Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Sir VE Evans, L Fitzpatrick, JG Shearer a DH Williams a’r Prif Weithredwr.
|
|||||||||||||
Awdurdodi’r Cadeirydd y lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2017 yn gofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Awdurdodwyd y Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd 26 Ionawr 2017 fel cofnod cywir.
|
|||||||||||||
Datganiadau o ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o fudd oddi wrth Aelodau mewn cysylltiad ag eitemau sydd i’w hystyried ar yr agenda. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir TJ Van-Rees fuddiant sy’n rhagfarnu pan godwyd Ystâd Ffermydd y Sir fel rhan o’r drafodaeth ar y gyllideb gan adael y cyfarfod tra oedd yn cael ei thrafod.
Datganodd y Cynghorydd Sir EM Jones fuddiant personol nad oedd yn rhagfarnu pan drafodwyd canolfannau dydd fel rhan o’r drafodaeth ar y gyllideb.
|
|||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd fanylion rhai o’r digwyddiadau roedd wedi’u mynychu ers y cyfarfod diwethaf gan gynnwys Gwobrau Chwaraeon Sir Drefaldwyn yn y Drenewydd, Gwobrau Cadetiaid Powys yng Nghrucywel a drama CFfI Sir Faesyfed yn Neuadd Albert, Llandrindod.
|
|||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. Cofnodion: Rhoddwyd yr Arweinydd wybod y byddai’n gwneud ei gyhoeddiadau yn y cyfarfod nesaf.
|
|||||||||||||
Trosglwyddiadau yn disgwyl Cymeradwyaeth y Cyngor PDF 73 KB Ystyried trosglwyddiad cyfalaf y mae angen i’r Cyngor ei gymeradwyo. Cofnodion: Gofynnwyd i’r Cyngor ystyried treiglo’r gyllideb gyfalaf ar gyfer y cyfleuster fflyd yn ei blaen i 2017/18.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan y Cynghorydd Sir TJ Van-Rees a’i basio gan 60 o bleidleisiau i 0 gydag 1 yn ymatal.
|
|||||||||||||
Datganiad Blynyddol Darpariaeth Lleiafswm Refeniw 2017/18 PDF 119 KB Ystyried Datganiad Blynyddol Darpariaeth Lleiafswm Refeniw 2017/18. Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor y dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw (DIR) ar gyfer 2017/18. Hwn oedd y tâl blynyddol roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol ei godi at ad-dalu dyledion.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan y Cynghorydd Sir TJ Van Rees a’i basio gan 55 o bleidleisiau i 6 gyda 3 yn ymatal.
|
|||||||||||||
Adroddiad y Panel Craffu Ariannol PDF 68 KB Ystyried adroddiad Panel Craffu Ariannol i’r Cabinet ynglyn â’r cynigion ar y gyllideb ar gyfer 2017/18. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Sir JG Morris, Cadeirydd y Panel Craffu ar Gyllid, ymateb y Panel i’r gyllideb arfaethedig. Roedd y Panel wedi codi nifer o bryderon gan gynnwys effeithiau targedau arbedion a fethwyd yn y gyllideb bresennol ar gyllideb 2017/18 a’r defnydd o gronfeydd wrth gefn. Ceisiodd y Panel sicrwydd na fyddai’r gorwariant yng Ngofal Cymdeithasol i Oedolion yn digwydd eto. Roedd y Panel yn ansicr a oedd y gyllideb arfaethedig â therfynau arian parod neu’n cael ei harwain gan y galw. Croesawyd y dull 3 blynedd o ymdrin â’r gyllideb ond roedd y Panel yn poeni am effaith gwneud penderfyniadau y tu allan i’r fframwaith hwnnw. Yn olaf, nododd y Cynghorydd Morris fod y newid diweddar i’r Dreth Gyngor arfaethedig yn gwneud gwaith craffu’n anodd.
Mewn ymateb, diolchodd Deiliad y Portffolio Cyllid i’r Panel am eu gwaith a’u her. Byddai’n gwneud ymateb ffurfiol yn y Cabinet ar 14 Mawrth. Eglurodd y byddai bob amser addasiadau i gyllideb dair blynedd gan gynnwys prisio’r Gronfa Bensiwn gan yr actiwari, y dirywiad mewn cyllidebau ysgolion a’r gorwariant yng Ngofal Cymdeithasol i Oedolion. Cytunodd ei bod yn gostus iawn ailsefydlu cyllidebau yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.
|
|||||||||||||
Ystyried y Gyllideb ar gyfer 2017-18, Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2017-2020 a Rhaglen Gyfalaf 2017-2021. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor y Gyllideb ar gyfer 2017/18, Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2017/2020 a Rhaglen Gyfalaf 2017/2021. (Copi wedi’i ffeilio gyda’r cofnodion llofnodedig).
Wrth gyflwyno’r gyllideb rhoddodd Deiliad y Portffolio Cyllid wybod, er bod setliad y gyllideb yn well na’r disgwyl, o hyd dyma’r waethaf yng Nghymru, toriad 0.5% mewn cyllid o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol. Cydnabu fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi gwrando ar sylwadau’r Cyngor yngl?n â chostau ychwanegol darparu gwasanaethau mewn ardal wledig, gan ddyrannu £1.5m yn ychwanegol. Atgoffodd yr Aelodau mai dim ond hanner y ffordd drwy’r rhaglen arbedion oedd y Cyngor, gyda £65m o doriadau eisoes wedi’u gwneud ac y byddai cyni’n parhau tan 2027.
Amlinellodd Deiliad y Portffolio strategaeth y Cabinet gan egluro’r penderfyniadau polisi oedd yn gofyn addasiadau i’r gyllideb. Esboniodd ymagwedd y strategaeth sef tynnu risg o’r gyllideb a mynd i’r afael â’r gorwariant yng nghyllideb Gofal Cymdeithasol i Oedolion drwy sefydlu cronfa wrth gefn. Bu hefyd yn amlygu’r symiau a ychwanegir at y gyllideb er mwyn osgoi gorfod cyflwyno casgliad gwastraff gweddilliol bob 4 wythnos, cadw 5 Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, achub canolfannau hamdden Trefyclo a Llanfair Caereinion a chadw canolfannau gofal dydd yn agored am flwyddyn arall wrth sefydlu ffyrdd eraill o ddarparu’r gwasanaeth. Rhoddodd wybod i’r Cyngor fod is-gr?p o’r Cabinet wedi edrych ar asesiadau effaith ar gyfer pob un o’r arbedion arfaethedig, gan ddychwelyd y rheini nad oedd yn lliniaru risgiau a nodwyd.
