Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau To receive apologies for absence. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Sir G R Banks, G J Bowker, L V Corfield, D E Davies, D R Jones, P E Lewis, R H Mills ac E A York.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
To authorise the Chair to sign the minutes of the last meeting held on 21st October 2015 as a correct record. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Awdurdodwyd y Cadeirydd i arwyddo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2015 fel cofnod cywir yn amodol ar y diwygiadau canlynol: cynnwys y Cynghorydd Sir KF Tampin yn y rhestr o aelodau oedd yn bresennol a dileu’r Cynghorydd MJ Jones o’r rhestr o aelodau oedd yn bresennol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau o Ddiddordeb To receive any declarations of interest from Members relating to items to be considered on the agenda. Cofnodion: Ni adroddwyd am unrhyw ddatganiadau diddordeb. </AI2> <AI3>
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd To receive any announcements from the Chair of Council. Cofnodion: Soniodd Cadeirydd y Cyngor am rai o’r gweithgareddau y bu’n eu gwneud ers y cyfarfod diwethaf. Fe gafodd y pleser o gynnal y seremoni gwobrwyon staff ym mis Rhagfyr a mynegodd ei longyfarchion i’r cyfan a gafodd eu henwebu. Cyflwynodd nifer o wobrwyon barcud arian hefyd gan gynnwys un i Lloyd Crawley o Benycae a enillodd fedalau aur ac arian gan gynrychioli Prydain Fawr mewn badminton yn y Gemau Olympaidd Arbennig yn Los Angeles.
Cyn dechrau’r cyfarfod, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn deiseb sy’n cynnwys dros 2,000 o lofnodion yn gofyn am gadw’r ganolfan gofal dydd yn Llanidloes ar agor. Byddai’n trosglwyddo’r ddeiseb i Arweinydd y Cyngor.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd To receive any announcements from the Leader. Cofnodion: Ers cyhoeddi’r setliad dros dro, dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi bod mewn cysylltiad gydag ACau y sir yn gofyn am eu cefnogaeth ar gyfer trefniant gwell i Bowys. Roedd y gwaith ar y gyllideb yn parhau a byddai’r Cabinet yn cwrdd ar y 18 Chwefror i argymell cyllideb i’r Cyngor ar 25 Chwefror. Soniodd yr Arweinydd hefyd am Ffair Aeaf CAFC lle’r oedd y Cyngor yn cynnal nifer o ddigwyddiadau.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Briff gan y Prif Weithredwr To receive a briefing from the Chief Executive. Cofnodion: Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at agor ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Ysgol Dafydd Llwyd, Y Drenewydd. Roedd y buddsoddiad £8.4m hwn wedi cael ei gefnogi gan gyfraniad o 50% tuag at gostau cyfalaf trwy raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Prif Weithredwr hefyd fod y Cyngor wedi derbyn £300,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru fel cyfraniad tuag at gostau sefydlu integreiddio a bod Julie Roweles wedi ymuno â’r Cyngor ar secondiad o 12 mis i helpu gwneud cynnydd gydag integreiddio. Mae Llwybrau Gofal Integredig i bobl h?n wedi cael eu cyflwyno yn Ystradgynlais a byddent yn cael eu cyflwyno ym Machynlleth a Llanidloes. Dywedodd y Prif Weithredwr hefyd y byddai’r gwaith yn dechrau ar ffordd osgoi’r Drenewydd ym mis Chwefror ac y byddai’r gwaith ar y bont Ddyfi newydd yn dechrau’n ddiweddarach yn y flwyddyn. Yn olaf, dywedodd y byddai’r Cyngor yn cefnogi digwyddiad a gynhelir gan Rwydwaith Seren i annog disgyblion sydd â chyrhaeddiad uchel i ymgeisio am brifysgolion Gr?p Russell gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt. Byddai 80 o ddisgyblion Powys yn cymryd rhan yn y prosiect.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Virements Requiring Council Approval PDF 70 KB To consider approving virements in the capital budget. Cofnodion: Mewn ymateb i gwestiwn am y trosglwyddiad ariannol ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai, dywedodd yr Aelod Portffolio Eiddo, Adeiladau a Thai fod gofyn cael eglurhad am y posibilrwydd o’i ddefnyddio i adeiladu tai cyngor ai peidio. Mewn ymateb i gwestiwn am y trosglwyddiad ariannol ar gyfer Canolfan Ddiwylliannol Aberhonddu, dywedodd ei fod wedi derbyn hysbysiad fod Bwrdd Gweithredol Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi cymeradwyo nawdd o £750k ar gyfer y cynllun.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Appointments to Committees and Outside Bodies by Political Groups approved by the Monitoring Officer To note the following appointments to Committees made by political groups and approved by the Monitoring Officer under the general power of delegation granted by Council on 16th May 2013:
