwl yn Glyfar” yw hyn ac mae’n ein galluogi i wneud penderfyniadau llawer gwell i’n cymdogaethau a’n trigolion niferus wrth i’r effaith ar y gymuned gael ei hystyried ochr yn ochr â’r ystyriaethau ariannol - cysyniad newydd y mae fy nghydweithwyr yn y Cabinet yn ymwybodol ohono. Dyma’r ffordd orau, yn fy marn i, i ganiatáu inni gynnig ateb cyfiawn a theg.
Mae pob punt a ddaw i mewn i Bowys drwy feysydd parcio o fudd i’n heconomi gyfan. Mae punt ym maes parcio’r Gelli yn helpu’r ysgol newydd sbon yn y Gelli yn anuniongyrchol – rhywbeth nad ydym o bosibl yn meddwl digon amdano fel gwleidyddion ym Mhowys.
Mae’r Gwasanaeth Parcio yn ffurfio rhan hanfodol o gyllideb y Cyngor ac os na ellir cynnal neu gynyddu incwm mewn meysydd eraill yr wyf yn eu cynrychioli, gallai unrhyw ostyngiad mewn incwm effeithio ar wasanaethau eraill a ddarperir gan y cyngor. Fel nifer o wasanaethau’r wyf yn gyfrifol amdanynt – megis glanhau strydoedd, toiledau cyhoeddus, tyllau ffyrdd, trwsio ein ffyrdd, pontydd ac adeiladau – mae’r rhain yn wasanaethau’r ydym yn eu cymryd yn ganiataol yn ein cymdogaethau bob dydd ac mae ein holl drigolion, gan gynnwys myfi, yn sylwi arnynt bob dydd. Y gwasanaethau hyn, yr wyf fi’n eu cynrychioli’n awr, a drawyd galetaf yn y cyngor ac mewn dwy flynedd mae Powys wedi dioddef toriadau o 53.6 y cant, pan fo gwasanaethau tebyg ledled y DU wedi dioddef toriadau o 20 y cant ar gyfartaledd. Cyfle inni oll yw hyn, nid problem, ac rwy’n ddiolchgar am fewnbwn y cynghorwyr cyn belled yngl?n â sut gall y gwasanaethwella’r cymdogaethau a gynrychiolant. Mae’r cabinet ... view the full Cofnodion text for item 19.a |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Arweinydd gan y Cynghorydd Sir Emily Durrant PDF 58 KB Mae’r diffyg yn y cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn cynrychioliaeth ddemocrataidd yng Nghymru yn arswydus. O’r 1,254 o Gynghorwyr newydd a etholwyd ym mis Mai, dim ond 359 oedd yn ferched. Mae hyn yn newid y cynrychiolaeth flaenorol o 26% i 27% o ferched - cynnydd sydd ar raddfa truenus yng Nghymru.
Fodd bynnag, mae’r darlun ym Mhowys yn well. Erbyn hyn mae 31.5% o’r Cyngor yn ferched, sy’n dal i fod yn 20% yn brin o ran cydbwysedd ond mae’n werth dathlu’r cynnydd. Hoffwn longyfarch y cyngor ar benodi ei Arweinydd benywaidd cyntaf ac yn sgil hynny dyblu arweinyddiaeth fenywaidd y Cyngor o 9% i 18%. (Ystadegau y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Casglwyd yn uniongyrchol ac o ‘Pwy sy’n Rhedeg Cymru, 2017’)
Er hynny, dim ond 3 o ferched allan o 10 aelod sydd ar y Cabinet presennol.
Mae hyn yn codi cwestiwn i’r Arweinydd:
A allai Arweinydd y Cyngor fod wedi gwneud rhagor i sicrhau bod merched ym Mhowys yn cael eu cynrychioli’n deg ar y Cabinet? Cofnodion: Mae’r diffyg cydbwysedd rhywiau mewn cynrychiolaeth ddemocrataidd yng Nghymru yn echrydus. O’r 1,254 o Gynghorwyr newydd a etholwyd ym mis Mai, 359 yn unig sy’n fenywod. Mae hyn wedi codi’r gynrychiolaeth fenywod flaenorol o 26% i 27% - cyfradd gynnydd druenus i Gymru.