Eglurodd Deiliad y Portffolio Cyllid, ers i’r Cabinet gyfarfod 7 Chwefror i wneud ei argymhellion i’r Cyngor, fod gwaith wedi parhau i fireinio’r gyllideb gan arwain at leihad pellach o £400,000 sy’n golygu bod y Cabinet yn argymell Treth Gyngor is o 3.90%.
Atebodd Deiliad y Portffolio Cyllid ac aelodau o’r Cabinet gwestiynau gan Aelodau. Cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod wedi cael trafodaethau ag Ysgrifennydd y Cabinet ac Aelodau Cynulliad lleol yngl?n â setliad y Cyngor. Rhoddodd arweinwyr grwpiau’r Democratiaid Rhyddfrydol, Llafur a’r Ceidwadwyr wybod na fyddai eu grwpiau’n cefnogi cynigion y gyllideb. Ni dderbyniodd Deiliad y Portffolio Cyllid sylwadau gan arweinydd gr?p y Democratiaid Rhyddfrydol nad oedd y Cabinet yn rheoli’r gyllideb yn iawn, gan nodi bod gwarged o £3 miliwn yn ystod y 2 flynedd diwethaf. Dywedodd arweinydd y gr?p Llafur, er yn croesawu’r gwelliant yn yr asesiadau effaith, y byddai’r rhaglen gyni barhaus yn golygu tranc gwasanaethau llywodraeth leol. Dadleuodd arweinydd gr?p y Ceidwadwyr mai’r Dreth Gyngor leiaf fforddiadwy yng Nghymru oedd gan Bowys.
Cynigiwyd Argymhelliad 1 yn adroddiad Deiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan y Cynghorydd Sir Tony Thomas a’i basio gan 35 o bleidleisiau i 22 gydag 1 yn ymatal.
Cynigiwyd Argymhelliad 2 yn yr adroddiad gan Ddeiliad y Portffolio Cyllid a’i eilio gan y Cynghorydd Sir Tony ... view the full Cofnodion text for item CC22- 2017 |
|||||||||||||
Rhybudd o Gynnig - y Cynghorydd Sir Peter Medlicott a'r Cynghorydd Sir Michael Williams Rydym ni, y rhai y mae ein henwau wedi’u torri isod, yn galw ar Gyngor Sir Powys i wrthwynebu cau banc HSBC yn Nhref-y-Clawdd a banciau a sefydliadau tebyg eraill mewn trefi bychain a chymunedau.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Peter Medlicott
Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Michael Williams Cofnodion: Trafododd y Cyngor y cynnig canlynol a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir PJ Medlicott a’i eilio gan y Cynghorydd Sir JM Williams
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gyngor Sir Powys i wrthwynebu cau Banc HSBC yn Nhrefyclo a chau banciau eraill a sefydliadau tebyg mewn trefi a chymunedau bach.
Wrth gefnogi’r cynnig nododd cynghorwyr effaith colli cyfleusterau o’r fath ar drefi a chymunedau bach yn y sir.
Rhoddwyd y cynnig i bleidlais a’i basio gan 51 o bleidleisiau i 0.
PENDERFYNWYD bod y Cyngor Sir yn gwrthwynebu cau banc HSBC yn Nhrefyclo a chau banciau eraill a sefydliadau tebyg mewn trefi a chymunedau bach.
|
|||||||||||||
Rhybudd o Gynnig - Y Cynghorydd Sir Stephen Hayes a'r Cynghorydd Sir Kath Roberts-Jones The Treaty of Montgomery The 750th anniversary of the Treaty of Montgomery, signed on the 29th September 1267, falls this year. The treaty, between Henry III of England and Llywelyn ap Gruffydd (Llywelyn ein Llyw Olaf), formally recognised Llywelyn as Prince of Wales. Signed at Rhydwhyman, a ford on the River Severn between Montgomery and Berriew, the Treaty of Montgomery is regarded as of historic and national significance as the only time a Welsh born Prince of Wales was formally acknowledged by an English king.
Motion to Council That Council consider whether, and if so how, it wishes to promote or support appropriate events to mark the 750th anniversary in September 2017 of the historic Treaty of Montgomery. Proposed by County Councillor Stephen Hayes
Seconded by County Councillor Kath Roberts-Jones Cofnodion: Trafododd y Cyngor y cynnig canlynol a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir SM Hayes a’i eilio gan y Cynghorydd Sir KM Roberts-Jones
Bod y Cyngor yn ystyried a yw’n dymuno hybu neu gefnogi digwyddiadau priodol i ddynodi 750 mlwyddiant cytundeb hanesyddol Trefaldwyn ym mis Medi 2017 ac os felly sut.
Eglurodd y Cynghorydd Hayes arwyddocâd hanesyddol a chenedlaethol y Cytundeb fel yr unig dro i Dywysog Cymru o dras Gymreig gael ei gydnabod yn ffurfiol gan Frenin Lloegr. Gofynnodd fod y Cyngor yn cael caniatâd i ymgysylltu â Phartneriaeth Twristiaeth Maldwyn i gefnogi digwyddiadau. Cadarnhaodd Deiliad y Portffolio Adfywio a Chynllunio ei fod yn hapus i staff o’r adran Adfywio gynorthwyo.
Rhoddwyd y cynnig i bleidlais a’i basio gan 50 o bleidleisiau i 0.
PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn hybu a chefnogi digwyddiadau priodol i nodi 750 mlwyddiant cytundeb hanesyddol Trefaldwyn ym mis Medi 2017.
|
|||||||||||||
Cwestiynau yn unol â'r Cyfansoddiad PDF 78 KB Dogfennau ychwanegol:
|
|||||||||||||
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyhoeddi benthyciad o £1,000,000 i’r Cyngor ar gyfer gweithgareddau arfaethedig yn Aberhonddu, Llandrindod a’r Drenewydd fel rhan o drydydd cyfnod Cronfa Fenthyciadau Canol Trefi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.
A wnaiff y Cabinet ddarparu manylion i’r Cyngor ar sut y mae’n bwriadu defnyddio’r arian, pa brosiectau yn Aberhonddu fydd yn cael cymorth, a sut y bydd yn ymgysylltu â’r aelodau lleol i ddynodi’r blaenoriaethau?
Cofnodion: Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyhoeddi, fel rhan o’r trydydd cyfnod o Gronfa Fenthyciadau Canol Trefi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, mae benthyciad o £1,000,000 ar gyfer gweithgareddau arfaethedig yn Aberhonddu, Llandrindod a’r Drenewydd wedi’i gynnig i’r Cyngor. A wnaiff y Cabinet ddarparu manylion i’r Cyngor yngl?n â sut y bydd yn defnyddio’r cyllid, pa brosiectau yn Aberhonddu a fydd yn cael eu cefnogi a sut bydd yn ymgysylltu ag aelodau lleol i adnabod blaenoriaethau?
Ateb gan y Cynghorydd Sir Tony Thomas, Deiliaid y Portffolio Adfywio a Chynllunio Mae’r Cyngor eisoes yn gweinyddu cynllun benthyca i ganol trefi drwy’r Cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Ariennir y cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru. Defnyddir y benthyciadau gan fusnesau preifat a leolir yng nghanol trefi i wella’r eiddo y maent yn berchen arno ac felly helpu i adfywio’r tri chanol tref dan sylw. Pwrpas y cyhoeddiad newydd hwn yw ‘ail-lenwi i’r ymyl’ fenter sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Gweinyddir y benthyciadau gan Adran Dai’r Cyngor. Yn wreiddiol, dim ond i fusnesau yn Llandrindod a’r Drenewydd yr oedd y cynllun hwn ar gael ond mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ei estyn i Aberhonddu sy’n newydd da i’r sir ac rydym yn ei groesawu. Ar ben hynny, mae’r cyllid diweddaraf hwn yn gadael i eiddo ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol gael ei dargedu gan roi mwy o hyblygrwydd cyffredinol i ni. Bydd nifer o gynlluniau yn Aberhonddu lle gellir defnyddio’r cynllun benthyciadau hwn i hybu adfywio’r dref.
Mewn ymateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Dorrance am ba gynlluniau yn Aberhonddu oedd wedi derbyn cyllid dyranedig, rhoddodd Deiliad y Portffolio Adfywio a Chynllunio wybod nad oedd cyllid eto wedi’i ddyrannu i unrhyw gynlluniau ond y byddai’n croesawu trafodaethau ag aelodau lleol am gynlluniau posibl.
|
|||||||||||||
Cwestiwn i Aelod Portffolio'r Cabinet dros Gyllid gan y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance PDF 60 KB Mae Llywodraeth lafur Cymru wedi cytuno ar gronfa i alluogi awdurdodau lleol i gynnig parcio am ddim yng nghanol trefi. A wnaiff y Cabinet fanylu ar sut y bydd yn trefnu i gynnig y parcio am ddim ym Mhowys?
Cofnodion: Mae cronfa i alluogi awdurdodau lleol i ddarparu parcio am ddim yng nghanol trefi wedi’i chytuno arni gan Lywodraeth Lafur Cymru. A wnaiff y Cabinet fanylu ar sut mae’n bwriadu darparu parcio am ddim i Bowys?
Ateb gan y Cynghorydd Sir Wynne Jones, Deiliad y Portffolio Cyllid. Nid yw’n gywir dweud bod cronfa wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfleusterau parcio ceir am ddim ac mae’n amlwg bod rhywfaint o ddryswch mewn perthynas â setliad cyllid Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer y flwyddyn 2017/18. O fewn setliad cyffredinol Llywodraeth Leol Cymru, roedd £3 miliwn o gyllid wedi’i gynnwys (ac yma dyfynnaf o’r datganiad a wnaethpwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford), ‘i gefnogi parcio yng nghanol trefi’. Fodd bynnag, NID oedd y cyllid, yn yr un modd â’r holl gyllid a gynhwysir yn y setliadau i Gynghorau yng Nghymru, wedi’i bridiannu.
Gan symud felly at sefyllfa Cyngor Sir Powys, y swm yn y setliad oedd £138,000 (heb ei bridiannu) mewn dyfarniad ariannu oedd yn gyfwerth â thoriad 0.5% yn y cyllid cyffredinol. Ar ben hynny, roedd toriadau i grantiau penodol eraill gan gynnwys toriad 6.7% i’r Grant Amgylchedd Sengl sy’n mynd at gynnal ein gwasanaeth ailgylchu.
Yn yr un modd â phob Cyngor yng Nghymru, nid yw Cyngor Sir Powys yn gwario’i ddyraniad cyllid yn unol â’r Asesiad o Wariant Safonol a blaenoriaethau lleol sy’n penderfynu’r gwariant ym mhob maes. Ym Mhowys, rydym ar hyn o bryd yn gwario dros yr Asesiad o Wariant Safonol mewn sawl maes blaenoriaeth allweddol megis Addysg a Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
Fe wnaeth y Cabinet benderfyniad, a gefnogwyd gynt gan y Cyngor, i ddatblygu ffrwd incwm i ddod â chyllid ychwanegol i mewn a fyddai’n bwysig i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a gwerthfawr yn y cyfnod hwn o gyni parhaus (ymagwedd sydd hefyd yn cael ei chefnogi gan adroddiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru). Mae’r taliadau parcio ceir yn chwarae rhan sylweddol wrth gefnogi cyllid cyffredinol y Cyngor. O ganlyniad, teimlai’r Cabinet nad oedd yn gwneud fawr o synnwyr dyrannu £138,000 tuag at wneud gostyngiad bach iawn mewn taliadau parcio ceir ar adeg pan oedd blaenoriaethau mwy o lawer megis Addysg a Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Ar ben hynny, teimlai’r Cabinet y dylid rhoi blaenoriaeth uwch o lawer i faterion eraill gan gynnwys ceisio achub Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref a lliniaru’r toriad i’r Grant Amgylchedd Sengl, lle y byddai’r toriad o £240,000 yn y grant fel arall wedi arwain yn ddi-os bron at orfodi ystyried symud at gasgliad gwastraff gweddilliol bob 4 wythnos o’r trefniad presennol, sef bob 3 wythnos.
