Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Sir GJ Bowker, P Harris, MC Mackenzie, DJ Mayor, S McNicholas, a TG Turner.
Darllenodd y Cadeirydd nodyn gan y Cynghorydd Susan McNicholas yn diolch i’r aelodau am eu negeseuon o gefnogaeth wrth iddi wella yn dilyn ei damwain.
|
|||||||||||||||||||||||||||
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd yr awdurdod i’r Cadeirydd lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2016 yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant oddi wrth Aelodau yn ymwneud â’r eitemau sydd i’w hystyried ar yr agenda. Cofnodion:
Nid oedd yr un datganiad o ddiddordeb i’w nodi.
|
|||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth Mr Fred Barker, aelod o’r Cyngor o 1995 hyd 2012, a chyn aelod o Gyngor Dinas a Sir Caer a Chyngor Dosbarth Maesyfed. Safodd yr aelodau a’r swyddogion ar eu traed fel arwydd o barch.
Nododd y Cadeirydd, ymhlith y digwyddiadau y bu’n bresennol ynddynt oedd seremoni urddo yr Uchel Siryf newydd, Ann Tudor, a rownd derfynol Gwobrau Cenedlaethol Crimebeat pan enillodd disgyblion Ysgol Uwchradd Crughywel y wobr gyntaf am eu cyflwyniad, a chael y drydedd wobr yn y gystadleuaeth yn gyffredinol.
Cynigodd y Cynghorydd Sir Van-Rees y dylid anfon telegram yn mynegi llongyfarchiadau twymgalon i’w Mawrhydi Y Frenhines ar ddathlu ei phen-blwydd yn 90 oed, a chafodd y cynnig ei gefnogi gan y Cyngor.
|
|||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau oddi wrth yr Arweinydd. Cofnodion: Cynghorodd yr Arweinydd y Cyngor y byddai’r cyfarfod ymgynghori olaf ynghylch moderneiddio ysgolion uwchradd yng Nghanolbarth a De Powys yn cael ei gynnal yng Ngwernyfed y noson honno. Dywedodd fod Freedom of Leisure wedi cyhoeddi buddsoddiad o £2 filiwn yn y canolfannau hamdden yn Aberhonddu, Rhaeadr a’r Trallwng. Nododd hefyd fod y gyfradd casglu rhent yn 99.69% yn ystod y chwarter diwethaf, yr uchaf erioed. Nododd hefyd y derbyniwyd grant o £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn datblygu tai cymdeithasol yng Nghrughywel a’r Drenewydd, ac £800,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth a diogelwch ar y ffyrdd. Nododd yr Arweinydd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r achos busnes ar gyfer datblygu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg newydd yn y Trallwng, a bod y contract ar gyfer adeiladu 5 ysgol gynradd newydd yn nalgylch Gwernyfed wedi cael ei ddyfarnu.
|
|||||||||||||||||||||||||||
Briff gan y Prif Weithredwr Derbyn neges brîffio oddi wrth y Prif Weithredwr. Cofnodion:
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Bwrdd Partneriaeth ar y Cyd wedi cyfarfod am y tro cyntaf yn sgil ei gylch gwaith newydd i edrych dros y broses o integreiddio â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, a bod y Cynghorydd Stephen Hayes wedi cael ei benodi’n Gadeirydd. Dywedodd hefyd fod cyfweliadau ar gyfer swydd y Cyfarwyddwr Trawsnewid wedi cael eu cynnal yr wythnos flaenorol a bod unigolyn wedi cael ei benodi. Dywedodd wrth y Cyngor fod y Cabinet wedi cymeradwyo cyfres newydd o werthoedd staff a’u bod wedi cael adborth cadarnhaol gan y staff. Nododd hefyd fod dwy ddeddfwriaeth newydd wedi dod i rym, sef y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, a oedd yn cyflwyno trefniadau rhanbarthol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol lle byddai Powys yn sefyll fel rhanbarth ar ei phen ei hun, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a fyddai’n cyflwyno Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn lle Byrddau Gwasanaethau Lleol.
|
|||||||||||||||||||||||||||
Ystyriedtrosglwyddiadau y mae angen i’r Cyngor eu cymeradwyo. Cofnodion: Cafodd y Cyngor fanylion ynghylch dau drosglwyddiad cyfalaf dros £500,000 y byddai’n ofynnol cael cymeradwyaeth y Cyngor ar eu cyfer. Nodwyd y dylai’r ffigyrau yn yr atodlen fod yn y miloedd. Cynigiwyd yr argymhellion gan yr Aelod Portffolio dros Gyllid, a’u heilio gan yr Arweinydd.
