Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Sir LV Corfield, KW Curry, SC Davies, EA Jones, GW Ratcliffe a JG Shearer.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf a 8 medi 2016 fel cofnodion cywir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn amodol ar gynnwys enw'r Cynghorydd Sir Eldrydd Jones yn y rhestr o aelodau a oedd yn bresennol yn y cyfarfod ar 13eg Gorffennaf, awdurdodwyd y Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13eg Gorffennaf ac 8fed Medi 2016 fel cofnodion cywir.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant oddi wrth Aelodau mewn perthynas â’r eitemau sydd i’w hystyried ar yr agenda. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir RG Thomas fuddiant yn eitem CC93 – 2016 Cyngor Cymuned Llanfechain oherwydd bod yr adroddiad yn ei enwi.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd fanylion rhai o'r digwyddiadau yr oedd wedi'u mynychu gan gynnwys seremoni dinasyddiaeth anrhydeddus y Gyrcas yn Aberhonddu ym mis Gorffennaf a cham terfynol y 'Tour of Britain' ar Faes Sioe Frenhinol Cymru. Nododd lwyddiant Gwobrau Busnes Powys y gwnaeth y Cyngor Sir ei noddi yn Derring Lines ar 30ain Medi. Atgoffodd yr Aelodau am ei gyngerdd elusennol a gynhelir yn Llanfair ym Muallt ar 29 Hydref a Chinio dydd Sul yr Aelodau yng Nghaerberis ar 6 Tachwedd.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. Cofnodion: Cyfeiriodd yr Arweinydd at Wobrau Busnes Powys hefyd, a llongyfarchodd Invertek Drives Cyf o'r Trallwng a enwyd yn fusnes y flwyddyn Powys am yr ail flwyddyn yn olynol. Nododd hefyd y byddai tri cham o Rali GB Cymru'n cael eu cynnal yn y Sir a rhoddodd wybod bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r achos busnes amlinellol ar gyfer Ysgolion Uwchradd Aberhonddu a Gwernyfed a chyflwynir cynlluniau ar gyfer ysgol newydd yn lle Ysgol Bro Hyddgen.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Briff gan y Prif Weithredwr Derbynneges briffio gan y Prif Weithredwr. Cofnodion: Tynnodd y Prif Weithredwr sylw'r Cyngor at y data perfformiad blynyddol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru. Roedd Powys yn yr 11eg safle o'r 22 Awdurdod yng Nghymru ond roedd wedi gwella mwyaf ond tri â gwelliant mewn 67% o ddangosyddion, dim newid mewn 10% a gostyngiad mewn 23%. Fel y Cyngor a ariennir gwaethaf yng Nghymru dyma ymdrech gwych a dymunodd y Prif Weithredwr bod ei ddiolch i staff yn cael ei gofnodi. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr hefyd at yr amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn sy'n rhagweld y bydd gostyngiad ym mhoblogaeth y sir, yn enwedig yn nifer y plant ac oedolion oedran gweithio. Byddai hyn yn her i wasanaethau yn enwedig ysgolion oherwydd rhagwelir y bydd nifer y plant oedran ysgol uwchradd yn gostwng gan 400 erbyn 2019. Nododd y byddai'r setliad cyllideb dros dro yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ac roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â chynigion ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol ond byddai'n ystyried uno gwirfoddol. Yn olaf llongyfarchodd dîm Safonau Masnach y Cyngor am eu herlyniad llwyddiannus o fasnachwyr twyllodrus a oedd yn gwerthu cynhyrchion gwynnu dannedd niweidiol yng 'Ngweithrediad Gleam'. Cytunodd y Cyngor y dylid anfon llythyr llongyfarch oddi wrth y Cadeirydd i'r tîm.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddiad Cyfalaf ar gyfer Canolfan Ailgylchu Gwastraff o'r Cartref PDF 66 KB Ystyriedcymeradwyo trosglwyddiad o dros £500,000 yn y gyllideb. Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor trosglwyddiad cyfalaf yn symud £700,000 i mewn i'r gyllideb cyfalaf yn 2016-17 i ganiatáu ar gyfer prynu a datblygu safle ailgylchu gwastraff cartref. Byddai hyn yn caniatáu gwneud arbedion yn gynharach. Cynigiodd y Cynghorydd Wynne Jones yr argymhelliad, cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Sir Michael Williams, a chafodd ei basio gan 40 pleidlais i 10 â 7 yn ymatal.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwerthusiad Drafft Perfformiad Blynyddol Cynllun Powys yn Un 2015 - 16 PDF 99 KB Ystyried fersiwn drafft Gwerthusiad Perfformiad Blynyddol Cynllun Powys yn Un 2014 – 15. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor Gwerthusiad a Chrynodeb Perfformiad Blynyddol Cynllun Powys yn Un drafft. Gwnaeth nifer o'r aelodau herio'r asesiad a gofyn pa wahaniaeth oedd yn cael ei wneud i fywydau trigolion Powys. Eglurwyd bod y ddogfen yn manylu ar enghreifftiau o'r gwahaniaeth a wnaethpwyd. Cyfeiriodd y Cynghorydd Sir Bailey, Hyrwyddwr Dementia'r Cyngor, at enwebiad Ysgol Gynradd Gymunedol Llan-faes ar gyfer gwobr oddi wrth y Gymdeithas Alzheimer ar gyfer ei gwaith â Chartref Preswyl Trenewydd y cyfeiriwyd ato yn yr asesiad. Cytunodd y Cyngor y dylai'r Cadeirydd anfon llythyr llongyfarch i'r ysgol.
Gofynnodd nifer o'r aelodau yngl?n â’r asesiad bod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus wrth gyflawni ei ymrwymiadau o ran Addysg, gan ddyfynnu nifer yr ysgolion mewn mesurau arbennig ac mewn diffyg cyllidebol. Rhoddodd yr Arweinydd wybod i'r Cyngor bod y gwerthusiad wedi'i anfon trwy e-bost at holl aelodau'r Pwyllgor Craffu a'i ystyried gan Gr?p Llywio Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau Craffu. Mae partneriaid y Cyngor ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ystyried yr asesiad hefyd.
Cafodd diwygiad y cynigiodd y Cynghorydd Sir Aled Davies, ac eiliodd y Cynghorydd Sir Gary Price, i newid yr asesiad ar gyfer Addysg i aflwyddiannus ei golli wrth gael ei roi i bleidlais, gan 9 pleidlais i 44.
Cynigiodd yr Arweinydd yr argymhelliad yn yr adroddiad i gymeradwyo Crynodeb a Gwerthusiad Perfformiad Blynyddol Cynllun Powys yn Un, cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Sir Graham Brown, a chafodd ei basio gan 34 pleidlais i 19 â 4 yn ymatal.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Protocol ar gyfer Cyfranogiad y Cyhoedd yng Nghyfarfodydd y Cyngor PDF 68 KB Ystyried adroddiad gan Gyfreithiwr y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor brotocol ar gyfer caniatáu cyfranogiad y cyhoedd yng nghyfarfodydd arferol y Cyngor llawn gan gynnwys slot 20 munud ar gyfer cwestiynau cyhoeddus ar agendâu. Cafodd y protocol ei ystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a chynigwyd ei roi ar dreial mewn cyfarfod cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2017 ac awgrymwyd cyfarfod y Cyngor ym mis Ionawr 2017.
Mynegodd nifer o'r aelodau bryder bod yr amrywiaeth o bobl sy'n gallu gofyn cwestiynau yn rhy eang ac efallai y dylai fod yn gyfyngedig i bobl sy'n byw ym Mhowys. Gofynnodd Aelodau hefyd am y weithdrefn ar gyfer gwrthod cwestiynau ac ateb cwestiynau atodol. Nid oedd yr aelodau eisiau i'r system wahaniaethu yn erbyn pobl sy'n byw ymhell o Landrindod, ac roeddynt eisiau i bob preswylydd gael y cyfle i gynnig cwestiwn atodol p'un a oeddynt yn gallu mynychu'r cyfarfod ai peidio.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Wynne Jones bod y treial yn cael ei ohirio i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ystyried y pwyntiau a godwyd yn y ddadl ac adrodd yn ôl i'r Cyngor ym mis Ionawr 2017, cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Sir Timothy Van-Rees, a chafodd ei golli wrth ei roi i bleidlais gan 26 pleidlais i 33 ag 1 yn ymatal.
