Ystyried argymhellion gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
Cofnodion:
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, yr argymhellion a wnaed yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr, a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Linda Corfield, Is-gadeirydd Pwyllgor y Pwyllgorau Sirol:
ARGYMHELLIAD bod y Cyngor Sir yn cadw’r Pwyllgorau Ardal (Sirol) a’u swyddogaethau presennol, bod cyfarfodydd chwarterol yn cael eu cynnal a bod gan y Cadeirydd hawl i alw cyfarfodydd ychwanegol mewn achosion brys.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan ddiwygiad, a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Phyl Davies.
“Mae’r Cyngor yn sylweddoli’r pwysau ariannol aruthrol sydd ar breswylwyr, cymunedau ac ysgolion ac felly’n derbyn bod angen newid ei strwythurau i arbed adnoddau gwerthfawr. Mae felly’n cytuno i roi’r gorau i gynnal pwyllgorau sirol o ddyddiad Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor yn 2018 a galluogi aelodau i weithio yn eu hardaloedd fel rhan o’r fforymau lleol. Gan felly arbed tua £175k drwy gydol oes y Cyngor hwn.”
Bu’r Cyngor yn dadlau’r diwygiad ac ar ôl cynnal pleidlais fe’i pasiwyd o 34 pleidlais i 22 gyda 2 yn ymatal. Pleidleisiodd y Cyngor ar y prif gynnig ac o 32 pleidlais i 10 gyda 3 yn ymatal
PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn sylweddoli’r pwysau ariannol aruthrol sydd ar breswylwyr, cymunedau ac ysgolion a’i fod felly’n derbyn bod angen newid ei strwythurau i arbed adnoddau gwerthfawr. Mae felly’n cytuno i roi’r gorau i gynnal pwyllgorau sirol o ddyddiad Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor yn 2018 a galluogi aelodau i weithio yn eu hardaloedd fel rhan o’r fforymau lleol. Gan felly arbed tua £175k drwy gydol oes y Cyngor hwn.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance yr argymhellion a wnaed yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Roger Williams yng nghyswllt newidiadau i Adrannau 4, 6, 7, 9, 16, 18 a 19 yn y Cyfansoddiad.
Tynnodd y Swyddog Monitro sylw’r Cyngor at y diwygiad a gynigiwyd i 6.14 lle’r oedd angen i’r Arweinydd benodi Dirprwy Arweinydd a dywedodd y dylai hyn fod yn ôl disgresiwn yr Arweinydd. Eglurodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd mai’r rheswm dros argymhelliad y Pwyllgor oedd er mwyn sicrhau bod ganddynt arweinyddiaeth wleidyddol pe na bai’r Arweinydd ar gael am gyfnod o amser maith. Ar ôl ystyried cyngor y Swyddog Monitro ac eglurhad Cadeirydd y Pwyllgor, o 50 pleidlais i 3 gyda 4 yn ymatal
PENDERFYNWYD cymeradwyo adrannau diwygiedig 4, 6, 7, 9 16, 18 a 19 yn y Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance yr argymhelliad a wnaed yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Roger Williams y dylid gwneud y rhaglen ddatblygu wedi’i chysylltu i raglen welliannau’r Cyngor yn orfodol. Y sancsiwn ar gyfer unrhyw Aelod nad oedd yn cyflawni hyfforddiant gorfodol fyddai eu hatgyfeirio at y Pwyllgor Safonau. O 48 pleidlais i 5 gyda 4 yn ymatal
PENDERFYNWYD y dylid gwneud y rhaglen ddatblygu wedi’i chysylltu i raglen welliannau’r Cyngor yn orfodol.
Dogfennau ategol: