Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Sir R G Brown, L Fitzpatrick, D Mayor, K M Roberts-Jones, J G Shearer, K S Silk, S L Williams ac E A York
|
|||||
I awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2016 fel cofnod cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Awdurdodwyd y Cadeirydd i arwyddo cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2016 fel cofnod cywir.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’r atebion i’r cwestiynau atodol a ddarperir wedi’r cyfarfod yn cael eu hychwanegu at y cofnodion.
|
|||||
Datganiadau o Ddiddordeb I dderbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau mewn perthynas ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda.
Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Sir Francesca Jump ddatgan diddordeb personol heb fod yn ariannol yn eitem CC101 – 2016 – Addysg Gynradd yn nhref Y Trallwng fel llywodraethwr a benodir gan yr AALl yn Ysgol Fabanod yr Eglwys yng Nghymru Gungrog.
Fe wnaeth y Cynghorydd Sir David Jones ddatgan diddordeb personol heb fod yn ariannol yn eitem CC101 – 2016 – Addysg Gynradd yn nhref Y Trallwng fel llywodraethwr a benodir gan yr AALl yn Ysgol G G Cegidfa.
Fe wnaeth y Cynghorydd Sir Timothy Van-Rees ddatgan diddordeb personol heb fod yn ariannol yn eitem CC104 - 2016 - Barics Aberhonddu fel Cadeirydd Gweithredol Ymddiriedolwyr Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol.
|
|||||
Galw penderfyniad yr Aelod Portffolio a wnaed ar 13 Hydref 2016 ar brisiau parcio. PDF 79 KB I ystyried adroddiad gan Gyfreithiwr y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Esboniodd Cyfreithiwr y Cyngor fod penderfyniad yr Aelod Portffolio Priffyrdd i wneud Gorchymyn Rheoli Traffig i gyflwyno taliadau parcio ceir mewn nifer o safleoedd wedi cael ei alw i mewn gan 5 o aelodau’r Pwyllgor Craffu Lle. Roedd Cyfreithiwr y Cyngor a’r Swyddog Adran 151 wedi cytuno fod anghysonderau gweithredol gyda’r broses gwneud penderfyniadau oherwydd nad oedd unrhyw asesiad effaith wedi’i lunio gan arwain felly at barhau gyda’r broses o alw’r penderfyniad i mewn. Roedd y penderfyniad wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Lle a oedd wedi penderfynu y dylid cyfeirio’r mater at y Cyngor llawn.
Siaradodd nifer o Aelodau yn erbyn cyflwyno taliadau parcio ceir yn eu trefi a’u cymunedau. Roedd rhai wedi codi pryderon penodol o ran meysydd parcio yn eu cymunedau ac wedi beirniadu’r diffyg asesiadau effaith. Dadleuodd nifer o Gynghorwyr y dylid naill ai trosglwyddo meysydd parcio i Gynghorau Tref a Chymuned i’w rhedeg neu y dylent dderbyn cyfran o’r incwm. Roedd Aelodau eraill yn bryderus y dylid peidio â gwneud yn iawn am unrhyw ddiffyg mewn incwm trwy gynyddu taliadau mewn meysydd parcio lle’r oedd taliadau eisoes.
Fe wnaeth yr Aelod Portffolio Cyllid atgoffa Aelodau fod y cynigion i gynyddu incwm gan £30,000 trwy feysydd parcio yn rhan o’r gyllideb a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Chwefror 2015. Petai’r taliadau ddim yn cael eu codi, byddai angen eu canfod o rywle arall ac fe atgoffodd y Cyngor fod rhaid i’r Gwasanaeth Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu ganfod £5 miliwn o gynilion. Dywedodd yr Aelod Portffolio mai ei fwriad oedd y dylid cyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet a dan yr amgylchiadau hynny, fe wnaeth Cyfreithiwr y Cyngor gynghori’r Cabinet i ymatal rhag pleidleisio.
Fe wnaeth y Cynghorydd Curry adael y cyfarfod am 11.40. Ymunodd y Cynghorydd George â’r cyfarfod am 11.50.
Fe wnaeth y Cynghorydd Sir Gary Price gynnig
1. Y dylai’r Cyngor llawn gyfeirio’r penderfyniad yn ôl i’r Cabinet.
2. Mewn polisi o degwch a chydraddoldeb y dylai’r Cabinet roi ei gynigion ar daliadau parcio ceir a wnaed ar y 9 Medi 2015 o’r neilltu a chynnal arolwg llawn o’r holl feysydd parcio a thaliadau parcio o fewn y Sir mewn ymgynghoriad llawn â’r Cynghorau Tref a Chymuned.
Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Garry Banks.
Gohiriwyd y Cyngor o 12.00 – 12.30 er mwyn i’r grwpiau gwleidyddol ystyried y cynnig.
Rhoddwyd y cynnig cyntaf i’r bleidlais a chafodd ei basio gan 32 pleidlais i 0 gyda 3 Chynghorydd yn ymatal rhag pleidleisio.
