Agenda a chofnodion

Lleoliad: Ar Teams - By Teams. Gweld cyfeiriadau

Cyswllt: Stephen Boyd  01597 826374

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Nidoedd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 458 KB

Awdurdodi’r Arweinydd i lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 3 Mawrth a 5 Mai fel cofnodion cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Awdurdodwydyr Arweinydd i lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 3 Mawrth a 5 Mai fel cofnodion cywir.

3.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

4.

'Datganiad o Fwriad' ECO Flex Powys diwygiedig i ganiatau aelwydydd yn y sector preifat sydd mewn tlodi tanwydd i gael mynediad at uwchraddio systemau gwresogi a gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref sydd ar gael o dan ECO3 pdf icon PDF 597 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Sir James Evans, Aelod Portffolio ar faterion Gwasanaethau Datblygu Economaidd, Tai a Rheoleiddio a’r Cynghorydd Sir Aled Davies, Aelod Portffolio ar faterion Cyllid, Cefn Gwlad a Thrafnidiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad oedd yn ceisio caniatâd i ddatgan a chyhoeddi ‘Datganiad o Fwriad Fersiwn 2’ Powys ECO3, yn caniatáu mynediad aelwydydd â thlodi tanwydd yn y sector preifat at welliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref, wedi’u cyflenwi gan ddarparwyr ynni a’u hasiantau. Byddai’r Cyngor yn cyflwyno rheolaeth y gwasanaeth asesu ar gyfer ECO3 i sefydliad allanol. Byddai hyn yn darparu asesiad annibynnol ac yn defnyddio proses gadarn o fetio a gwirio i graffu’r ceisiadau gan gleientiaid. Byddai’r cynllun yn cael ei chyflenwi heb unrhyw gost ariannol i’r Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad wedi bod yn destun adolygiad y Pwyllgor Craffu ac wedi’i ddiwygio er mwyn ystyried ei argymehllion i’r Cabinet. Yn ogystal â hyn, roedd Grwp Plymio Powys wedi cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig i’r Pwyllgor Craffu. Atebwyd y rhain, a chawsant eu cynnwys mewn atodiad i’r adroddiad. Mewn ymateb i gwestiwn a gyflwynwyd gan Grwp Plymio Powys yn union cyn y cyfarfod, rhoddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Amgylchedd nad oedd unrhyw fwriad I ehangu cynllun ECO3 i grwp ehangach o aelwydydd. Cynigodd drafod hyn â’r grwp y tu allan i’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD y byddai Powys yn rhyddhau ‘Datganiad o Fwriad’ ECO Flex, a amlinellir yn Atodiad 5 i’r adroddiad, i helpu i ddileu eiddo â Chyfraddau F a G yn y Tystysgrifau Perfformiad Ynni a lleihau risg bod preswylwyr yn byw mewn tlodi tanwydd ym Mhowys. Byddai hyn yn caniatáu i aelwydydd yn y sector preifat a oedd yn byw mewn eiddo heb insiwleiddiad digonol gael mynediad at systemau gwresogi cyfradd ‘A’, mesurau inswleiddio a gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref, a byddai’r rhain yn cael eu hariannu trwy Energy Company Obligation (ECO3).

5.

Uned 1 Cyfleuster Storio Cyrff Dros Dro pdf icon PDF 126 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Sir James Evans, Aelod Portffolio ar faterion Gwasanaethau Datblygu Economaidd, Tai a Rheoleiddio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet adroddiad ar y cyfleuster storio cyrff dros dro a oedd wedi’i sefydlu ym Mharc Menter Wyeside Llanelwedd. Byddai’r cyfleuster a oedd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn cael ei defnyddio yn ychwanegol at gapasiti marwdai’r sir, ac nid oedd wedi’i ddefnyddio hyd yma. Cymeradwywyd y tîm a oedd wedi cyflenwi’r prosiect mor gyflym.

 

 

 

 

6.

Diweddariad am y Rhaglen Edtech (gan gynnwys ymateb Covid-19) pdf icon PDF 692 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Sir Graham Breeze, Aelod Portffolio ar faterion Llywodraethu Corfforaethol ac Ymgysylltu a’r Cynghorydd Sir Phyl Davies, Aelod Portffolio ar faterion Addysg ac Eiddo.

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet adroddiad ar raglan technoleg addysg Llywodraeth Cymru (Edtech). Roedd y Council wedi derbyn tua £2.4 miliwn yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20 a byddai’n cael dyraniad o £1.16 miliwn yn ystod blwyddyna riannol 2020/21. Byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio i gyfarparu ysgolion â’r offer EdTech Newydd a fyddai’n sicrhau bod pob ysgol yn gweithio tuag at Safonau Digidol Addysg a gyhoeddwyd ar Hwb ac sy’n gosod y sylfeini ar gyfer seilwaith digidol cynaliadwy ym myd addysg, a oedd allwedol i ddyfodol dysgu ym Mhowys.

 

Oherwydd pandemig Covid-19, defnyddiwyd peth o’r arian i brynu gliniaduron a wifi symudol i gefnogi dysgwyr digidol er mwyn iddynt allu cael mynediad i ddysgu o bell trwy blatfform Hwb.

 

Cydnabu’r Arweinydd waith pawb a oedd yn ymwneud â sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael mynediad i ddysgu o bell.