Pasiwyd yr argymhelliad o 64 pleidlais i 0. http://powys.moderngov.co.uk/mgA.aspx?M=2864
|
|||||||||||||||||||||||||||
Y Cyfansoddiad Newydd PDF 69 KB Ystyriedadroddiad Cyfreithiwr y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor yr adroddiad gan Gyfreithiwr y Cyngor ynghylch y gwelliannau i adrannau’r canlynol y Cyfansoddiad:
Esboniodd Cyfreithiwr y Cyngor y byddai’r system bleidleisio electronig yn cofnodi ac yn cynnwys y pleidleisiau yn y cofnodion. Byddai’r hawl i ofyn am bleidlais wedi’i chofnodi’n parhau. Gofynnodd y Cynghorydd Sir Stephen Hayes am eglurhad ynghylch a fyddai modd gofyn am bleidlais wedi’i chofnodi o dan Reol ddrafft 4.66.2 ar ôl cynnal y bleidlais.
PENDERFYNWYD aileirio Adran 4 Rheol ddrafft 4.66.2 er mwyn nodi’n glir bod yn rhaid cyflwyno cais am bleidlais wedi’i chofnodi cyn cynnal y bleidlais ei hun.
Cyflwynodd y Cynghorydd Sir MJ Dorrance welliant i Adran 5 Paragraff 5.26, a gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Sir AW Davies, y dylid dileu’r gofyniad i gyflwyno cwestiynau ysgrifenedig i’r Cabinet o leiaf 24 awr cyn dechrau’r cyfarfod.
Pasiwyd y gwelliant o 34 pleidlais i 26 gyda 3 pleidlais wedi’u ymatal. http://powys.moderngov.co.uk/mgA.aspx?M=2864
PENDERFYNWYD y dylai’r gofyniad yn Rheol ddrafft 5.36 i gyflwyno cwestiynau ysgrifenedig i’r Cabinet o leiaf 24 awr cyn dechrau’r cyfarfod gael ei ddileu.
Nid oedd angen newid y Cyfansoddiad ynghylch cais i’r adran Gynllunio i gydnabod ceisiadau gan yr aelodau lleol i gyfeirio ceisiadau i’r Pwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy, ond byddai’r mater yn cael ei godi gyda’r swyddogion perthnasol.
Cafodd yr argymhellion eu cyflwyno gan y Cynghorydd Sir SC Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, fel y’u diwygiwyd uchod, a’u heilio gan y Cynghorydd Sir JM Williams.
Pasiwyd y gwelliannau o 61 pleidlais i 2. http://powys.moderngov.co.uk/mgA.aspx?M=2864
|
|||||||||||||||||||||||||||
Aelodaeth Pwyllgorau PDF 83 KB Ystyriedadroddiad Cyfreithiwr y Cyngor.
Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor adroddiad Cyfreithiwr y Cyngor ynghylch cyfansoddiad y pwyllgorau.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir DR Price welliant, a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir KF Tampin, fod maint y Pwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy yn aros yn 21 o aelodau.
Pasiwyd y gwelliant o 44 pleidlais i 20 gyda 2 bleidlais wedi’u hymatal. http://powys.moderngov.co.uk/mgA.aspx?M=2864
PENDERFYNWYD bod maint y Pwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy yn aros yn 21 o aelodau.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir DW Meredith welliant, a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir MJ Dorrance, bod maint y Pwyllgor Craffu Pobl, y Pwyllgor Craffu Lle a’r Pwyllgor Archwilio yn parhau'r un fath.
Collwyd y gwelliant o 30 pleidlais i 31 gyda 3 pleidlais wedi’u hymatal. http://powys.moderngov.co.uk/mgA.aspx?M=2864
Cynigiodd y Cynghorydd Sir AG Thomas welliant, a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir GP Vaughan, fod aelodaeth y Pwyllgor Pensiynau a Buddsoddi yn cynyddu i gynnwys yr Aelod Portffolio dros Gyllid.
Pasiwyd y gwelliant o 41 pleidlais i 20. http://powys.moderngov.co.uk/mgA.aspx?M=2864
PENDERFYNWYD bod aelodaeth y Pwyllgor Pensiynau a Buddsoddi yn cynyddu i gynnwys yr Aelod Portffolio dros Gyllid.
Cynigwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Sir SC Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, eiliwyd gan y Cynghorydd Sir GR Banks, fel y’u diwygiwyd uchod.
