Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Sir MC Alexander, D Bailey, GJ Bowker, MJB Davies, DJ Mayor a JG Shearer.
|
|||||||||||||
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Awdurdodwyd y Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2016 yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn gysylltiedig ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. Cofnodion: Ni chafwyd gwybod am unrhyw ddatganiadau o fudd.
|
|||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd |
|||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar gyfer Adfywio a Chynllunio gan Dr Christine Hugh-Jones PDF 99 KB A allith yr Aelod Portffolio dynodi’r paragraff penodol o fewn Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 9) neu’r prif newid mewn amgylchiadau lleol sy’n gofyn am ddiffiniad o ardaloedd chwilio lleol ac yn sgil hynny yn darparu cyfiawnhad o ddynodiad yr Awdurdod o’r “Ardaloedd Chwilio Lleol” fel Newid Penodol Ychwanegol mor hwyr yn y broses archwilio?
Cofnodion: Croesawaf y cyfle i gyflwyno cwestiwn i’r Cynghorydd Sir Tony Thomas, Aelod Portffolio Adfywio a Chynllunio, ar gyfer cyfarfod y Cyngor ar 26 Ionawr 2017:
Dyma fy nghwestiwn:
A yw e’n gallu nodi’r union baragraff ym Mholisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 9) neu’r newid sylweddol yn yr amgylchiadau lleol sy’n golygu bod gofyn cael ardaloedd chwilio lleol, ac felly’n cadarnhau dynodiad yr Awdurdod o “Ardaloedd Chwilio Lleol” fel “Newid Penodol Ychwanegol” mor hwyr yn y broses archwilio?
Ymateb yr Aelod Portffolio Mae Polisi Cynllunio Cymru’n manylu ar bolisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru. Mae’n ei gwneud yn eglur bod Nodiadau Cyngor Technegol, cylchlythyrau a llythyron (Paragraff 1.1.1, PCC) yn egluro polisi yn ategu PCC http://gov.wales/docs/desh/publications/161117planning-policy-wales-edition-9-cy.pdf Mae Adran 12.8 PPW yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy a charbon isel, ac mae’n datgan: Paragraff 12.8.2: “Dylai polisïau cynllunio ar bob lefel hwyluso cyflawni’r uchelgais a fynegir yn Ynni Cymru: Newid Carbon Isel a thargedau’r DU ac Ewrop ar ynni adnewyddadwy.” Paragraff 12.8.8: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio’r system gynllunio i: · sicrhau bod cymaint â phosibl o ynni adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu; sicrhau bod cymaint â phosibl o ynni carbon isel yn cael ei gynhyrchu, ac yn y blaen.” Paragraff 12.8.9: Dylai awdurdodau cynllunio lleol hwyluso datblygu pob math o ynni adnewyddadwy a charbon isel er mwyn symud tuag at economi carbon isel (gweler 4.4.2) i helpu i fynd i’r afael â’r ffactorau sy’n achosi’r newid yn yr hinsawdd (gweler 4.7.3). Yn benodol, dylent wneud darpariaeth gadarnhaol ar gyfer datblygiadau o’r fath drwy: · ystyried y cyfraniad y gall eu hardal ei wneud tuag at ddatblygu a hwyluso ynni adnewyddadwy a charbon isel, a sicrhau bod polisïau cynlluniau datblygu yn helpu i gyflawni’r cyfraniad hwnnw”
Er bod PCC yn cyfeirio at Ardaloedd Chwilio Strategol, mae’n cyfeirio at bolisi lleol (h.y. polisi LDP) ond nid yw’n cyfeirio’n benodol at ‘ardaloedd chwlio lleol’. Fodd bynnag, mae llythyron sy’n egluro’r polisi yn ategu PCC, a chyhoeddwyd llythyr gan y Gweinidog Adnoddau Naturiol dyddiedig 10 Rhagfyr 2015 at yr holl awdurdodau cynllunio lleol ynghylch ei ddisgwyliadau o ran polisïau ynni mewn cynlluniau datblygu leol. http://gov.wales/docs/desh/publications/151210energy-policies-in-local-development-plans-en.pdf Ysgrifennodd y Gweinidog (rhan o ddyfyniad):
“Ers cyhoeddi 'Ynni Adnewyddadwy Pecyn Cymorth ar gyfer Cynllunwyr' yn 2010, rwy'n falch o ddweud bod nifer o awdurdodau cynllunio lleol wedi cynnal Asesiadau Ynni Adnewyddadwy wrth gasglu tystiolaeth er mwyn llunio’r Cynlluniau Datblygu Lleol. Fodd bynnag mae'n siomedig gweld nad oes unrhyw un o'r Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru wedi cymryd canlyniadau'r Asesiadau Ynni Adnewyddadwy a llunio Polisïau lleol (gan gynnwys dyraniadau neu ardaloedd chwilio) ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy neu dechnolegau carbon isel ar raddfa awdurdod lleol (5MW - 25MW).