O ran taliadau parcio ceir, fe’u codwyd ddiwethaf yn 2015 ac yn ôl y cylch 3 blynedd cytunedig, maent i fod i gael eu hadolygu eto yn 2018. Fel rhan o’r ystyriaeth a amlinellir uchod, nid yw’r Cabinet wedi dwyn gerbron unrhyw gynigion i gynyddu taliadau parcio ceir ar gyfer 2018 yn y gyllideb hon (serch unrhyw benderfyniadau blaenorol sydd yn cael eu rhoi ar waith ar ... view the full Cofnodion text for item CC25- 2017b |
|||||||||||||
Cwestiwn i Aelod Portffolio'r Cabinet dros Addysg gan y Cynghorydd Sir Gary Price PDF 75 KB Mewnymateb i’r cwestiwn canlynol a gyflwynwyd yn ddiweddar iawn
A wnaiff yr Aelod Portffolio dros Addysg egluro a oes yna Grant Amddifadedd Disgyblion yn rhan o’i Gyllideb Ddirprwyedig, ac felly bod yn rhaid iddo gydymffurfio â Chynllun Powys ar gyfer Ariannu Ysgolion?
Rhoddoddyr Aelod Portffolio dros Addysg yr ateb a ganlyn:
“Mae’r grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei gynnwys fel rhan o gyllideb ddirprwyedig yr ysgol. Mae’n rhaid I’r ysgol gadw at delerau ac amodau’r grant a’r Cynllun ar gyfer Ariannu Ysgolion, sy’n cynnwys y canllawiau canlynol ar grantiau:
2.12 Grantiau a chynlluniau canolog
Awdurdodiryr Awdurdod i sicrhau bod symiau ar gael i ysgolion o gronfeydd canolog, ar ffurf dyraniadau sy’n ychwanegol at, ac ar wahân i gyfrannau cyllideb yr ysgolion hynny. Bydd dyraniadau o’r fath yn destun amodau sy’n nodi diben neu ddibenion yr arian, ac er nad oes angen i’r amodau hyn atal trosglwyddiad (ac eithrio lle mae grant penodol yn talu’r arian yma ac na chanaiateir i’r Awdurdod ei hun drosglwyddo), ni ddylid gwneud hyn i’r graddau bod y dyraniadau’n cael eu cymhathu i gyfran cyllideb yr ysgol.
Mae gofyn i ysgolion gadw eu cofnodion cyfrifo yn y fath fodd fel eu bod yn gallu dangos, lle bo modd, eu bod wedi cydymffurfio â’r gofyniad i wario dim ond at y dibenion y cyflwynir yr arian, ac ni ddylid ei drosglwyddo i gyfran y gyllideb.”
A gaf i felly ofyn i’r Aelod Portffolio dros Addysg ei gwneud yn eglur, oherwydd bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei gynnwys fel rhan o gyllideb ddirprwyedig ysgol bod yn rhaid iddo hefyd gydymffurfio â rheoliad 5.2 y cynllun ar gyfer ariannu ysgolion, ac felly na ellir defnyddio’r arian i ddarparu modd o deithio ar gyfer yr ysgol?
Cofnodion: Disgyblion ysgol yn cael ei gynnwys fel rhan o’i Chyllideb Ddirprwyedig ac felly yn gorfod cydymffurfio â Chynllun Powys ar gyfer Ariannu Ysgolion?
Mae Deiliad y Portffolio Addysg wedi rhoi’r ateb canlynol:
“Mae’r grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei gynnwys fel rhan o gyllideb ddirprwyedig ysgol a rhwymir yr ysgol gan delerau ac amodau’r grant a’r Cynllun Ariannu Ysgolion sy’n cynnwys y canllawiau canlynol yngl?n â grantiau:
2.12 Grantiau a chronfeydd canolog
Mae’r Awdurdod wedi’i awdurdodi i sicrhau bod symiau ar gael i ysgolion o’r cronfeydd canolog, ar ffurf dyraniadau sy’n ychwanegol at ac sydd ar wahân i gyfrannau ysgolion o’r gyllideb. Bydd dyraniadau o’r fath yn ddarostyngedig i amodau sy’n nodi’r diben neu ddibenion y gall yr arian gael ei ddefnyddio iddo/iddynt, ac, er nad oes raid i’r amodau hyn eithrio trosglwyddiad (heblaw lle cefnogir y cyllid gan grant penodol na chaniateir i’r Awdurdod ei hun ei drosglwyddo), ni ddylid mynd â hwn cyn belled â chymhathu’r dyraniadau i gyfran yr ysgol o’r gyllideb.
Mae’n ofynnol i ysgolion gynnal eu cofnodion cyfrifyddu yn y fath fodd fel y gallant ddangos y cydymffurfiwyd, lle bo’n briodol, â’r gofyniad i wario dim ond ar y diben y mae cyllid yn cael ei roi iddo a pheidio â’i drosglwyddo i’w cyfran o’r gyllideb.”
Felly, a allaf ofyn i Ddeiliad y Portffolio Addysg gadarnhau, oherwydd bod y Grant Amddifadedd Ysgolion yn cael ei gynnwys fel rhan o gyllideb ddirprwyedig ysgol, fod rhaid iddi hefyd gydymffurfio â rheoliad 5.2 y cynllun ariannu ysgolion ac felly ni all ddefnyddio’r arian i ddarparu trafnidiaeth i’r ysgol?
