Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn ddilynol. Cofnodion: Cafodd y Cynghorydd Sir Dai Davies ei enwebu gan Sir Drefaldwyn.
PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Sir Dai Davies yn Gadeirydd am y flwyddyn i ddod.
|
||||||||||||||||||||||||
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
||||||||||||||||||||||||
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn gysylltiedig ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. Cofnodion: Roedd pob un o’r Aelodau wedi datgan budd personol ond diduedd mewn Cyflogau, Lwfansau a Threuliau’r Aelodau o dan baragraff 12 (2) (b) (iv) y Cod Ymddygiad.
|
||||||||||||||||||||||||
Adroddiad y Swyddog Canlyniadau - Ethol Cynghorwyr Sir PDF 63 KB Derbyn adroddiad y Swyddog Canlyniadau ar y Cynghorwyr Sir a etholwyd. Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor fanylion am y Cynghorwyr a gafodd eu hethol ar 4 Mai 2017.
|
||||||||||||||||||||||||
Ethol Arweinydd Gweithredol Ethol Arweinydd Gweithredol y Cyngor. Cofnodion: Enwebwyd y Cynghorydd Sir Rosemarie Harris. Yn dilyn pleidlais,
PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Sir Rosemarie Harris i’r swydd o Arweinydd Gweithredol Cyngor Sir Powys.
|
||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Gweithredol Derbyn hysbysiad gan yr Arweinydd am y Cynghorwyr hynny a benodwyd i’r Cabinet a’r portffolios fydd ganddyn nhw. Cofnodion: Dywedodd yr Arweinydd y byddai’r Gr?p Annibynnol yn gweithio gyda Gr?p y Ceidwadwyr i ffurfio Cabinet. Byddai’n rhoi gwybod am y penodiadau i’r Cabinet yn y dyddiau nesaf.
Dywedodd y Cadeirydd ei fod am newid trefn yr agenda i drafod yr adroddiadau ar Gyngor Cymuned Trefeglwys ac ar Gyflogau, Lwfansau a Threuliau’r Aelodau nesaf cyn gohirio’r Cyngor fel bo’r Pwyllgorau Sirol yn gallu cwrdd ac fel bod arweinwyr y grwpiau'n gallu cwrdd a phenderfynu ar bwy i’w penodi i'r pwyllgorau.
|
||||||||||||||||||||||||
Cyngor Cymuned Trefeglwys PDF 60 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Etholiadau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cyngor wybod na ddaeth ymgeiswyr gerbron i sefyll ar gyfer Cyngor Cymuned Trefeglwys yn yr etholiadau ar 4 Mai 2017. Hyd nes y byddai etholiad yn cael ei gynnal ar 29 Mehefin 2017, cynigiwyd bod y Cynghorydd Sir dros Flaen Hafren, Caersws, Llanidloes a Llandinam yn gweithredu fel aelodau dros dro.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Sir TJ Van-Rees a’i eilio gan y Cynghorydd Sir MC Alexander a chafodd ei basio o 68 pleidlais i 0 gydag 1 yn ymatal.
|
||||||||||||||||||||||||
Cyflogau, Lwfansau a Threuliau Aelodau PDF 130 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Strategol – Adnoddau. Cofnodion: Bu’r Cyngor yn ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Strategol – Adnoddau ar Gyflogau, Lwfansau a Threuliau’r Aelodau ynghyd â'r Atodlen o Daliadau’r Aelodau. Roedd y cyflogau, lwfansau a’r ffioedd a delir i Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig y Cyngor wedi eu pennu’n unol ag ystatud, rheoliadau ac adroddiad blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW).
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Sir TJ Van-Rees a’i eilio gan y Cynghorydd Sir JM Williams a chafodd ei basio o 68 pleidlais i 0 gydag 1 yn ymatal.
Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn gohirio’r cyfarfod fel bo’r Pwyllgorau Sirol yn gallu cwrdd i ystyried enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd ac Is-gadeirydd Cynorthwyol y Cyngor. Gohiriwyd y Cyngor am 11.15am cyn ail ymgynnull am 1.09pm. Gadawodd y Cynghorydd Sir PC Pritchard y cyfarfod.
|
||||||||||||||||||||||||
Dyraniadau, Etholiadau a Phenodiadau sydd angen eu gwneud yn y Cyfarfod Blynyddol PDF 121 KB Ystyried adroddiad Cyfreithiwr y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu’r Cyngor yn ystyried adroddiad gan Gyfreithiwr y Cyngor ar y dyraniadau a’r penodiadau sydd i’w gwneud i bwyllgorau a chyrff allanol.
Penodiadau i’r Pwyllgorau Sirol
Cynigiwyd yr argymhelliad o dan 5.3 yn yr adroddiad i benodi aelodau ar y Pwyllgorau Sirol gan y Cynghorydd Sir MC Alexander, ei eilio gan y Cynghorydd Sir KM Roberts-Jones a’i basio o 68 pleidlais i 1 gyda neb yn ymatal.
Penodiadau i’r Pwyllgor Safonau
Cynigiwyd yr argymhelliad o dan baragraff 5.5 yn yr adroddiad ar benodiadau i'r Pwyllgor Safonau gan y Cynghorydd Sir KM Roberts-Jones a’i eilio gan y Cynghorydd Sir MC Alexander a’i basio o 67 pleidlais i 0 gyda neb yn ymatal.
Penodi Cynghorwyr Sir i’r Pwyllgor Safonau
Enwebwyd yr aelodau canlynol gan y grwpiau gwleidyddol:
Roedd y Cyngor wedi cadarnhau ei fod yn fodlon i Gyfreithiwr y Cyngor dderbyn enwebiadau a chymeradwyo penodiadau i’r Pwyllgor Safonau’n unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol unwaith y byddai’r enwebiad gan y Gr?p Annibynnol wedi’i gadarnhau.
Penodi Aelodau Cyfetholedig i Bwyllgor Craffu B
Derbyniwyd yr enwebiadau canlynol ar gyfer aelodau cyfetholedig i wasanaethu ar Bwyllgor Craffu B wrth ystyried materion addysg:
|
||||||||||||||||||||||||
Etholiad Is-Gadeirydd Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y flwyddyn ddilynol. Cofnodion:
Enwebwyd y Cynghorydd Sir David Meredith gan Sir Frycheiniog.
PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Sir David Meredith yn Is-gadeirydd am y flwyddyn i ddod. </AI10>
|
||||||||||||||||||||||||
Ethol Is-gadeirydd Cynorthwyol Ethol Is-gadeirydd Cynorthwyol ar gyfer y flwyddyn ddilynol. Cofnodion: Enwebwyd y Cynghorydd Sir Beverley Baynham gan Sir Faesyfed.
PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Sir Beverley Baynham yn Is-gadeirydd Cynorthwyol am y flwyddyn i ddod.
|