Er hynny, mae’r darlun ym Mhowys yn well. Menywod yn awr sydd i gyfrif am 31.5% o’r Cyngor, ac er bod hyn yn dal i fod 20% oddi ar gydbwysedd, mae yn gynnydd gwerth ei ddathlu. Hoffwn yn benodol longyfarch y cyngor am benodi’r fenyw gyntaf fel ei arweinydd, gan alluogi felly i arweinyddiaeth Cynghorau ar draws Cymru ddyblu o 9% i 18%. (Ystadegau gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Cafwyd yn uniongyrchol o Pwy sy’n rhedeg Cymru, 2017)
Er hynny, nid oes yn y Cabinet presennol ond 3 menyw allan o 10 aelod.
Mae hyn yn codi cwestiwn i’r Arweinydd: A allai Arweinydd y Cyngor fod wedi gwneud mwy i sicrhau bod menywod ym Mhowys yn cael eu cynrychioli’n deg yn y Cabinet?
Ateb
Wrth ddewis aelodau’r Cabinet roedd nifer o agweddau yr oeddwn eisiau eu hystyried. Ni chaniateir inni fel Cyngor ond cael hyd at 10 aelod Cabinet allan o’r cyfanswm o 73.
Er mwyn darparu trefn lywodraethu sefydlog dros dymor y Cyngor, mae’r 30 aelod Annibynnol yn gweithio ar y cyd â’r 20 yn y gr?p Ceidwadwyr felly caiff aelodau’r Cabinet eu dwyn o’r ddau gr?p.
Teimlwn ei bod yn bwysig iawn i Aelodau Cabinet gael eu dewis o ardal eang ac mae hynny’n golygu cael cynrychiolaeth o’r tair hen sir.
Roedd angen penodi rhai aelodau Cabinet a oedd â phrofiad a dealltwriaeth o naill ai’r Cabinet ei hun neu o’r ffordd y caiff y Cyngor ei redeg ac o’r gwasanaethau a ddarperir. Dewisais bedwar aelod a minnau a oedd yn meddu ar y profiad hwnnw a dewisais hefyd bum Cynghorydd newydd a oedd â phrofiad ac arbenigedd gwahanol i’w cyfrannu. Ceisiais hefyd ddewis o blith yr ystod oedran fel bo Cynghorwyr iau yn cael cyfleoedd.
Roeddwn hefyd yn ymwybodol o’r Gymraeg a phenodais ddau aelod Cabinet sy’n siarad Cymraeg.
Yn sylfaen i’r holl ystyriaethau hyn, roeddwn eisiau rhoi sylw i’r cydbwysedd rhywiau ond hefyd rhoi sylw i’r cydbwysedd rhywiau o fewn y tair hen sir.
Oherwydd swm a sylwedd y gwaith y mae disgwyl i aelodau’r Cabinet ei gyflawni yna roedd yr ystyriaethau amlwg yngl?n â gallu hefyd yn berthnasol.
Gan mai 23 allan o’r 72 o aelodau posibl ym Mhowys sy’n fenywod mae’n bwysig bod menywod hefyd yn cael eu cynrychioli ar grwpiau eraill fel Pwyllgorau Craffu a phwyllgorau eraill ac ar gyrff allanol fel Awdurdod Tân ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Rwy’n credu fy mod, wrth benodi i’r Cabinet, wedi gwneud cymaint ag y gallwn, o fewn ffiniau tegwch a chydraddoldeb i bawb.
Mewn ymateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Durrant ar sut i annog mwy o fenywod i sefyll am etholiad, dywedodd yr Arweinydd ei bod yn cydnabod nad oedd hon yn broblem oedd ... view the full Cofnodion text for item 19.b |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mae sefyllfa gweithlu’r cyngor ym Mhowys yn wahanol, er mae dal digon angen ei wneud. Er mai merched yw cyfran fwyaf y gweithlu ym Mhowys nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu o ran swyddi uwch - dynion sydd yn 59% o’r rolau ar gyfer uwch reolwyr ac yn uwch (Adroddiad Monitro SEP 2015-16)
Mae hyn yn codi cwestiwn i’r Aelod Portffolio ar faterion Cydraddoldeb:
A fydd y Cynghorydd James Evans yn ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb p?er o fewn ei weithlu yn ystod ei dymor yn y swydd? Cofnodion: Mae’r sefyllfa i weithlu’r Cyngor ym Mhowys yn wahanol, er mae ymhell o fod yn foddhaol. Er mai menywod yw’r mwyafrif yng ngweithlu’r Cyngor ym Mhowys, ni chaiff hyn ei adlewyrchu mewn swyddi â ph?er – dynion sy’n dal 59% o rolau uwch reolwyr ac i fyny (Adroddiad Monitro blynyddol y SEP 2015-16).
Mae hyn yn codi cwestiwn i’r Deilydd Portffolio Cydraddoldeb: A wnaiff y Cyng James Evans ymrwymo i weld cydraddoldeb grym yn ei weithlu yn ystod ei dymor ef?