County Councillors David Price and Gillian Thomas appointed to the Audit Committee by Powys Independent Alliance to fill vacancies. County Councillor Garry Banks appointed to Place Scrutiny Committee by Labour in place of County Councillor Matthew Dorrance. County Councillor James Gibson-Watt appointed to People Scrutiny Committee by the Liberal Democrats to fill a vacancy. Cofnodion: Nododd y Cyngor fod y penodiadau canlynol wedi cael eu gwneud ar bwyllgorau gan grwpiau gwleidyddol ac wedi’u cymeradwyo gan y Swyddog Monitro dan bwerau dirprwyo cyffredinol a ganiatawyd gan y Cyngor.:
Penodwyd y Cynghorwyr Sir David Price a Gillian Thomas ar y Pwyllgor Archwilio gan Gynghrair Annibynnol Powys i lenwi swyddi gwag. Penodwyd y Cynghorydd Garry Banks ar y Pwyllgor Craffu Lle gan Lafur yn hytrach na’r Cynghorydd Sir Matthew Dorrance. Penodwyd y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt ar y Pwyllgor Craffu Pobl gan y Democratiaid Rhyddfrydol i lenwi swydd wag. Penodwyd y Cynghorydd Sir Graham Jones ar y Pwyllgor Craffu Lle yn hytrach na’r Cynghorydd Sir Gwilym Williams.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Chairs of Scrutiny Committees PDF 69 KB To consider a report by the Solicitor to the Council. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe wnaeth y Cyngor ystyried adroddiad Cyfreithiwr y Cyngor a nodi mai cyfrifoldeb y Gr?p Ceidwadol oedd llenwi swydd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Lle. Roedd y Gr?p Ceidwadol wedi enwebu’r Cynghorydd Sir Graham Jones ar gyfer y swydd.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodi Aelod (Lleyg) Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau PDF 68 KB To consider the report of the Solicitor to the Council. Cofnodion: Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad Cyfreithiwr y Cyngor ar benodi Aelod Annibynnol (Lleyg) ar y Pwyllgor Safonau ac argymhelliad Panel Penodi'r Pwyllgor Safonau y dylid penodi Mr Stephan Hays. 1.1</AI10> <AI11>
2.</AI11> <AI12> Fe wnaeth y Cyngor gofnod o’i ddiolch i Mr Ralph Miller am ei flynyddoedd o wasanaeth ar y Pwyllgor Safonau fel Aelod Annibynnol (Lleyg). </AI12> <AI13>
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Wye Navigation Advisory Committee PDF 347 KB To consider making an appointment to the Wye Navigation Advisory Committee. Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor lythyr gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn gofyn am benodi aelod i wasanaethu ar Bwyllgor Ymgynghorol Mordwyo’r Afon Gwy.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Council Forward Work Programme PDF 52 KB To receive the Council work programme for 2016. Cofnodion: Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i’w blaen raglen waith ar gyfer 2016.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Notice of Motion - Public Participation in Council Meetings
Powys County Council · believes that we should do more to encourage residents of Powys to have a greater say in all council meetings - thinks that public participation provides a means by which those with a view to express are able to do so at meetings where particular issues are being raised
- believes public engagement would be improved by offering a structured format at the start of all meetings of the council and its committees for members of the public to address councillors
- notes that a large proportion of Welsh local authorities already make provision for public participation at meetings
This council resolves 1. to empower the Democratic Services Committee to look at ways in which public participation operates successfully across Wales . 2. to explore options for introducing public participation and make proposals aimed at introducing a system to allow members of the public to contribute in council meetings.
