Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Sir S Davies, GM Jones, PE Lewis, RH Mills a GD Price a chan y Cynghorydd Sir MC Mackenzie oedd ar fusnes arall i’r Cyngor.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Sir MJB Davies a GW Ratcliffe fuddiannau anariannol personol yn eitem CC31 – 2017 Trosglwyddiad Cyfalaf ar gyfer Ysgolion Cynradd yn Nalgylch Gwernyfed fel llywodraethwyr a benodir gan yr AALl yn Ysgol Gynradd Llan-faes.
Datganodd y Cynghorwyr Sir PJ Ashton, LV Corfield, DE Davies, JE Evans, GG Hopkins, WJT Powell, DR Price a TJ Van-Rees fuddiannau personol sy’n rhagfarnu yn eitem CC38 – 2017 y Polisi Cyflog.
Datganodd y Cynghorwyr Sir PJ Ashton, D Bailey, GJ Bowker, JH Brunt, LV Corfield, KW Curry, LRE Davies, SC Davies, MJ Dorrance, JE Evans, CJ Gibson-Watt, SM Hayes, DR Jones, EA Jones, E Michael Jones, MJ Jones, WT Jones, H Lewis, DW Meredith, S McNicholas, G. Morgan, JG Morris, WJT Powell, GW Ratcliffe, KM Roberts-Jones, JG Shearer, KS Silk, AG Thomas, DG Thomas, TG Turner, TJ Van-Rees, GP Vaughan, DH Williams, GIS Williams, JM Williams ac S Williams fuddiannau personol nad ydynt yn rhagfarnu yn eitem CC39 – 2017 Cronfa Fuddsoddi Cymru fel aelodau o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Datganodd y Cynghorydd Sir MJ Dorrance fuddiant anariannol personol yn eitem CC42 – 2017 Ffrwd Cyfrwng Cymraeg Ysgol Uwchradd Aberhonddu gan fod ei bartner yn llywodraethwr a benodir gan yr AALl yn yr ysgol. Datganodd y Cynghorydd Sir GW Ratcliffe fuddiant personol sy’n rhagfarnu gan fod ganddo berthynas yn y ffrwd cyfrwng Cymraeg yn nalgylch Aberhonddu.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd a’r Aelodau y Cynghorydd Sir Joy Shearer yn ôl yn dilyn ei salwch.
Bu’r Cadeirydd hefyd yn llongyfarch CFfI Llanfyllin ar eu llwyddiant wrth ennill Cystadleuaeth Adloniant CFfI Cymru Gyfan a’r Cynghorydd Gwynfor Thomas oedd wedi ysgrifennu a chynhyrchu’r sioe.
Hefyd bu’r Cynghorydd Shearer yn llongyfarch Gemma Owen CFfI Aberhafesb oedd wedi’i chyhoeddi fel aelod iau gorau CFfI Cymru. Byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Miss Owen ac at CFfI Llanfyllin.
Rhoddodd y Cadeirydd wybod ymhlith y digwyddiadau roedd wedi’u mynychu roedd cyngerdd Rourke’s Drift, agor cyfleusterau newydd yng Nghanolfan Chwaraeon Llanidloes a Gwobrau Chwaraeon Sir Frycheiniog a Maesyfed.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. Cofnodion: Nododd yr Arweinydd er ei bod yn wynebu rhai o’r toriadau cyllid mwyaf yng Nghymru roedd y sir wedi parhau i berfformio’n dda. Bu newidiadau yn y ffordd y mae’r Cyngor yn gweithio gyda mwy o bwyslais ar weithio mewn partneriaeth ac integreiddio â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Roedd y Cyngor wedi buddsoddi’n drwm mewn prosiectau cyfalaf gyda £130 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn ysgolion newydd.
Gan mai dyma’r cyfarfod diwethaf cyn yr etholiadau llywodraeth leol, dymunodd yr Arweinydd yn dda i bob aelod gan ddiolch iddynt am yr anrhydedd o fod yn Arweinydd Cyngor Sir Powys.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Briff y Prif Weithredwr Derbyn briff y Prif Weithredwr. Cofnodion: Ni roddodd y Prif Weithredwr sesiwn friffio ar yr achlysur hwn.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad Polisi Cyflogau 2017-18 PDF 83 KB Derbyn ac ystyried y Datganiad Polisi Cyflogau ar gyfer 2017/18. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd yr holl swyddogion oedd yn bresennol fuddiant yn yr eitem hon gan adael y cyfarfod tra oedd yn cael ei hystyried ac eithrio’r Arweinydd Proffesiynol – Gwasanaethau Cyflogaeth a’r Technegydd Cynorthwyol Dan Hyfforddiant. Mandy Collins, Ysgrifennydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, oedd y Swyddog Monitro Dros Dro ar gyfer yr eitem hon.
Gadawodd y Cynghorwyr Sir PJ Ashton, LV Corfield, DE Davies, JH Evans, GG Hopkins, WJT Powell, DR Price a TJ Van-Rees y cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried ar ôl datgan buddiannau personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem.