Ateb
Mae’r Cyngor ers blynyddoedd lawer wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i ddynion a menywod heb ystyried eu hil, ethnigrwydd, crefydd neu dreftadaeth ddiwylliannol, oedran, anabledd neu dueddfryd rhywiol. Mae’r ymrwymiad hwn wedi’i gorffori mewn polisïau cyflogaeth, gwerthoedd ac ymddygiadau a’r cod ymddygiad.
Mae’r broses o benodi swyddogion yn seiliedig ar arferion recriwtio a dethol teg ac fe’u gwneir yn ôl haeddiant.
Ar hyn o bryd, ceir dwy fenyw sy’n dal swyddi arweinyddiaeth yn y Tîm Rheoli: y Cyfarwyddwr Strategol Pobl interim a’r Cyd-gyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu Sefydliadol. Menyw sy’n dal swydd y Prif Swyddog Gwaith Cymdeithasol Interim/ Cyfarwyddwr Gweithredwr Gofal Cymdeithasol a cheir tair menyw sy’n Benaethiaid Gwasanaethau a nifer sy’n Uwch Reolwyr.
O ran cynrychiolaeth ganrannol, gall y cyngor wella ei sefyllfa o ran y swyddi arweinyddiaeth y mae menywod yn eu llenwi.
Mae oriau gweithio hyblyg yn gyffredin iawn ac ochr yn ochr â gweithio ystwyth, mae’n denu llawer o bobl, yn enwedig menywod, i weithio i’r Cyngor ac aros.
I ateb cwestiwn atodol y Cynghorydd Durrant yngl?n â beth, yn ei farn ef, oedd y prif rwystrau rhag bod mwy o fenywod yn ysgwyddo uwch rolau, dywedodd y Deilydd Portffolio y byddai’n gweithio gyda’r Cyd-gyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu Sefydliadol i gynnig mwy o hyfforddiant i ddynion a menywod mewn swyddi rheolwyr canol a graddau is.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
‘Rwyf i â thrigolion lleol yn falch o weld bod y cyngor yn ail-ymweld â’r penderfyniadau ar ganolfannau ailgylchu gwastraff a pharcio. A fydd Arweinydd y Cyngor yn agored i drafodaethau ar ail-ymweld â’r polisi i leihau oriau Llyfrgelloedd lle gall y cymunedau ddangos yr effaith ehangach ar wasanaethau’r cyngor os oes gostyngiad yn yr oriau?
Cofnodion: Rwyf fi, fel trigolion lleol, yn falch o weld y cyngor yn ailystyried penderfyniadau am ganolfannau ailgylchu gwastraff a pharcio. A yw Arweinydd y Cyngor yn agored i drafodaethau ar ailystyried y polisi Lleihau oriau llyfrgelloedd, lle gall cymunedau ddangos yr effaith ehangach ar wasanaethau’r cyngor os ceir gostyngiad yn yr oriau?
Ateb
Mae Cyngor Sir Powys a’r Gwasanaeth Llyfrgell yn agored iawn i unrhyw drafodaethau a chynigion arloesol a all helpu i gynnal neu gynyddu oriau agor llyfrgelloedd fel bo trigolion yn elwa o ddewis eang o adnoddau a chyfleusterau, a galluogi’r gwasanaeth i ddal gyrraedd yr arbedion cyllidebol y mae’n anelu atynt ar gyfer 2018/19, dan y strategaeth ariannol tymor canolig. Cymeradwywyd y polisi hwn o sgyrsiau cymunedol gan Gabinet anffurfiol ym mis Chwefror 2016, ac mae wedi llwyddo i ddwyn ffrwyth a chynnal llyfrgelloedd lleol gwerthfawr. Mae gwaith partneriaeth llwyddiannus mewn cymunedau fel Llanidloes, Llanfair Caereinion a Chrucywel er enghraifft wedi galluogi’r ardaloedd hynny i gyrraedd y targedau arbedion lleol, gan amharu ychydig iawn ar y defnyddwyr gwasanaethau, ac mae’r gwasanaeth yn ddiolchgar i’r cymunedau am eu cefnogaeth.