Proposed: County Councillor Gemma Bowker Seconded: County Councillor John Morris Cofnodion: Trafododd y Cyngor y cynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Gemma Bowker ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir John Morris:
Mae Cyngor Sir Powys · yn credu y dylwn wneud mwy i annog trigolion Powys i gael dweud eu dweud mwy yn holl gyfarfodydd y cyngor
- yn meddwl fod cyfranogiad y cyhoedd yn cynnig ffordd lle y gall y rheini gyda safbwyntiau i’w mynegi wneud hynny mewn cyfarfodydd lle mae’r materion penodol yn cael eu trafod
- yn meddwl y byddai cyfranogiad y cyhoedd yn cael ei wella trwy gynnig fformat sydd wedi’i strwythuro ar ddechrau holl gyfarfodydd y cyngor a’i bwyllgorau er mwyn i aelodau’r cyhoedd annerch cynghorwyr
- yn nodi fod cyfran fawr o awdurdodau lleol Cymru eisoes yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd mewn cyfarfodydd
Mae’r cyngor hwn yn penderfynu 1. galluogi’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i edrych ar ffyrdd y mae cyfranogiad y cyhoedd yn gweithredu’n llwyddiannus ar draws Cymru.
2. archwilio dewisiadau i gyflwyno cyfranogiad y cyhoedd a gwneud cynigion sydd wedi’u hanelu tuag at gyflwyno system i ganiatáu aelodau’r cyhoedd i gyfrannu tuag at gyfarfodydd y cyngor.
Gofynnodd mwy na deg aelod oedd yn bresennol am bleidlais sydd wedi’i chofnodi.
Cafodd y cynnig ei basio ... view the full Cofnodion text for item CC13- 2016 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
How many fully qualified dedicated Social workers are employed within Children Services in Powys and where are they located? Also, what is their current average ‘case work’ load and how does this compare to other authorities and national guidelines? Cofnodion: Faint o weithwyr Cymdeithasol penodedig sydd wedi’u cymhwyso’n llwyr a gyflogir o fewn Gwasanaethau Plant ym Mhowys a lle mae nhw wedi’u lleoli? Beth yw eu llwyth ‘gwaith achos’ presennol ar gyfartaledd a sut mae hyn yn cymharu gydag awdurdodau eraill a chanllawiau cenedlaethol?
Ar hyn o bryd, mae Gwasanaethau Plant yn gweithredu 4 tîm gwaith cymdeithasol sy’n gyfrifol am drafod y broses gyfeirio ac asesiadau o ddydd i ddydd, a rheoli llwythi achosion presennol o ran llwythi achosion Plant mewn Angen, Amddiffyn Plant a Phlant mewn Gofal. Mae gan weithwyr cymdeithasol lwythi achosion generig ac y byddai’r cyfuniad o’r llwythi achosion hyn yn ddibynnol ar eu profiad a chymhlethdod yr achosion.
Mae’r tabl canlynol yn dangos manylion y gweithwyr cymdeithasol yn y 4 tîm gofal plant gweithredol yn unol â’r strwythur presennol ar ddechrau mis Tachwedd 2015. Dylid nodi na fyddai Rheolwr Tîm yn dal achosion, ac y byddai’r Prif Weithiwr Cymdeithasol yn dal llwyth achosion llai oherwydd cyfrifoldebau eraill.
Nid yw Cynulliad Cymru yn cyhoeddi unrhyw ffigyrau cenedlaethol ar lwythi achosion cyfartalog felly nid oes cymariaethau uniongyrchol ar gael gydag Awdurdodau eraill Cymru. Wedi dweud hynny, mae nifer o adroddiadau’n cael eu llunio yn ystod y blynyddoedd diwethaf sy’n ymdrechu i ateb y cwestiwn hwn.
Yn ystod 2012, cynhaliwyd arolwg gan Ofal Cymunedol oedd yn cynnwys 925 o weithwyr cymdeithasol led led y DG. Awgrymodd yr ymchwil hwn mai 25 achos ... view the full Cofnodion text for item CC14- 2016a |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Question to the Portfolio Holder for Finance from County Councillor Bob Mills PDF 56 KB It is very important that we keep council tax to a minimum so why not move the appropriate personnel into the Shires and get rid of County Hall?
Cofnodion: Mae’n bwysig iawn ein bod yn cadw treth y cyngor hyd at leiafswm felly beth am symud y staff priodol i’r Rhanbarthau a chael gwared ar Neuadd y Sir?