Ystyriodd y Cyngor y Datganiad Polisi Cyflog ar gyfer 2017-18.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan y Cynghorydd Sir SM Hayes a’i basio gan 44 o bleidleisiau gyda 2 yn erbyn a 2 yn ymatal.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddiadau Cyfalaf sydd angen cymeradwyaeth y Cyngor PDF 135 KB Ystyried trosglwyddiadau cyfalaf sydd angen cymeradwyaeth y Cyngor. Cofnodion: 7.1Trosglwyddiad Cyfalaf ar gyfer Canolfan Ddiwylliannol Aberhonddu
Gofynnwyd y Cyngor i dreiglo £2.3 miliwn yn ei flaen i 2017/18 i barhau â’r prosiect.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan y Cynghorydd Sir Rosemarie Harris a’i basio gan 53 o bleidleisiau gyda 5 yn erbyn.
7.2 TrosglwyddiadCyfalaf ar gyfer Cyfarwyddyd Cyfalafu
Gofynnwydi’r Cyngor o dan y pwerau a roddir i’r awdurdod o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 adrannau 16(2)(b) a 20 Ymdriniaeth â Rhai Costau fel Gwariant Cyfalaf i greu Cyfarwyddiadau Cyfalafu i ddefnyddio derbyniadau cyfalaf o werthu tir ac asedau adeiladau i ariannu costau’r Diwygio a Thrawsnewid Gwasanaethau a nodwyd.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan y Cynghorydd Sir WB Thomas a’i basio gan 53 o bleidleisiau gydag 1 yn erbyn a 3 yn ymatal.
7.3 TrosglwyddiadCyfalaf ar gyfer Goleuadau Stryd
Gofynnwyd i’r Cyngor gymeradwyo treiglo £1 filiwn yn ei flaen yn y gyllideb Effeithlonrwydd Goleuadau Stryd oherwydd yr oedi wrth gyflenwi llusernau LED Goleuadau Stryd.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan y Cynghorydd Sir RG Brown a’i basio gan 57 o bleidleisiau a 0 yn erbyn.
7.4TrosglwyddiadCyfalaf ar gyfer Ysgolion Cynradd yn Nalgylch Gwernyfed
Gofynnwydi’r Cyngor gymeradwyo treiglo £1.564 miliwn yn ei flaen i gyllideb 2017/18 ar gyfer Prosiect Dalgylch Ysgolion Cynradd Gwernyfed oherwydd yr oedi a fu oblegid cymeradwyo’r achosion busnes yn ystod y flwyddyn. Roedd gwaith wedi dechrau ar ran o’r safle.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan y Cynghorydd Sir EA Jones a’i basio gan 55 o bleidleisiau gydag 1 yn erbyn.
7.5 TrosglwyddiadCyfalaf ar gyfer Safon Ansawdd Tai Cymru
Gofynnwyd i’r Cyngor symud £2.137 miliwn o gyllideb Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer 2016/17 oherwydd oedi a newidiadau i’r prosiectau niferus sy’n ffurfio’r gyllideb gyffredinol.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan y Cynghorydd Sir MR Harris a’i basio gan 54 o bleidleisiau a 0 yn erbyn.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddiad Cyfalaf ar gyfer Canolfan Ddiwylliannol Aberhonddu PDF 135 KB Cofnodion:
Gofynnwyd y Cyngor i dreiglo £2.3 miliwn yn ei flaen i 2017/18 i barhau â’r prosiect.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan y Cynghorydd Sir Rosemarie Harris a’i basio gan 53 o bleidleisiau gyda 5 yn erbyn.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddiad Cyfalaf ar gyfer Cyfeiriad Cyfalafu PDF 64 KB Cofnodion: Gofynnwydi’r Cyngor o dan y pwerau a roddir i’r awdurdod o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 adrannau 16(2)(b) a 20 Ymdriniaeth â Rhai Costau fel Gwariant Cyfalaf i greu Cyfarwyddiadau Cyfalafu i ddefnyddio derbyniadau cyfalaf o werthu tir ac asedau adeiladau i ariannu costau’r Diwygio a Thrawsnewid Gwasanaethau a nodwyd.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan y Cynghorydd Sir WB Thomas a’i basio gan 53 o bleidleisiau gydag 1 yn erbyn a 3 yn ymatal.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddiad Cyfalaf ar gyfer Goleuadau Stryd PDF 62 KB Cofnodion: Gofynnwyd i’r Cyngor gymeradwyo treiglo £1 filiwn yn ei flaen yn y gyllideb Effeithlonrwydd Goleuadau Stryd oherwydd yr oedi wrth gyflenwi llusernau LED Goleuadau Stryd.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan y Cynghorydd Sir RG Brown a’i basio gan 57 o bleidleisiau a 0 yn erbyn.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddiad Cyfalaf ar gyfer Ysgolion Cynradd yn Nalgylch Gwernyfed PDF 64 KB Cofnodion: Gofynnwydi’r Cyngor gymeradwyo treiglo £1.564 miliwn yn ei flaen i gyllideb 2017/18 ar gyfer Prosiect Dalgylch Ysgolion Cynradd Gwernyfed oherwydd yr oedi a fu oblegid cymeradwyo’r achosion busnes yn ystod y flwyddyn. Roedd gwaith wedi dechrau ar ran o’r safle.