Ateb gan y Cynghorydd Sir Arwel Jones, Deiliad y Portffolio Addysg Fel a nodwyd yn y cynllun ariannu ysgolion, mae’r adran a ddangosir isod, 2.12 Grantiau a chronfeydd canolog, yn nodi y dylai arian a dderbynnir drwy’r gyllideb ddirprwyedig mewn cysylltiad â grantiau gydymffurfio ag adran 2.12 y cynllun, a dylai’r cronfeydd grant dirprwyedig gael eu gwario yn unol â thelerau ac amodau’r grant. Mae Adran 5.2 y cynllun ariannu ysgolion a thelerau ac amodau’r grant amddifadedd disgyblion yn caniatáu gwario ar drafnidiaeth gweithgarwch ysgolion mewn rhai achosion ond nid ar wasanaethau a ddarperid fel arfer gan yr awdurdod megis trafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol.
“2.12 Grantiau a chronfeydd canolog
Mae’r Awdurdod wedi’i awdurdodi i sicrhau bod symiau ar gael i ysgolion o’r cronfeydd canolog, ar ffurf dyraniadau sy’n ychwanegol at ac sydd ar wahân i gyfrannau ysgolion o’r gyllideb. Bydd dyraniadau o’r fath yn ddarostyngedig i amodau sy’n nodi’r diben neu ddibenion y gall yr arian gael ei ddefnyddio iddo/iddynt, ac, er nad oes raid i’r amodau hyn eithrio trosglwyddiad (heblaw lle cefnogir y cyllid gan grant penodol na chaniateir i’r Awdurdod ei hun ei drosglwyddo), ni ddylid mynd â hwn cyn belled â chymhathu’r dyraniadau i gyfran yr ysgol o’r gyllideb. Mae’n ofynnol i ysgolion gynnal eu cofnodion cyfrifyddu yn y fath fodd fel y gallant ddangos y cydymffurfiwyd, lle bo’n briodol, â’r gofyniad i wario dim ond ar y diben y mae cyllid yn cael ei ... view the full Cofnodion text for item CC25- 2017c |
|||||||||||||
Cwestiwn i Aelod Portffolio'r Cabinet dros Gyllid gan y Cynghorydd Sir Gary Price PDF 53 KB A wnaiff yr Aelod Portffolio dros Gyllid ddweud wrthyf beth oedd cyfanswm cyfunol canran y cynnydd yn Nhreth y Cyngor a Band D yn ystod tymor presennol y Cyngor?
Cofnodion: A all Deiliad y Portffolio Cyllid ddweud wrthyf beth fu’r cynnydd canrannol yn y Dreth Gyngor a’r cynnydd cyfartalog ym Mand D gyda’i gilydd dros dymor y Cyngor hwn?
Ateb gan y Cynghorydd Sir Wynne Jones, Deiliad y Portffolio Cyllid. Drwy hyn rwyf yn darparu’r atebion y gofynnwyd amdanynt a hefyd wedi cynnwys er gwybodaeth ffigyrau cyfartalog Cymru. 1. Codiadau yn y Dreth Gyngor. 2012/13 2013/14 2014/15 2015/16 2016/17 Cyfanswm 5 mlynedd. Powys 2.25% 2.75% 4.5% 4.00% 4.25% 17.75% Cyfart. Cymru 1.92% 2.90% 4.24% 4.35% 3.65% 17.06%
2. Codiadau yn ymwneud ag Eiddo Band D. Powys £20.60 £25.75 £43.29 £40.22 £44.44 £174.30 Cyfart. Cymru £18.24 £28.06 £42.28 £45.33 £39.38 £173.29
3. Cyfanswm y Dreth Gyngor ar gyfer Eiddo Band D. Powys £936.36 £962.11 £1005.40 £1045.62 £1090.06 Cyfart. Cymru £972.24 £1000.40 £1042.58 £1087.91 £1127.40
Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.
|
|||||||||||||
Mae llawer o bryder a dryswch yn lleol ynghylch y graddau y bydd y Cyngor yn ariannu’r Gwasanaethau Llyfrgell yn y dyfodol. Waethpwy fydd yn eu rhedeg a lle y cânt eu lleoli, allwch chi gadarnhau lefel yr arian y bydd y gwasanaethau llyfrgell yn ei dderbyn yn y dyfodol oddi wrth y Cyngor, o’i gymharu â’r sefyllfa bresennol, ac am gyfnod o faint y bydd hyn yn parhau? Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw Cynghorau Tref a grwpiau cymunedol yn cael eu hannog i gyfrannu at redeg y llyfrgelloedd oherwydd mae angen gwarant arnynt fod Powys yn ymrwymedig i gadw’r ddarpariaeth leol statudol a hanfodol hon. Cofnodion: Mae cryn bryder a dryswch yn lleol yngl?n â chyllid i’r gwasanaethau Llyfrgell gan y Cyngor yn y dyfodol.
Ni waeth pwy sydd i’w rhedeg a lle maent yn cael eu lleoli, a allwch gadarnhau lefel yr ariannu a dderbynnir gan y gwasanaeth llyfrgell yn y dyfodol gan y Cyngor mewn perthynas â’r sefyllfa bresennol, ac am ba hyd y bydd hyn yn cael ei gynnal? Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw Cynghorau Tref a grwpiau cymunedol yn cael eu hannog i gyfrannu i redeg y llyfrgelloedd gan fod angen gwarantau arnynt fod Powys yn ymrwymedig i gynnal y ddarpariaeth leol statudol a hanfodol yma.
Ateb gan y Cynghorydd Sir Graham Brown, y Deiliad Portffolio â chyfrifoldeb am Lyfrgelloedd Bydd yr aelodau’n ymwybodol wrth weithio yn ystod 2016 fod y Gwasanaeth Llyfrgell yn chwilio am ffyrdd newydd o weithio, yn seiliedig ar y rheidrwydd i sicrhau gostyngiad o £250,000 yn y gyllideb, wedi’i daenu dros 2017-18 a 2018-19. Wrth nodi ffyrdd posibl o gyflawni hyn, cefnogodd y Cabinet ddull cymunedol o gadw’r llyfrgelloedd cangen. O ganlyniad, bu’r Gwasanaeth Llyfrgell yn cydweithio â chynghorau tref a chymuned ac eraill drwy gydol 2016 i sicrhau dyfodol hirdymor y llyfrgelloedd lleol hyn, gydag atebion lleol bellach wedi’u sicrhau ar gyfer pob cangen bron.