Yn y Gelli yn benodol, mae’r gwasanaeth yn barod iawn i weithio gyda’r Cyngor Tref, gr?p Cefnogwyr Llyfrgell y Gelli a chymuned ehangach y Gelli i sicrhau’r canlynol gorau posibl i drigolion lleol sy’n defnyddio llyfrgell y dref at amrywiol ddibenion, gan gynnwys defnyddio gwasanaethau eraill y cyngor. Ers tro, bu cynnig cadarn i weithio gyda’r Gwasanaeth Ysgolion, i leihau costau adeiladau drwy gyd-leoli’r llyfrgell gyda chyfleuster newydd sbon yn yr ysgol gynradd newydd. Mae i’r cynnig hwn nifer o fanteision, yn anad dim maes parcio hygyrch i bobl anabl wrth law, a’r cyfleuster er mwyn i’r disgyblion a’u teuluoedd gael mynediad hawdd i’r llyfrgell, er mwyn annog darllen ac annog pobl i ddefnyddio’r llyfrgell. Mae’n adeiladu ar waith partneriaeth llwyddiannus gydag ysgolion a’r Gwasanaeth Ysgolion, yn Llanwrtyd a Chrucywel, ac mae’r model yn cael ei ddyblygu yn Ysgol newydd Mynydd Du, er budd trigolion Talgarth a Bronllys.
Er bod y cynlluniau’n mynd rhagddynt yn dda, nid yw cyd-leoliad yr ysgol gynradd yn golygu bod trafodaeth bellach am Lyfrgell y Gelli yn cael ei diystyru, ac mae gan y gymuned fwy o amser, tan 31ain Rhagfyr 2017, i gyflwyno cynigion a’u costau llawn i gynnal neu ddatblygu’r llyfrgell, naill ai yn y lleoliad presennol neu yn yr ysgol gynradd newydd, a chyrraedd y targed arbedion lleol ar yr un pryd. Byddai hyn yn adeiladu ar y gefnogaeth hael a roddwyd eisoes gan ?yl y Gelli i gynnal yr oriau agor lleol er 1af Ebrill 2015, ac edrychwn ymlaen at glywed am y cynigion arloesol i weithio mewn partneriaeth sy’n sicr o gael eu cynnig gan dref mor greadigol.
Ni chafwyd cwestiwn atodol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Yndilyn cwestiynau a godwyd gan drigolion bod tâl yn cael ei godi arnyn nhw am rentu lein ddillad a’u bod yn gorfod rhannu gyda thenantiaid eraill, yn ogystal â gwasanaeth galwadau larwm nad oes ganddyn nhw wedi’i sefydlu ar fanylion eu rhent wythnosol, a all yr aelod portffolio darparu dadansoddiad o’r taliadau y gellir eu codi ar denantiaid y cyngor (yn cynnwys y gost) a sut y gallant optio allan o’r taliadau hyn os nad ydynt yn derbyn y gwasanaeth neu os nad ydynt am dderbyn y gwasanaeth fel rhan o’u rhent? Cofnodion: Cwestiwn Yn dilyn ymholiadau a godwyd gan drigolion bod ffioedd yn cael eu codi arnynt am rentu lein ddillad a’u bod yn gorfod rhannu â thenantiaid eraill, ynghyd â thaliad galwadau larwm nad ydynt wedi gofyn amdanynt hyd yn oed, ar eu manylion rhent wythnosol, a all y portffolio ddarparu dadansoddiad o’r rhestr o faint y gellir ei godi ar denantiaid cyngor (gan gynnwys y gost) a sut roeddent yn gallu optio allan o’r ffioedd hyn os nad ydynt yn eu cael neu ddim eisiau eu cael fel rhan o’u rhent?
Ateb Cyn blwyddyn ariannol 2016/17, roedd costau rheoli a chynnal tai cyngor yn cael eu rhannu’n gyfartal ar draws yr holl denantiaid ni waeth pa wasanaethau a gaent. Pan gyflwynwyd Deddf Tai (Cymru) 2014, roedd gofyn i awdurdodau lleol gyflwyno ffioedd gwasanaeth i denantiaid sy’n derbyn gwasanaethau ychwanegol. Cyflwynwyd hyn gan Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth i newidiadau a gyflwynwyd i’r system Budd-dal Tai, gan Lywodraeth y DU, a olygai nad oedd rhai mathau o ffioedd yn gymwys mwyach am Fudd-dal Tai. Felly, er 2016/2017 mae’r Cyngor, i gydymffurfio â Deddf 2014, wedi gorfod gwahanu costau gwasanaethau ychwanegol a chodi ar denantiaid a lesddeiliaid am y ‘gwasanaethau ychwanegol’, ar ffurf ffi wasanaeth. Felly, os yw’r Cyngor yn darparu leiniau dillad, gall tenantiaid ddisgwyl gorfod talu am y gwasanaeth hwn.
