Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Sir GJ Bowker, ER Davies MJB Davies, L Fitzpatrick, RI George, EA Jones, GM Jones, MJ Jones, JG Morris, WD Powell, GW Ratcliffe, KF Tampin, TG Turner DH Williams ac SL Williams.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Awdurdodwyd y Cadeirydd i arwyddo Cofnodion cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2016 fel rhai cywir.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau sy’n ywmenud ag eitemau sydd i’w hystyried ar yr agenda. Cofnodion:
Gwnaeth y Cynghorwyr SirPJ Ashton, LV Corfield, DE Davies, LRE Davies, SC Davies, DO Evans, WJ Evans, MR Harris, SM Hayes, GG Hopkins, EM Jones, WT Jones, PE Lewis, DJ Mayor, PJ Medlicott, DW Meredith, RH Mills, ET Morgan, G Morgan, WJT Powell, DR Price, JG Shearer, RG Thomas, DA Thomas, WB Thomas, TJ Van-Rees, GSI Williams ac EA York ddatganiad o ddiddordeb personol diragfarn o ran Deddf Tai (Cymru) CC31 – 2016 2014 – Premiwm Treth y Cyngor.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoediadau gan Gadeirydd y Cyngor. Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd fanylion am rai o’r digwyddiadau yr oedd wedi eu mynychu dros yr wythnosau diwethaf. Diolchodd i’r Aelodau hynny a oedd wedi mynychu ei ginio elusennol neu a oedd wedi cyfrannu ato.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau oddi wrth yr Arweinydd. Cofnodion: Diolchodd yr Arweinydd i bawb a oedd wedi cyfrannu at drefnu’r gyllideb a chydnabu’r arian ychwanegol yr oedd Llywodraeth Cymru wedi ei roi a chymorth Aelodau’r Cynulliad wrth lobïo dros yr arian hwn. Dywedodd fod ymgynghoriadau ar y gweill ar nifer o ysgolion cynradd ac y byddai’r ymgynghoriadau ar ysgolion uwchradd yn nalgylchoedd Aberhonddu a Gwernyfed a Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod yn dechrau fis Ebrill. Rhoddodd wybod i’r Cyngor ei fod, ynghyd â’i Ddirprwy Arweinwyr, wedi cyfarfod â Chris Davies AS ac Alun Cairns AS i drafod cryfhau gwasanaethau trawsffiniol, a’r angen i wella’r cysylltiadau teithio a chwmpas ffonau symudol. Hefyd fe groesawodd yr Arweinydd y ffaith y byddai ras seiclo Taith Prydain yn dychwelyd i’r sir.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Briff gan y Prif Weithredwr Derbyn neges briffio oddi wrth y Prif Weithredwr. Cofnodion:
Croesawodd y Prif Weithredwr y newyddion bod y gwaith ar fin cychwyn ar ffordd osgoi’r Drenewydd. Rhoddodd y newyddion diweddaraf i’r Cyngor yngl?n ag integreiddio’r Bwrdd Iechyd gyda chynllun cydleoli yn Ystradgynlais a’r gwaith a oedd ar fin cychwyn ym Machynlleth a Llanidloes yngl?n â rhagor o gynlluniau cydleoli. Dywedodd fod y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Chynllun Severnside Extra Care i ddarparu 48 o fflatiau fforddiadwy i’w rhentu gan bobl ag anghenion gofal a chymorth. Llongyfarchodd yr adran Gyfathrebu a oedd wedi ennill y dyfarniad ymgysylltu staff yng Ngwobrau Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus a oedd hefyd wedi bod ar y rhestr fer am wobr ychwanegol. Roedd hefyd yn falch gallu dweud bod y Cyngor wedi’i gynnwys ar restr fer Gwobrau Rhagoriaeth wrth Gaffael Llywodraeth Leol am ei waith wrth drosglwyddo’r gwasanaethau hamdden. Yn olaf, fe nododd fod y Cyngor wedi llwyddo i gadw ei gontract ar gyfer y cynllun Asiantaeth Tai Cenedlaethol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddiadau yn y Gyllideb PDF 38 KB Ystyried trosglwyddiadau yn y gyllideb y mae angen cymeradwyaeth y Cyngor ar eu cyfer. Cofnodion: Gwnaeth dros 10 o’r aelodau a oedd yn bresennol gais i’r holl bleidleisiau yn y cyfarfod gael eu cofnodi.