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan y Cynghorydd Sir EA Jones a’i basio gan 55 o bleidleisiau gydag 1 yn erbyn.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddiad Cyfalaf ar gyfer Safon Ansawdd Tai Cymru PDF 63 KB Cofnodion: Gofynnwyd i’r Cyngor symud £2.137 miliwn o gyllideb Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer 2016/17 oherwydd oedi a newidiadau i’r prosiectau niferus sy’n ffurfio’r gyllideb gyffredinol.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan y Cynghorydd Sir MR Harris a’i basio gan 54 o bleidleisiau a 0 yn erbyn.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddiad Cyfalaf ar gyfer Adeiladu o'r Newydd Cofnodion: Gofynnwyd i’r Cyngor dreiglo £850,000 o’r gyllideb yn ei flaen ar gyfer Ailbrynu/Adeiladu o’r Newydd Dai Cyngor i 2017/18 i barhau â’r prosiect a chafwyd oedi yn y prosiect ynghynt yn y flwyddyn.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan y Cynghorydd Sir MR Harris a’i basio gan 53 o bleidleisiau gyda 0 yn erbyn ac 1 yn ymatal.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penderfyniad Treth y Cyngor ar gyfer 2017-2018 PDF 203 KB Cymeradwyo’r penderfyniad ar Dreth y Cyngor a gosod taliadau Treth y Cyngor ar gyfer 2017/2018.
Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor y penderfyniad yngl?n â’r Dreth Gyngor fel a ganlyn:
Cytunwyd ar y gyllideb yn y Cyngor 23 Chwefror 2017; mae’r adroddiad hwn yn cynnwys cynnydd o 3.9% yn y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan EA Jones a’i basio gan 35 o bleidleisiau gydag 17 yn erbyn a 3 yn ymatal.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Gwella Corfforaethol PDF 256 KB Ystyried y diweddariad 2017 i’r Cynllun Gwella Corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor y diweddariad ar gyfer Cynllun Gwella Corfforaethol 2016-2020.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan yr Arweinydd a’i eilio gan y Cynghorydd Sir WT Jones a’i basio gan 53 o bleidleisiau gydag 1 yn erbyn ac 1 yn ymatal.
Ymunodd y Cynghorwyr Sir KM Roberts-Jones a JM Williams â’r cyfarfod am 11.20yb a hwythau wedi bod ar fusnes arall i’r Cyngor.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad o'r Cyfansoddiad PDF 142 KB Ystyried diwygiadau i’r Cyfansoddiad:
Adran 4 Cyngor Adran 5 Cabinet Adran 12 Cyllid, Contractau a Materion Cyfreithiol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor newidiadau i Adrannau 4, 5, 7 a 12 y Cyfansoddiad a argymhellwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Roedd y newidiadau mewn cysylltiad â gweithdrefnau’r Cabinet mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru oedd wedi mynegi pryder yngl?n ag arferion gweithredu’r Cabinet ac yn arbennig yr hawl i Gadeiryddion Craffu ac Arweinwyr Grwpiau Gwrthbleidiol siarad yng nghyfarfodydd y Cabinet.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir CJ Gibson-Watt nifer o welliannau wedi’u heilio gan y Cynghorydd Sir JG Morris gan ddadlau bod yr argymhellion yn rhoi pwerau ychwanegol sylweddol i’r Cabinet wrth wanio Craffu.
Pasiwyd Gwelliant A) gan 40 o bleidleisiau gydag 13 yn erbyn a 2 yn ymatal.
PENDERFYNWYD yn ogystal â chyhoeddi blaengynllun gwaith cyflawn i’r Cabinet am 8 mis ymlaen fel yng Ngwelliant arfaethedig 5.22.14 y Cyfansoddiad, fod rhaid i unrhyw eitemau brys i’w hystyried gan y Cabinet fod yn ddarostyngedig i hysbysu Cadeirydd y Pwyllgor Craffu perthnasol (neu’r Is-Gadeirydd os nad yw’r Cadeirydd ar gael).
O’i roi i bleidlais, collwyd Gwelliant B) bod Cadeiryddion y prif Bwyllgorau Craffu (neu’r Is-Gadeiryddion os na all y Cadeiryddion fod yn bresennol) yn eistedd ar y Bwrdd Comisiynu a Chaffael fel aelodau dibleidlais sy’n gallu gwneud sylwadau o 18 pleidlais i 39 gydag 1 yn ymatal.
Pasiwyd Gwelliant C) gan 45 o bleidleisiau gydag 14 yn erbyn ac 1 yn ymatal.
PENDERFYNWYD bod Cadeiryddion y prif Bwyllgorau Craffu (neu’r Is-Gadeiryddion os na all y Cadeiryddion fod yn bresennol) yn eistedd ar y Bwrdd Trosolwg Strategol
Pasiwyd Gwelliant D) gan 50 o bleidleisiau gyda 6 yn erbyn ac 1 yn ymatal.