Ni all tenantiaid unigol, yn gyffredinol, optio allan o dalu ffioedd gwasanaeth, fodd bynnag, os yw tenantiaid ar y cyd yn gallu cynnig ateb gwahanol, mae’n bosibl y rhoddir ystyriaeth i hyn.
Mae’r wybodaeth yn y tabl isod yn dangos manylion y Ffioedd Gwasanaeth a godir yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mae rhai eiddo preswyl ym mherchnogaeth Cyngor Sir Powys yn ymddangos fel eu bod yn cael eu trin gydag ychydig iawn o barch gan y tenantiaid ac o ganlyniad maen nhw’n dirywio sy’n gost tymor hir i’r cyngor, tra ar yr un pryd yn achosi problemau ar gyfer tenantiaid gerllaw:
A all yr Aelod Portffolio amlinellu gweithdrefn y cyngor ar gyfer: a. Adnabodeiddo sydd â phroblemau b. Aoes prosesau archwilio rheolaidd yn eu lle. c. Pa gamau a gymerwyd yn erbyn tenantiaid sy’n achosi problemau yn ystod y 12 mis diwethaf? Cofnodion: Mae’n ymddangos bod rhai eiddo preswyl sy’n eiddo i Gyngor Sir Powys yn cael eu trin ag ychydig iawn o barch gan y tenant ac o’r herwydd maent yn dirywio gan arwain at gost tymor hir i’r cyngor, ac at broblemau i denantiaid cyfagos hefyd. A allai’r Deilydd Portffolio amlinellu trefn y cyngor ar gyfer:
Ateb Mae cymdogion niwsans yn rhywbeth y mae pob landlord (gan gynnwys landlordiaid cymdeithasol fel y cyngor) wedi gorfod delio ag ef ers cryn amser a dros y degawdau diwethaf mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth i alluogi landlordiaid cymdeithasol i weithredu yn erbyn tenantiaid o’r fath. Mae llawer o’r sylw a’r ddeddfwriaeth wedi canolbwyntio ar denantiaid sy’n gyfrifol am droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n cael effaith niweidiol ar eu cymdogaeth. Fel awdurdod tai lleol, mae gennym gyfrifoldeb: · i’n tenantiaid sy’n rhentu eu cartref gan y cyngor a’r rheini sy’n byw ar ein hystadau · i bobl sy’n ddigartref neu sydd dan fygythiad o ddigartrefedd. Hefyd, fel sefydliad corfforaethol mae gennym hefyd gyfrifoldebau i ddiogelu oedolion a phlant agored i niwed, ac mae’r holl gyfrifoldebau hyn yn lliwio ein hymateb fel landlord i bob achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
O ran pob cwestiwn a ofynnwyd a. Mae pob Swyddog Opsiynau a Rheoli Tai (HMOO) yn delio ag ardal o oddeutu 300 o gartrefi ac maent oll yn archwilio eu hardaloedd yn rheolaidd, naill ai fel rhan o archwiliad ffurfiol o ystâd, neu yng nghwrs eu dyletswydd pan ymwelant â’r ystâd. Mae ein contractwyr, adrannau eraill, Cynghorwyr ac, wrth gwrs, cymdogion yn adrodd am broblemau wrthym. b. Nid oes trefn archwilio wedi’i threfnu ar waith, gan fod ar wahanol ardaloedd tai angen lefelau gwahanol o fewnbwn ar wahanol adegau, ond ymdrechwn i archwilio’r holl ardaloedd tai yn rheolaidd. Os ydym yn ymwybodol o denantiaid nad ydynt yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth, yn enwedig i gadw eu heiddo mewn cyflwr da, bydd tenantiaid o’r fath yn cael ymweliadau ac archwiliadau amlach o’u cymharu â thenantiaid sy’n cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth. c. Ni allwn ddarparu ffigur am y camau gweithredu’r ydym wedi’u cymryd yn erbyn “tenantiaid problemus” gan nad ydym yn defnyddio’r term “tenantiaid problemus” ac nid yw hyn yn rhywbeth yr ydym yn casglu data arno fel mater o drefn. Yn gyffredinol, ceir amrywiol gamau gweithredu y gallwn eu cymryd yn erbyn tenantiaid sy’n torri amodau eu cytundeb tenantiaeth ac sy’n achosi niwsans a diflastod i bobl eraill, mae’r rhain yn amrywio o rybuddion, rhoi cefnogaeth, gwaith aml-asiantaeth i roi sylw i anawsterau’r tenantiaid, cael ymgymeriadau a/neu waharddebau i gymell y tenant i gymryd camau neu i’w hatal rhag cymryd camau ac yn olaf gamau gweithredu i adfeddiannu’r cartref. Mae rhai tenantiaid yn achosi anawsterau yn y gymuned leol a’n dull gweithredu yw ceisio gweithio gyda’r tenantiaid hyn i’w helpu i roi sylw i’r anawsterau maent yn eu hwynebu, ... view the full Cofnodion text for item 19.f |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: A allai’r Deilydd Portffolio gadarnhau pryd y mae ef yn credu y caiff y broses o Drosglwyddo Ased Cymunedol, sef y man agored a’r tir amwynder yn y Drenewydd, i Gyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaearn ei chwblhau?