Mae cadw Treth y Cyngor mor isel ag sy’n bosibl i’n trigolion yn rhywbeth y byddem ni oll fel Cynghorwyr yn hoffi ei gyflawni. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf fodd bynnag, mae cyflawni lefel isel o Dreth y Cyngor wedi profi i fod yn amhosibl oherwydd y setliadau ariannol gwael iawn a dderbyniodd y Cyngor gan Lywodraeth Cymru. Y sefyllfa ar gyfer y flwyddyn nesaf yw ein bod wedi derbyn y setliad isaf yng Nghymru gyda gostyngiad o 4.1% yn ein Cyllid Allanol Cyfun (AEF) ar gyfer 2016/17, sy’n cyfateb i £7.147 miliwn. Yn ychwanegol at hyn, mae gan y Cyngor oddeutu £5 miliwn o bwysau tyfiant na ellir ei osgoi (e.e. Chwyddiant cyflogau, cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant cenedlaethol y cyflogwr, cynnydd mewn cyfraniadau i’r gronfa bensiwn) sydd gyda’i gilydd yn golygu y bydd angen cynilion o tua £13 miliwn. Bydd gofyn canfod arbedion sylweddol pellach am o leiaf y tair blynedd ganlynol.
Mae’r Cabinet wedi bod yn gweithio ar gynllun cyllidebol 3 blynedd ers mis Mehefin 2015, ac mae wedi gwneud cynnydd sylweddol, ond mae’r holl gyfrifiadau wedi cael eu gwneud ar ragdybiaeth y bydd cynnydd o 3.75% yn Nhreth y Cyngor, a gyda’r setliad yr ydym wedi’i dderbyn, mae’n edrych yn eithriadol o annhebygol y bydd hi’n bosibl cyflwyno cyllideb gytbwys yn gyfreithiol ar gyfer 2016/17 heb ychydig o ddefnydd o gronfeydd wrth gefn. Petai’r Cyngor yn gosod cynnydd isel, o ddyweder, 1% yn Nhreth y Cyngor, byddai hyn yn golygu diffyg o £1.550 miliwn mewn ariannu incwm, a byddai’n rhaid canfod y diffyg hwn naill ai o doriadau pellach mewn gwasanaeth neu trwy wneud defnydd mawr iawn o gronfeydd wrth gefn. Y broblem wrth ddefnyddio cronfeydd wrth gefn yw mai dim ond unwaith y gallwch eu gwario, ond bydd y diffyg mewn nawdd a amlinellwyd uchod yn cael ei ailadrodd pob blwyddyn fel y byddwn yn symud ymlaen. Nid oes unrhyw ddewisiadau hawdd yn y sefyllfa y mae ein Cyngor yn ei wynebu. O ran y mater a godwyd am Neuadd y Sir, mae’r Cabinet wedi gosod y Cyngor yn glir ar y llwybr o adolygu’r portffolio eiddo cyfan, ac nid yw swyddfeydd y Cyngor led led y Sir wedi’u heithrio o’r broses hon. Gyda’r newidiadau a gynllunnir i gyflwyno gwasanaeth, mae angen i’r Cyngor werthuso pa le o fewn swyddfeydd fydd ei angen ar gyfer y dyfodol ac ad-drefnu yn unol â hynny. Efallai y daw amser pan na fydd angen Neuadd y Sir, ond nid yw’r adeg honno yn bendant wedi cyrraedd eto. Efallai y gwelwn mai Neuadd y Sir, mewn gwirionedd, fydd un o’r adeiladau anoddaf i waredu ag ef ym Mhowys, ac y bydd angen ateb go wahanol o bosibl.
Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Can you please tell me how many County Council houses, that would include flats and all residential properties, that are currently unoccupied and how many of these have been unoccupied for more than six months?
Cofnodion: Allwch chi ddweud wrthyf am faint o dai’r Cyngor Sir, a fyddai’n cynnwys fflatiau a phob eiddo preswyl, sydd heb eu meddiannu ar hyn o bryd a faint o’r rhain sydd heb eu meddiannu am fwy na chwe mis?
Fel ar y 4 Ionawr 2015, roedd 106 o dai cyngor gwag ym Mhowys, a reolir gan y Cyfrif Refeniw Tai (CRT). O’r rhain, roedd 24 wedi bod yn wag am fwy na 6 mis.
Mae’r CRT yn rheoli 5,397 o eiddo felly mae nifer yr eiddo gwag yn cynrychioli 1.96% o’r stoc dai, ac mae nifer yr eiddo sy’n wag am fwy na 6 mis yn cynrychioli 0.44% o’r stoc dai.
Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
In November 2015, the Cabinet Member informed Brecon’s County Councillors that the planned cultural hub was delayed partly because of a funding shortfall.
Will the Cabinet Member provide Council with an updated position statement, details of the financial shortfall and how the Council plans to close this funding gap so that this regeneration project can proceed?
Cofnodion: Ym mis Tachwedd 2015, dywedodd yr Aelod Cabinet wrth Gynghorwyr Sir Aberhonddu fod oedi gyda’r ganolfan ddiwylliannol a gynlluniwyd yn rhannol oherwydd diffyg ariannol.
A wnaiff yr Aelod Cabinet gyflwyno datganiad sefyllfa diweddar a manylion y diffyg ariannol i’r Cyngor, a sut y bydd y Cyngor yn cynllunio cau’r bwlch ariannu hwn fel y gall y prosiect adfywio fynd yn ei flaen?
Mae Canolfan Ddiwylliannol Aberhonddu yn brosiect blaenllaw i’r Cyngor Sir ac yn rhan o gyfle adfywio o bwys i Sir Frycheiniog. Mae’r prosiect wedi cymryd yn hirach na’r disgwyl i’w gyflwyno, yn bennaf oherwydd y broses Nawdd Grant, gofynion Cynllunio a Threftadaeth Adeiledig a sicrhau fforddiadwyedd cyn tendro’r gwaith i’r farchnad trwy ail-ddylunio ond erbyn hyn mae ar fin dod yn realiti.
Gyda chynnydd o tua 6.5% ar gyfartaledd y flwyddyn mewn costau adeiladu o fewn y diwydiant ers cyflwyno’r cais Cronfa Treftadaeth y Loteri (Ebrill 2013), mae pryder na fydd y gyllideb a neilltuwyd yn ddigon. Mae hyn, fodd bynnag, yn ddibynnol ar sut mae’r farchnad yn ymateb i’r cyfle a dendrwyd yn dilyn ymarferiad helaeth i ostwng costau a’r dilyniant o ran gwaith dylunio manwl.
Yn ychwanegol at yr ymarferiad gostwng costau, mae pob ymdrech yn cael ei wneud i gau’r bwlch ariannu gan gynnwys sicrhau £300,000 o nawdd ychwanegol gan bartneriaid lleol, Ymddiriedolaethau ac unigolion, ynghyd â chyflwyno cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri (CTyL) am gynnydd o £373,457 mewn grant. Mae’r gefnogaeth gan bartneriaethau lleol wedi bod yn allweddol wrth ddenu nawdd ychwanegol sylweddol gan sefydliadau megis Cronfa Treftadaeth y Loteri ac rydym yn optimistaidd y bydd y cynllun yn fforddiadwy heb roi pwysau gormodol ar adnoddau’r Cyngor.
Yn amodol ar ddadansoddiad costau llawn o ymateb y farchnad ynghyd â chefnogaeth gan bartneriaid ariannol, bydd y Cabinet yn ystyried sut i ariannu’r bwlch os yw’r costau yn parhau’n fwy na’r gyllideb a ddyrannwyd. Mae’r Cabinet yn ymwybodol o bwysigrwydd y prosiect hwn i Sir Frycheiniog a’r ymdrech, adnoddau a’r gefnogaeth gan bartneriaethau sydd wedi ei alluogi i gyrraedd y cam hwn.
Wrth ateb cwestiwn atodol y Cynghorydd Dorrance am ba gynlluniau sydd ar waith petai’r gefnogaeth ariannol gan CTyL ddim yn cael ei wireddu, dywedodd yr Aelod Portffolio fod nawdd ar gael i’r prosiect fynd yn ei flaen. Petai’r nawdd hwn ddim ar gael, byddai’n rhaid chwilio am nawdd cyfalaf arall.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Question to the Portfolio Holder for Education from County Councillor Matthew Dorrance PDF 49 KB
Does the Cabinet think it’s fair to ask Learning Support Assistants in Schools to fund a £15 registration fee to enable them to do their jobs?
Cofnodion: A yw’r Cabinet yn meddwl ei bod hi’n deg i Gynorthwywyr Cefnogi Dysgu mewn ysgolion ariannu tâl cofrestru o £15 i’w galluogi i wneud eu swyddi?
Ymatebodd y Cyngor, yn debyg i fwyafrif y cynghorau eraill yng Nghymru, i ymgynghoriad Gweithlu Addysg y Cyngor ar y cynnig hwn trwy ei gwneud hi’n glir nad oedd yn cefnogi ffioedd cofrestru i Gynorthwywyr Cefnogi Dysgu a’r baich ariannol ychwanegol y byddai’n ei gyflwyno, boed i’r Cyngor neu i’r Cynorthwywyr Cefnogi Dysgu eu hunain. Mae’r Cabinet eto i wneud penderfyniad ffurfiol ar y mater hwn ond mae polisi’r Cyngor ar dalu ffioedd proffesiynol a chofrestru yn cael ei adolygu ar hyn o bryd i sicrhau fod cydraddoldeb yn y ddarpariaeth i’r holl staff pa bynnag benderfyniad a wneir
Wrth ateb cwestiwn atodol y Cynghorydd Dorrance, dywedodd yr Aelod Portffolio nad yw’r Cabinet wedi ystyried y mater eto.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Question to the Portfolio Holder for Adult Social Care from County Councillor Graham Jones PDF 61 KB In the face of deep concerns from your electors, is Powys County Council willing to re-think its funding priorities in order to safeguard both day care, and the vital day centres, for its vulnerable elderly; taking into account that the professional care currently provided by Maes-y-Wennol Day Centre, Llanidloes, for example, could not guaranteed by the voluntary sector? What positive alternative measures are you considering to help this situation, I feel as an authority that we must try our utmost to look after our elderly residents?
Cofnodion: Wrth wynebu pryderon dyfnion gan eich etholwyr, a yw Cyngor Sir Powys yn barod i ailfeddwl ei flaenoriaethau ariannu er mwyn diogelu gofal dydd, a’r canolfannau dydd hanfodol, ar gyfer ei henoed diamddiffyn, gan ystyried y gofal proffesiynol a ddarperir ar hyn o bryd gan Ganolfan Ddydd Maes-y-Wennol, Llanidloes, na ellid, er enghraifft, ei sicrhau gan y sector gwirfoddol? Rwy’n teimlo fel awdurdod fod rhaid i ni wneud ein gorau glas i ofalu am ein trigolion hyn, felly pa fesurau positif eraill ydych chi’n eu hystyried i helpu gyda’r sefyllfa hon?
Bydd Cynghorwyr yn cofio yn ystod y drafodaeth ar gyllideb 2014/15 fod y Cyngor wedi penderfynu ‘ailgyflunio gweithgareddau yn ystod y dydd i bobl mewn oed, tynnu’n ôl o gyflwyno yn uniongyrchol gan y Cyngor a buddsoddi mewn modelau newydd o ofal’.
Ar ôl hynny, mae pwysau ariannol wedi cynyddu yn sylweddol ac mae’r Cabinet a’r Cyngor wedi mynegi disgwyliad clir y dylai Gofal Cymdeithasol i Oedolion wynebu ei ran ef mewn gostyngiadau ariannol, gan atgyfnerthu’r pwysau i ystyried dulliau eraill o gynnig gwasanaethau dydd i bobl mewn oed,. Nid yw’r model a ddilynir hyd yn hyn o gyflwyno gofal dydd yn uniongyrchol gan y cyngor o adeiladau’r cyngor, yn fforddiadwy o fewn yr adnoddau sydd ar gael.
Yn y cyd-destun ehangach, mae modelau darpariaeth yn newid yn genedlaethol, gyda thrafodaeth yn cael ei chynnal mewn nifer o fforymau am y ffordd orau o ddiwallu anghenion pobl mewn oed a’r ddarpariaeth yn symud ymaith fwyfwy o ofal dydd mewn canolfan draddodiadol sefydlog. Bydd angen i wasanaethau yn y dyfodol drafod gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol.a Llesiant.
Ar 20 Hydref, cytunodd y Cabinet i ymgynghoriad manwl ar wasanaethau dydd i bobl mewn oed, wedi’i ragflaenu a’i siapio gan drafodaeth ‘gwrando a dysgu’ gyda rhanddeiliaid. Yn dilyn casgliadau’r ymgynghoriad a’i werthusiad, bydd papur yn cael ei roi gerbron y Cabinet gydag opsiynau i wneud penderfyniad arnynt.