PENDERFYNWYD yn Adran 5.26 (Hawliau Cadeiryddion Craffu i siarad mewn Cyfarfod) fod y canlynol yn cael ei ychwanegu:
“Dylai agendâu’r Cabinet nodi’n eglur pa eitemau sydd wedi bod yn ddarostyngedig i graffu gan y Pwyllgor Craffu perthnasol cyn cael eu hystyried gan y Cabinet; a dylai cofnodion cyfarfodydd y Cabinet nodi’n glir pam mae argymhellion gan y Pwyllgor Craffu perthnasol wedi cael eu derbyn neu eu gwrthod.”
O’i roi i bleidlais, trechwyd gwelliant a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir MC Alexander a’i eilio gan y Cynghorydd Sir L Fitzpatrick i ohirio ystyried y newidiadau i’r Cyfansoddiad nes i’r Cyngor newydd gael ei ethol o 44 o bleidleisiau i 16.
Cynigiwyd y cynnig annibynnol gan y Cynghorydd Sir MR Harris a’i eilio gan y Cynghorydd Sir WJT Powell a’i basio gan 52 o bleidleisiau gyda 2 yn erbyn a 4 yn ymatal.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Argymhelliad y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd PDF 95 KB Ystyried argymhelliad y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar Bwyllgorau (Rhanbarthol) Ardal. Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor argymhelliad y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y dylai’r Pwyllgorau Ardal (Sirol) gael eu diddymu o’r Cyfarfod Blynyddol ym mis Mai 2017.
Mynegodd yr aelodau amrywiaeth barn gyda rhai’n cwestiynu gwerth y cyfarfodydd gan awgrymu y dylai cyfarfodydd mwy lleol sy’n seiliedig ar wasanaethau gymryd eu lle gydag eraill yn dadlau y dylent gael eu cadw yn eu fformat presennol.
Collwyd gwelliant a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir LV Corfield a’i eilio gan y Cynghorydd Sir GR Banks fod Pwyllgorau Sirol yn peidio â chyfarfod yn rheolaidd ond bod awdurdod yn cael ei roi i’r Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Sirol i gynnull cyfarfodydd i ystyried materion o bwysigrwydd mawr yn lleol o 32 o bleidleisiau i 24 gydag 1 yn ymatal.
Collwyd gwelliant a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir GW Ratcliffe a’i eilio gan y Cynghorydd Sir MC Dorrance fod Pwyllgorau Sirol yn cael eu diddymu a bod cyfarfodydd ardal sy’n canolbwyntio ar faterion gweithredol yn cymryd eu lle o 32 o bleidleisiau i 21 gyda 3 yn ymatal.
Collwyd gwelliant gan y Cynghorydd Sir GJ Bowker a’i eilio gan y Cynghorydd Sir JM Williams i ohirio ystyried y mater nes bod y Cyngor newydd yn ei le o 29 o bleidleisiau i 24 gydag 1 yn ymatal.
Pleidleisiodd y Cyngor ar argymhelliad y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, gyda 27 o bleidleisiau o blaid, 27 yn erbyn a 2 yn ymatal. Drwy bleidlais fwrw’r Cadeirydd collwyd yr argymhelliad.
Torrodd y cyfarfod am 13.04 gan ailgynnull am 14.00.
YN BRESENNOL Y Cynghorydd Sir KF Tampin
Y Cynghorwyr Sir PJ Ashton, D Bailey, G R Banks, G Breeze, R G Brown, J H Brunt, L V Corfield, K W Curry, M J B Davies, S C Davies, D E Davies, E R Davies, A W Davies, M J Dorrance, V E Evans, W J Evans, D O Evans, L Fitzpatrick, J Gibson-Watt, P Harris, M R Harris, S M Hayes, J C Holmes, G Hopkins, E A Jones, D C Jones, M J Jones, E M Jones, D R Jones, W T Jones, F H Jump, H Lewis, S McNicholas, P J Medlicott, DW Meredith, ET Morgan, G Morgan, JG Morris, W J T Powell, D R Price, G W Ratcliffe, K M Roberts-Jones, K S Silk, D A Thomas, W B Thomas, A G Thomas, D G Thomas, R G Thomas, T Turner, T J Van-Rees, G P Vaughan, D H Williams, S L Williams a J M Williams
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ffrwd Gymraeg Ysgol Uwchradd Aberhonddu PDF 105 KB Ystyried adroddiad yr Aelod Portffolio dros Addysg i’r Cabinet ar 14 Mawrth ynglyn a ffrwd Gymraeg Ysgol Uwchradd Aberhonddu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir GW Ratcliffe fuddiant personol sy’n rhagfarnu mewn cysylltiad â’r eitem hon a gadawodd y cyfarfod.
Rhoddodd y Swyddog Monitro wybod na fyddai aelodau’r Cabinet yn cael pleidleisio ar yr eitem hon.