Rhoddwyd gwybod i’r Cyngor bod y trosglwyddiad yn ymwneud â system TG Gofal Cymdeithasol a ddylai fod yn y gyllideb refeniw ac nid yn y gyllideb cyfalaf.
Cafodd yr argymhelliad ei basio o 39 pleidlais i 1 gyda 1 yn ymatal.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad Blynyddol Isafswm Darpariaeth Refeniw Digwygiedig ar gyfer 2015/16 PDF 115 KB Ystyried Datganiad Blynyddol ynglyn â’r Isafswm Darpariaeth Refeniw Diwygiedig ar gyfer 2015/16. Cofnodion: Esboniodd yr Aelod Portffolio fod yr argymhelliad dan sylw yn ymwneud â chyllido cyfalaf y gyllideb ar gyfer 2015/16, ac fe gynigodd yr un fethodoleg ar gyfer ad-dalu â’r un a gymeradwywyd gan y Cyngor yn ei gyfarfodydd blaenorol ar gyfer cyllideb 2016/17. Roedd hyn yn cwtogi ar y cyfnod a oedd ar gael i’r benthyciadau gael eu had-dalu, ac yn ei gwneud yn gwbl sicr beth oedd cyfnod yr ad-dalu. Rhoddwyd gwybod i’r cyngor y byddai Darpariaeth Refeniw Sylfaenol ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai yn dal i gael ei seilio ar y dulliau penodol a nodwyd yn Eitem 8 ar Benderfyniad. Roedd llai o gyfle ar gyfer amrywiaeth yn y Cyfrif Refeniw Tai gan fod yn rhaid i’r awdurdod ddilyn y dulliau a osodir gan y Penderfyniad yn hytrach nag ystyried y rhain fel canllawiau yn unig. Byddai’r awdurdod yn cydymffurfio gyda’r penderfyniad.
Cafodd yr argymhelliad ei basio o 44 pleidlais i 2 gyda ... view the full Cofnodion text for item CC29- 2016 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penderfyniad Treth y Cyngor ar gyfer 2016-2017 PDF 214 KB Gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2016-2017. Cofnodion: Atgoffodd y Deiliad Portffolio Cyllid y Cyngor fod penderfyniad y Dreth Gyngor yn seiliedig ar gynnydd Treth Gyngor arfaethedig o 4.25% fel y cytunwyd yn y cyfarfod Cyngor ar 25 Chwefror 2016. He agreed to let Members have a list of precepts from Town and Community Councils.
Esboniodd y gr?p Llafur eu bod yn barod i gefnogi’r cynnydd a argymhellwyd yn Nhreth y Cyngor er mwyn ceisio diogelu gwasanaethau rhag rhagor o doriadau, er eu bod wedi pleidleisio yn erbyn y gyllideb oherwydd nad oeddent yn credu bod yr SIIAs yn ddigonol.
Mynegodd nifer o aelodau eu siom o weld cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor. Er bod yr Aelod Portffolio â chyfrifoldeb am Gyllid yn cydymdeimlo ar y mater, atgoffodd y Cyngor bod pob 2% o ostyngiad yn Nhreth y Cyngor yn golygu £3m o arbedion pellach y byddai angen eu tocio o’r gwasanaethau. Mynegodd un aelod ei rwystredigaeth ynghylch darpariaeth gymunedol, gan ddweud na chafodd Cynghorau Tref a Chymuned wybodaeth yn ddigon prydlon i allu gosod eu praeseptiau i gyd-fynd â hyn. Mewn ymateb i gwestiynau am y gwasanaethau llyfrgell, dywedodd yr Aelod Portffolio â chyfrifoldeb am Gomisiynu, Caffael a Gwasanaethau fod adolygiad ar y gweill a bod y gwasanaeth yn awyddus i weithio gyda Chynghorau Tref Cymuned i ddod o hyd i atebion lleol.
Roedd cyfrifiad Treth y Cyngor fel a ganlyn:
Mewn cyfarfod o’r Cabinet ar 24 Tachwedd 2014, cyfrifodd y Cyngor y symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2016/2017 yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol, 1992
(a) Sef y swm a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol â Rheoliadau’r Awdurdod Lleol (Cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd, fel Sail y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn 2016/2017.