Rwy’n gwybod fod yr holl aelodau yn rhannu eich pryderon y dylai darpariaeth ddydd i bobl mewn oed ym Mhowys ddiwallu anghenion sydd wedi’u dynodi a helpu cadw trigolion yn weithgar ac yn annibynnol. Her yr ymgynghoriad yw canfod a gwerthuso dewisiadau gwahanol i ddatblygu gwasanaeth sy’n diwallu’r gostyngiad mewn cyllideb, sy’n darparu ar gyfer cynulleidfa ehangach ac yn cyflawni gofynion dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd. Nid oes model sy’n cael ei ffafrio ar hyn o bryd, a bydd Cynghorwyr yn gwerthfawrogi petawn yn rhoi sicrwydd neu ymrwymiad am unrhyw ran o’r ddarpariaeth gwasanaeth presennol y byddai hyn yn amharu ar effeithiolrwydd arolygon a gwaith ymgynghori.
Yn ystod y broses i osod y gyllideb, rhaid i mi atgoffa Cynghorwyr mai’r penderfyniad a wnaed ym mis Chwefror 2013 oedd y byddai’r gyllideb i Ganolfannau Dydd yn cael ei gostwng yn sylweddol. Mae’r gostyngiadau cyllidebol hyn yn lleihau’r nawdd sydd ar gael o tua £4,000 y client i tua £800 o 2018.
Yn ei gwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Jones pa gynlluniau oedd ar gael i ddiwallu cynnydd mewn galw am lety preswyl ... view the full Cofnodion text for item CC14- 2016f |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Could the portfolio holder please provide reassurance that, following the significant increases in fees for bereavement services to full recovery rates, the bereavement service is being as well and efficiently run as possible and offering those having to meet these charges at a difficult time are provided with high levels of care and value for money?
Cofnodion: O ganlyniad i gynnydd sylweddol mewn ffioedd ar gyfer gwasanaeth profedigaeth i gyfraddau adfer llawn, a all yr aelod portffolio roi sicrwydd fod y gwasanaeth profedigaeth yn cael ei redeg cystal ac mor effeithiol ag sy'n bosibl ac yn cynnig lefelau uchel o ofal a gwerth am arian i'r sawl sy'n gorfod gwneud y taliadau ar adeg anodd?
Yn 2015, cynhaliwyd arolwg o ffioedd y gwasanaeth profedigaeth. Daeth yr arolwg i'r casgliad nad oedd y ffioedd presennol yn darparu ar gyfer cost y gwasanaeth. Ymhellach at hyn, gwelwyd ein bod yn y chwartel isaf pan gawsom ein cymharu ag awdurdodau eraill Cymru. Er eu bod yn sylweddol, ni fydd y ffioedd uwch a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2016 yn golygu fod y gwasanaeth yn adfer costau yn llwyr, ond bydd yn arwain at wneud cynnydd sylweddol tuag at gyflawni hyn yn y dyfodol. Bydd y gwasanaeth presennol yn parhau i gynnig gwasanaeth effeithiol ond ystyriol i deuluoedd mewn profedigaeth yn ystod eu hamser anodd.
Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Now that higher burial charges may be imposed by Powys County Council re: Cemeteries, concerns are that some families simply cannot afford these extra charges. Has the Council considered that if these excessively high increased charges are implemented, this could well lead to an environmental problem? What measures are the Council proposing, to address this?
Cofnodion: Nawr y bydd taliadau claddu uwch yn cael eu codi gan Gyngor Sir Powys mewn perthynas â mynwentydd, mae pryderon na fydd rhai teuluoedd yn gallu fforddio'r taliadau ychwanegol hyn. Petai'r taliadau eithriadol o uchel hyn yn cael eu gweithredu, a yw'r Cyngor wedi ystyried y gallai hyn arwain at broblemau amgylcheddol? Pa fesurau y mae'r Cyngor yn eu cynnig, i fynd i'r afael â hyn?
Ceir cydnabyddiaeth fod y cynnydd mewn ffioedd claddu yn sylweddol. Fodd bynnag, maent yn angenrheidiol er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd arwyddocaol tuag at adfer costau yn llawn yn y dyfodol.
Cydnabyddir y gall rhai teuluoedd gael trafferth i fforddio claddiad o ystyried y taliadau ychwanegol. Rhaid ystyried y ffaith yma wrth ystyried diwygio'r ffioedd newydd a dyma pam na dderbyniodd y Cyngor y cynnig o adfer y gost lawn ar hyn o bryd.