Ystyriodd y Cyngor adroddiad Deiliad y Portffolio Addysg am ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad ffurfiol i golli’r ffrwd cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu o 31 Awst 2017, gydag Ysgol Uwchradd Aberhonddu’n dod yn ysgol cyfrwng Saesneg o 1 Medi 2017. Rhoddodd Deiliad y Portffolio wybod bod cyfanswm o 237 o ymatebion ysgrifenedig i’r ymgynghoriad wedi’u derbyn, gan gynnwys ymatebion a gyflwynwyd drwy ddefnyddio’r ffurflen ymateb ar-lein ac ymatebion ysgrifenedig eraill. Derbyniwyd 71 o ymatebion gan un ymatebwr unigol a 26 gan ymatebwr unigol arall. Ar ben hynny, yn ystod y cyfnod ymgynghori, anogwyd unigolion i e-bostio’r Cyngor gyda’r datganiad, ‘Y cwbl dw i eisiau ar gyfer y Nadolig yw i’r ffrwdd cyfrwng Cymraeg aros yn agored yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu’. Derbyniwyd 39 o ymatebion nad oeddent ond yn cynnwys y datganiad hwn. Yn ogystal â’r ymatebion ysgrifenedig, derbyniwyd copi o ddeiseb ar-lein a lofnodwyd gan 236 o bobl oedd yn cynnwys 67 o sylwadau ysgrifenedig. Rhestrwyd y materion a godwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori gan gynnwys y rheini a godwyd mewn ymatebion ysgrifenedig a’r rheini a godwyd yn y cyfarfodydd ymgynghori yn yr Adroddiad Ymgynghori (Atodiad B), ynghyd ag ymateb yr awdurdod i’r materion hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Sir David Meredith nad oedd dau ymgynghoriad blaenorol wedi helpu niferoedd disgyblion yn yr ysgol na chwaith y penderfyniad i gynnig cludiant am ddim i ddisgyblion oedd eisiau symud i Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt. Nododd ei bod yn costio £38,000 i gludo disgyblion i Bont-y-p?l, arian a allai fod wedi’i ddefnyddio i ariannu’r ysgol yn iawn. Dywedodd y byddai’n well gan ddisgyblion Ysgol y Bannau fynd i Aberhonddu a byddai symud y ffrwd Gymraeg o Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn cael effaith negyddol ar Ysgol y Bannau a’r iaith Gymraeg yn yr ardal. Dywedodd i amseru’r ymgynghoriad fod yn anffodus gan ei fod wedi digwydd wrth i’r ysgol symud o fesurau arbennig. Nododd fod yr arbedion £58,000 arfaethedig yn cael eu gwrthbwyso gan y £116,000 mae’n ei gostio ar hyn i bryd i gludo disgyblion pan mai dim ond £47,000 oedd ei angen ar yr ysgol i’w dyrchafu i statws Categori 2B.
Cytunodd y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance fod angen ad-drefnu ysgolion ond dywedodd y dylid ei wneud yn deg. Gofynnodd i ble y byddai’r 173 o ddisgyblion o Bontsenni ac Ysgol y Bannau’n mynd a dywedodd mai eu hawl oedd cael eu haddysgu yn eu cymuned eu hunain. Dywedodd nad oedd unrhyw dystiolaeth bod Llanfair-ym-Muallt mewn gwell sefyllfa i gyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg a gofynnodd i’r Cabinet egluro sut byddai’r cynnig yn cyrraedd nodau’r Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol.
Rhoddodd Deiliad y Portffolio Addysg wybod nad oedd niferoedd y disgyblion yn Ysgol y Bannau wedi cynyddu dros y deng mlynedd diwethaf ac atgoffodd yr aelodau fod Aberhonddu’n cynnig 4 pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg o’i ... view the full Cofnodion text for item CC37- 2017 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodi Aelod Lleyg i'r Pwyllgor Archwilio PDF 74 KB Ystyried adroddiad y Pwyllgor Archwilio ar benodi aelod lleyg i’r Pwyllgor. Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor benodi aelod lleyg i’r Pwyllgor Archwilio fel sy’n ofynnol ym Mesur Llywodraeth Leol 2011.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, y Cynghorydd Sir JG Morris a’i eilio gan y Cynghorydd Sir TJ Van-Rees a’i basio gan 42 o bleidleisiau gyda 0 yn erbyn a 2 yn ymatal.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Asesiad Poblogaeth ar gyfer Powys PDF 72 KB Ystyried yr asesiad poblogaeth ar gyfer Powys. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor yr asesiad poblogaeth ar gyfer y sir. Roedd yr asesiad yn ofynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a byddai’n helpu’r Cyngor i gynllunio ei wasanaethau. Byddai’n cael ei gynnwys yn y pecyn ymgynefino i aelodau newydd eu hethol. Canmolwyd gwaith y swyddogion oedd wedi llunio’r asesiad.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Sir SM Hayes a’i eilio gan y Cynghorydd Sir RG Brown a’i basio gan 45 o bleidleisiau gyda 0 yn erbyn.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwl Buddsoddi Cymru - Cytundeb Rhwng Awdurdodau a Phwyllgor Cyd-Lywodraethu PDF 102 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor y Cytundeb Rhwng Awdurdodau ar gyfer pob un o awdurdodau lleol Cymru sy’n gyfrifol am weinyddu cronfa bensiwn. Roedd y Llywodraeth wedi cytuno y gallai 8 Cronfa Bensiwn Cymru gyfuno a sefydlu Cydbwyllgor Llywodraethu i’w weinyddu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, gyda Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau a Buddsoddi fel cynrychiolydd y Cyngor.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Sir TJ Van-Rees a’u heilio gan y Cynghorydd Sir DR Jones a’u pasio gan 39 o bleidleisiau gyda 0 yn erbyn ac un yn ymatal.
