Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys. Gweld cyfeiriadau
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir MJB Davies ddiddordeb personol heb fod yn ariannol fel llywodraethwr a benodwyd gan yr AALl yn Ysgol Uwchradd Gwernyfed. Datganodd y Cynghorydd Sir GW Ratcliffe ddiddordeb personol heb fod yn ariannol fel llywodraethwr a benodwyd gan yr AALl yn Ysgol Uwchradd Gwernyfed. Datganodd y Cynghorydd Sir WJT Powell ddiddordeb personol heb fod yn ariannol fel llywodraethwr a benodwyd gan yr AALl yn Ysgol Uwchradd Llandrindod ac Ysgol G G Y Groes. Datganodd y Cynghorydd Sir MJ Dorrance ddiddordeb personol heb fod yn ariannol gan fod ei bartner yn llywodraethwr a benodwyd gan yr AALl yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu. Datganodd y Cynghorydd Sir JH Brunt ddiddordeb personol heb fod yn ariannol fel llywodraethwr a benodwyd gan yr AALl yn Ysgol G G Llanbister a llywodraethwyr yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot. Datganodd y Cynghorydd GSI Williams ddiddordeb personol heb fod yn ariannol fel llywodraethwr a benodwyd gan yr AALl yn Ysgol Uwchradd Llandrindod. Datganodd y Cynghorydd Sir WD Powell ddiddordeb personol heb fod yn ariannol fel llywodraethwr a benodwyd gan yr AALl yn Ysgol Uwchradd Gwernyfed. Datganodd y Cynghorydd Sir GG Hopkins ddiddordeb personol heb fod yn ariannol fel llywodraethwr a benodwyd gan yr AALl yn Ysgol Uwchradd Gwernyfed.
Datganodd y Cynghorydd Sir ET Morgan ddiddordeb personol heb fod yn ariannol fel llywodraethwr a benodwyd gan yr AALl yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu. Datganodd y Cynghorydd Sir EA York ddiddordeb personol heb fod yn ariannol fel llywodraethwr a benodwyd gan yr AALl yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt. Datganodd y Cynghorydd Sir TJ Van-Rees ddiddordeb personol heb fod yn ariannol fel llywodraethwr a benodwyd gan yr AALl yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt. Datganodd y Cynghorydd Sir M Mackenzie ddiddordeb personol heb fod yn ariannol fel llywodraethwr a benodwyd gan yr AALl yn Ysgol Uwchradd Llandrindod. Datganodd y Cynghorydd Sir DW Meredith ddiddordeb personol heb fod yn ariannol fel llywodraethwr a benodwyd gan yr AALl yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu. Datganodd y Cynghorydd Sir KM Tampin ddiddordeb personol heb fod yn ariannol fel llywodraethwr a benodwyd gan yr AALl yn Ysgol Uwchradd Llandrindod. Datganodd y Prif Weithredwr ddiddordeb personol fel rhiant i ddisgybl yn mynychu Ysgol Uwchradd Llandrindod a gadael y cyfarfod tra bo’r mater hwn yn cael ei drafod.
|
|
Yn unol â’r penderfyniad a gymerwyd yng nghyfarfod diwethaf y dylai’r Cyngor Llawn gwrdd i drafod argymhellion sy’n ymwneud â chynigion Ysgolion Uwchradd a Chynradd a effeithir gan Bolisi Trawsnewid a Pholisi Ad-drefnu Ysgolion 2015 y Cyngor, er mwyn hysbysu’r Cabinet o farn y Cyngor cyn y gwneir penderfyniad gan y Cabinet, ystyried argymhellion yr Aelod Portffolio dros Addysg i’r Cabinet ar 27 Medi ynglyn â:
1. YsgolionUwchradd Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod 2. YsgolionUwchradd Aberhonddu a Gwernyfed 3. Ysgol G.G. Llanbister 4. Ysgol G.G. Llanfihangel Rhydieithon.
Cofnodion: Cafodd yr aelodau eu hatgoffa am ddiben y cyfarfod fel y cytunwyd gan y Cyngor ar 13 Gorffennaf:
Y dylai’r Cyngor Llawn gwrdd i drafod argymhellion sy’n ymwneud â chynigion am Ysgolion Cynradd ac Uwchradd a effeithir gan Bolisi Trawsnewid y Cyngor a Pholisi Ad-drefnu Ysgolion 2015, er mwyn cyflwyno safbwyntiau’r Cyngor i’r Cabinet cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau gan y Cabinet.
Byddai aelodau’r Cabinet yn gwrando ar y pwyntiau a godwyd gan aelodau ond ni fyddent yn cymryd rhan yn y drafodaeth heblaw i ymateb i gwestiynau a gyflwynir iddynt. Petai unrhyw bleidleisio ar gynnig, ni fyddent yn cymryd rhan gan na fyddent yn dymuno cael eu gweld i fod wedi gwneud penderfyniad o flaen llaw ar unrhyw un o’r argymhellion cyn iddynt gael eu hystyried gan y Cabinet ar 27 Medi.