Wrth dderbyn adborth rheolaidd ar yr anawsterau ac amserlenni hirfaith wrth gyflawni mentrau lleol o’r fath, roedd y Cabinet yn ymwybodol mai her sylweddol iawn oedd cyflawni newidiadau a chydleoli bob un o’r 11 o lyfrgelloedd cangen erbyn mis Ebrill 2017.
Mae cynigion y gyllideb bellach yn adlewyrchu’r angen i wneud arbedion ond hefyd i sicrhau y gall y Gwasanaeth gael ei ddarparu a’i gynnal ac, fel y cyfryw, mae’r targedau’n adlewyrchu gostyngiad o £0 yn y gyllideb yn 2017-18 a £125,000 o ostyngiad yn y gyllideb yn 2018-19.
O ran cynaliadwyedd ymrwymiadau ar y cyd rhwng Cynghorau Tref a Chymuned a’r Cyngor Sir, mae cynigion newydd y gyllideb yn gwneud ymgais go iawn i wneud hyn yn fwy cynaliadwy, ond bellach mater i’r Cyngor a Chabinet newydd i’w gwblhau ar ôl mis Mai fydd ariannu hirdymor.
Cwestiwn atodol y Cynghorydd Ratcliffe oedd gofyn a fyddai Deiliad y Portffolio’n ystyried adolygu cyllidebau’r llyfrgelloedd fel y byddai pob cymuned yn cyfrannu i’r arbedion ac nid y rheini yn unig yr effeithir arnynt gan y cynigion presennol. Eglurodd Deiliad y Portffolio y byddai hyn yn golygu dadwneud trafodaethau’r 2 flynedd diwethaf. Nododd fod rhwydd hynt i gynghorau gydweithio gan gyfeirio at yr enghraifft o Gyngor Tref Llanfyllin yn cytuno ar gyfraniadau ariannol gan gynghorau cymuned cyfagos. |
|||||||||||||
Cwestiwn i Aelod Portffolio'r Cabinet dros Gyllid gan y Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe. PDF 60 KB Felcyngor mae’n rhaid i ni dalu trethi annomestig ar ein hadeiladau a than y rheolau presennol, ni allwn ninnau, yn ogystal â chynghorau tref a chymuned, wneud cais am ryddhad oddi wrth hyn ar ein heiddo: nid yw hyn yn berthnasol ond i elusennau a sefydliadau dielw. Bydd cyfraddau annomestig yn cael eu casglu ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r ffigyrau ar gyfer 2016/17 (eleni) yn awgrymu byddwn yn casglu £28.1m a byddwn yn derbyn swm ailddosbarthu o £40.5miliwn.
Mae un o’r trigolion wedi mynegi pryder ynghylch cynigion y cyngor i symud adeiladau i’r Cynghorau Tref a Chymuned, ac wedi gofyn am eglurhad ar y trethi annomestig.
Bydd y Cyngor Sir yn dod o hyd i arbedion yn y gyllideb ar gyfer costau rhedeg trwy symud y cyfraddau annomestig draw i’r Cynghorau Tref a Chymuned. Wrth iddo wneud hyn, bydd y Cyngor yn parhau i dderbyn ailddosbarthiad yr arian oddi wrth Lywodraeth Cymru, a fydd yn dangos bod llinell arall yn y gyllideb yn cael ei gynorthwyo. Mae hyn yn arwain at ganfyddiad bod CSP yn derbyn 2 linell arbedion o fewn y gyllideb.
Mae hyn ar draul cymunedau lleol y mae disgwyl iddyn nhw ariannu’r cyfraddau annomestig trwy eu praeseptiau cyngor tref neu gymuned. Dyma sy’n gyfrifol am y canfyddiad bod cymunedau lleol sy’n gofalu am wasanaethau cymunedol mewn ardaloedd gwledig yn cael eu trethu ddwywaith gan fod yn rhaid iddynt dalu treth y cyngor a’r dreth gymunedol. Mae hyn yn digwydd pan fydd y Cyngor yn canoli gwasanaethau, er enghraifft gwasanaethau Llyfrgell ac ati, ym mhrif drefi ein sir, gan ofyn i’w cynghorau cymuned gyfrannu, a gadael y cyfan i’r cymunedau llai.
A wnaiff yr aelod portffolio esbonio i’r cyngor sut y bwriada’r cyngor gynorthwyo cymunedau sydd am ofalu am wasanaethau sy’n destun cyfraddau Annomestig? Cofnodion: Fel cyngor rydym yn gorfod talu ardrethi annomestig ar ein hadeiladau ac o dan y rheolau presennol nid ydym, yn yr un modd â chynghorau tref a chymuned, yn gallu gwneud cais am ryddhad ardrethi ar ein heiddo: mae hyn yn berthnasol i elusennau a sefydliadau dielw yn unig. Cesglir ardrethi annomestig ar ran Llywodraeth Cymru. Y ffigyrau ar gyfer 2016/17 (y flwyddyn gyfredol) yw y byddwn yn casglu £28.1 miliwn ac yn derbyn swm ailddosbarthu o £40.5 miliwn.
Mae preswylydd wedi dod i gysylltiad â fi gan godi pryderon am gynigion y cyngor i drosglwyddo adeiladau i gynghorau tref a chymuned ac mae wedi gofyn am eglurhad yngl?n â’r ardrethi annomestig.
Bydd y Cyngor Sir yn nodi arbedion yn y llinell wariant ar gyfer costau rhedeg drwy symud yr ardrethi annomestig drosodd i gynghorau tref a chymuned. Wrth wneud hyn, mae’r Cyngor yn dal i dderbyn ailddosbarthiad o’r gronfa gan Lywodraeth Cymru ac felly bydd ganddo linell wariant arall sy’n derbyn cymorth gan roi’r argraff bod gan CSP ddwy linell arbedion o fewn y gyllideb.