Gadawodd y Cynghorydd Sir Van-Rees y cyfarfod.
Pleidleisiodd y Cyngor ar yr argymhelliad yn yr adroddiad y cynigiodd y Cynghorydd Sir Gemma Bowker, eiliodd y Cynghorydd Sirol Liam Fitzpatrick, a chafodd ei basio gan 35 pleidlais i 18 ag 1 yn ymatal.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
2018 Adolygiad o Etholaethau Seneddol PDF 65 KB Ystyriedadroddiad gan Gyfreithiwr y Cyngor. Cofnodion: Nododd y Cyngor gynigion y Comisiwn Ffiniau ar gyfer etholaethau seneddol newydd ym Mhowys a fyddai'n gweld pob un o'r etholaethau presennol yn newid a chreu etholaethau sy'n torri ar draws ffiniau awdurdodau lleol. Beirniadodd yr aelodau y cynigion nad oeddynt yn ystyried natur wledig ac roeddynt yn cytuno ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn gwneud ymateb ffurfiol. Awgrymwyd bod yr arweinwyr gr?p yn cyfarfod i drafod ymateb drafft y gellir ei ystyried yng nghyfarfod arbennig y Cyngor ar 18fed Tachwedd. Cododd nifer o aelodau faterion penodol i'w cymunedau ac awgrymwyd y dylid anfon pob un o'r rhain i'r Prif Swyddog Etholiadau i'w coladu.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Myfanwy Alexander, ac eiliodd y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt, fod arweinwyr y grwpiau gwleidyddol yn cyfarfod i ystyried ymateb i'r Cyngor ei ystyried ar 18fed Tachwedd. Pasiwyd y cynnig gan 56 pleidlais i 0.
Cafodd y Cyngor ei ohirio ar 12.50, ac ailddechrau am 1.30 p.m.
YN BRESENNOL Y Cynghorydd SirK F Tampin (Cadeirydd)
Y Cynghorwyr Sir MC Alexander, PJ Ashton, D Bailey, G R Banks, G J Bowker, R G Brown, J H Brunt, M J B Davies, D E Davies, L R E Davies, E R Davies, S Davies, A W Davies, M J Dorrance, V E Evans, W J Evans, D O Evans, L Fitzpatrick, J Gibson-Watt, P Harris, M R Harris, S M Hayes, J C Holmes, G Hopkins, D C Jones, M J Jones, E M Jones, Eldrydd M Jones, G M Jones, D R Jones, J R Jones, W T Jones, F H Jump, P E Lewis, H Lewis, MC Mackenzie, D Mayor, S McNicholas, P J Medlicott, DW Meredith, R H Mills, ET Morgan, G Morgan, JG Morris, W J T Powell, WD Powell, GD Price, D R Price, P C Pritchard, K M Roberts-Jones, J G Shearer, K S Silk, D A Thomas, W B Thomas, A G Thomas, D G Thomas, R G Thomas, T Turner, T J Van-Rees, G P Vaughan, D H Williams, S L Williams, J M Williams, G I S Williams ac E A York
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyngor Cymuned Llanfechain PDF 58 KB Ystyriedadroddiad gan Gyfreithiwr y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir Gwynfor Thomas fuddiant personol a rhagfarnus yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod oherwydd bod yr adroddiad yn cyfeirio ato.
Ystyriodd y Cyngor gynnig i benodi aelod dros dro i Gymuned Llanfechain i weithredu fel Cynghorydd Cymuned hyd 8 Mai 2017. Roedd y Cynghorydd Sir Gwynfor Thomas wedi cytuno i gael ei benodi dros dro i'r swydd hon.
Eglurodd y Prif Swyddog Etholiadau, mewn perthynas â hyrwyddo aelodaeth o Gynghorau Tref a Chymuned, y byddai cyhoeddusrwydd cyn yr etholiadau ym mis Mai 2017, ond nad oedd gan y Cyngor Sir lawer o adnoddau i annog pobl i sefyll neu ddatblygu sgiliau cynghorwyr.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Phil Pritchard yr argymhelliad, cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Sir Aled Davies, a chafodd ei basio gan 40 pleidlais i 0 â 2 yn ymatal.
Dychwelodd y Cynghorydd Thomas i'r Siambr.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau i Bwyllgorau Nodi’rpenodiadau canlynol gan y grwpiau gwleidyddol (sydd wedi’u cymeradwy gan y Swyddog Monitro) dan y p?er dirprwyo cyffredinol a roddodd y Cyngor ar 16 Mai 2013:
Penodi’rCynghorydd Sir David Jones i’r Pwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy gan y G?p Anwleidyddol yn lle’r Cynghorydd Sir Garry Banks.
Penodi’rCynghorydd Sir Timothy Van-Rees i’r Pwyllgor Cyflogaeth ac Apeliadau gan Gynghrair Annibynnol yn lle’r Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe.
Penodi’rCynghorydd Sir E. Michael Jones i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gan Gygnhrair Annibynnol Powys i lenwi sedd ychwanegol ar y Pwyllgor.
Penodi’rCynghorydd Sir Stephen Davies i’r Pwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy gan y G?p yn lle’r Cynghorydd Sir Peter Harris.
Cofnodion: Nododd y Cyngor y penodiadau canlynol i bwyllgorau gan y grwpiau gwleidyddol y mae'r Swyddog Monitro wedi'u cymeradwyo o dan y p?er dirprwyo cyffredinol y mae'r Cyngor wedi'i roi:
Penododd y Gr?p Anwleidyddol y Cynghorydd Sir David Jones i'r Pwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy i gymryd lle'r Cynghorydd Sir Garry Banks.
Penododd Cynghrair Annibynnol Powys y Cynghorydd Sir Timothy Van-Rees i'r Pwyllgor Cyflogaeth ac Apeliadau i gymryd lle'r Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe.
Penododd Cynghrair Annibynnol Powys y Cynghorydd Sir E. Michael Jones i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i lenwi sedd ychwanegol ar y pwyllgor.
Penododd y Gr?p Ceidwadol y Cynghorydd Sir Stephen Davies Jones i'r Pwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy i gymryd lle'r Cynghorydd Sir Peter Harris.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
A fyddai modd i mi gael y ffigyrau ar gyfer costau rhedeg y gwasanaeth llyfrgell deithiol (gan gynnwys costau rhedeg y cerbydau a’r staff) am y flwyddyn galendr hon, h.y. o’r 1 Ionawr 2016 hyd at heddiw? Hefyd, a fyddai modd i mi gael y costau ar gyfer blynyddoedd calendr 2014 a 2015 er cymhariaeth?
Cofnodion: A fyddai'n bosibl i mi gael y ffigurau a ysgwyddir ar gyfer gweithredu'r gwasanaeth llyfrgell symudol (gan gynnwys gweithredu cerbydau a chostau staff) ar gyfer y flwyddyn galendr hon h.y. o 1af Ionawr 2016 hyd heddiw? A fyddai hefyd yn bosibl i mi gael costau cymharol ar gyfer y blynyddoedd calendr 2014 a 2015?