(b) Rhan o ardal y Cyngor
Cymuned:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Deddf Tai (Cymru) 2014 - premiymau Treth y Cyngor PDF 153 KB Ystyriedgosod premiwm Treth y Cyngor ar gyfer eiddo fu’n wag am gyfnod hir ac eiddo nad oes pobl yn byw ynddo.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gadawodd y Cynghorwyr Sir PJ Ashton, LV Corfield, DE Davies, LRE Davies, SC Davies, DO Evans, WJ Evans, MR Harris, SM Hayes, GG Hopkins, EM Jones, WT Jones, PE Lewis, DJ Mayor, PJ Medlicott, DW Meredith, RH Mills, ET Morgan, G Morgan, WJT Powell, DR Price, JG Shearer, RG Thomas, DA Thomas, WB Thomas, TJ Van-Rees, GSI Williams ac EA York y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y mater yma, wedi iddynt ddatgan buddiannau personol sy’n rhagfarnu.
Yn absenoldeb y Cadeirydd, yr Is-Gadeirydd a’r Is-Gadeirydd Cynorthwyol, penodwyd y Cynghorydd Sir D R Jones i Gadeirio’r eitem hon.
Gofynnwyd i’r Cyngor ystyried cynigion i gyflwyno premiwm Treth y Cyngor ar anheddau sy’n wag am gyfnod hir (boed hynny’n rhai heb eu meddiannu neu rai heb fawr o ddodrefn ynddynt) ac anheddau sy’n cael eu meddiannu yn achlysurol yn unig (ail gartrefi/cartrefi gwyliau sydd wedi’u dodrefnu ond heb fod yn brif breswylfa).
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad Polisi Cyflog PDF 69 KB Derbyn ac ystyried datganiad polisi cyflog 2016-2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd pob swyddog a oedd yn bresennol ac a oedd â diddordeb yn yr eitem hon hynny, a gadael y cyfarfod wrth iddo gael ei drafod. Elin Prysor, Swyddog Monitro Cyngor Sir Ceredigion oedd y Swyddog Monitro Dros Dro ar gyfer yr eitem hon.
Ystyriodd y Cyngor y datganiad polisi tâl ar gyfer 2016 – 17. Gohiriwyd ystyried yr eitem hon er mwyn ceisio cyngor swyddogion ar nifer o gwestiynau a godwyd gan yr aelodau.
Gadawodd y Cynghorydd Sir PE Lewis y cyfarfod.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiad aelodau i Bwyllgorau gan Grwpiau Gwleidyddol ac wedi'u cymeradwyo gan y Swyddog Monitro Nodi’rpenodiad canlynol a gafodd ei wneud dan y grwp Democratiaid Rhyddfrydol a’I gymeradwyo gan y Swyddog Monitro dan bwer dirprwyo cyffredinol dirprwyo a ganiatawyd gan y Cyngor ar 16 Mai 2013:
Penodwyd y Cynghorydd Sir Kathryn Silk i’r Pwyllgor Safonau yn lle’r Cynghorydd Sir Maureen Mackenzie. Cofnodion: Council noted the appointment of County Nododd y Cyngor benodiad y Cynghorydd Sir Kathryn Silk gan y gr?p Democratiaid Rhyddfrydol i’r Pwyllgor Safonau yn lle’r Cynghorydd Sir Maureen Mackenzie. Cofnododd y Swyddog Monitro ei ddiolch i’r Cynghorydd Mackenzie am ei gwaith ar y Pwyllgor Safonau.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Clywaisgan elusen ganser leol, the Bracken Trust, yn ddiweddar a oedd yn bryderus fod CSP wedi cynyddu ei ffioedd am gau ffyrdd dros dro o £130 i £330, sef cynnydd o fwy na 150%. Mae hyn yn golygu bod crocbris yn cael ei godi am gynnal un o’r achlysuron codi arian mwyaf poblogaidd o amgylch y llyn yn Llandrindod, a bydd hefyd yn effeithio ar allu elusennau eraill i godi arian mewn gwahanol fannau ym Mhowys.
Mewnymateb i nifer o’r cwestiynau a ofynnais i’r Aelod Portffolio yn ddiweddar, fe ddywedodd na chynhaliwyd asesiad effaith pan gododd cost y gorchmynion dros dro fis Hydref 2015, felly sut wyddom ni a fydd y cynnydd yma yn arwain at golli mwy a mwy o refeniw, gan y gallai o rwystro elusennau rhag cynnal yr achlysuron yma o gwbl? Hefyd, ni wyddom pa effaith fydd ar allu codi arian yr elusennau hyn ar adeg pan mae Cyngor Sir Powys yn dibynnu fwyfwy ar grwpiau cymunedol lleol a’r Trydydd Sector i redeg y digwyddiadau yr oedd y Cyngor yn gyfrifol amdanynt yn flaenorol.