Wrth ateb cwestiwn atodol y Cynghorydd Jones am angladdau gwasanaeth cyhoeddus, esboniodd yr Aelod Portffolio mai dim ond 72% o'r gost yr oedd y gwasanaeth yn ei adfer. Ers 2012, dywedodd bod gostyngiad wedi bod yn nifer yr angladdau gwasanaeth cyhoeddus.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Question to the Portfolio Holder for Education from County Councillor David Meredith PDF 51 KB In view of the significance that the uptake of Free School Meals has on the Family of Schools in which a School is situated what action is the Authority taking along with ERW in order to provide better promotional material for schools to send out to parents in order to encourage them to apply? Furthermore when is the Authority likely to introduce a Cashless System which will avoid any embarrassment for those pupils receiving Free School Meals?
Cofnodion: O ystyried arwyddocâd yr effaith a gaiff y nifer sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar y Teulu o Ysgolion lle lleolir yr ysgol, pa gamau gweithredu y bydd yr Awdurdod yn eu cymryd ochr yn ochr ag ERW i gyflwyno deunydd hyrwyddo gwell i ysgolion i'w hanfon at rieni er mwyn eu hannog i ymgeisio? Ymhellach at hyn, pryd mae'r Awdurdod yn debygol o gyflwyno System Di-arian a fydd yn osgoi unrhyw embaras i ddisgyblion sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim?
Mae'r awdurdod wedi cyflwyno llythyron i ysgolion i'w hanfon at rieni am fanteision y Plentyn, Rhiant, yr Ysgol a'r Awdurdod Lleol yn derbyn prydau ysgol am ddim. Tîm incwm a dyfarniadau'r cyngor sy'n cynnal y gwaith o wobrwyo'r hawl i brydau ysgol am ddim gan asesu ar gyfer budd-daliadau eraill megis Budd-dal Tai a gostyngiad yn Nhreth y Cyngor ac ati. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnal archwiliad llawn ar deuluoedd sydd â hawl yn 2-3 wythnos cyntaf mis Ionawr i sicrhau fod yr holl blant sydd â hawl yn caniatâd i gael prydau ysgol am ddim ar gyfer dychwelyd data PLASC.
Disgwylir dechrau cyflwyno'r system di-arian ym mis Chwefror.
Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Meredith ar yr hyn mae'r awdurdod yn ei wneud i ychwanegu at y gwaith cyhoeddusrwydd a gynhelir gan Erw i wella'r nifer sy'n cael prydau ysgol am ddim, dywedodd yr Aelod Portffolio y byddai'n rhoi'r manylion i'r aelod.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Question to the Portfolio Holder for Education from County Councillor David Meredith PDF 51 KB When is the Authority going to take the decision on Welsh-medium Education in the Secondary Sector in the South of the County and, if not in the foreseeable future, when does the Authority intend notifying parents, especially of those who currently have children in Year 6 of where their children are going to receive their Welsh-medium Education with effect from September, 2016?
Cofnodion: Pryd mae'r Awdurdod yn mynd i wneud y penderfyniad ar Addysg cyfrwng Cymraeg yn ne'r Sir, ac os na wneir hyn yn y dyfodol, pryd y mae'r Awdurdod yn bwriadu rhoi gwybod i rieni, yn enwedig y rheini sydd â phlant ym Mlwyddyn 6, am le y mae eu plant yn mynd i dderbyn eu Haddysg Cyfrwng Cymraeg gydag effaith o fis Medi, 2016?
Mae dyfodol addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn ne a chanol Powys yn cael ei ystyried fel rhan o'r Arolwg parhaus Ysgolion Uwchradd – sy'n cynnwys Ysgolion Uwchradd Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod, Aberhonddu a Gwernyfed. Rhagwelir y bydd yr arolwg wedi'i gwblhau yn fuan. Fodd bynnag, bydd yr Awdurdod yn ysgrifennu at rieni i ddisgyblion cyfrwng Cymraeg cynradd ac uwchradd o fewn yr wythnos nesaf am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg benodol fydd ar gael ym mis Medi 2016.
Mewn ymateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Meredith am pryd y byddai penderfyniad yn cael ei wneud fel y gallai cyrff llywodraethu gynllunio cyn y 1 Medi, cadarnhaodd yr Aelod Portffolio y byddai'r Cabinet yn dod i benderfyniad yn fuan.
|