Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Sir PJ Ashton, GJ Bowker, LV Corfield, S Davies, WT Jones, DJ Mayor, S McNicholas, G Morgan, RG Thomas ac SL Williams.
|
|
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir JH Brunt fod ganddo fuddiant personol diragfarn fel aelod o fwrdd corfforaeth Coleg Castell-nedd Port Talbot.
|
|
Ad-drefnu Ysgolion Uwchradd yng Nghanolbarth a De Powys Derbyn cyflwyniad gan y Prif Weithredwr a Phennaeth Ysgolion a thrafod yr ymgynghoriad presennol yn wneud ag Ad-drefnu Ysgolion Uwchradd yng Nghanolbarth a De Powys. Cofnodion: Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor bod y cyngor cyfreithiol a gafwyd yn flaenorol mai dim ond y Cabinet allai benderfynu ynghylch ad-drefnu ysgolion dan Adran 53 y Trefniadau Gweithredol yn anghywir. Gofynnwyd i'r Swyddog Monitro pwy fyddai'n penderfynu ar ad-drefnu ysgolion a dywedodd mai'r Cabinet fyddai'n penderfynu, o dan delerau'r Cyfansoddiad presennol. Rhybuddiodd y Cynghorwyr Sir Gareth Ratcliffe a Gary Price y byddent yn cael eu cyflwyno cynigion i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.
Gosododd y Prif Weithredwr a'r Pennaeth Ysgolion y cyd-destun strategol, yr achos dros newid a chynigion ar gyfer moderneiddio ysgolion uwchradd yng Nghanolbarth a De Powys. Fe wnaethon nhw esbonio bod safonau anghyson, niferoedd y disgyblion a lleihad yn y cyllidebau yn golygu nad oedd y trefniadau presennol yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Atebodd yr Aelod Portffolio Addysg a swyddogion gwestiynau gan yr aelodau. Gofynnodd yr Aelodau a oedd y Cabinet wedi ystyried cynigion amgen i'r rhai a oedd yn destun ymgynghoriad. Cadarnhawyd bod cyfres o ddewisiadau wedi eu hystyried a'u gwerthuso gan y Panel Adolygu Trefniadaeth Ysgolion, a oedd wedyn wedi gwneud argymhellion i'r Cabinet.
Cadarnhaodd yr Arweinydd ac aelodau'r Cabinet eu bod yn barod i ystyried cynigion eraill a ddeuai gerbron yn ystod yr ymgynghoriad a chadarnhawyd y byddai yna amser o hyd i ymgynghori ar gynigion amgen a chael mynediad i gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Gofynnodd un Aelod a oedd unrhyw ysgolion heblaw Ysgol Uwchradd Llanfyllin wedi cadarnhau eu bod wedi defnyddio cyllidebau dirprwyedig i drosglwyddo disgyblion o'r tu allan i'w dalgylch a chafwyd gwybod bod un ysgol arall wedi gwneud. Darparodd Swyddogion fanylion am y niferoedd a ragamcanir ar gyfer yr ysgolion. Cadarnhaodd y swyddogion y byddai manylion datblygiadau tai arfaethedig yn cael eu hymgorffori yn yr adroddiad pan ddeuai yn ôl i'r Cabinet.
Gofynnodd yr aelodau am eglurhad p’un a oedd y ffigur o 150 o ddisgyblion ar gyfer chweched dosbarth hyfyw yn un a gafodd ei ddewis gan y Cyngor ynteu gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd y swyddogion bod y ffigur hwn yn seiliedig yn rhannol ar gyllid ac yn rhannol ar nifer y pynciau roedd Llywodraeth Cymru yn dymuno i ysgolion eu darparu. Cytunodd y Pennaeth Ysgolion i adael i Gynghorwyr gael manylion o'r sail tystiolaeth ar gyfer hyn. Gofynnodd un Aelod pam fod y cynnig ar gyfer Aberhonddu wedi newid o’r cynnig gwreiddiol ar gyfer ysgol ddwyieithog 11-16 gyda Chweched Dosbarth pwrpasol a dywedwyd wrtho nad oedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r opsiwn hwn gan nad oedd yn drawsnewidiol.
Holodd nifer o Aelodau ynghylch y cynnig mai Coleg Castell-nedd Port Talbot (NPTC) ddylai ddarparu addysg chweched dosbarth addysg yn Aberhonddu a Gwernyfed. Hysbyswyd yr Aelodau bod NPTC yn ymrwymo i ddarparu 20 o bynciau academaidd a 5 o bynciau galwedigaethol ar gampws Aberhonddu. Gofynnodd yr Aelodau am safonau NPTC a dywedwyd wrtho eu bod yn debyg i gyfartaleddau Powys ar draws y sector uwchradd. Gofynnwyd i'r Aelod Portffolio Addysg am y taliad ar gyfer presenoldeb mewn ... view the full Cofnodion text for item CC63- 2016 |