Gadawodd y Cynghorydd Sir P Harris am 15.00.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r Strategaeth Buddsoddi Blynyddol PDF 259 KB Ystyried y Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Blynyddol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor Ddatganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan yr Arweinydd a’i basio gan 42 o bleidleisiau gyda 0 yn erbyn a 2 yn ymatal. Cadarnhaodd y Cynghorydd Sir WJ Evans ei gefnogaeth er nad oedd ei bleidlais wedi cofrestru.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyniad gan y Comisiwn Ffiniau Derbyn cyflwyniad gan y Comisiynydd Ffiniau. Cofnodion: Traddododd Julie May – y Comisiynydd Arweiniol, Steve Halsall – y Prif Weithredwr, Matt Redmond – y Dirprwy Brif Weithredwr a Farhan Khan – Swyddog Adolygu’r Comisiwn Ffiniau gyflwyniad ar yr adolygiad o wardiau’r Cyngor a fyddai’n rhedeg rhwng 8 Mawrth a 31 Mai. Buont yn disgrifio’r broses adolygu gan esbonio’r meini prawf statudol cydraddoldeb etholiadol, hunaniaeth gymunedol a llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Bu gofyn iddynt anelu at gael un cynghorydd i bob 1,616 o etholwyr a fyddai’n golygu Cyngor ac iddo 66 o Gynghorwyr.
Gadawodd y Cynghorwyr MJB Davies, DW Meredith a TG Turner am 15.35. Gadawodd y Cynghorwyr SC Davies, L Fitzpatrick, S McNicholas a KS Silk am 15.50.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau yn unol a'r Cyfansoddiad |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
A all yr Aelod Cabinet gadarnhau pa mor aml mae Cyngor Sir Powys yn adolygu ei fethodoleg ymgynghori? Ac yn benodol, sut mae’r Awdurdod yn sicrhau ei fod yn defnyddio’r rhwydwaith o Gynghorau Tref a Chymuned yn llawn er mwyn annog y nifer fwyaf o drigolion i gymryd rhan mewn unrhyw ymgynghoriad? Cofnodion: A wnaiff yr Aelod Cabinet gadarnhau pa mor rheolaidd y mae Cyngor Sir Powys yn adolygu ei fethodoleg ymgynghori? Yn enwedig, sut mae’r Awdurdod yn sicrhau ei fod yn harneisio rhwydwaith y cynghorau tref a chymuned yn llawn wrth ymgysylltu â’r nifer uchaf posibl o breswylwyr mewn unrhyw ymgynghoriad penodol?
Ateb gan y Deiliad Portffolio sydd â chyfrifoldeb am Gyfathrebu Fel Cyngor Sir rydym yn gweithio yn ôl yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru. Y rhain yw ein methodoleg arweiniol pryd bynnag y byddwn yn edrych i ymgysylltu ac ymgynghori yngl?n â busnes y Cyngor p’un ai polisi newydd neu newid arfaethedig i wasanaeth sydd dan sylw. Pryd bynnag y bydd gwasanaeth yn dymuno neu angen ymgysylltu â phreswylwyr yngl?n â mater penodol, rhoddir gwybod iddynt y dylent ystyried yn ofalus pwy yw eu prif randdeiliaid a sicrhau eu bod yn eu gwahodd i ddweud eu dweud am y mater dan sylw. Yn aml cysylltir â chynghorau tref a chymuned naill ai’n uniongyrchol gan y gwasanaeth i roi eu barn neu byddant yn mynd ati i leisio eu barn pan welant gyhoeddusrwydd am fater sy’n effeithio ar eu cymuned. Fodd bynnag, nid dyma sy’n digwydd bob amser ac mae yna le i harneisio’r rhwydwaith cynghorau tref a chymuned yn well er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Byddem yn croesawu sgwrs yngl?n â sut gallwn wella ymgysylltu ar draws y sir.
Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid gan y Cynghorydd William Powell PDF 101 KB A all yr Aelod Cabinet diweddaru’r Cyngor ar broffil gwariant arian yr Undeb Ewropeaidd/Rhaglen Datblygu Wledig yn y Sir, gan fod yr arian yma erbyn hyn yn gyfyngedig ac yn dod i ben? Pa strategaethau sydd yn eu lle i sicrhau arian arall yn lle’r arian hwn, lle bo hynny’n bosibl - ac i asesu effaith ‘Brexit’ ar hyfywedd economi ehangach Powys?