Ateb Ni chafwyd ateb eto yngl?n faint o dir sy’n cael ei drosglwyddo. Felly, nid yw’r broses gyfreithiol o drosglwyddo asedau wedi dechrau eto. Rydym yn bwriadu ailadrodd ein sefyllfa wrth y Cyngor Tref yn dilyn cyfarfod o’r Cabinet yn y gobaith y gallwn symud ymlaen i drosglwyddo’r rhan fwyaf o’r tir y gofynnwyd amdano.
I ateb cwestiwn atodol y Cynghorydd Selby am y cais i’r loteri a’r buddsoddiad a oedd yn cael ei beryglu oherwydd arafwch y trosglwyddo, cadarnhaodd y Deilydd Portffolio y byddai’n mynychu cyfarfod yn y Drenewydd i drafod y mater.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mae’rCyngor yn cynnal adolygiad brys i effaith y toriadau ar y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff o’r Cartref. Beth yw amodau a sgop yr adolygiad a phryd bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi?
Cofnodion: Mae’r Cyngor yn cynnal adolygiad brys o effaith toriadau i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff o Gartrefi. Beth yw telerau a chwmpas yr adolygiad a phryd caiff yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi?
Ateb Cynhaliwyd adolygiad a oedd yn cwmpasu dau fis cyntaf y newidiadau yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff o Gartrefi. Mae’r adolygiad hwn wedi edrych ar nifer y cwynion, mewnbwn yn y safleoedd mewn tunelli, y defnydd a wneir o’r safleoedd, achosion o dipio anghyfreithlon a niferoedd, a’r effaith ar y gyfradd ailgylchu. Hwn sydd wedi hysbysu’r papur gerbron y Cabinet ar 11eg Gorffennaf sy’n argymell cynyddu’r dyddiau agor ym mhob safle i bump a chyflwyno cynllun trwyddedau i drigolion ddefnyddio math masnachol o gerbydau ac ôl-gerbydau ar gyfer eu gwastraff cartref eu hunain. Gwnaed yr adroddiad yn gyhoeddus gydag agenda’r cyfarfod ar 5ed Gorffennaf 2017.
Roedd y Cynghorydd Williams wedi gadael y cyfarfod, ond cyn mynd roedd wedi gofyn i’r Deilydd Portffolio sut byddid yn talu am y cynllun trwyddedau ac eglurodd y Deilydd Portffolio Eiddo a Gwastraff y byddai am ddim.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Arweinydd gan y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance PDF 66 KB A all y Cabinet gwneud datganiad ar sut mae’n cyflawni cyfrifoldebau’r Cyngor hwn fel rhan o’r Cyfamod Lluoedd Arfog?
Cofnodion: A wnaiff y Cabinet ddatganiad ar sut mae’n cyflawni cyfrifoldebau’r Cyngor fel rhan o Gyfamod y Lluoedd Arfog?