PENDERFYNWYD y dylai’r Cyngor llawn gyfeirio’r penderfyniad yn ôl i’r Cabinet.
Rhoddwyd yr ail gynnig i’r bleidlais a chafodd ei golli gan 18 pleidlais i 20 gydag 1 Cynghorydd yn ymatal rhag pleidleisio.
Gadawodd y Cynghorwyr John Brunt, Sue McNicholas, Huw Williams y cyfarfod am 12.45 p.m. Gadawodd y Cynghorydd Bob Mills y cyfarfod am 12.51 p.m.
|
|||||
Addysg Gynradd Tref Y Trallwng PDF 119 KB I ystyried argymhellion yr Aelod Portffolio Addysg i’r Cabinet ar 22 Tachwedd mewn perthynas ag addysg gynradd yn Y Trallwng.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod Portffolio Addysg amlinelliad o’i argymhellion i’r Cabinet mewn perthynas ag addysg ysgolion cynradd yn Y Trallwng.
· Cynigir y dylid lleoli’r Ysgol cyfrwng Saesneg newydd ar dir yn Ysgol Uwchradd Y Trallwng. Bydd yr ysgol, fodd bynnag, yn gweithredu o’r safleoedd ysgol presennol sef Ysgol Maesydre, Ysgol Gungrog ac Ysgol Oldford ar sail dros dro cyn trosglwyddo yn y pen draw i’r adeilad newydd ar y cyfle cynharaf posibl; · Bydd yr Ysgol cyfrwng Cymraeg newydd a adeiladir yn cael ei lleoli ar safle Maesydre, ond bydd yn gweithredu o safle presennol Ysgol Ardwyn ar sail dros dro cyn trosglwyddo yn y pen draw i’r adeilad newydd; · Yr amserlen a ragwelir yw sefydlu’r ysgolion newydd o fis Medi 2017 cyn trosglwyddo i’r ddau adeilad ysgol newydd wrth eu hagor yn 2018/19; · Bydd y pedair ysgol bresennol yn Y Trallwng - Ysgol Feithrin a Babanod Ardwyn; Ysgol Feithrin a Babanod yr Eglwys yng Nghymru Gungrog; Ysgol Feithrin a Babanod Oldford ac Ysgol Maesydre yn cau o ddiwedd mis Awst 2017.
Mae 297 o ymatebion ysgrifenedig wedi’u derbyn yn ystod y cyfnod ymgynghori, Roedd 91% o’r staff (11) a ymatebodd yn cefnogi’r cynigion, 100% o’r llywodraethwyr (14), 84% o’r rhieni (63) a 55% (209) o’r ymatebwyr eraill. O’r rhain, daeth cyfran o’r ymatebion gan Gymdeithas Dyneiddwyr Cymru a oedd wedi annog eu cefnogwyr i wrthwynebu’r cynnig i’r ysgol gynradd cyfrwng Saesneg fod yn ysgol Eglwys yng Nghymru. Gan fod nifer o’r ymatebion yn ddienw, nid oedd hi’n glir faint ohonynt oedd yn dod o’r Trallwng neu Bowys a faint ddaeth o du allan i’r sir.
Siaradodd y Cynghorydd Sir Francesca Jump fel yr aelod lleol i ddweud ei bod yn cefnogi’r cynigion yn llwyr. Gofynnodd am ddarparu cludiant ychwanegol i ddisgyblion ac am fwy o wybodaeth ar wella llwybrau troed i’r ysgolion. Cytunodd y Pennaeth Ysgolion i drafod hyn gyda chydweithwyr i sicrhau llwybrau diogel a chludiant integredig.
Siaradodd y Cynghorydd Sir Phil Pritchard fel yr aelod lleol. Roedd yn llwyr gefnogi sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg newydd ond roedd yn bryderus am ambell agwedd o’r cynigion, sef y safleoedd a ddewiswyd yn bennaf a gofynnodd i’r Cabinet ymweld â’r safleoedd. Byddai’n well ganddo weld ysgol anenwadol yn cael ei chreu yn hytrach nag ysgol yr Eglwys yng Nghymru. Nododd y Pennaeth Ysgolion y byddai unrhyw newidiadau sylweddol i’r cynigion yn gofyn am ymgynghoriad newydd a chyflwyno achos busnes newydd.
Fe wnaeth y Cynghorydd Sir Myfanwy Alexander godi’r cwestiwn hefyd am enwad yr ysgol gan nodi fod nifer o deuluoedd Catholig o Ddwyrain Ewrop yn byw yn yr ardal. Gofynnodd a fyddai’n bosibl darparu cludiant am ddim iddynt i Ysgol Gatholig ai peidio. Cynghorodd y Pennaeth Ysgolion nad oedd y polisi cludiant yn darparu ar gyfer hyn ar hyn o bryd. Byddai’r polisi’n cael ei adolygu ond ni allai roi sicrwydd y byddai’n newid. Nododd hefyd fod ysgolion yr Eglwys yng Nghymru yn darparu’r un maes llafur addysg grefyddol ag ysgolion anenwadol eraill.