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: A wnaiff yr Aelod Cabinet roi’r diweddaraf i’r Cyngor am broffil gwariant arian yr UE/CDG yn y Sir gan ei fod bellach yn gyfyngedig o ran amser a bod pen draw iddo? Hefyd, pa strategaethau sydd yn eu lle i sicrhau cronfeydd amnewid lle bynnag bo’n bosibl – ac i asesu effaith ddatblygol Brexit ar fywiogrwydd economi ehangach Powys?
Ateb gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid Pwynt 1 – A wnaiff yr Aelod Cabinet roi’r diweddaraf i’r Cyngor am broffil gwariant arian yr UE/CDG yn y Sir gan ei fod bellach yn gyfyngedig o ran amser a bod pen draw iddo?
Prosiectau Adfywio Gwasanaethau – y sefyllfa bresennol:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
A allwch chi ddarparu nifer yr Uwch Reolwyr, Penaethiaid Gwasanaeth, Cyfarwyddwyr, Cyfarwyddwyr Strategol a Phrif Weithredwr a gyflogwyd fesul Gradd/SCP gan Gyngor Sir Powys ar gyfer pob blwyddyn o dymor y Cyngor hwn? Cofnodion: Aallwch roi gwybod i mi nifer yr Uwch-reolwyr, Penaethiaid Gwasanaeth, Cyfarwyddwyr, Cyfarwyddwyr Strategol a Phrif Weithredwyr a gyflogir gan Gyngor Sir Powys yn ôl Gradd/SCP ar gyfer pob blwyddyn yn nhymor y Cyngor hwn?
Ateb gan Ddeiliad y Portffolio sydd â chyfrifoldeb am Adnoddau Dynol
Mae’rtabl isod yn dangos nifer y swyddi Uwch-reolwr a Phrif Swyddog wedi’u llenwi yn ôl gradd a phwynt ar y golofn gyflog, yn ystod pob blwyddyn yn nhymor cyfredol y Cyngor.
Byddwch yn nodi bod y niferoedd yn gostwng o un flwyddyn i’r llall, ac eithrio’r flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2016 lle y ceir cynnydd, cyn gostwng unwaith eto yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.
Priodolirtwf 2015/16 i gynnydd o 6 swydd Uwch-reolwr drwy ailstrwythuro Meysydd Gwasanaeth a gafodd eu gwerthuso drwy’r broses Gwerthuso Swyddi er mwyn parhau i gydymffurfio â’r Statws Sengl, ynghyd â 3 Phennaeth Gwasanaeth ychwanegol yn cael eu penodi (Pennaeth TGCh, Pennaeth Gweithrediadau Gwasanaethau Oedolion a Phennaeth Trawsnewid Gwasanaethau Oedolion).
Yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol, mae 6 yn llai yn nifer y rolau gyda 3 Uwch-reolwr, 1 Pennaeth Gwasanaeth, 1 Cyfarwyddwr ac 1 Cyfarwyddwr Strategol yn llai.
I grynhoi, yn ystod tymor cyfredol y Cyngor, mae nifer yr Uwch-reolwyr a Phrif Swyddogion wedi gostwng 12.5% o 48 i 42.
Nid oedd cwestiwn atodol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Arweinydd gan y Cynghorydd Sir Gary Price PDF 48 KB Rydych wedi ymdrechu i fod yn hyrwyddwr didwylledd ac eglurder yn ystod eich cyfnod fel Arweinydd Cyngor Sir Powys. A allwch chi felly esbonio pam y mae'r enw cod (prosiect Alpha) wedi cael ei ddefnyddio'n ddiweddar? Cofnodion: Rydych wedi ceisio hyrwyddo bod yn agored ac yn dryloyw yn ystod eich cyfnod fel Arweinydd Cyngor Sir Powys. A allwch egluro felly pam mae enw cod (prosiect Alpha) wedi’i ddefnyddio’n ddiweddar?
Ateb gan yr Arweinydd Mae’r ymadrodd “Prosiect Alpha” yn cael ei ddefnyddio i drafod materion cyfrinachol yn y swyddfa eiddo ac mewn gohebiaeth sy’n ymwneud â’r posibilrwydd o brynu darn o dir. Mae’r Cyngor yn cydnabod bod angen i rai materion gael eu cadw’n gyfrinachol yn ystod trafodaethau masnachol sensitif sy’n ymwneud â phrynu. Mae hyn i sicrhau nad yw sefyllfa negodi’r Cyngor yn cael ei datgelu ac felly gallwn fod yn si?r ein bod yn cael y gwerth gorau posibl am arian i breswylwyr lleol. Pan fydd y mater wedi’i gwblhau, byddaf yn hapus iawn rhoi gwybod i’r Cyngor am y canlyniad.
Nid oedd cwestiwn atodol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mae’rDatblygiad o Ganolfan Ddiwylliannol yn newyddion da i Aberhonddu ac mae’n fuddsoddiad sy’n cael ei groesawu’n fawr ond mae fy nghymuned yn bryderus am gynlluniau’r Cyngor ar gyfer adeilad presennol y Llyfrgell.