O fis Ebrill 2015, mae'r fflyd llyfrgell symudol sy'n gwasanaethu'r sir wedi gostwng o 4 cerbyd i 2, gan ymweld â phob stop yn fisol yn hytrach nag ymweld bob pythefnos. Roedd gostyngiad cyfatebol mewn staffio o 4 llyfrgellydd symudol i 2, fel rhan o'r targedau effeithlonrwydd cyllidebol ar gyfer 2015/16. Bellach mae'r 2 gerbyd yn ymweld â chyfanswm o 374 safle bob mis, sy'n cynnwys rhai pobl sy'n gaeth i'r t? ar hyd y llwybrau, ynghyd â chanolfannau dydd/cartrefi preswyl, tai gwarchod, grwpiau chwarae ac ar ddiwedd y diwrnod y tu allan i ysgolion cynradd. Ymwelwyd â 438 safle bob pythefnos â'r 4 cerbyd yn 2014/15, manteisiwyd ar y cyfle i resymoli'r stopiau wrth gynllunio'r llwybrau i'w huno. Cafodd 3ydd cerbyd ei gadw fel un sbâr ym mis Ebrill 2015, a chaiff ei ddefnyddio'n rheolaidd i ddarparu gwasanaeth pan fydd y prif gerbydau'n cael eu gwasanaethu fel mater o drefn neu wedi methu, i sicrhau parhad gwasanaeth i gwsmeriaid. Prynwyd un fan newydd yn lle hen un ym mis Mawrth 2016, fel rhan o drefn adnewyddu cerbydau rheolaidd y fflyd, ond gan ddefnyddio cyfalaf grant allanol oddi wrth Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd (MALD) Llywodraeth Cymru. Darperir mynediad lifft i bob cerbyd, fel bod pobl anabl yn gallu gwneud defnydd da o'r cyfleuster. Benthycodd y gwasanaeth llyfrgell symudol 45,860 o eitemau i gwsmeriaid yn 2015/16. Mae cefnogaeth gyhoeddus ar gyfer y gwasanaeth llyfrgell symudol yn uchel; yn yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar ddyfodol y gwasanaeth llyfrgell, Ebrill – Gorffennaf 2016, teimlai 88% o'r ymatebwyr ei bod yn bwysig iawn neu'n weddol bwysig cynnal y gwasanaeth hwn yn y dyfodol. Hefyd, roedd yr ymgynghoriad blaenorol yngl?n â'r gostyngiad mewn oriau agor llyfrgelloedd cangen ac ymweliadau â llyfrgelloedd symudol yn dwyn sylw at hyn: “Mae'r gwasanaeth yn wirioneddol werthfawr i'r bobl sy'n ei ddefnyddio. Ceir llawer o bobl nad ydynt yn gallu teithio i lyfrgell a'r rheini nad ydynt yn gallu cario llyfrau trwm yn bell iawn. Mae hwn yn wasanaeth pwysig iawn, plîs cadwch ef" Hefyd tynnir sylw at werth y gwasanaeth i bobl anabl a'r rheiny â symudedd cyfyngedig: Mae'r gwasanaeth yn wirioneddol werthfawr i'r bobl sy'n ei ddefnyddio. Ceir llawer o bobl nad ydynt yn gallu teithio i lyfrgell a'r rheini nad ydynt yn gallu cario llyfrau trwm yn bell iawn. Mae hwn yn wasanaeth pwysig iawn, plîs cadwch ef"
Gwybodaeth gyllidebol:
Cwestiwn atodol y Cynghorydd Jones oedd faint o staff, yn cynnwys gyrwyr, cafodd eu cyflogi yn y gwasanaeth llyfrgell symudol. Nid oedd ... view the full Cofnodion text for item CC95- 2016a |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mae gan Lywodraeth y Cynulliad sawl safle ym Mhowys sydd wedi’i ddatblygu’n rhannol at ddefnydd diwydiannol. Mae un o’r safleoedd hyn yn Abermiwl, lle gafodd y ffordd ei thorri a’r seilwaith ei osod sawl bwlyddyn yn ôl.Rwy’n deal nawr y bydd y safle yma’n cael ei ddatblygu ymhellach yn y dyfodol agos ar gyfer ailgylchu. A yw’r aelod porttfolio’n gallu gadarnhau a yw hyn yn gywir ai peidio. Hefyd a all yr aelod portffolio ddweud wrthyf i a’r Cyngor pa bryd y bydd hyn yn debygol o gael ei gwblhau, a pha fath o ailgylchu fydd yn digwydd yno?
Cofnodion: Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru nifer o safleoedd ym Mhowys a ddatblygwyd yn rhannol ar gyfer defnydd diwydiannol, mae un o'r safleoedd yn Aber-miwl lle gosodwyd y ffyrdd a'r seilwaith sawl blwyddyn yn ôl. Bellaf rwyf ar ddeall y bydd y safle hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach yn y dyfodol agos ar gyfer ailgylchu, a yw deiliad y portffolio yn gallu cadarnhau a yw hyn yn gywir, hefyd a yw deiliad y portffolio yn gallu rhoi gwybod i mi a'r Cyngor pryd y mae'n debygol y bydd hyn yn cael ei gwblhau, a pha fath o ailgylchu fydd yn digwydd yno?
Roedd Parc Busnes Aber-miwl yn rhan o Fenter Adfywio Dyffryn Hafren, menter ar y cyd rhwng Cyngor Sir Powys a Llywodraeth Cymru, a gafodd ei lansio ar 22ain Hydref 2009. Roedd rhan o'r cynllun sy'n ymwneud â datblygu dau safle roedd Llywodraeth Cymru yn berchen arnynt, gan ddefnyddio Cyllid Ewropeaidd, i ddatblygu seilwaith safleoedd, roedd safle Aber-miwl, yr ydych yn cyfeirio ato, yn un o'r ddau safle.
Mae'r safle yn Aber-miwl yn addas ar gyfer unedau bach ac felly mae'n debyg yr opsiwn gorau ar gyfer ei ddatblygiad a rheolaeth dymor hir byddai i'r Cyngor Sir ymgymryd â hyn, ac felly, fel y byddwch eisoes yn ymwybodol, cafodd cyllid cyfalaf ei gynnwys ym mlaen gyllideb Cyfalaf y Cynghorau (cytunodd y Cyngor arni ar 25ain Chwefror) i alluogi'r Cyngor i brynu'r safle oddi wrth Lywodraeth Cymru a hefyd ariannu cam cyntaf y datblygiad ar y safle. Mae trafodaethau i brynu'r safle yn mynd rhagddo ar hyn o bryd â Llywodraeth Cymru.
Ar yr un pryd, mae'r gwasanaeth HTR ar hyn o bryd yn edrych ar safleoedd addas ar gyfer amrywiaeth o swyddogaethau ar draws Powys, gan gynnwys Gogledd Powys. Mae'n ymddangos y gallai safle Aber-miwl ddarparu safle delfrydol ar gyfer ein gwasanaeth ailgylchu gwastraff yn y Gogledd, oherwydd bod ganddo fynediad uniongyrchol yn syth oddi ar gefnffordd ac mae wedi'i leoli i ffwrdd o gymunedau preswyl gan liniaru unrhyw aflonyddwch sy'n gallu digwydd â safle gweithredol sydd angen gweithredu oriau hir ac ati. Felly, rydym yn teimlo y gallai fod cyfle i gyd-leoli'r rhan hon o'r gwasanaeth yn llwyddiannus ar safle Aber-miwl gan leoli'r uned yng nghefn y safle a pharhau i ganiatáu i'r safle gael ei ddatblygu yn sylweddol ag unedau busnes, sy'n parhau i fod yn brif uchelgais ar gyfer y safle pwysig hwn.
Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi fod yn glir ar hyn o bryd nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ar y mater hwn, ac yn amlwg na ellir eu gwneud tra bod trafodaethau'n parhau â Llywodraeth Cymru yngl?n â pherchnogaeth y safle. Cwestiwn atodol y Cynghorydd Williams oedd pa fath a swm o ddeunydd fyddai'n cael ei brosesu ar y safle. Esboniodd Deiliad y Portffolio y byddai'r safle yn ymdrin â deunydd ailgylchu ymyl y ffordd o ogledd y sir ac y byddai'r safle yn ddigon mawr i ymdrin â hyn.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
With reports in the local paper that the council has over spent by about £5.5million within the first few months of its budget are worrying. Can the portfolio holder for finance give assurances to me and the Council, that he has a grip on the finances of Powys and we will be within budget by the end of this financial year?