Mae’r Aelod Portffolio wedi dweud ei fod yn disgwyl y bydd y ffioedd newydd yn cynhyrchu incwm o £12,920 eleni, o’i gymharu â £6,120 y llynedd. Fodd bynnag heb gynnal asesiad effaith, mae’n amhosibl i ni wybod hyn. Efallai na fyddwn hyd yn oed yn cyrraedd £6,120! Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae’n eithaf posibl y bydd Cyngor Sir Powys yn gweld lleihad yn ei incwm wrth i grwpiau cymunedol lleol a'r Trydydd Sector benderfynu peidio â threfnu’r math yma o achlysur codi arian, a bydd y sefydliadau eu hunain yn bendant yn colli incwm wrth i’r math yma o achlysur codi arian ddod yn fwyfwy aneconomaidd (hynny yw, bydd yn costio mwy i’w redeg nag y bydd yn ei godi). A dweud y gwir, mae’n double whammy, a bydd pawb ar ei golled!
O ystyried hyn, a’r ffaith nad yw llawer o gynghorau Cymru yn codi am gau ffordd ar gyfer achlysur cymunedol neu nid-er-elw (er bod ambell gyngor yn gwneud hynny), oni fyddai’n ddoeth i’r Aelod Portffolio ddychwelyd i’r hen strwythur ffioedd ar gyfer cau ffyrdd dros dro nes y bydd wedi cynnal asesiad effaith llawn? Yna, gellid datblygu ffordd synhwyrol ymlaen, ar sail tystiolaeth ac nid dyfaliad. .
Cofnodion: Clywais gan elusen ganser lleol, the Bracken Trust, yn ddiweddar a oedd yn bryderus fod CSP wedi cynyddu ei ffioedd am gau ffyrdd dros dro o £130 i £330, sef cynnydd o fwy na 150%. Mae hyn yn golygu bod crocbris yn cael ei godi am gynnal un o’r achlysuron codi arian mwyaf poblogaidd o amgylch y llyn yn Llandrindod, a bydd hefyd yn effeithio ar allu elusennau eraill i godi arian mewn gwahanol fannau ym Mhowys.
Mewn ymatebinifero’rcwestiynau a ofynnaisi’rAelodPortffolioynddiweddar, feddywedoddnachynhaliwydasesiadeffaith pan gododd cost y gorchmyniondrosdrofisHydref 2015, felly sutwyddomni a fydd y cynnyddymaynarwain at gollimwy a mwy o refeniw, gan y gallai o rwystroelusennaurhagcynnalyrachlysuronyma o gwbl? Hefyd, niwyddom pa effaithfyddarallucodiarianyrelusennauhynaradeg pan maeCyngor Sir Powys yndibynnufwyfwyargrwpiaucymunedollleola’rTrydydd Sector iredeg y digwyddiadauyroedd y Cyngoryngyfrifolamdanyntynflaenorol.
Mae’r Aelod Portffolio wedi dweud ei fod yn disgwyl y bydd y ffioedd newydd yn cynhyrchu incwm o £12,920 eleni, o’i gymharu â £6,120 y llynedd. Fodd bynnag heb gynnal asesiad effaith, mae’n amhosibl i ni wybod hyn. Efallai na fyddwn hyd yn oed yn cyrraedd £6,120! Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae’n eithaf posibl y bydd Cyngor Sir Powys yn gweld lleihad yn ei incwm wrth i grwpiau cymunedol lleol a'r Trydydd Sector benderfynu peidio â threfnu’r math yma o achlysur codi arian, a bydd y sefydliadau eu hunain yn bendant yn colli incwm wrth i’r math yma o achlysur codi arian ddod yn fwyfwy aneconomaidd (hynny yw, bydd yn costio mwy i’w redeg nag y bydd yn ei godi). A dweud y gwir, mae’n doublewhammy, a bydd pawb ar ei golled!
O ystyriedhyn, a’rffaithnadywllawer o gynghorauCymruyncodi am gaufforddargyferachlysurcymunedolneunid-er-elw (er bod ambellgyngoryngwneudhynny), onifyddai’nddoethi’rAelodPortffolioddychwelydi’r hen strwythurffioeddargyfercauffyrdddrosdrones y byddwedicynnalasesiadeffaithllawn? Yna, gelliddatblygufforddsynhwyrolymlaen, ar sail tystiolaeth ac niddyfaliad .