Ateb Mae Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Powys yn ymrwymiad ffurfiol i gyd-gefnogaeth rhwng cymuned sifiliaid a chymuned lluoedd arfog y Sir, gyda ffocws arbennig ar blant teuluoedd milwrol. Fe’i llofnodwyd yn Nigwyddiad Cenedlaethol Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Dering Lines Aberhonddu ddydd Iau 4ydd Awst 2012. Yn ganolog i’r cyfamod ceir cyd-ddealltwriaeth bod teuluoedd y lluoedd arfog yn cael yr holl gefnogaeth sydd ar gael iddynt gan y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol ym Mhowys. Ei nod yw cynyddu ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio ar gymuned y lluoedd arfog a sicrhau nad yw teuluoedd unigolion sy’n dal i wasanaethu na chyn-filwyr yn y Sir dan anfantais o unrhyw fath – drwy wella mynediad i dai, gofal iechyd a chyflogaeth er enghraifft. Mae llofnodi’r cyfamod hefyd yn rhoi cyfle i Bowys ymgeisio am nawdd sydd ar gael i’r DU gyfan. Er 2012 mae Cyfamod Cymunedol yLluoedd Arfog wedi esblygu ac mae ffordd newydd o weithio bellach ar waith. Ceir yn awr Fyrddau Gweinyddu Datganoledig Rhanbarthol lle saif Partneriaethau Rhanbarthol y Cyfamod. Yn y rhan fwyaf o achosion cânt eu diffinio yn ôl ardaloedd y Byrddau Iechyd, ond mae Powys yn unigryw oherwydd y saif ar ei phen ei hun oherwydd maint y Sir. Rydym bob amser wedi gweithio mewn Partneriaeth gyda: • Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog • Gr?p NPTC • y Lleng Brydeinig Frenhinol • PAVO • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys • Gr?p Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru
Ffurfiwyd partneriaethau newydd i ddatblygu a gwella nodau Cyfamod Cymunedol yLluoedd Arfog: · Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin · Cyd-gyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu Sefydliadol (Gweithlu a Datblygu Sefydliadol) · SSAFA · Heddlu Powys Dyfed · Gwasanaeth Tân Cymru a’r Gorllewin Mae Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn gweithio gyda Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin ar gyfleoedd gwaith yn y Bwrdd Iechyd Lleol a Chyngor Sir Powys gyda phriodau personél y Lluoedd Arfog; mae llawer ohonynt yn meddu ar y sgiliau sy’n ofynnol yn y ddau sefydliad. Gwaith parhaus gyda Fforwm Iechyd Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr Powys, gan amlygu a chodi materion megis PTSD, gan alluogi meddygon teulu i fod yn ymwybodol eu bod yn trin cyn-bersonél y lluoedd a’u cyfeirio’n briodol. Cefnogi Plant teuluoedd Milwrol mewn Addysg yw’r rhan y mae NPTC yn ei chwarae yn y bartneriaeth. Drwy gyfrwng y bartneriaeth gwnaed cysylltiadau ag ysgol leol yn Aberhonddu a llwyddodd i ennill nawdd, gan dynnu sylw at bryderon plant teuluoedd milwrol. Mae dau Ddiwrnod Cymunedol yn cael eu trefnu ar gyfer 9fed Medi yn y Barics, Aberhonddu ac ar 23ain Medi yn y Parc, y Drenewydd. Rhagwelir y bydd pawb sy’n rhan o’r bartneriaeth yn cael eu cynrychioli ar y ddau ddiwrnod, yn bennaf i arddangos y bartneriaeth ar waith a’r Cyfamod Lluoedd Arfog, ond hefyd i gynnal diwrnod allan hwyliog i’r teulu. Cafwyd cyllid drwy’r Cyfamod i gynnal y digwyddiad hwn drwy Gronfa Grantiau Bach Cyfamod yLluoedd Arfog, gan mai dyma yw hanfod ... view the full Cofnodion text for item 19.i |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Arweinydd gan y Cynghorydd Sir Roger Williams PDF 52 KB Yn y Papur Gwyn o’r enw “Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad” mae Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu yng nghwestiwn 25: “Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu rhoi cyfle i Awdurdodau Lleol ddychwelyd i fath o system bwyllgor os mai hynny’n sy’n diwallu amgylchiadau lleol orau” A oes gan y Cyngor unrhyw wybodaeth pryd y bydd hynny ar gael? Cofnodion: Yn y Papur Gwyn o’r enw “Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad” ysgrifenna Llywodraeth Cymru yng nghwestiwn 25: “Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu rhoi cyfle i Awdurdodau Lleol ddychwelyd i fath o system bwyllgor os mai hynny sy’n diwallu amgylchiadau lleol orau.” A oes gan y Cyngor unrhyw wybodaeth am ba bryd y gallai hon gael ei gweithredu?
Ateb Daeth yr ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru – “Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad” – i ben ar 11eg Ebrill, 2017 ac mae Llywodraeth Cymru yn ystyried yr ymatebion a ddaeth i law. Ddydd Mawrth 27ain Mehefin, fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones ddatgan y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae hon yn cynnwys deddfwriaeth i ddiwygio llywodraeth leol.
Rhagwelir ar hyn o bryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth ddrafft yn ystod hanner cyntaf 2018. Nid yw’n hysbys a fydd unrhyw gynigion am ailgyflwyno system bwyllgorau yn cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth ddrafft.