Cofnodion: Mae adroddiadau yn y papur lleol bod y Cyngor wedi gorwario oddeutu £5.5miliwn yn yr ychydig fisoedd cyntaf o'i gyllideb yn destun pryder. A yw deiliad y portffolio ar gyfer cyllid yn gallu rhoi sicrwydd i mi a'r Cyngor fod ganddo afael ar gyllid Powys ac y byddwn o fewn y gyllideb erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon?
Yng Nghyfarfod y Cabinet ar 13eg Medi, wrth gyflwyno fy Adroddiad Cyllid misol, rhoddais wybod i'r Cabinet fod y gorwariant rhagamcanol ar 31ain Mawrth 2017, wedi'i amcangyfrifo ar hyn o bryd yn £5.725 miliwn. Ni ddylid dehongli hyn fel gorwariant yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn. Mae'n amcangyfrif o beth fydd y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ariannol oni bai y cymerir camau adferol. Yn wir efallai y byddai'n werth nodi yn y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf, rydym wedi cyflawni arbedion o £7.89 miliwn. Dyma 63% o'r £12.6m o arbedion sydd eu hangen ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17.
Fodd bynnag, cafodd y pryder a fynegais i'r Cabinet ei sbarduno gan y ffaith bod y ffigur diwedd blwyddyn rhagamcanol wedi cynyddu rhwng mis Mehefin a Gorffennaf gan £297k. Mae gennym bolisi o gofnodi arbedion pan fyddant yn cael eu cyflawni yn unig ac felly dylid disgwyl gweld y gorwariant rhagamcanol yn lleihau o fis i fis wrth i ni symud trwy'r flwyddyn. Cafodd fy mhryder ei gefnogi ymhellach gan dystiolaeth a gafwyd pan fynychais Ddiwrnod Her Gyllideb y Tîm Rheoli ar 28ain Awst lle'r oedd un Gyfarwyddiaeth yn rhagamcanu gorwariant o £5.016m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol.
Rydym wedi gosod cynllun ariannol 3 blynedd cytbwys, ac mae'n hanfodol bod gwasanaethau'n byw o fewn eu cyllideb, mae gorwario neu fethiant i sicrhau arbedion, yn rhoi'r holl gynllun 3 blynedd yn y fantol a gall arwain at effaith enfawr ar y gwasanaeth dros oes y cynllun.
Fel Deiliad y Portffolio ar gyfer Cyllid rwy'n ymwybodol bod angen mynd i'r afael â'r materion hyn cyn gynted â phosibl tra bod amser i adfer y sefyllfa. Felly rhoddais gynnig gerbron y Cabinet yn y cyfarfod hwnnw ar 13eg Medi, yn galw ar y Prif Weithredwr a'i Uwch Dîm Rheoli i gyflwyno cynllun adfer cyn gynted â phosibl, â'r nod o ddod â'r Cyngor yn ôl o fewn y gyllideb. Derbyniodd y cynnig gefnogaeth unfrydol y Cabinet.
Mae gwaith ar y gweill i lunio cynllun adfer ac rwyf wedi trefnu i'r Cyngor gael y newyddion diweddaraf am gynnydd mewn sesiwn briffio fer ar ddiwedd busnes heddiw.
O ran eich cais am sicrwydd ni fydd y gyllideb wedi gorwario ar ddiwedd y flwyddyn, mae arnaf ofn ni allaf roi'r sicrwydd hwnnw ar yr adeg hon, ond gall y Cyngor fod yn sicr bod popeth posibl yn cael ei gwneud i gywiro'r sefyllfa anodd hon.
Cwestiwn atodol y Cynghorydd Sir Williams oedd pam nad oedd pryniannau'n cael eu craffu cyn iddynt gael eu gwneud. Eglurodd Deiliad y Portffolio ar gyfer Cyllid y bu Tîm Gwasanaethau Masnachol yn edrych ar gomisiynu a chaffael ... view the full Cofnodion text for item CC95- 2016c |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
A wnaiff y Cabinet estyn llongyfarchiadau i aelod o’m hetholaeth, Rob Davies, ar ennill Medal Aur yn y Gemau Paralympaidd y Rio, a manylu ar sut y maen nhw’n defnyddio chwaraeon i helpu i wella iechyd a llesiant ym Mhowys?
Cofnodion: A wnaiff y Cabinet longyfarch fy etholwr Rob Davies ar iddo ennill Medal Aur yn y Gemau Paralympaidd yn Rio a manylu ar sut maent yn defnyddio chwaraeon i helpu i wella iechyd a lles ym Mhowys?
Mae Datblygu Chwaraeon yn cynnig cefnogaeth enfawr wrth godi ymwybyddiaeth o iechyd a lles o ddydd i ddydd ledled Powys. Mae ein Swyddogion Datblygu Chwaraeon Cymunedol wedi'u lleoli ym mhob ysgol uwchradd ym Mhowys i ddarparu cyfleoedd helaeth i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ym mhob clwstwr ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a'r gymuned. Yn gweithio'n bennaf mewn lleoliadau addysg; mae'r swyddogion hefyd yn ymgysylltu'n aml â rhieni, gofalwyr, sefydliadau ieuenctid ac oedolion yn ogystal â bod wrth law i gefnogi a chynghori cymdeithasol a phartneriaid ychwanegol sy'n gofyn am hyn.
Rydym yn ymdrechu'n barhaus i godi lefelau gweithgarwch corfforol, iechyd a lles ym Mhowys. O'r dystiolaeth gyfredol y manylwyd arni isod o'r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol 2013 a 2015 er mwyn bod 'wedi gwirioni ar chwaraeon am oes' mae'n i blentyn gael y sgiliau corfforol cywir i gymryd rhan mewn chwaraeon (gallu), ynghyd â'r hyder a'r cymhelliant i fod eisiau cymryd rhan a rhoi cynnig ar weithgareddau newydd (a grëwyd gan brofiadau pleserus). Mae plant yn elwa o gael cyfleoedd di-rif i gymryd rhan mewn gwahanol chwaraeon a gweithgareddau ac yn gallu ymarfer eu sgiliau (datblygu gallu, hyder a mwynhad).
Ym Mhowys byddwn yn defnyddio canlyniadau'r arolwg sylweddol hwn (a gynhelir bob dwy flynedd) i barhau i ddatblygu cyfleoedd a rhoi cyfeiriad a fydd yn cynyddu'r lles cyffredinol yn ein cymunedau. Anelwn at ddarparu'r ddarpariaeth orau a fydd yn gwella ac yn annog datblygiad disgyblion iach a hyderus, a fydd yn eu tro yn tyfu ac yn datblygu yn oedolion egnïol, sy'n rhedeg yn gyfochrog â'n gweledigaeth Chwaraeon Powys – bod cadarnle ar gyfer chwaraeon lle mae pob preswylydd yn egnïol ac mae Powys yn sir o bencampwyr.
Isod manylir ar amrywiaeth o ganfyddiadau pwerus y mae Chwaraeon Powys yn falch i'w datgan ac yn teimlo eu bod fel cyfanrwydd yn cyfrannu at ddatblygu iechyd a lles ar draws Powys.
Ø Darganfu arolwg Chwaraeon Ysgol 2015 bod 49% o ddisgyblion Powys wedi gwirioni ar chwaraeon am oes (wedi'i fesur gan 3 gweithgaredd neu fwy'r wythnos) sy'n uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru sef 48%. Wedi'u cymharu â chanlyniadau 2013 ar gyfer Powys (41%), Cymru (40%).
