Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Sir PJ Ashton, GJ Bowker, P Harris, SM Hayes, JC Holmes, DR Jones, Eldrydd Jones, PE Lewis, DJ Mayor, S McNicholas, RH Mills, JG Shearer, RG Thomas, TG Turner, DH Williams a SL Williams.
Cwestiwn Brys
Fe wnaeth y Cadeirydd gynghori fod yr Aelod Portffolio Cyllid wedi cytuno i ateb cwestiwn brys oddi wrth y Cynghorydd Sir Gary Price ar yr ymdrech i dorri i mewn i adeilad Southfields. Esboniodd yr Aelod Portffolio fod y papurau blwch pleidleisio a ganfuwyd yn deillio o etholiadau Cynulliad Cymru 2011 ac nad oeddynt yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Dylai’r papurau fod wedi cael eu cadw am flwyddyn ac yna eu dinistrio. Mae’r papurau pleidleisio wedi cael eu dinistrio ers hynny a dywedodd yr Aelod Portffolio y byddai’n edrych ar y gweithdrefnau gyda swyddogion. Cyhoeddodd ymddiheuriad cyhoeddus a dywedodd hefyd fod y Cyngor wedi adrodd ei hunan dan y Ddeddf Diogelu Data. Cofnododd y Cynghorydd Price ei ddiolch i’r staff Etholiadau a dywedodd nad oedd unrhyw fai wedi’i neilltuo arnynt hwy. Mewn ymateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Price, dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod yn derbyn cyfrifoldeb a’i fod yn hapus i gynnig diweddariad pellach i Aelodau.
|
|
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau ynghylch eitemau sydd i’w hystyried ar yr agenda. Cofnodion: Dywedodd y Swyddog Monitro fod goddefeb wedi’i chyflwyno i Gynghorwyr a oedd yn llywodraethwyr ysgol i siarad a phleidleisio ar yr amod nad oedd eu buddiant yn un ariannol. Datganodd y Cynghorydd Sir JH Brunt fod ganddo fuddiant personol heb fod yn ariannol fel llywodraethwr yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot.
|
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Sir Gary Price a'r Cynghorydd Sir Aled Davies Bydd Cabinet Cyngor Sir Powys yn newid yn sylweddol ddarpariaeth Ysgolion Cynradd ac Uwchradd yn y Sir, ac yn wir y mae eisoes yn gwneud hynny.
Mae trigolion wedi cysylltu â sawl Aelod o’r Cyngor i fynegi eu pryder mai aelodau’r Cabinet (sef uchafswm o 10 aelod) yw’r unig Gynghorwyr sy’n ymwneud â’r penderfyniad terfynol yngl?n â dyfodol ysgolion Powys. Mae’r penderfyniadau hyn yn rhai sylweddol i Bowys, sy’n golygu ei bod yn bwysig bod y Cyngor llawn rannu’r cyfrifoldeb hwnnw.
Mae’rCyngor felly yn galw am wella’r cyfansoddiad yn fater o frys, i ganiatáu i bob penderfyniad yngl?n â chynigion ar Ysgolion Cynradd ac Uwchradd dan Bolisi Trawsnewid Ysgolion y Cyngor gael ei benderfynu gan holl aelodau’r Cyngor.
Cynigiwydgan y Cynghorydd Sir Gary Price Eiliwydgan y Cynghorydd Sir Aled Davies Cofnodion: Trafododd y Cyngor y cynnig canlynol a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir GD Price ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir AW Davies:
“Mae a bydd Cabinet Cyngor Sir Powys yn gwneud newidiadau arwyddocaol i ddarparu Ysgolion Cynradd ac Uwchradd o fewn y Sir.
Mae trigolion wedi cysylltu â nifer o Aelodau’r Cyngor gan fynegi pryderon mai’r Cabinet (uchafswm o 10 aelod) yw’r unig Gynghorwyr sydd ynghlwm â gwneud y penderfyniad terfynol am ddyfodol ysgolion Powys. Mae’r penderfyniadau hyn o’r fath arwyddocâd i Bowys fel ei bod hi’n bwysig y dylai’r Cyngor cyfan rannu’r cyfrifoldeb hwnnw.
Mae’r Cyngor felly yn galw am ddiwygio’r cyfansoddiad fel mater o frys er mwyn caniatáu i holl aelodau’r Cyngor wneud yr holl benderfyniadau o ran cynigion ar gyfer Ysgolion Cynradd ac Uwchradd dan Bolisi Trawsnewid Ysgolion y Cyngor a Pholisi Ad-drefnu Ysgolion 2015”.
Esboniodd y Swyddog Monitro pam fod ail gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Liam Fitzpatrick wedi cael ei wrthod.
Wrth gyflwyno’r cynnig, dadleuodd y Cynghorydd Price fod yr holl Gynghorwyr wedi’u hethol i wneud penderfyniadau ar ran eu cymunedau a bod penderfyniadau ar ad-drefnu ysgolion cynradd ac uwchradd o’r fath bwysigrwydd fel y dylid eu gwneud gan yr holl aelodau ac nid gan y Cabinet yn unig.
Cynigiwyd diwygiad gan y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt, a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir William Powell, gan ychwanegu’r geiriau canlynol i baragraff 2 o’r rhybudd o gynnig ar ôl y gair “cyfrifoldeb”. “Yn ychwanegol at hyn, mae’r Ysgrifennydd Addysg o fewn Cabinet Llywodraeth Cymru sydd newydd ei benodi wedi rhoi arwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu polisi ysgolion gwledig, nad oes gan Gymru ar hyn o bryd” a dileu paragraff 3. Dylid ychwanegu’r brawddegau canlynol yn lle paragraff 2: “O ystyried yr uchod, mae’r Cyngor yn galw am foratoriwm ar unrhyw benderfyniadau pellach mewn perthynas ag ysgolion cynradd ac uwchradd dan Bolisi Trawsnewid Ysgolion y Cyngor, yn ddibynnol ar gyfarwyddyd a datblygiadau polisi pellach gan Lywodraeth Cymru.”
Fe wnaeth y Cynghorydd Gibson-Watt ddadlau fod y cyhoedd wedi colli hyder yn y broses ad-drefnu ysgolion ac y byddai’n ddoeth aros tan fod yr Ysgrifennydd Addysg o fewn y Cabinet wedi cynhyrchu polisi ysgolion gwledig.
Cynigiwyd diwygiad gan y Cynghorydd Sir Myfanwy Alexander, a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Phil Pritchard, er mwyn dileu’r gair “Cynradd” o’r rhybudd o gynnig.
Cynigiwyd diwygiad gan y Cynghorydd Sir David Price, a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Michael Williams, “Fod y Cyngor llawn yn cael y cyfle i gwrdd a thrafod argymhellion sy’n ymwneud ag ysgolion uwchradd a effeithir gan bolisi trawsnewid y Cyngor, i fynegi barn cyn y gwneir penderfyniadau gan y Cabinet”.
Mynegodd nifer o Gynghorwyr bryder am unrhyw oedi pellach i’r broses ad-drefnu ysgolion.
Gohiriwyd y Cyngor er mwyn i’r grwpiau gwleidyddol ystyried y diwygiadau gan ailymgynnull 11.30 a.m.
Galwodd mwy na 10 aelod oedd yn bresennol am bleidlais oedd wedi’i chofnodi.
Pleidleisiodd y Cyngor ar y diwygiad a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir James ... view the full Cofnodion text for item CC66- 2016 |