Byddai dynodi ardaloedd o'r fath yn dangos arweiniad ar lefel leol; yn rhoi sicrwydd i'r diwydiant ynni adnewyddadwy fedru gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi; a, drwy broses ymgynghori'r Cynllun Datblygu Lleol byddai'n rhoi llais i gymunedau o safbwynt lleoli datblygiadau ynni adnewyddadwy. Drwy ddynodi'r ardaloedd hyn, gellir llywio datblygiadau i'r lleoliadau mwyaf priodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dilyn y dull ... view the full Cofnodion text for item CC4- 2017a |
|||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd fanylion rhai o’r digwyddiadau a fynychodd ers y cyfarfod diwethaf. Cyfeiriodd at yr achlysur Gwobrwyo Staff a oedd wedi bod yn noson lwyddiannus iawn ac yn gyfle i gydnabod gwaith y staff. Dywedodd iddo dderbyn deiseb oddi wrth y Cynghorydd Sir Viola Evans cyn y cyfarfod, yngl?n â Chanolfan Hamdden Caereinion.
|
|||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. Cofnodion: Croesawodd yr Arweinydd gynnwys cwestiynau gan y cyhoedd ar agenda’r Cyngor. Dywedodd fod y gyllideb wrthi’n cael ei dwyn i drefn a diolchodd i’r trigolion am gymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori. Roedd y gyllideb refeniw dan bwysau enfawr ac roedd y gyllideb cyfalaf yn gallu manteisio ar gyfraddau llog isel wrth fenthyg. Roedd achosion busnes prosiectau ysgolion yn Aberhonddu, Gwernyfed, Bro Hyddgen ac ysgol gynradd y Trallwng wedi’u cymeradwyo, sef cyfanswm buddsoddiad o £60m. Ar 8 Mawrth byddai’r Cyngerdd yn croesawu digwyddiad gyrfaoedd ar faes y Sioe Frenhinol. Yn olaf, talodd yr Arweinydd deyrnged i Avril York am ei gwaith fel aelod o’r Cabinet a dymunodd yn dda iddi ar gyfer y dyfodol.
|
|||||||||||||
Briff gan y Prif Weithredwr Derbyn briff y Prif Weithredwr. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod fod Taith Prydain wedi dod â 40,000 o ymwelwyr ychwanegol i’r sir, a £500,000 i’r economi lleol. Atgoffodd yr Aelodau fod Carol Shillabeer wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl a Philip Hodgeson yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau Dros Dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol o 1 Ionawr. Roedd y Prif Weithredwr am gofnodi ei ddiolch i’r staff a oedd wedi mynd i gynorthwyo deiliad tai a ddioddefodd y llifogydd yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant o ganlyniad i bibell a oedd wedi torri. Yn olaf, dywedodd fod yr achos busnes ar gyfer 5 o ysgolion cynradd newydd wedi’i gymeradwyo gan Banel Cyfalaf Llywodraeth Cymru ac yn aros i gael ei gymeradwyo’n swyddogol gan Brif Weinidog Cymru.