Ø Yn Chwaraeon Powys rydym yn ymfalchïo mewn datblygu ac ymbaratoi ein cymunedau â set sgiliau cyflawn sydd eu hangen i gyflawni a llwyddo. Rydym yn falch bod 79% o'n disgyblion yn teimlo'n hyderus wrth roi cynnig ar weithgareddau newydd sy'n cyfateb i'r cyfartaledd cenedlaethol ac yn gynnydd ers canlyniadau 2013 (74%). Os yw disgyblion yn hyderus yn eu gallu, maent yn gallu mwynhau chwaraeon yn hamddenol ac yn gystadleuol ac, at hynny, byddant bob amser yn dewis cymryd rhan mewn cyfleoedd gweithgaredd corfforol.
Ø Mae Powys yn falch iawn i gael nifer uwch na'r cyfartaledd o ddisgyblion sy'n mwynhau chwaraeon mewn clybiau ar ôl ysgol ac amser cinio, (2015 ... view the full Cofnodion text for item CC95- 2016d |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rwyfwedi codi nifer o faterion gyda’r Aelod Portffolio â chyfrifoldeb am Dai ac uwch swyddogion ynghylch rheolaeth ar stoc dai’r Cyngor a’r stadau yn Ward Sant Ioan, ac wedi derbyn sicrhad y byddant yn gwella pethau ac yn mynd i’r afael â’r pryderon a nodais.
A fydd yr Aelod Portffolio nawr yn rhoi manylion y gwelliannau y gallaf ddisgwyl eu gweld, a’r pryderon y bydd hi’n mynd i’r afael â nhw, yn ogystal â dyddiadau ar gyfer y rhain?
Cofnodion: Rwyf wedi codi nifer o bryderon â'r Aelod Cabinet ar gyfer Tai ac uwch swyddogion yngl?n â rheolaeth ystadau a stoc tai'r Cyngor yn Ward St John ac wedi cael sicrwydd y gwneir gwelliannau ac eir i'r afael â phryderon. A wnaiff yr Aelod Cabinet roi dadansoddiad manwl yn awr o'r gwelliannau y gallaf ddisgwyl eu gweld, y pryderon bydd hi'n mynd i'r afael â hwy ac erbyn pryd?
Ysgrifennaf yn dilyn cwestiwn y Cynghorydd Matthew Dorrance mewn perthynas â'i bryderon yngl?n â rheolaeth stoc tai'r Cyngor yn ei ward. Rwyf i, a nifer o uwch swyddogion y Cyngor, wedi ymweld â ward St John i drafod ei bryderon a nodi meysydd i'w gwella.
Hoffwn ddechrau trwy ddweud y gwnaethpwyd dros £3.9 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf, yn y 4 blwyddyn ariannol ddiwethaf, yn adeiladwaith cartrefi y mae'r Cyngor yn berchen arnynt yn ward St John. Mae buddsoddiad hwn wedi gweld cwblhau'r gwaith canlynol yng nghartrefi yn y ward:
Mae'r gwaith hwn wedi sicrhau bod tenantiaid yn y ward yn byw mewn cartref wedi'u moderneiddio, mwy ynni-effeithlon, sy'n bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae'r gwaith hwn hefyd wedi gwneud llawer i wella ymddangosiad gweledol yr ystadau.
Fodd bynnag, er bod y gwaith wedi cyflawni gwelliant angenrheidiol i gartrefi ar yr ystâd, mae eu cwblhau wedi achosi rhywfaint o amhariad i'r preswylwyr, yn arbennig y defnydd o rai o'r meysydd parcio fel closydd safle gan gontractwyr y cyngor. Byddaf yn sicrhau bod yr amserlen ar gyfer cwblhau'r gwaith ar yr ystadau yn cael ei chyfleu i denantiaid a phreswylwyr, i ddarparu eglurder yngl?n â phryd y bydd yr holl feysydd parcio yn dychwelyd i'w swyddogaeth arferol.
Pan ymwelais â ward St John gyda'r Cynghorydd Matthew gwnaethom nodi meysydd sydd angen gwelliannau pellach fel meysydd parcio, modurdai a llwybrau ar yr ystâd. Mae'r Uwch Swyddogion a minnau'n cydnabod bod gwelliannau i'w wneud I amgylchedd yr ystâd, ac ar draws gweddill stoc tai'r cyngor, a bydd y gwelliannau hyn yn cael ei raglennu unwaith y bydd y gwaith hwn i wella adeiladwaith y stoc tai wedi'i gwblhau ym mis Mawrth 2018. Bydd y Gwasanaeth Tai yn llunio rhaglen ar gyfer gwaith amgylcheddol ar draws ein hystadau tai erbyn Medi 2017.
O ran ansawdd gwasanaethau rheoli ystâd rwy'n ymwybodol bod rhai o'r materion y mae'r Cynghorydd Matthew wedi'u codi wedi cael eu hachosi o ganlyniad i'r trefniadau cytundebol newydd mewn perthynas â gwaith cynnal a chadw tiroedd, yn enwedig chwistrellu chwyn ar lwybrau o amgylch yr ystâd, ac aethpwyd i'r afael â'r rhain. Fodd bynnag, rydw i a'r Uwch Swyddogion yn awyddus i weld gwelliant yn ansawdd y gwasanaethau rheoli ystadau ar draws holl ystadau'r cyngor ym Mhowys ac ar hyn o bryd rydym yn ystyried ffyrdd o wella ein gwasanaethau o ran yr agwedd hon ar reoli ein stoc tai. Ar hyn o bryd rydym yn ... view the full Cofnodion text for item CC95- 2016e |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
A all yr aelod portfolio gadarnhau pryd y rhoddwyd hyfforddiant penodol i aelodau lleol ddiwethaf ar gyfer eu rôl fel llywodraethwyr yr AALl?
Cofnodion: A fyddai deiliad y portffolio gystal â chadarnhau pryd oedd y tro diwethaf y rhoddwyd hyfforddiant penodol i aelodau lleol yngl?n â'u rolau fel llywodraethwyr AALl?
Cynhaliwyd gweithdy hyfforddiant a datblygu ym mis Mawrth 2012. Fodd bynnag mae gofyn i aelodau fynychu'r holl hyfforddiant gorfodol i lywodraethwyr, fel y mae gofyn i lywodraethwyr eraill. Hefyd byddai disgwyl iddynt fynychu'r rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant i lywodraethwyr sy'n cynnwys y gynhadledd flynyddol i lywodraethwyr.
Cwestiwn atodol y Cynghorydd Thomas oedd a yw deiliad y portffolio yn teimlo bod y diffyg hyfforddiant i lywodraethwyr yn holl dymor o wasanaeth y Cyngor yn cyfaddawdu aelodau ac yn rhoi'r Cyngor mewn perygl o feirniadaeth oddi wrth reoleiddwyr? Byddai'r Arweinydd yn trefnu i ymateb gael ei ddosbarthu i'r holl Aelodau.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
FisMehefin 2014 comisiynodd yr adran addysg adroddiad ar Hyfywedd ariannol Ysgolion Uwchradd. PWC oedd yn gyfrifol am yr adroddiad, ac fel rhan o’u hastudiaeth, fe wnaethant gyfweld bwrsariaid/rheolwyr bsunes pob ysgol uwchradd. Mae Atodiad 1 – sylwadau ar ysgolion unigol –yn cynnwys tablau manwl am bob ysgol uwchradd, yn amlinellu gwybodaeth ariannol pob ysgol o 2011/12 i 2017/18. Mae llinell eglur iawn yn amlinellu’r costau Cludiant a’r defnydd o gyllideb yr ysgol. Mae’ngwbl eglur beth oedd y sefyllfa a’r rhagolygon ar gyfer gwariant pob ysgol o’i chyllideb. Rwy’nsiwr y gwnaethoch chi, ynghyd â’ch Pennaeth Gwasanaeth a’r Cyfarwyddwr Addysg ddarllen a thrafod yr adroddiad yma cyn ei gyhoeddi. Osoedd modd Ysgol Uwchradd Llanfyllin o ddefnyddio cyllideb yr ysgol yn broblem, pam na chodwyd y mater bryd hynny?