A all Aelod y Cabinet rhoi gwybod i’r Cyngor beth yw’r cynlluniau ar gyfer y safle ar ôl i’r Llyfrgell symud i’r lleoliad newydd? Cofnodion: Newyddiongwych i Aberhonddu yw datblygiad y Ganolfan Ddiwylliannol ac yn fuddsoddiad i’w groesawu’n wir, ond mae fy nghymuned yn poeni, ac nid heb reswm, am gynlluniau’r Cyngor ar gyfer adeilad presennol y Llyfrgell.
A wnaiff yr Aelod Cabinet roi gwybod i’r Cyngor beth mae’r weinyddiaeth yn bwriadu ei wneud gyda’r safle pan fydd y Llyfrgell yn symud i’r lleoliad newydd?
Ateb gan Ddeiliad y Portffolio Eiddo, Adeiladau a Thai Mae gwaith ar Ganolfan Ddiwylliannol Aberhonddu ar gerdded ac mae i fod i agor yn haf 2018. Unwaith i’r gwaith ar y cyfleuster diwylliannol newydd gael ei gwblhau, bydd Llyfrgell Aberhonddu yn symud i’r safle newydd.
Mae diddordeb wedi cael ei ddangos yn adeilad presennol y Llyfrgell ond mae Cyngor Sir Powys yn ystyried nifer o ddewisiadau yngl?n â’i ddyfodol. Adfywio fydd ar flaen meddwl y Cyngor wrth edrych ar y dewisiadau hyn.
Mewn ymateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Dorrance am y dewisiadau ar gyfer y safle, rhoddodd Deiliad y Portffolio wybod bod peth diddordeb ond dim byd pendant y gallai ei rannu â’r aelodau lleol ar hyn o bryd.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
A all yr Aelod Cabinet gwneud datganiad ar Ddigartrefedd ym Mhowys? Cofnodion: A wnaiff yr Aelod Cabinet ddarparu datganiad ar ddigartrefedd ym Mhowys?
Ateb gan Ddeiliad y Portffolio Eiddo, Adeiladau a Thai Estynnoddcyflwyniad Deddf Tai (Cymru) 2014 ym mis Ebrill 2015 ddyletswyddau awdurdodau lleol i atal digartrefedd gan gynyddu’r amserlen i ymyrryd o 28 o ddiwrnodau i 56 o ddiwrnodau cyn y caiff pobl sy’n mynd at y cyngor am gymorth ddod yn ddigartref. Erbyn hyn mae gan y Cyngor ddyletswydd i atal neu liniaru digartrefedd pawb sy’n dod atom ond mae’n dal i gadw ei ddyletswydd Adran 75 i roi llety i ymgeiswyr sydd â hawl i gymorth, sy’n ddigartref, sydd ag angen blaenoriaethol, nad ydynt yn ddigartref yn fwriadol ac sydd â chysylltiad lleol.
Mae’r system newydd yn gymhleth iawn ei gweinyddu ac mae cofnodi digartrefedd wedi dod yn fwy cymhleth ers cyflwyno Deddf 2014. Mae’r ffaith bod yn rhaid i’r Cyngor weithio gydag ymgeiswyr i atal a lliniaru digartrefedd yn hytrach na derbyn dyletswydd i gartrefi’n unig yn golygu bod achosion yn cymryd mwy o amser i swyddogion eu gweinyddu.
Ar ben hynny, mae newid deddfwriaethol a chyflwyno systemau cofnodi newydd yn golygu na ellir cymharu’r holl ddata â data a gasglwyd cyn mis Ebrill 2015.
Data y gellir eu cymharu yw nifer y cyflwyniadau digartrefedd. Bu cynnydd o 32% mewn cyflwyniadau rhwng y blynyddoedd ariannol 2014-15 a 2015-16 ar draws Powys. Nid oedd hyn yn annisgwyl oherwydd i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 estyn hawliau, yn enwedig i bobl ar eu pennau eu hunain. Fodd bynnag, dylid nodi, yn ystod tri chwarter cyntaf 2016-17, fod nifer y cyflwyniadau digartrefedd i’w gweld wedi lleihau, o’u cymharu â 2015-16 ond dylid nodi hefyd fod nifer y bobl mewn llety dros dro y mae ar y Cyngor ddyletswydd gyflawn iddynt yn aros yn gyson – gweler tabl 3 isod.
Tabl 1
Bu’reffaith ar draws y sir yn amrywio’n sylweddol; rhwng 2014/15 a 2015/16 cynyddodd cyflwyniadau digartrefedd 107% yn Aberhonddu, 39% yn y Trallwng, 30% yn y Drenewydd ac 13% yn Llandrindod. Yn ystod yr un cyfnod roedd gostyngiad 13% mewn cyflwyniadau digartrefedd yn Ystradgynlais.
Mae gogledd y sir yn tueddu i brofi’r nifer mwyaf o gyflwyniadau digartrefedd. Mae Tabl 2 isod yn dangos canran y cyflwyniadau digartrefedd yn y Trallwng, y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu ac ... view the full Cofnodion text for item CC43- 2017f |