Pasiwyd yr argymhellion o 51 pleidlais i 12. http://powys.moderngov.co.uk/mgA.aspx?M=2864
Gohiriwyd y Cyngor rhwng 12.15 p.m. a 12.30 p.m. Gadawodd y Cynghorydd Sir PE Lewis y cyfarfod.
|
|||||||||||||||||||||||||||
Cadeiryddion Pwyllgorau Craffu PDF 70 KB Ystyriedadroddiad Cyfreithiwr y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ystyriodd y Cyngor adroddiad Cyfreithiwr y Cyngor ynghylch dosbarthiad y Cadeiryddion Craffu yn dilyn un aelod yn symud o un gr?p gwleidyddol i un arall. Yn sgil y niferoedd cyfartal yng ngrwpiau’r Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, daeth y ddau gr?p i gytundeb a oedd yn arwain at hawl gr?p Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i bennu cadeirydd y Pwyllgor Craffu Lle. Penodwyd y Cynghorydd Sir Kelvyn Curry i’r swydd gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru. Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Sir KS Silk, a’i eilio gan y Cynghorydd Sir JG Morris.
Pasiwyd yr argymhelliad o 51 pleidlais i 4 gyda 2 bleidlais wedi’u hymatal. http://powys.moderngov.co.uk/mgA.aspx?M=2864
|
|||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynigiad - Y Cynghorydd Sir Myfanwy Alexander a'r Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe Mae galw ar y Cyngor hwn i wneud sawl penderfyniad, ond ychydig yn unig fydd â’r canlyniadau pellgyrhaeddol a dramatig sy’n deillio o newidiadau mawr I Ysgolion Uwchradd yr Awdurdod. Mae angen i’r penderfyniadau hyn gael eu gwneud mewn modd agored, gan ddilyn y drafodaeth ehangaf bosibl, ac i’r perwyl yma, cynigir bod pob newid sylweddol i Ysgolion Uwchradd Powys yn cael eu trafod gan y cyngor Llawn. Mae’r newidiadau sylweddol i’w diffinio fel newid yn yr oed derbyn i’r ysgol (gan gynnwys dileu darpariaeth ôl-16 a chreu Ysgolion Pob Oed), newidiadau yn statws ieithyddol neu ffydd (ac eithrio lle bydd y statws wedi newid yn organig trwy estyniad graddol o ddarpariaeth cwricwlwm), uno neu gyd-reoli neu gau. Dylai trafodaeth o’r fath gael digon o amser i gyfrannu’n llawn ati, ac os n bosibl, dylid ei gweddarlledu i ganiatáu i aelodau o’r gymuned ddilyn y dadleuon. Yn dilyn y drafodaeth, dylid pasio cynnig yn rhoi cyfle i fynegi ewyllys democrataidd y Cyngor. Cynigiwydgan y Cynghorydd Sir Myfanwy Alexander Eiliwydgan y Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe
Cofnodion: Trafododd y Cyngor yr hysbysiad o gynnig a gafodd ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sir MC Alexander a’i eilio gan y Cynghorydd Sir GW Ratcliffe: Gelwir ar y Cyngor hwn i wneud llawer o benderfyniadau ond prin iawn yw’r rhai fydd yn cael canlyniadau pellgyrhaeddol a dramatig yn sgil newidiadau mawr i Ysgolion Uwchradd yr Awdurdod. Mae angen dod i’r penderfyniadau hyn mewn modd agored, yn dilyn trafodaeth mor eang â phosibl, ac i’r perwyl hwn, cynigir y dylai’r holl newidiadau sylweddol i Ysgolion Uwchradd Powys gael eu trafod gan y Cyngor Llawn. Gellir diffinio newidiadau sylweddol fel newidiadau i oedran derbyn (yn cynnwys diddymu darpariaeth ôl-16 a chreu ysgolion 3 -16 oed), newidiadau o ran statws iaith neu ffydd, (ac eithrio pan fydd y statws wedi newid yn organig trwy estyniad graddol yn narpariaeth y cwricwlwm), uno, neu reoli ar y cyd neu gau. Dylai trafodaeth o’r fath ganiatáu amser digonol i gynnal trafodaeth lawn ac, os yn bosibl, dylid gwe-ddarlledu’r cyfarfod er mwyn caniatáu aelodau’r gymuned i ddilyn y dadleuon. Yn dilyn y drafodaeth, dylid pasio cynnig a fyddai’n rhoi cyfle i’r Cyngor fynegi ei ewyllys democrataidd. Wrth gyflwyno’r cynnig esboniodd y Cynghorydd Alexander fod hyn yn berthnasol i ysgolion uwchradd ac i newidiadau sylweddol yn unig. Dadleuodd y Cynghorydd Alexander fod teimlad o ddiffyg democratiaeth, a thrwy ganiatáu trafodaeth agored yn y Cyngor byddai’r penderfyniadau yn fwy derbyniol i’r gymuned. Cyfeiriodd y Cynghorydd Ratcliffe at benderfyniad gan Gyngor Sir Penfro i sicrhau mai’r Cyngor oedd yn gwneud penderfyniadau yngl?n â materion ad-drefnu ysgolion, yn hytrach na’r Cabinet.