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ym mis Mehefin 2014 comisiynodd yr adran addysg adroddiad i mewn i Hyfywedd ariannol ysgolion Uwchradd. Cynhaliodd PWC yr adroddiad hwn, ac fel rhan o'u hastudiaethau gwnaethant gyfweld â bwrsariaid / rheolwyr busnes pob ysgol uwchradd. Mae Atodiad 1 – sylwebaeth ysgol unigol – yn cynnwys tablau am bob ysgol uwchradd sy'n manylu ar wybodaeth ariannol ysgolion o 2011/12 hyd 2017/18. Ceir llinell amlwg sy'n manylu ar gostau Cludiant a'r defnydd o gyllideb ysgol. Mae'n glir iawn ar beth yr oedd pob ysgol yn gwario eu cyllidebau ar hyn o bryd a'r hyn a ragwelir. Rwy'n si?r eich bod chi, ynghyd â'ch Pennaeth Gwasanaeth a Chyfarwyddwr Addysg, wedi darllen a thrafod yr adroddiad hwn cyn ei gyhoeddi. Os oedd defnydd cyllideb ysgol Uwchradd Llanfyllin ar gludiant ysgol yn broblem, pam na chafodd ei godi ar yr adeg hon?
Wrth ymateb i'r cwestiwn, egluraf mai'r Cynghorydd Myfanwy Alexander oedd deiliad y portffolio ar gyfer Addysg ym mis Mehefin 2014 ac nid y fi. Felly ni allaf ymateb i'r cwestiwn yngl?n â ph'un a oedd y Cynghorydd Alexander wedi trafod y mater â'r Pennaeth Gwasanaeth neu'r Cyfarwyddwr Addysg. Fodd bynnag rydych wedi gweld adroddiad yr ymchwiliad sy'n mynegi'n glir bod yr ymchwilydd wedi canfod bod y Cynghorydd Alexander yn ymwybodol o'r mater sy'n ymwneud â Chymal 5.2 y Cynllun, a chewch chi, y Cynghorydd Mayor, eich dyfynnu yn 5.48 yr adroddiad.
Roedd cwestiwn atodol y Cynghorydd Mayor yn holi yngl?n â ph'un a oedd Deiliad y Portffolio ar gyfer Addysg wedi trafod adroddiad PWC â Phennaeth y Gwasanaeth a'r Cyfarwyddwr Addysg, a anfonwyd trwy e-bost at Ddeiliad y Portffolio cyn y cyfarfod ac roedd Deiliad y Portffolio wedi ymateb iddo trwy e-bost. Dywedodd y Cynghorydd Mayor ei fod yn anfodlon â'r ymateb acyng ngoleuni'r ffaith bod cwmpas adroddiad PWC i mewn i sefydlogrwydd ysgolion uwchradd ym Mhowys yn cynnwys adrodd ar gostau cludiant gofynnodd am gadarnhad nad oedd Deiliad y Portffolio, y Cyfarwyddwr Addysg a'r Pennaeth Ysgolion yn ymwybodol bod Ysgol Uwchradd Llanfyllin yn torri Rheoliad 5.2 hyd fis Ionawr 2016.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Arweinydd oddi wrth y Cynghorydd Sir Darren Mayor PDF 77 KB AnnwylArweinydd, Ar 13 Medi, ysgrifennias yr e-bost at y Swyddog Monitro ac roedd copi ar gael i chi hefyd: Dear Clive, Having further considered Cabinet’s decision, I have taken some advice and the following points have been raised with me. I would appreciate your comments and I await your response. 1. With reference to the Statutory Instrument 2005 No. 2914 (W.211), Government of Maintained Schools (Wales) Regulation 2005 (SI 2005), I would be grateful if you could provide me with references, in legislation, that empowered Cabinet to reach its decision and have primacy over the rights and procedures as laid down in the above legislation, SI 2005. 2. On Friday 22nd July 2016 Cabinet resolved to suspend 4 LEA governors from Llanfyllin High School for varying periods. Under the SI 2005 Regulation 7 (1) and 27 (1) Powys County Council only has the power to appoint and remove LEA governors. Under the SI 2005 the only body empowered with the right to suspend governors is the governing body. 3. I understand that the High school have been instructed not to issue the suspended Governors with any papers – minutes and Agendas – with regards to any governing board meetings. Under the SI 2005 Regulation 49 (4)(a) a suspended governor is afforded the right to receive all papers that will be considered at a governing body meeting Whilst I appreciate that there are numerous regulations pertaining to the management of schools there will be few that have primacy over the SI 2005 and schools’ governance. Therefore, as a matter of urgency, I request that you provide references in legislation, taking primacy over the SI 2005, allowing Cabinet to suspend and deny governors rights as stated above. As this will have been advised to Cabinet during the appeals process I believe that it is reasonable to place a 5 working day limit on providing this information. If you are unable to provide this evidence in this timescale I will assume that it does not exist and take action to address the fact that Cabinet has acted beyond its authority and denied rights conferred on governors by law. I will, in turn, advise Llanfyllin High School that the Authority has acted beyond its power Kind regards Darren Ni dderbyniais ateb gan y Swyddog Monitro ac ni chafwyd cydnabyddiaeth I’r e-bost hwn nes i mi ysgrifennu eto ar 20 medi – ac fe gawsoch chithau gopi o’r e-bost hwn hefyd – pan atebodd gyda’r neges e-bost ganlynol:
Dear Darren Thank you for both emails. I shall respond in detail to the points that you have raised, but in general the person/ body who have appointed a governor have the ability the remove or suspend that governor. As such you and the other 2 LEA governors remain suspended and are not able to participate in the affairs of the GB until after the suspension has ended. Regards Clive Pinney
Ysgrifennaisunwaith eto a ... gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem CC95- 2016h Cofnodion: Annwyl Arweinydd, Ar y 13eg Medi ysgrifennais y neges e-bost ganlynol at y Swyddog Monitro a chawsoch eich cynnwys: Annwyl Clive, Ar ôl ystyried penderfyniad y Cabinet, rwyf wedi cymryd rhywfaint o gyngor a chodwyd y pwyntiau canlynol â mi. Buaswn yn gwerthfawrogi eich sylwadau a disgwyliaf eich ymateb. 1. Mewn perthynas ag Offeryn Statudol 2005 Rhif 2914 (Cy.211), Rheoliad Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 (OS 2005), buaswn yn ddiolchgar petaech yn gallu darparu cyfeiriadau i mi, mewn deddfwriaeth, a oedd yn grymuso Cabinet i gyrraedd ei benderfyniad a chael blaenoriaeth dros hawliau a gweithdrefnau a nodir yn y ddeddfwriaeth uchod, OS 2005. 2. Ar ddydd Gwener 22ain Gorffennaf 2016, penderfynodd y Cabinet i atal 4 llywodraethwr AALl o Ysgol Uwchradd Llanfyllin dros dro, am gyfnodau amrywiol. O dan Reoliad OS 2005 7 (1) a 27 (1) Cyngor Sir Powys yn unig sydd â'r p?er i benodi llywodraethwyr AALl a chael gwared arnynt. O dan OS 2005 yw'r unig gorff a grymuswyd â'r hawl i atal llywodraethwyr yw'r corff llywodraethu. 