|
|||||||||||||
Taliadau i Aelodau Cyfetholedig PDF 64 KB Ystyried adroddiad gan y Cyfreithiwr i’r Cyngor a’r Cyfarwyddwr Strategol – Adnoddau. Cofnodion:
Gofynnwyd i’r Cyngor ystyried symud y cyfyngiad o ran uchafswm nifer y dyddiau y gellid talu Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Archwilio. Gwasanaethodd fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, roedd yn aelod o’r Gr?p Craffu Archwilio Mewnol, y Panel Craffu Cyllid a gr?p craffu newydd a sefydlwyd i adolygu’r gorwariant mewn gofal cymdeithasol. Roedd effaith gronnus y llwyth gwaith yma wedi arwain at yr Aelod Annibynnol yn mynd dros yr uchafswm yr oedd y Cyngor yn ei ganiatáu, sef 25 diwrnod, ac roedd cyfarfodydd pellach tua diwedd tymor y Cyngor, wedi’i hamcangyfrif ar gost unwaith yn unig o £3,250. Wrth ystyried yr argymhelliad, fe nododd y Cyngor y cyfraniad gwerthfawr a gafodd ei wneud gan yr Aelod Annibynnol i waith y Pwyllgor Archwilio a’r grwp Craffu. Gofynnwyd i swyddogion wneud y defnydd gorau o amser aelodau trwy amserlennu’r cyfarfodydd yn effeithiol.
Pleidleisiwyd ar yr argymhelliad a phasiwyd o 46 pleidlais i 5 a neb yn ymateb.
|
|||||||||||||
Trefniadau ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Lleol 4 Mai 2017 PDF 58 KB Ystyried adroddiad gan y Cyfreithiwr i’r Cyngor. Cofnodion: Gofynnwyd i’r Cyngor sylwi mai trwy apwyntiad yn unig yn y byddai enwebiadau’n cael eu derbyn, yn Neuadd y Sir, Llandrindod, Neuadd Maldwyn, Y Trallwng a Neuadd Brycheiniog, Aberhonddu ar ddyddiau penodol. Pleidleisiwyd ar yr argymhelliad, a phasiwyd y cynnig o 57 i 0 gyda 2 yn ymatal.
|
|||||||||||||
Rhaglen Waith y Cyngor ar gyfer y dyfodol yn 2017 PDF 51 KB Derbyn rhaglen waith y Cyngor ar gyfer y dyfodol yn 2017, er gwybodaeth. Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor fanylion ei flaenraglen waith o 2017 ymlaen. Tynnodd yr Aelod Portffolio â chyfrifoldeb am Gyllid sylw at un cywiriad, gan ddweud y byddair bleidlais i osod Treth y Cyngor yn cael ei chynnal ar 23 Chwefror, pan fyddai’r Cyngor yn penderfynu ar y gyllideb, ac nid 7 Mawrth, fel yr argraffwyd. Bydd cyfarfod y Cyngor ar 7 Mawrth yn gosod rhestrau Treth y Cyngor ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned.
|
|||||||||||||
Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad |
|||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio, Adeiladau a Thai gan y Cynghorydd Sir Huw Williams PDF 58 KB Mewn datganiad newyddion gan Gyngor Sir Powys, dyddiedig 24 Tachwedd 2016, dywedwyd bod ‘y Cyngor wrthi’n ystyried prynu Ty Ladywell, yn y Drenewydd, fel rhan o strategaeth gyffredinol i leihau nifer yr adeiladau y mae’n berchen arnynt ….’. Mae’r datganiad yn parhau trwy ddweud ‘mae prynu Ty Ladywell yn rhan o gynlluniau strategol tymor hir y Cyngor, a bydd yn caniatau i ni leihau nifer ein hadeiladau yn yr ardal yn sylweddol.’ Fel rhan o’r cynllun busnes, pa adeiladau eraill yn benodol sydd wedi cael eu dynodi ac sydd wedi’u hystyried fel rhai y gellir eu gwerthu ‘i leihau nifer yr adeiladau’? Bydd prynu Ty Ladywell, yn ol y datganiad newyddion hefyd yn galluogi’r Cyngor i ‘leihauei gostau refeniw trwy adael adeiladau eraill, gyda’r posibilrwydd o dderbyniadau cyfalaf sylweddol trwy werthu rhai o’r adeiladau segur yn yr ardal yn y dyfodol’. A yw’r adeiladau ‘eraill’ hyn sydd heb eu nodi wedi’u lleoli yn y Drenewydd a/neu ydynt ymhellach i ffwrdd? A yw prynu Ty Ladywell yn ddibynnol ar dderbyniadau cyfalaf o werthu’r ‘adeiladau eraill’, neu a yw hyn yn fater o ddyheuad ac rhywbeth ar wahan?