Mae codi ffi am Orchmynion Rheoliadau Traffig yn cael ei ganiatáu dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Teithio) 1998. Mae Adran 4 y Rheoliadau hyn yn gosod amod y dylai’r Awdurdod Lleol ystyried y costau wrth drin y mater wrth bennu’r ffi i’w chodi. Mae Tabl 2 Eitem 5 y rheoliadau’n gosod y cyfrifoldeb am Drefnwyr y Digwyddiad i dalu’r ffioedd am ‘Unrhyw beth gan yr Awdurdod Lleol a wneir mewn cysylltiad â gorchymyn, neu o ganlyniad i orchymyn a wnaed neu y bwriedir ei wneud ganddynt dan adran 16A’
Nid yw Deddf Cymalau Heddlu Trefol 1874 yn caniatáu i’r Awdurdod gau ffyrdd. Fodd bynnag ... view the full Cofnodion text for item CC34- 2016 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Strategaeth Rheoli'r Trysorlys PDF 284 KB Derbyn ac ystyried y Datganiad Strategaeth ar Reoli’r Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Blynyddol. Cofnodion: 12.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Eitem wedi'i Heithrio Mae'r Swyddog Monitro wedi penderfynu bod yr eitemau canlynol yn destun categori 3 y Rheolau Trefn Mynediad at Wybodaeth. Ei farn o ran prawf lles y cyhoedd (wedi ystyried darpariaethau Rheol 11.8, Rheolau Mynediad at Wybodaeth y Cyngor), oedd y byddai gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus yn datgelu gwybodaeth ynglyn â materion ariannol neu fusnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr awdurdod yn cadw’r wybodaeth honno).
Roedd o'r farn bod diddordeb y cyhoedd wrth gadw'r eithriad yn fwy pwysig na diddordeb y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth. Gofynnir i Aelodau ystyried y ffactorau hyn wrth benderfynu ar brawf lles y cyhoedd, a rhaid iddynt benderfynu ar hyn wrth ystyried eithrio'r cyhoedd o'r rhan hon o'r cyfarfod.
Cofnodion: 12.57 p.m. Gadawodd y Cynghorydd Sir JG Shearer y cyfarfod.
Ystyriodd y Cyngor Ddatganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol.
Cafodd yr argymhelliad ei basio o 41 pleidlais i 1 gyda 4 yn ymatal. County Bu i’r Cynghorydd RG Brown ymatal am iddo fod yn absennol yn ystod rhan o’r ddadl.
Gohiriwyd cyfarfod y Cyngor i gael cinio rhwng 13.00 a 13.45.
YN BRESENNOL Y Cynghorydd Sir PJ Ashton (Cadeirydd)
Y Cynghorwyr Sir D Bailey, G R Banks, R G Brown, J H Brunt, L V Corfield, K W Curry, S C Davies, D E Davies, L R E Davies, A W Davies, M J Dorrance, V E Evans, W J Evans, D O Evans, S M Hayes, J C Holmes, D C Jones, E M Jones, Eldrydd M Jones, ... view the full Cofnodion text for item CC35- 2016a |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Atodiad Cyfrinachol Ystyriedyr atodiad cyfrinachol i’r adroddiad. Cofnodion: Council adjourned for lunch from 13.00 to 13.45.
PRESENT County Councillor PJ Ashton (Chair)
County Councillors D Bailey, GR Banks, RG Brown, JH Brunt, LV Corfield, KW Curry, AW Davies, DE Davies, LRE Davies, SC Davies, MJ Dorrance, DO Evans, VE Evans, SM Hayes, JC Holmes, D C Jones, DR Jones, Eldrydd M Jones, EM Jones, JR Jones, WT Jones, FH Jump, H Lewis, DJ Mayor, S McNicholas, PJ Medlicott, DW Meredith, WJT Powell, GD Price, PC Pritchard, KM Roberts-Jones, K S Silk, RG Thomas, WB Thomas, TJ Van-Rees, DH Williams, SL Williams, JM Williams, GIS Williams and EA York
All officers present declared an interest in this item and left the meeting while it was being considered. Elin Prysor the Monitoring Officer for Ceredigion County Council was Acting Monitoring Officer for this item.
Council considered the pay policy statement for 2016 – 17.
The recommendation was passed by 36 votes to 4 with 1 abstention.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyniad gan Simon Prince, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys Cofnodion:
Rhoddodd Simon Prince, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys gyflwyniad i’r Cyngor. Atebodd y Prif Gwnstabl a’r Uwcharolygydd Robyn Mason gwestiynau oddi wrth yr Aelodau.
|