Mae hyn ar draul cymunedau lleol y disgwylir iddynt ariannu’r ardrethi annomestig drwy braesept eu cynghorau tref neu gymuned. O ganlyniad, crëir yr argraff bod cymunedau lleol sy’n cymryd drosodd wasanaethau lleol mewn ardaloedd gwledig yn cael eu trethu ddwywaith gan eu bod yn gorfod talu’r dreth gyngor a’r dreth gymuned – dyma sy’n digwydd pan fydd y Cyngor yn canoli gwasanaethau i brif drefi ein sir megis gwasanaethau llyfrgell ac yn y blaen heb ofyn i’w cynghorau cymuned gyfrannu gan adael i’r cymunedau llai wneud hynny.
A all Deiliad y Portffolio friffio’r Cyngor yngl?n â sut gallai’r Cyngor gynorthwyo cymunedau sy’n dymuno cymryd drosodd wasanaethau sy’n ddarostyngedig i ardrethi annomestig?
Ateb gan y Cynghorydd Sir Wynne Jones, Deiliad y Portffolio Cyllid Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw gosod ardrethi annomestig yng Nghymru. Y cynghorau sir sy’n casglu’r ardrethi annomestig yn eu hardaloedd ar ran Llywodraeth Cymru ac ar ôl hynny mae cyfran o’r ardrethi’n cael ei hailddosbarthu i’r awdurdodau lleol fel elfen o’r setliad ariannu blynyddol. Ym Mhowys ar hyn o bryd rydym yn casglu £28.1 miliwn gan dderbyn fel rhan o’r ailddosbarthiad £40.5 miliwn yn ôl o fewn ein setliad sy’n golygu mai ‘enillydd net’ sylweddol yw Cyngor Sir Powys o dan y system gyfredol.
Rydym wedi trosglwyddo nifer o adeiladau i sefydliadau megis ymddiriedolaethau lleol neu sefydliadau elusennol ac oherwydd eu statws dielw mae’r sefydliadau hyn yn gymwys i dderbyn rhyddhad ardrethi annomestig. Mae hyn yn golygu nad cost y mae’n rhaid iddynt ei thalu mo hon. Enghraifft dda o adeiladau o’r fath yw’r holl ganolfannau cymunedol sydd wedi’u trosglwyddo o dan y polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol.
Fodd bynnag, awdurdodau sy’n codi praesept yw cynghorau tref a chymuned ac felly nid ydynt yn gymwys i dderbyn rhyddhad ardrethi annomestig. O ganlyniad, rhaid i’r costau ardrethi (a chostau perthnasol eraill) gael eu cyfrif wrth ystyried trosglwyddiad eiddo posibl. Mae’r adeiladau hyn, sydd yn aml yn cynnig gwerth cyfalaf sylweddol, gan amlaf yn ... view the full Cofnodion text for item CC25- 2017f |
|||||||||||||
A wnaiff yr Aelodau Portffolio dros Wasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant ddarparu manylion ynghylch lefel statudol y trefniadau staffio y tu allan i oriau, a’r patrymau staffio y mae CSP yn eu defnyddio y tu allan i oriau arferol; a darparu gwybodaeth sy’n esbonio a fu unrhyw adegau yn ystod y 12 mis diwethaf pan mae’r lefelau staffio hynny wedi bod disgyn islaw lefelau statudol neu ddiogel?
Cofnodion: A allai Deiliaid y Portffolios Gwasanaethau i Oedolion a Phlant ddarparu manylion yngl?n â lefel statudol niferoedd staff y tu allan i oriau a’r patrymau staffio a ddefnyddir gan CSP y tu allan i oriau; a rhoi gwybod a fu unrhyw achlysuron dros y 12 mis diwethaf pan oedd niferoedd y staff wedi disgyn islaw lefelau statudol neu ddiogel?
Ateb gan y Cynghorydd Sir Graham Brown, Deiliad y Portffolio Gwasanaethau Plant a’r Cynghorydd Sir Stephen Hayes, Deiliad y Portffolio Gofal Cymdeithasol i Oedolion Mae gan Gyngor Sir Powys ddyletswydd statudol i ddarparu Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau; fodd bynnag, nid oes gofyniad statudol penodedig mewn cysylltiad â chapasiti’r gwasanaeth hwnnw heblaw y byddai angen i’r Cyngor fedru diwallu’r angen lleol. Gall defnyddwyr y gwasanaeth, aelodau o’r cyhoedd a chynrychiolwyr asiantaethau eraill gysylltu â’r Tîm Dyletswydd Argyfwng drwy Linell Ofal Cyngor Sir Powys rhwng:
· 4.45yp a 8.30yb ar ddydd Llun tan ddydd Iau · 4.15yp a 8.30yb ar ddydd Gwener · 8.30yb tan 8.30yb ar ddydd Sadwrn, Sul a Gwyliau Banc
Mae pob sifft yn cael ei staffio gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol cymeradwy/gweithwyr cymdeithasol, y naill dros ogledd a’r llall dros dde’r sir. Bydd gweithwyr yn cyflenwi dros ei gilydd fel bo angen, yn ôl y galw/blaenoriaethau mewn unrhyw sifft benodol. Os bydd angen cymorth ychwanegol, at ei gilydd ceir hyd iddo o fewn y tîm presennol neu os bydd angen adnoddau ychwanegol ar gyfer tasgau neu weithgareddau cynlluniedig penodol na fyddent fel arfer yn syrthio i gylch gorchwyl y Tîm Dyletswydd Argyfwng eid ati i gael hyd i’r adnodd dan sylw yn rhywle arall. Pe bai achos lle bydd gweithwyr y Tim Dyletswydd Argyfwng yn ystyried nad oes gan y gwasanaeth y capasiti angenrheidiol ar unrhyw adeg benodedig ac mae risg wedi’i hadnabod i ddarparu’r gwasanaeth, byddai hyn yn cael ei uwchgyfeirio’n syth at Bennaeth y Gwasanaeth/Uwch Reolwyr (Plant ac Oedolion) sydd ar alw am gyngor a chefnogaeth y tu allan i oriau ar rota.