Ysgolion Uwchradd Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod Yn dilyn ymgynghoriad, cynghorodd yr Aelod Portffolio Addysg nad oedd yn cynnig newid yr argymhelliad i’r Cabinet i gau Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt ac Ysgol Uwchradd Llanidloes a sefydlu ysgol uwchradd 11-18 dwy ffrwd newydd a fydd yn gweithredu dros safleoedd presennol y ddwy ysgol o’r 1 Medi 2017.
Gofynnodd y Cynghorydd Sir Dorrance a oedd yr argymhelliad yn cynnwys symud addysg cyfrwng Cymraeg o Ysgol Uwchradd Aberhonddu i Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt gan ei fod yn teimlo y byddai hyn yn penderfynu lle y dylid darparu addysg cyfrwng Cymraeg o flaen llaw. Esboniodd yr Aelod Portffolio Addysg y byddai ymgynghoriad pellach ar ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg yn Aberhonddu. Gofynnodd y Cynghorydd Dorrance am y capasiti a dywedodd yr Aelod Portffolio fod yna 134 o leoedd dros ben ar hyn o bryd. Nododd y Cynghorydd Dorrance y gallai’r capasiti newid o ganlyniad i’r cynigion.
Gofynnodd y Cynghorydd Sir Gary Price a oedd yr Aelod Portffolio yn teimlo fod yr arweinyddiaeth bresennol yn yr ysgolion yn wan. Dywedodd yr Aelod Portffolio nad oedd yn credu hyn ond y byddai cyfuno’r timoedd arweinyddiaeth yn helpu i wella deilliannau i ddysgwyr. Gofynnodd y Cynghorydd Price a oedd yr Aelod Portffolio wedi gweld neges e-bost a anfonwyd gan Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Llandrindod. Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio iddo weld yr e-bost ac y byddai’n cael ei ystyried fel rhan o’r ymgynghoriad. Nododd y Cynghorydd Price y sylwadau gan Estyn yn y dadansoddiad o’r ymgynghoriad sef fod y cynigion yn methu â dangos sut y byddent yn gwella safonau. Atebodd yr Aelod Portffolio gan ddweud fod profiad y gorffennol wedi dangos fod deilliannau wedi gwella. Nododd y Cynghorydd Price fod cyfalaf o £17m wedi cael ei ddyrannu i’r cynllun a dadleuodd y byddai’n fwy buddiol i ddefnyddio’r arian i fynd i’r afael â gwaith gwerth £3.5m oedd yn cronni yn y ddwy ysgol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Price at nifer o wallau yn y dadansoddiad o’r ymgynghoriad.
Cwestiynodd y Cynghorydd Gwilym Williams a fyddai addysg cyfrwng Cymraeg yn gynaliadwy yn Llanfair-ym-Muallt heb blant yn mynychu o Aberhonddu. Nododd y canlyniadau TGAU gwell. Cyfeiriodd at asesiad Estyn na fyddai’r cynlluniau yn debygol o wella safonau. Galwodd ar y Cabinet i roi’r ... view the full Cofnodion text for item CC80- 2016 |
|
Eitemau wedi'u Heithrio Mae'rSwyddog Monitro wedi penderfynu bod Categori 1, Rheolau Mynediad at Wybodaeth, yn berthnasol i'r eitem canlynol. Ei farn ar brawf lles y cyhoedd, (wedi ystyried darpariaethau Rheol 11.8 Rheolau Mynediad at Wybodaeth y cyngor) oedd y byddai gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus yn groes i egwyddorion y Ddeddf Gwarchod Data. Oherwydd hyn a chan nad oedd yn ymddangos bod yna galw mawr ymhlith y cyhoedd am ddatgelu'r data personol yma, roedd o'r farn bod diddordeb y cyhoedd wrth gadw'r eithriad yn fwy pwysig na diddordeb y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth. Gofynnir i Aelodau ystyried y ffactorau hyn wrth benderfynu ar brawf lles y cyhoedd, a dylent benderfynu hyn wrth iddynt ystyried eithrio'r cyhoedd o'r rhan hon o'r cyfarfod. Cofnodion: Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i gyngor y Prif Weithredwr a Chyfreithiwr y Cyngor a
PHENDERFYNWYD y dylid eithrio’r cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth a eithrir yn cael ei datgelu iddynt dan gategori 1 Gorchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) 2007.
Fe wnaeth y Cynghorydd Sir David Meredith adael y cyfarfod.
|
|
Diswyddo Gorfodol Ystyried cymeradwyo manylion ariannol pecyn diswyddo o ganlyniad i benderfyniad y Cabinet i ddiddymu swydd o strwythur trefniadaeth y Cyngor ac i ddiswyddo deilydd y swydd.
Cofnodion: Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i’r pecyn diswyddiadau ar gyfer y Cyfarwyddwr Newid a Llywodraethu o ganlyniad i benderfyniad y Cabinet i ddileu’r swydd o strwythur trefniadol y Cyngor ac i ddiswyddo’r deilydd swydd.
Fe wnaeth y Cynghorydd Sir Aled Davies adael y cyfarfod.
Rhoddwyd manylion y pecyn i’r bleidlais a chafodd ei basio gan 32 pleidlais i 3 gydag 1 Cynghorydd yn ymatal rhag pleidleisio.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r pecyn diswyddo.
|