Cynigiwyd y gwelliant gan y Cynghorydd Sir EA Jones, yr Aelod Portffolio dros Addysg, a’i eilio gan y Cynghorydd Sir DR Jones.
Roedd cynigydd ac eiliwr yr ail gynnig wedi cadarnhau eu bod yn fodlon gohirio’r ystyriaeth hyd nes byddai’r Swyddog Monitro yn cael amser i edrych ar yr wybodaeth a ddarparwyd gan y Cynghorydd Ratcliffe yngl?n â phenderfyniadau ar addysg mewn awdurdodau lleol eraill. Dywedwyd wrth yr aelodau mai dyddiad tebygol y cyfarfod arbennig fyddai 16 Mai.
|
|||||||||||||||||||||||||||
Beth mae’r Cyngor yn ei wneud i sicrhau bod bwyd sy’n cael ei dyfu’n lleol yn cael ei ddefnyddio mewn Cinio Ysgol? Cofnodion: Beth mae’r Cyngor yn ei wneud i sicrhau bod bwyd sy’n cael ei dyfu’n lleol yn cael ei ddefnyddio wrth ddarparu Cinio Ysgol?
Lle bynnag y bo’n bosibl rydym yn ceisio defnyddio cyflenwyr o Gymru a chyflenwyr lleol ar gyfer darparu cinio ysgol. Rydym ar hyn o bryd yn defnyddio nifer o gyflenwyr o Bowys, mae ein holl selsig yn dod o Langfords (Y Cwmni Selsig Cymreig) o’r Trallwng. Mae ein holl dd?r potel a sudd ffrwythau ar gyfer ein hysgolion uwchradd yn cael eu cyflenwi gan Radnor Hills yn Nhrefyclo. Mae gennym rai cyflenwyr ffrwythau a llysiau sy’n dod o Henffordd a Forden (Y Trallwng)
Mae gan Gyngor Sir Powys nifer o ofynion y mae’n rhaid i gyflenwyr eu bodloni: · Digon o gyflenwad h.y. yn gallu cyflenwi’r holl safleoedd o fewn ardaloedd daearyddol Powys. Mae ysgolion yn cael cyflenwadau cynnyrch ffres sawl gwaith yr wythnos; mae’r amlder yn dibynnu ar faint yr ysgol a’r cyfleusterau storio. Mae angen sicrhau y gellir dosbarthu 2-3 gwaith yr wythnos i bob sefydliad. · Cynnyrch o ansawdd da, y mae’n rhain i gyflenwyr fodloni meini prawf penodol fel rhan o’r HACCP a sefydlwyd gan Gyngor Sir Powys. Mae’n rhaid i gyflenwyr gael archwiliad STS gan archwilydd allanol i sicrhau diogelwch bwyd y cynnyrch o’r fferm i’r fforc, yn unol ag argymhellion Pennington 2005. · Pris/ychwanegiad rhesymol (ar gostau).
Rydym yn y broses o aros i NPS (Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol) Cymru i wahodd ceisiadau tendro ar gyfer darparu contractau bwyd newydd i awdurdodau lleol, mae hyn yn debygol o fod ym mis Awst 2016. Mae’r gwasanaeth arlwyo yn gweithio gyda’r tîm gwasanaethau masnachol i sicrhau bod unrhyw gontractau bwyd newydd yn darparu gwerth am arian ac yn cynnal ansawdd ar yr un pryd.
Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol gan y Cynghorydd Dorrance ynghylch a fyddai’r Cabinet yn ymgymryd ag adolygiad arlwyo mewn ysgolion er mwyn hyrwyddo busnesau a chynhyrchwyr lleol, cadarnhaodd Aelod y Portffolio dros Addysg bod contractau’n cael eu hystyried.
|
|||||||||||||||||||||||||||
Mae ‘Safon Ansawdd Tai Cymru’ Llywodraeth Lafur Cymru wedi trawsffurfio stoc oedd yn heneiddio yn gartrefi sy’n defnyddio ynni’n fwy effeithon ac sy’n addas at y diben y gall trigolion fod yn falch ohonyn nhw. Ond mae ein stadau tai bob amser yn aros i’r Cyngor drin y gwaith sydd wedi ôl-gronni – fel rhoi wyneb newydd ar y llwybrau a’r ffyrdd pengaead; trwsio ffensys a thorri gwrychoedd; a chlirio graffiti a thipio anghyfreithlon.
Beth yw cynllun y Cyngor ar gyfer mynd i’r afael â’r materion yma?
Cofnodion: Mae ‘Safon Ansawdd Tai Cymru’ Llywodraeth Cymru wedi trawsnewid hen stoc yn gartrefi sy’n well o ran arbed ynni ac yn addas at y diben ac yn rhai y gall trigolion fod yn falch ohonynt. Fodd bynnag, y mae angen i’r Cyngor fynd i’r afael â llwyth gwaith sy’n aros i gael ei wneud yn ein hystadau tai – er enghraifft ailosod wyneb llwybrau a ffyrdd pengaead; atgyweirio ffensys a thorri cloddiau; a chlirio graffiti a thipio anghyfreithlon.
Beth yw cynlluniau’r Cyngor ar gyfer mynd i’r afael â’r materion hyn? Fel y mae’r Cynghorydd Dorrance yn ymwybodol, mae’r cyngor yn buddsoddi cryn dipyn o arian wrth fynd ati i sicrhau Safon Ansawdd Tai Cymru ledled sir. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwariwyd dros £14.1 miliwn ar wella cartrefi tenantiaid, ac yn y flwyddyn ariannol bresennol rydym yn bwriadu gwario £15.2 miliwn yn 2016-17. Mae’r arian hyn yn cael ei wario’n bennaf ar elfennau sylfaenol ein cartrefi (ceginau, ystafelloedd ymolchi newydd, ail osod toeon, insiwleiddio waliau allanol, ailweirio, systemau gwresogi newydd). Er bod gennym gronfa gyfalaf fach (£1 miliwn yn 2016-17) i wella elfennau eilaidd (gwaith i’r amgylchedd gerllaw ein cartrefi) ledled y sir, mae’r mwyafrif o’r eitemau y mae’r Cynghorydd Dorrance yn holi yn eu cylch yn cael eu cyflawni fel gwaith cynnal a chadw ymatebol.
Ailosod wyneb llwybrau a ffyrdd – Rydym yn archwilio'r rhain yn gyson a hefyd yn ymateb i adroddiadau/cwynion gan denantiaid, cynghorwyr ac aelodau’r cyhoedd. Pan fydd angen ailosod wyneb rydym yn gwneud hyn ar sail ymatebol. Nid oes cynllun cyffredinol i ailosod wyneb holl lwybrau a ffyrdd y stoc dai.
Perthi y mae Tai yn gyfrifol amdanynt – mae rhai perthi’n rhan o’r contract cynnal a chadw’r tir ac yn cael eu torri’n gyson gan ein contractwr, fodd bynnag cyfrifoldeb y tenantiaid yw cynnal a chadw rhai o’r perthi. Mae’r contract hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Os oes achosion unigol y mae angen gwaith arnynt, rydym yn ystyried y rhain fesul achos.
Ffensys – nid oes rhaglen i adnewyddu ffensys. Mae’r rhain yn cael eu trwsio pan fydd angen, neu pan fydd problemau’n cael eu hadrodd gan denantiaid, cynghorwyr ac aelodau’r cyhoedd. Rydym wedi gwneud rhai cynlluniau gwella’r amgylchedd, a byddwn yn parhau i wneud pan fydd galw, a bydd y rhain o bryd i’w gilydd yn cynnwys gosod ffensys newydd.
Mae graffiti a thipio anghyfreithlon ar ystadau cyngor yn cael eu hystyried yn fater cynnal a chadw ymatebol y mae angen mynd i’r afael ag ef ar frys, ac felly mae’n cael ei gyflawni fesul achos yn dilyn adroddiad gan denant, cynghorydd, neu aelod o’r cyhoedd, neu yn dilyn archwiliad o’r ystâd gan swyddogion y gwasanaeth tai.
Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol gan y Cynghorydd Dorrance yn gofyn am ymrwymiad i weithio gyda thenantiaid ac aelodau lleol i gynhyrchu cynllun mwy cadarn i reoli tai, dywedodd yr Arweinydd y byddai’n dynodi’r portffolio Tai erbyn diwedd yr wythnos a byddai’n trefnu i’r Aelod Portffolio gysylltu â’r Cynghorydd Dorrance.
|
|||||||||||||||||||||||||||
Fel y gwyddoch, bydd Estyn yn monitro cynnydd pob ysgol, ac mae hyn yn amrywio o fesurau arbennig i ysgolion ag anhawster i driniaeth ysgafn i’r ysgolion gorau, ac mae’r mwyafrif o’r ysgolion yn y canol mewn gr?p sy’n cael eu harolygu ar faterion penodol yn unig. Ar 16 Mawrth, cyhoeddodd Estyn na fyddai Ysgol Uwchradd Gwernyfed yn y grwp canol bellach ond oherwydd y cynnydd a wnaeth bydd yn lle hynny'r un fath ag Ysgol Uwchradd megis y Drenewydd a Chrughywel nad oes angen unrhyw fonitro ychwanegol arnynt (nid monitro arbennig, fel yr oedd yr adroddiad wedi awgrymu). Alla’ i wahodd y Cabinet i gynnig ei longyfarchiadau I Ysgol Uwchradd Gwernyfed High School ar y cyflawniad yma? Cofnodion: Fel y mae’n si?r eich bod yn ymwybodol, mae Estyn yn monitro cynnydd yn yr holl ysgolion ac mae hyn yn amrywio o fesurau arbennig ar gyfer ysgolion sy’n cael anawsterau, i drefn llai caeth ar gyfer yr ysgolion gorau, gyda’r mwyafrif yn rhan o’r gr?p canol sy’n cael archwiliad ar faterion penodol. Cyhoeddodd Estyn ar 16 Mawrth na fyddai Ysgol Uwchradd Gwernyfed yn y gr?p canol hwnnw mwyach oherwydd y cynnydd yr oedd wedi’i gwneud, a bydd yn hytrach yn ymuno ag ysgolion uwchradd megis y Trallwng, Maesydderwen a Chrughywel nad oes arnynt angen monitro ychwanegol (nid monitro penodol fel yr adroddwyd). Gallaf felly estyn gwahoddiad i’r Cabinet gynnig ei longyfarchiadau i Ysgol Uwchradd Gwernyfed ar ei llwyddiant?
Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Ratcliffe, gallaf gadarnhau fod Estyn yn cyflawni arolygiadau yn yr holl ysgolion, a byddant yn cael yn arolygiad o leiaf unwaith mewn cyfnod o saith mlynedd. Mae lefel y monitro yn dibynnu ar ganlyniad yr archwiliad. Ceir pum canlyniad sef: · Dim monitro · Monitro gan yr Awdurdod Lleol · Monitro gan Estyn sy’n cynnwys ymweliad gan dîm o Arolygwyr (HMI) tua 12-18 mis ar ôl yr arolygiad gwreiddiol. Pwrpas hwn yw dyfarnu’r cynnydd yn erbyn argymhellion craidd yr arolygiad. · Gwelliant Sylweddol gyda gweithdrefn fonitro debyg i ysgolion a ddyfernir bod arnynt angen monitro gan Estyn. · Mesurau Arbennig sy’n golygu ymweliad gan Arolygwyr (HMI) bob tymor. Yn ystod arolygiad craidd Estyn o Wernyfed yn 2013 dyfarnwyd bod angen monitro gan Estyn. Cynhaliwyd yr ymweliad monitro yn ystod Tymor y Gwanwyn a’r canlyniad oedd bod Gwernyfed wedi gwneud cynnydd digonol felly nid oedd angen monitro pellach o ran canlyniad arolygiad 2013. Mae hyn yn ganlyniad da i’r ysgol a’r Cyngor, ac fe ddaw yn sgil gwaith helaeth gan yr ysgol trwy gefnogaeth a her y gwasanaeth ysgolion ac ERW. Mynegodd y Cabinet ei longyfarchiadau i’r ysgol ar y canlyniad hwn.
Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol y Cynghorydd Ratcliffe ynghylch cadarnhau bod y broses moderneiddio ysgolion at ddibenion addysgol yn unig, dywedodd yr Aelod Portffolio dros Addysg fod y broses wedi’i hanelu at wella safonau a dewisiadau pwnc er mwyn sicrhau darpariaeth addysg ymarferol ar gyfer y dyfodol.
|