3. Deallaf fod yr Ysgol Uwchradd wedi cael cyfarwyddyd i beidio â rhoi unrhyw bapurau - cofnodion ac agendâu - i'r llywodraethwyr ataliedig, mewn perthynas ag unrhyw gyfarfodydd y bwrdd llywodraethu. O dan Reoliad OS 2005 49 (4)(a) rhoddir yr hawl i lywodraethwr a ataliwyd dderbyn yr holl bapurau a ystyrir mewn cyfarfod y corff llywodraethu Rwy'n gwerthfawrogi y ceir nifer o reoliadau sy'n ymwneud â rheoli ysgolion, a bydd nifer fach â blaenoriaeth dros yr OS 2005 a llywodraethu ysgolion. Felly, fel mater o frys, gofynnaf I chi ddarparu cyfeiriadau mewn deddfwriaeth, sy'n cymryd uchafiaeth dros yr OS 2005, yn caniatáu i'r Cabinet atal llywodraethwyr dros dro a gwadu hawliau fel y nodir uchod. Oherwydd y rhoddir gwybod i'r Cabinet yn ystod y broses apelio, credaf ei bod yn rhesymol gosod terfyn o 5 diwrnod gwaith ar ddarparu'r wybodaeth hon. Os na allwch ddarparu'r dystiolaeth hon yn yr amserlen hon, byddaf yn tybio nad yw'n bodoli ac yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r ffaith bod y Cabinet wedi gweithredu y tu hwnt i'w awdurdod a gwadu hawliau a roddir i lywodraethwyr trwy'r gyfraith. Yn eu tro, byddaf yn cynghori Ysgol Uwchradd Llanfyllin bod yr Awdurdod wedi gweithredu y tu hwnt i'w b?er Dymuniadau gorau Darren Ni wnaeth y Swyddog Monitro ymateb neu gydnabod y neges e-bost hon hyd nes i mi ysgrifennu eto ar 20fed Medi – cawsoch eich cynnwys yn y neges e-bost hon hefyd, ymatebodd â'r neges e-bost ganlynol: Annwyl Darren Diolch am eich dwy neges e-bost. Byddaf yn ymateb yn fanwl i'r pwyntiau a godwyd gennych, ond yn gyffredinol mae gan yr unigolyn / corff sydd wedi penodi llywodraethwr â'r gallu i atal y llywodraethwr hwnnw dros neu gael gwared arno/arni. Fel y cyfryw, rydych chi a 2 llywodraethwr AALl arall yn parhau i fod wedi'ch atal dros dro ac ni allwch gymryd rhan mewn materion y Bwrdd Llywodraethu hyd nes i'r ataliad dros dro ddod i ben. ... view the full Cofnodion text for item CC95- 2016h |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Arweinydd gan y Cynghorydd Sir Gwynfor Thomas PDF 51 KB Fis Mehefin, comisiynodd yr adran addysg adroddiad i hyfywedd ysgolion uwchradd. Lluniwyd yr adroddiad gan PWC. Mae Atodiad 1 – Sylwadau ar ysgolion unigol – yn cynnwys tablau sy’n amlinellu gwybodaeth ariannol benodol am bob ysgol o 2011/12 hyd at 2017/18. Mae llinell eglur yn dangos costau cludiant a’r defnydd o gyllideb yr ysgol gan bob ysgol sy’n darparu cludiant i’r disgyblion sy’n mynychu’r ysgol. Mae’n gwbl eglur ar beth yr oedd pob ysgol yn bwriadu gwario eu cyllideb. Fel Arweinydd roeddech chi wedi darllen a deall yr adroddiad, rwy’n si?r. Gyda’r atodiad oedd yn amlinellu sut yr oedd pob ysgol unigol yn defnyddio cyllideb yr ysgol i dalu am gludiant, pam na wnaethoch chi godi mater defnydd Ysgol Uwchradd Llanfyllin o’r gyllideb ar gludiant ar ôl 2011/2012 – ar ôl gweithredu Rheoliad 5.2 yn llawn?
Cofnodion:
Ym mis Mehefin 2014 comisiynodd yr adran addysg adroddiad i mewn i hyfywedd ariannol ysgolion uwchradd. Cafodd yr adroddiad hwn ei lunio gan PWC. Mae Atodiad 1 – sylwebaeth ysgol unigol – yn cynnwys tablau sy'n manylu ar wybodaeth ariannol benodol am bob ysgol o 2011/12 hyd 2017/18. Ceir llinell amlwg sy'n dangos costau cludiant a'r defnydd o gyllideb ysgol gan bob ysgol wrth ddarparu cludiant i ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol. Mae'n glir iawn ar beth yr oedd pob ysgol yn gwario eu cyllidebau ar hyn o bryd a'r hyn a ragwelir. Fel Arweinydd rwy'n si?r eich bod wedi darllen a deall yr adroddiad hwn. Â'r atodiad yn manylu ar sut roedd cyllidebau ysgol yn cael eu defnyddio gan bob ysgol ar gludiant, pam na wnaethoch godi pryderon am ddefnydd Ysgol Uwchradd Llanfyllin o'i chyllideb ar gludiant ysgol ar ôl 2011/2012 - ar ôl gweithredu Rheoliad 5.2 yn llawn?
Yng ngoleuni'r materion a godwyd yng Ngwrandawiadau Apêl Llywodraethwyr yr AALl mewn perthynas ag adroddiad PWC, rwyf wedi trefnu i Mr Jonathan Walters, yr Ymchwilydd Annibynnol, ystyried perthnasedd ei ymchwiliad i adroddiad PWC, os o gwbl. Dan yr amgylchiadau, nid wyf o'r farn ei bod yn briodol darparu ymateb i'ch cwestiwn hyd nes y bydd yr eitem o ymchwiliadau pellach gan Mr Walters wrth law.
Byddaf yn trefnu i'ch cwestiwn gael ei ymgorffori yn Agenda cyfarfod cyntaf y Cyngor Llawn ar ôl i'r adroddiad pellach gan Mr Walters ddod ar gael.
Cwestiwn atodol y Cynghorydd Thomas petai'r ymchwiliad gan Jonathan Walters yn cael ei ailagor, a fyddai'n gallu gweld ei gylch gorchwyl. Dywedodd y Swyddog Monitro y gofynnir i Jonathan Walters ystyried i ba raddau, os o gwbl, roedd adroddiad PWC wedi effeithio ar ei ymchwiliad.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Arweinydd oddi wrth y Cynghorydd Sir William Powell PDF 77 KB Yndilyn trafodaethau Arweinydd y Cyngor a minnau gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu newydd Dyfed Powys, Dafydd Llewelyn, yngl?n â pha waith sy’n cael ei wneud gan Gyngor Sir Powys mewn partneriaeth â Dyfed Powys i fonitro achosion o anoddefgarwch a throseddau casineb yn ein cymunedau? Ymhlith yr enghreifftiau rwy’n ymwybodol ohonyn nhw yn ystod y misoedd diwethaf yn ne’r Sir mae blino plant gwladolion yr UE trwy ddweud “ewch adref” ar ôl canlyniad Brexit, a difrod troseddol i safleoedd masnachol. Gan fod angen i ni gadw ein cymunedau yma ym Mhowys yn ddiogel, yn oddefgar ac yn groesawgar, sut y mae Cyngor Sir Powys yn hyrwyddo hyn o fewn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a luniwyd yn ddiweddar, er mwyn hybu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?
Cofnodion:
Yn dilyn trafodaethau Arweinydd y Cyngor a minnau â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys sydd newydd ei ethol, Dafydd Llewelyn, pa waith sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Sir Powys, mewn partneriaeth â Dyfed Powys i fonitro digwyddiadau o anoddefgarwch a throseddau casineb yn ein cymunedau? Mae digwyddiadau rwy'n ymwybodol ohonynt yn ystod y misoedd diwethaf yn Ne'r Sir yn amrywio o wawdio plant gwladolion yr UE ar iard yr ysgol am 'ddychwelyd adref' ar ôl Brexit i ddifrod troseddol o eiddo masnachol. O ystyried ein hangen i gadw ein cymunedau yma ym Mhowys yn ddiogel, goddefgar a chroesawgar, sut mae'r gwaith hwn yn cael ei hyrwyddo gan Gyngor Sir Powys yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gyfansoddwyd yn ddiweddar, er mwyn hyrwyddo Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?