Mynegodd y Cynghorydd Sir Gary Price siom ... view the full Cofnodion text for item CC101- 2016 |
|||||
Adolygiad Etholaethau Seneddol 2018 PDF 62 KB I ystyried ymateb i Adolygiad Etholaethau Seneddol 2018.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i destun yr ymateb drafft i gynigion y Comisiwn Ffiniau ar gyfer etholaethau seneddol a gytunwyd gan arweinyddion y grwpiau gwleidyddol.
Fe wnaeth y Cynghorydd Sir Linda Corfield gynghori fod ei chymuned am gyflwyno gwrthwynebiad cryf i’r cynnig o gael eu cynnwys yn etholaeth De Clwyd a Gogledd Sir Drefaldwyn ac y byddai’n well ganddynt gael eu cynnwys yn etholaeth Brycheiniog, Maesyfed a Maldwyn. Cynigiodd y dylid diwygio’r ymateb i adlewyrchu hyn ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Gary Price.
Fe wnaeth y Cynghorydd Sir Gwilym Vaughan gynghori y byddai’n well ganddo weld etholaeth hanesyddol Sir Drefaldwyn yn cael ei chadw ond os nad oedd hyn yn opsiwn ar gyfer cymunedau Cadfarch, Glantwymyn, Llanbrynmair a Machynlleth, y dylid trosglwyddo i Wynedd yn hytrach na De Clwyd a Gogledd Sir Drefaldwyn. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Michael Williams.
Fe wnaeth y Cynghorydd Sir Gillian Thomas adael y cyfarfod am 1.58 p.m.
Pleidleisiodd y Cyngor ar gynnig y Cynghorydd Corfield gyda 27 pleidlais o blaid, 1 pleidlais yn erbyn a 3 Chynghorydd yn ymatal rhag pleidleisio.
PENDERFYNWYD y dylid dileu’r cyfeiriad at Ffordun yn ymuno â De Clwyd a Gogledd Sir Drefaldwyn yn ymateb y Cyngor.
Pleidleisiodd y Cyngor ar gynnig y Cynghorydd Vaughan gyda 14 pleidlais o blaid, 8 pleidlais yn erbyn a 10 Cynghorydd yn ymatal rhag pleidleisio.
PENDERFYNWYD y dylai ymateb y Cyngor nodi y dylai cymunedau Cadfarch, Glantwymyn, Llanbrynmair a Machynlleth drosglwyddo i Wynedd yn hytrach na De Clwyd a Gogledd Sir Drefaldwyn os na fydd etholaeth Sir Drefaldwyn yn cael ei chadw.
Gadawodd y Cynghorwyr Gemma Bowker a John Morris y cyfarfod am 2.05 p.m.
</AI6> <AI7>
|
|||||
Cymeradwyo Gorchymyn Amrywio (Trefniadau Etholiadol Cymunedol) Drafft Sir Powys 2016. PDF 81 KB I ystyried adroddiad gan Gyfreithiwr y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i orchymyn amrywio i reoleiddio newidiadau i ffiniau wardiau a gymeradwywyd gan y Cyngor yn 2006 ac i gywiro diffyg a ddynodwyd yn ddiweddar gan y Comisiwn Ffiniau. Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Barry Thomas ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Sir Sandra Davies a gan 27 pleidlais i 0 gyda 1 Cynghorydd yn ymatal rhag pleidleisio
Gadawodd y Cynghorydd Sir Gwilym Vaughan y cyfarfod am 2.09 p.m.
|
|||||
Barics Aberhonddu I drafod penderfyniad y Weinidogaeth Amddiffyn i gau Barics Aberhonddu.
Cofnodion: Siaradodd y Cynghorydd Sir Rosemarie Harris, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor a’r aelodau lleol, y Cynghorwyr Sir Paul Ashton, Matthew Dorrance ac Evan Morgan am eu sioc yngl?n â’r cyhoeddiad am gau Barics Aberhonddu a cholli 85 o swyddi dinesig a 100 o swyddi o fewn y fyddin, ynghyd ag effaith hyn ar yr ardal. Nodwyd fod Chris Davies AS wedi gwahodd y Gweinidog Amddiffyn i ymweld ac y byddai cyfle i gwrdd â’r Gweinidog. Dywedodd y Cynghorydd Harris y byddai’n manteisio ar y cynnig i gwrdd â’r Gweinidog gyda’r aelodau lleol ac y byddai’n edrych ar gynnwys yr ACau lleol hefyd.
|
|||||
Cais am ganiatad i fod yn absennol. I ystyried cais am ganiatad i fod yn absennol am hyd at 6 mis gan y Cynghorydd Joy Shearer.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cyfnod o absenoldeb o hyd at 6 mis ar gyfer y Cynghorydd Sir Joy Shearer.
|