Nid yw’r gwasanaeth wedi profi unrhyw achosion yn ystod y 12 mis diwethaf lle ystyrid na fedrodd ddarparu yn unol â’r gofynion o ganlyniad i wasanaeth anniogel.
Dywedodd Deiliad y Portffolio y byddai’n trefnu i ateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Bowker yngl?n â beth oedd yn cael ei wneud i wella gofal y tu allan i oriau o ganlyniad i integreiddio â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac a yw Iechyd a Gofal Cymdeithasol eisoes yn cydweithio ar wasanaethau y tu allan i oriau gael ei ddrafftio a’i gylchredeg i aelodau.
|
|||||||||||||
Question to the Leader from County Councillor Gwynfor Thomas PDF 62 KB In June 2014 a report was commissioned by the education department into secondary school financial viability. This report was compiled by PWC. Appendix 1 – Individual school commentary – contains tables outlining specific financial information on each school from 2011/12 through to 2017/18. There is a clear line showing transport costs and the use of school budget by each school in providing transport for pupils attending the school. It is very clear what each school was currently and predicted to spend their budgets on. As Leader you read and understood this report I am sure. With the appendix outlining how school budgets were being used by each school on transport why did you not raise concerns about Llanfyllin High schools use of their budget on school transport post 2011/2012 - post full implementation of Regulation 5.2?
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ym mis Mehefin 2014, comisiynwyd adroddiad gan yr adran addysg i hyfywdra ariannol ysgolion uwchradd. Cwblhawyd yr adroddiad hwn gan PWC. Atodiad 1 – sylwebaeth ar ysgolion unigol – yn cynnwys tablau sy’n amlinellu gwybodaeth ariannol benodol am bob ysgol o 2011/12 drwodd i 2017/18. Ceir llinell glir yn dangos costau trafnidiaeth a’r defnydd o gyllideb yr ysgol gan bob ysgol wrth ddarparu trafnidiaeth i ddisgyblion sy’n ei mynychu. Mae’r hyn oedd pob ysgol yn gwario’i chyllideb arno ar y pryd a’r hyn a ragwelid iddi wario’i chyllideb arno’n glir iawn. Fel Arweinydd darllenoch yr adroddiad hwn a’i ddeall, mae’n si?r gen i. Gyda’r atodiad yn amlinellu sut roedd cyllidebau ysgolion yn cael eu defnyddio gan bob ysgol ar drafnidiaeth pam na wnaethoch chi godi pryderon am ddefnydd Ysgol Uwchradd Llanfyllin o’u cyllideb ar drafnidiaeth ysgol ar ôl 2011/2012 – ar ôl i Reoliad 5.2 gael ei weithredu’n llawn?
Ateb gan Arweinydd y Cyngor 19 Hydref 2016 Yng ngoleuni materion a godwyd yng Ngwrandawiadau Apêl Llywodraethwyr yr AALl mewn cysylltiad ag adroddiad PWC, dw i wedi trefnu i Mr Jonathan Walters, yr Ymchwilydd Annibynnol, ystyried perthnasedd (os o gwbl) adroddiad PWC i’w ymchwiliad. O dan yr amgylchiadau, nid wyf yn ystyried ei bod yn briodol darparu ymateb i’ch cwestiwn i chi tan ba amser bynnag y daw ffrwyth ymchwiliadau Mr Walters i law. Mi drefnaf i’ch cwestiwn gael ei ymgorffori yn yr Agenda ar gyfer Cyfarfod Llawn cyntaf y Cyngor ar ôl i’r adroddiad pellach gan Mr Walters fod ar gael.
Ateb gan Arweinydd y Cyngor 23 Chwefror 2017 Derbyniais yr adroddiad, fel yr holl Gynghorwyr Sir eraill, drwy e-bost ym mis Hydref 2014. Er gwybodaeth roedd hwn.
Rwyf yn atodi copi o dudalen 23 adroddiad PWC sy’n nodi:-
“Mae trafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol i bob disgybl yn cael ei hariannu’n uniongyrchol gan y Cyngor, gydag ysgolion yn ariannu trafnidiaeth ar gyfer teithiau addysgol ac allgyrsiol yr ysgol yn unig. Fodd bynnag, ceir anghysondeb o ran adennill costau teithiau ysgol ymhlith yr ysgolion. Nid yw rhai ysgolion yn codi tâl ar ddisgyblion tra bydd eraill yn gofyn am gyfraniadau”.
Yr adeg honno, nid oeddwn yn amgyffred goblygiadau’r llinell yn adroddiad PWC yn dangos cynnydd yng nghostau trafnidiaeth Ysgol Uwchradd Llanfyllin. Mae’r adroddiad gan Jonathan Walters yn casglu na chodwyd ar y mater gan neb ar y pryd, nid hyd yn oed gennych chi’ch hun na chan Lywodraethwyr eraill yr AALl yn yr ysgol. Ar ben hynny, ni ddaethoch chi na Llywodraethwyr eraill yr AALl yn ymwybodol o arwyddocâd posibl adroddiad PWC tan ar ôl dyddiad ei adroddiad cyntaf, er gwaetha’r ffaith eich bod chi a’ch cyd-lywodraethwyr AALl yn llwyr ymwybodol bod rheoliad 5.2 wedi’i dorri.
I ateb eich cwestiynau’n uniongyrchol, ni chodais bryderon am ddefnydd Ysgol Uwchradd Llanfyllin o’i chyllideb ar gyfer trafnidiaeth ysgol oherwydd nad oeddwn i, fel pawb arall, yn amgyffred arwyddocâd posibl adroddiad PWC nes iddo gael ei dynnu i’m sylw yng ngwrandawiad apêl Llywodraethwyr yr AALl. Beth bynnag, roedd adroddiad PWC yn edrych ar ... view the full Cofnodion text for item CC25- 2017h |