Cofnodion: Mewn datganiad newyddion Cyngor Sir Powys, dyddiedig 24 Tachwedd 2016, datganwyd bod ‘y Cyngor yn ystyried prynu T? Ladywell, Y Drenewydd fel rhan o strategaeth gyffredinol i leihau ei berchnogaeth ar adeiladau …’. Â’r datganiad newyddion yn ei flaen i ddweud ‘mae prynu T? Ladywell yn rhan o strategaeth tymor hir i leihau ein perchnogaeth ar adeiladau a lleihau nifer yr adeiladau yn yr ardal.’ Fel rhan o’r cynllun busnes, yn benodol pa adeiladau eraill sydd wedi’u clustnodi a’u hystyried i’w gwaredu ‘er mwyn lleihau ein perchnogaeth ar adeiladau? Bydd y pryniant yma, yn ôl y datganiad newyddion, hefyd yn galluogi’r Cyngor i leihau ei gostau refeniw sylweddol trwy wacáu eraill gyda’r potensial o gyfalaf yn sgil gwerthu rhai adeiladau segur yn y dyfodol? Ai yn y Drenewydd ynteu yn bellach i ffwrdd mae’r adeiladau ‘eraill’ anhysbys yma? A yw prynu T? Ladywell â chyfalaf yn digwydd o ganlyniad i werthu’r ‘adeiladau eraill’ hyn, ynteu a yw hyn yn ymgeisiol ac yn fater ar wahân?
Mewn ymateb i’ch cwestiwn, yn y cam cynnar yma o brosiect rhesymoli swyddfeydd y Cyngor, nid ydym wedi clustnodi unrhyw adeiladau penodol i’w cau. Fodd bynnag, mae angen i’r Cyngor leihau ei gostau a chynyddu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ei ddefnydd o swyddfeydd. Yn y dyfodol, mae’n debyg mai dod o hyd i eiddo a allai fod yn ychwanegol at anghenion y Cyngor (efallai oherwydd bod angen eu moderneiddio, neu y tu hwnt i waith atgyweirio rhesymol, neu efallai oherwydd nad ydym erbyn hyn yn cyflenwi’n gwasanaethau mewn modd sy’n golygu bod angen y lleoliadau hyn arnom) yn un ffordd o gyrraedd y nod. Nid yw prynu T? Ladywell yn uniongyrchol ddibynnol ar dderbyn cyfalaf o werthiannau safleoedd eraill (na wyddys beth fyddant hyd yma).
Cwestiwn atodol y Cynghorydd Williams oedd gofyn sut allai’r Cyngor gyfiawnhau prynu’r adeilad pan roedd cymunedau’n gorfod ymladd cau gwasanaethau yn eu hardaloedd hwy, ac a oedd arolwg o’i gyflwr wedi’i wneud, a beth oedd wedi’i ddatgelu yn hwnnw.
Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio fod arolwg o’r cyflwr wedi’i gynnal. Roedd yr eiddo’n cael ei brynu gyda thenant eisoes, felly byddai incwm rent sylweddol arg gael. Nid oedd unrhyw benderfyniad wedi’i wneud ar sut y byddai’r Cyngor yn defnyddio’r adeilad, ond gellid ei ddefnyddio i adleoli staff o adeiladau eraill. Roedd gan y Cyngor sawl eiddo a llawer ohonyn nhw heb fod mewn cyflwr da. Roedd y Bwrdd Asedau Strategol yn edrych ar y rhain. Roedd cyfarfodydd STAMP yn cael eu cynnal mewn mannau ar hyd a lled y Sir ac anogodd yr Aelod Portffolio'r Cynghorwyr i fynychu a rhoi’u barn ar adeiladau ac eiddo yn eu hardal. Roedd cyfalaf ar gyfer y prosiect wedi’u neilltuo yng nghyllideb y flwyddyn flaenorol. Dywedodd yr Aelod Portffolio â chyfrifoldeb am Gyllid fod y cyfalaf yn rhad ei fenthyg a phan roedd achos busnes cryf dros wneud hynny, roedd y Cabinet yn barod i wario cyfalaf er mwyn dod â refeniw i mewn.
|
|||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar gyfer Adnoddau Dynol gan y Cynghorydd Sir Graham Jones PDF 56 KB A allwch chi ddweud wrtha’ i nifer y gweithwyr llawn amser a rhan amser a gyflogwyd gan Gyngor Sir Powys yn y blynyddoedd ariannol 2013-2014, 2014-2015 a 2015-2016?