I ateb cwestiwn y Cynghorydd Williams yngl?n ag a fyddai’r Cyngor yn cael cyfle i drafod y strwythur llywodraethu gorau i’r Cyngor pe byddai Llywodraeth Cymru yn deddfu i ganiatáu ar gyfer dychwelyd at system bwyllgorau, dywedodd yr Arweinydd y byddai’n briodol i’r Cyngor drafod argymhelliad gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn brys i'r Deilydd Portffolio Tai a Gwasanaethau Cefn Gwlad gan y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance Cofnodion: Heddiw (12/7/17), deallais fod tri dyn yn ardal Aberhonddu yn cysgu allan gyda dim ond pebyll i’w gwarchod. Ni all y dynion hyn gael gafael ar dai priodol oherwydd nas ystyrir nhw’n ‘flaenoriaeth’. Gyda newidiadau pellach yn digwydd i’r Lwfans Tai Lleol, yn enwedig i rai dan 35 oed, a yw’n bosibl i’r sefyllfa gywilyddus hon waethygu. A wnaiff y Cabinet edrych ar frys ar y tri achos y mae’r cwestiwn hwn yn tynnu sylw atynt ac a wnaiff yr Aelod Cabinet asesu’r angen am ddarpariaeth hostel yn y Sir?
Ateb Fe’m hysbyswyd gan Swyddogion eu bod yn ymwybodol o ddau ddyn sydd ar hyn o bryd yn byw mewn pebyll yn Aberhonddu. Fe wnaeth Swyddogion helpu unigolyn arall a arferai fyw mewn pabell i lety dros dro tua mis yn ôl.
Fe’m hysbyswyd bod Swyddogion wedi bod mewn cysylltiad aml â’r ddau unigolyn ac rwyf wedi gofyn i’r Cyng Matthew Dorrance gael gwybodaeth am y cysylltiadau y cafodd swyddogion gyda nhw.
Mae’r Cyng Matthew Dorrance yn iawn yngl?n â chyflwyno newidiadau yn y system fudd-daliadau, a ddechreuodd ym mis Ebrill 2012 ac a estynnodd Cyfradd Llety a Rennir y Lwfans Tai Lleol (LHA) i bob unigolyn sengl dan 35 oed (arferai fod ar gyfer pobl sengl dan 25 oed tan nawr). Ar hyn o bryd, mae Cyfradd Llety a Rennir yr LHA yn Aberhonddu yn £45.90 yr wythnos. Mae ymestyn Cyfradd Llety a Rennir yr LHA i rai dan 35 oed wedi arwain at ostyngiad yn nifer yr eiddo rhent preifat sydd ar gael i bobl sengl dan 35 oed sy’n derbyn budd-daliadau eu rhentu. Hefyd, o fis Ebrill 2018 ymlaen, caiff Cyfradd Llety a Rennir yr LHA ei hymestyn i rai dan 35 yn y sector tai cymdeithasol, gan ostwng ymhellach faint o eiddo sydd ar gael i bobl dan 35 oed sy’n derbyn budd-dal eu rhentu.
Mae’r Cyngor wrthi’n cynnal adolygiad o ddigartrefedd yn unol ag A.50 Deddf Tai (Cymru) 2014. Bydd hwn yn ystyried amrywiol ffactorau a gaiff eu datgan yn y ddeddfwriaeth ac yn Arweiniad Llywodraeth Cymru a bydd yn arwain at lunio Strategaeth Ddigartrefedd erbyn mis Rhagfyr 2018. Er bod gan y cyngor stoc o letyau dros dro yn y sir, naill dan berchnogaeth neu reolaeth uniongyrchol neu danberchnogaeth neu reolaethasiantaethau eraill (megis cymdeithasau tai ac asiantaethau sector gwirfoddol), bydd yr adolygiad yn ystyried a oes angen i’r cyngor a’i bartneriaid ddarparu lletyau dros dro ychwanegol. Yr un mor bwysig, mae arno hefyd angen ystyried darparu a rheoli lletyau a rennir yn y stoc tai rhent cymdeithasol (y cyngor a chymdeithasau tai fel ei gilydd) i ddarparu lletyau addas sy’n fforddiadwy i bobl sengl dan 35 oed sy’n derbyn budd-daliadau.
I ateb cwestiwn atodol y Cynghorydd Dorrance a fyddai’r Deilydd Portffolio yn rhoi ymrwymiad i’r Cyngor nad ystyrir bod darparu llety hostel i ddynion ifanc yn un o’i flaenoriaethau, dywedodd y Deilydd Portffolio y byddai’n edrych i mewn i amgylchiadau’r dynion yr oedd y Cynghorydd Dorrance wedi tynnu ei sylw ... view the full Cofnodion text for item 19.k |