Mae'r Cyngor yn trin hiliaeth ac anoddefgarwch yn ddifrifol iawn. Mae'r Prif Weithredwr wedi hyrwyddo gwaith "Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth", sef sefydliad mewn partneriaeth â'r gwasanaeth ysgolion, ac mae'r cyngor wedi talu am weithdai mewn ysgolion ar draws Powys a dosbarthu adnoddau addysgu a dysgu, i gefnogi hyn. Mae gan yr holl ysgolion raglenni addysg bersonol a chymdeithasol cynhwysfawr ar waith sy'n cynnwys ffocws ar ddinasyddiaeth fyd-eang. Mae gan ysgolion bolisïau gwrth-fwlio ac ymddygiad sy'n sicrhau y ceir dull cyson o ymdrin ag unrhyw ddigwyddiad hiliol. Adroddir am unrhyw ddigwyddiad hiliol i'r awdurdod.
Caiff Trosedd Casineb ei monitro fel rhan o waith Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys o dan Cydlyniant Cymunedol. Mae'r Bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolwyr y Cyngor Sir, Heddlu Dyfed Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Cwmni Adsefydlu Cymunedol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Rwyf wedi copïo dyfyniad o gofnodion cyfarfod mis Medi er eich gwybodaeth. Mae'n amlwg bod pob asiantaeth yn weithredol wrth ryngweithio â Fforwm Troseddau Casineb Dyfed Powys ond mae'r data cyfredol yn awgrymu lefelau isel o droseddau casineb. Anogwyd staff y Cyngor i fynychu sesiynau ymwybyddiaeth troseddau casineb a sefydlwyd trwy'r fforwm hwnnw, â'r sesiynau nesaf ddiwedd mis Tachwedd 2016. Mae Cydlynydd Diogelwch Cymunedol y Cyngor, Fay Smith, hefyd wedi gofyn i bartneriaid geisio cefnogi prosiectau cymunedol a bydd y gwaith hwn yn cael ei asesu. Byddwn yn sicrhau bod y digwyddiadau rydych wedi'u datgan wedi'u hatgyfeirio yn gywir a'r asiantaethau priodol wedi ymchwilio iddynt.
DYFYNIAD O GOFNODION CSP Pryderon yngl?n â Throseddau Casineb ar ôl Refferendwm yr UE. Roedd 12 Atgyfeiriad Trosedd Casineb ym Mhowys i Gymorth i Ddioddefwyr ar gyfer mis Mehefin 2016, o'i gymharu â 7 ar gyfer mis Mehefin 2015. Gyda niferoedd isel a diffyg data manwl, nid yw'n bosibl nodi unrhyw uchafbwyntiau neu ddehongli unrhyw batrymau. Efallai ei bod yn wir y gall y rhan fwyaf o brofiadau fod yn ymwneud â cham-drin geiriol lefel isel ni adroddwyd arno. Gyda'r dadleuon parhaus yngl?n â'r DU yn ymadael yr UE, byddai'n ddoeth bod partneriaid CSP yn ymwybodol ac yn cysylltu â'r gymuned
Mewn ymateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Powell, dywedodd yr Arweinydd y byddai'n sicrhau bod ... view the full Cofnodion text for item CC95- 2016j |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pa ymdrechion y mae Cyngor Sir Powys yn eu gwneud I efelychu arfer da prif awdurdodau lleol eraill Cymru i ddarparu gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu’n effeithiol? Yn anad dim, a roddwyd unrhyw ystyriaeth i brosiect peilot ar gyfer casgliad gwastraff gwyrdd y codi tâl amdano, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd yn Sir Fynwy? Hefyd, o ystyried y manteision i ddefnyddwyr gwasanaeth sy’n hen ac yn fregus, a’r rheiny nad oes ganddynt fawr o le storio, a fydd yr aelod portffolio’n ystyried cynnal cynllun peilot ar gyfer trolïau ar gyfer pentyrru blychau ailgylchu rhwng y dyddiau casglu? Mae cynllun o’r fath wedi bod yn boblogaidd ac yn effeithiol yn Wrecsam ac ym Mlaenau Gwent.
Cofnodion: Pa ymdrechion y mae Cyngor Sir Powys yn eu gwneud i dynnu ar ymarfer da ymhlith prif awdurdodau lleol eraill yng Nghymru ar gyfer darparu gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu effeithlon? Yn benodol, a roddwyd unrhyw ystyriaeth i gynnal prosiect peilot ar gyfer casglu gwastraff gwyrdd taladwy, fel sy'n digwydd yn Sir Fynwy ar hyn o bryd? Hefyd, oherwydd y manteision i ddefnyddwyr y gwasanaeth sy'n oedrannus ac yn agored i niwed, a'r rheiny â lle storio cyfyngedig, a fydd deiliad y portffolio yn ystyried treialu cynllun ar gyfer troliau, sy'n addas ar gyfer stacio hambyrddau ailgylchu rhwng casgliadau? Mae cynllun o'r fath wedi bod yn boblogaidd ac yn effeithiol yn Wrecsam a Blaenau Gwent.
Mae swyddogion o Bowys yn cysylltu'n rheolaidd â'u cymheiriaid mewn awdurdodau eraill i rannu ymarferion gorau o ran dulliau casglu gwastraff ac ailgylchu. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn mynychu'r fforymau hyn yn rheolaidd.
Mae Powys yn dilyn dull casglu blychau gan ddidoli ar ochr y ffordd sy'n ddewis 'glasbrint' y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio. Er nad ydym yn darparu troli, gellir stacio'r blychau hyn ac felly ni ddylent gymryd gormod o le yng nghartrefi pobl. Mae'r system troli y mae awdurdodau eraill yn defnyddio yn system annatod â blwch a throli ac ni ellir ei ôl-osod i'n system bresennol. Oherwydd bod cost cyfalaf defnyddio'r system troli dros ddwywaith cymaint â'r trefniadau blwch presennol, â'r cyfyngiadau cyllidebol presennol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu, byddai'n anodd cyfiawnhau buddsoddiad cyfalaf mewn troliau. O ran trigolion oedrannus ac agored i niwed, byddwn yn cynnig gwasanaeth casglu a gynorthwyir lle bydd y gweithredwyr yn casglu o ddrws yr eiddo fel na fydd yn rhaid i breswylwyr gario eu bocsys.
Ar hyn o bryd gall preswylwyr gymryd eu gwastraff gwyrdd naill ai i'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref neu fel arall, i un o'r Safleoedd Ailgylchu Cymunedol. Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar ddichonoldeb gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd taladwy. Bydd natur wledig Powys yn gwneud unrhyw gynllun o'r fath yn her oherwydd ei bod yn bwysig ei fod yn hyfyw yn ariannol oherwydd ni fyddai'r Cyngor yn gallu rhedeg y gwasanaeth hwn ar golled.
Mewn ymateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Powell, dywedodd Deiliad y Portffolio ar gyfer yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd y byddai'n hapus i fynd â'r Cynghorydd Powell i ymweld ag awdurdod sy'n defnyddio'r system troli.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Presentation by the Chief Fire Officer Presentation by the Chief Fire Officer Chris Davies and Deputy Chief Fire Officer Mick Crennell. Cofnodion: Rhoddodd Mr Colin Davies, y Prif Swyddog Tân ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyflwyniad ar waith y Gwasanaeth. Rhoddodd drosolwg ar y gwasanaeth a'i weithgareddau ym Mhowys. Dywedodd y byddai'r gwasanaeth yn gwneud £9m o arbedion yn cyfateb i 20% o'r gyllideb erbyn 2016 ond rhybuddiodd y byddai toriadau pellach yn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau. Cost y gwasanaeth oedd £4 fesul cartref fesul mis. Roedd y gwasanaeth yn ceisio cyflawni effeithlonrwydd pellach trwy gydweithio a chyd-leoli gwasanaethau, er enghraifft, â'r Gwasanaeth Ambiwlans a'r Heddlu.
Cymerodd y Prif Swyddog Tân gwestiynau oddi wrth aelodau. Mewn ymateb i gwestiwn oddi wrth Ddeiliad y Portffolio ar gyfer Cyllid, dywedodd y byddai'r Awdurdod Tân yn gosod ei gyllideb ar 12 Rhagfyr.
|