Cofnodion:
Allwch chi ddweud wrtha’ i os gwelwch yn dda beth oedd nifer y gweithwyr amser llawn a rhan-amser a gyflogodd Cyngor Sir Powys ym mlynyddoedd ariannol 2013-2014, 2014-2015 a 2015-2016?
Mae hyn gyfwerth â 1160 swydd neu leihad o 13% mewn swyddi amser llawn a lleihad o 16% mewn swyddi rhan-amser dros y cyfnod o 3 blynedd.
Mewn ateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Jones am gostau diswyddo gweithwyr, cytunodd yr Aelod Portffolio â chyfrifoldeb am Adnoddau Dynol ddarparu’r ffigyrau i’r aelodau.
|
|||||||||||||
Eitemau wedi'u Heithrio Mae'r SwyddogMonitro wedi penderfynu bod Categori 3, Rheolau Mynediad at Wybodaeth, yn berthnasol i'r eitem canlynol. Ei farn ar brawf lles y cyhoedd, (wedi ystyried darpariaethau Rheol 11.8 Rheolau Mynediad at Wybodaeth y cyngor) oedd y byddai gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus yn datgelu gwybodaeth yn gysylltiedig a materion ariannol neu fusnes unrhyw unigolyn penodol (yn cynnwys yr awdurdod yn cynnal y wybodaeth honno).
Mae’rffactorau hyn yn ei farn ef yn gorbwyso diddordeb y cyhoedd wrth ddatgelu’r wybodaeth. Gofynniri Aelodau ystyried y ffactorau hyn wrth benderfynu ar brawf lles y cyhoedd, a dylent benderfynu hyn wrth iddynt ystyried eithrio'r cyhoedd o'r rhan hon o'r cyfarfod. Cofnodion: PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd am y eitem nesaf ar yr agenda ar y sail y byddent yn datgelu gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan gategori 3 Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Mynediad at Wybodaeth) (Cymru) 2007.
Gadawodd y Cynghorydd Sir GR Price y cyfarfod am 11.07 a.m.
|
|||||||||||||
Canolfan Ddiwylliannol Aberhonddu - Cais am Drosglwyddiadau Ystyried adroddiad ar sefyllfa’r gyllideb ar gyfer y Canolfan Ddiwylliannol Aberhonddu a chaniatad i osod y prif gytundeb. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i argymhelliad y Cabinet am swm ychwanegol i’w roi yn y gyllideb ar gyfer Canolfan Ddiwylliannol Aberhonddu i fynd i’r afael â diffyg yn y cyllid ar gyfer y prosiect. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y costau ychwanegol a oedd wedi arwain at y diffyg yn y gyllideb ac atebodd yr Aelodau Portffolio a’r swyddogion gwestiynau’r Aelodau. Cadarnhaodd y Swyddog Adran 151 bod bwriad i gyllido’r diffyg trwy fenthyg darbodus.
Holodd Aeloda oni ellid fod wedi rhagweld rhai o’r costau ychwanegol gan eu bod wedi’u codi gan y Pwyllgor Craffu lle fis Rhagfyr 2015. Roedd Aelodau eraill yn feirniadol o’r modd y cafodd y prosiect ei reoli, gan nodi mai dim ond yn ddiweddar yr oedd y Cabinet wedi cael ei gynrychioli ar y bwrdd prosiect, a galwyd ar y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Craffu Lle i gymryd rhan yn y dasg o ymchwilio i’r costau ychwanegol.
Nododd nifer o Aelodau fod hyn yn brosiect adfywio pwysig i’r ardal a phe na byddai’r Cyngor yn cytuno i’r trosglwyddiad cyllid, byddai’r opsiynau eraill yn golygu costau sylweddol a fyddai’n fwy na’r diffyg ariannol ei hun.
Gadawodd y Cynghorydd Sir G Morgan y cyfarfod am 11.47 a.m.
Cynigiwyd yr argymhelliad isod gan yr Arweinydd, a’i eilio gan y Cynghorydd Sir TJ Van Rees. Pasiwyd y cynnig o 46 pleidlais i 11, gyda 3 yn ymatal.
|