Mae tipyn wedi cael ei ddweud yn ddiweddar am y boblogaeth sy’n heneiddio a’r pwysau cysylltiedig ar wasanaethau rheng flaen. Mae cynnydd mewn dementia, pobl sydd â phroblemau symudedd a rhagor o alwadau ar ofalwyr / darparwyr gofal.
Nidyw Powys yn darparu rhestr o ddyddiadau ar gyfer casgliadau sbwriel sy’n gallu achosi dryswch i bobl a’u gofalwyr. Nid oes mynediad gan bawb i gyfrifiadur i gael hyd i wybodaeth.
Roeddhi’n anffodus y cafwyd problemau gyda’r casgliadau gwastraff cyn y Nadolig oherwydd y tywydd. Nid oedd hi’n glir pryd yr oedd y sbwriel yn cael ei gasglu.
Ynogystal â hyn roedd y dryswch am y newid i’r diwrnod casglu arferol dros y Nadolig a diwrnod casglu gwahanol ar gyfer y cyfnod dros y Flwyddyn Newydd?
Pa gynllun sydd gan yr aelod portffolio ar faterion sbwriel/ailgylchu i wneud yn si?r bod aelodau o’r cyhoedd yn gwybod pryd i roi eu sbwriel allan i’w gasglu: biniau du (sachau porffor) a blychau lliw?
Ayw’r ddau aelod portffolio yn cydweithio gyda’i gilydd i wneud yn si?r bod hyn yn cael ei gyfathrebu’n effeithiol?
Cofnodion:
Mae tipyn wedi cael ei ddweud yn ddiweddar am y boblogaeth sy’n heneiddio a’r pwysau cysylltiedig ar wasanaethau rheng flaen. Mae cynnydd mewn dementia, pobl sydd â phroblemau symudedd a rhagor o alwadau ar ofalwyr / darparwyr gofal.
Nid yw Powys yn darparu rhestr o ddyddiadau ar gyfer casgliadau sbwriel sy’n gallu achosi dryswch i bobl a’u gofalwyr. Nid oes mynediad gan bawb i gyfrifiadur i gael hyd i wybodaeth.
Roedd hi’n anffodus y cafwyd problemau gyda’r casgliadau gwastraff cyn y Nadolig oherwydd y tywydd. Nid oedd hi’n glir pryd yr oedd y sbwriel yn cael ei gasglu.
Yn ogystal â hyn oedd y dryswch am y newid i’r diwrnod casglu arferol dros y Nadolig a diwrnod casglu gwahanol ar gyfer y cyfnod dros y Flwyddyn Newydd?
Cwestiwn:
Pa gynllun sydd gan yr aelod portffolio ar faterion sbwriel/ailgylchu i wneud yn si?r bod aelodau o’r cyhoedd yn gwybod pryd i roi eu sbwriel allan i’w gasglu: biniau du (sachau porffor) a blychau lliw?
A yw’r ddau aelod portffolio yn cydweithio gyda’i gilydd i wneud yn si?r bod hyn yn cael ei gyfathrebu’n effeithiol?
Ateb
Rydym wedi bod yn mynd drwy broses o optimeiddio’r holl lwybrau casglu gwastraff ac ailgylchu i wneud ein criwiau a'n cerbydau mor effeithlon â phosib. O ganlyniad bydd diwrnod casglu’r rhan fwyaf o aelwydydd yn newid. Bydd hyn yn cael ei gyfathrebu’n glir drwy lythyr cyn i’r newid hwn ddigwydd. Gyda’r llythyr bydd canllawiau newydd ar ailgylchu ynghyd â dyddiadau’r tri chasgliad gwastraff gweddilliol wythnosol.
Pan gyflwynwyd y tri chasgliad gwastraff gweddilliol wythnosol, cafodd rhestr o ddyddiadau am y flwyddyn ganlynol ei nodi. Yna cyflwynwyd cyfleuster gwirio codau post ar ein gwefan lle gall preswylwyr deipio eu cod post i dderbyn y pum dyddiad casglu nesaf. Nid yn unig y mae’n gyfleus iawn i’r rhan fwyaf o breswylwyr sy’n defnyddio’r dechnoleg, mae hefyd yn amhrisiadwy i’n staff gwasanaethau cwsmeriaid sydd, pan fydd preswyliwr yn galw, yn mewnosod y cod post a rhoi’r dyddiadau i’r galwr. Mae’r system wedi gweithio’n dda iawn a hefyd yn arbed y gost sylweddol o anfon calendr allan at breswylwyr.
Yn anffodus mae tywydd garw, fel y cawsom cyn y Nadolig, yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarparwn. Wrth gwrs mae’n hanfodol ein bod nid yn unig yn mynd â cherbydau allan ar y ffordd pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, rhaid i ni hefyd ystyried diogelwch ein staff wrth drin gwastraff ac ailgylchu ar garreg y drws. Ceisiwyd cael y neges ar darfu ar gasgliadau allan i gymaint o bobl â phosib drwy’r wefan, y cyfryngau cymdeithasol a’r gwasanaethau cwsmeriaid. Fodd bynnag, oherwydd natur amodau tywydd cyfnewidiol, mae’n anodd cyfathrebu’r newidiadau hyn yn syth.
Mae casgliadau dros y Nadolig yn broblem i bob awdurdod lleol wrth iddynt geisio cydbwyso darparu gwasanaeth a chaniatáu i staff fwynhau’r gwyliau a threulio amser gyda’u teuluoedd. Cafodd hyn eto ei gyfathrebu bob tro lle’r oedd yn bosib, gan gynnwys yn yr holl bapurau lleol a’r gwefannau cyfryngau cymdeithasol. Eto, mae anfon taflen allan i bob t?’n ddrud iawn a ninnau’n ceisio arbed costau gyda holl wasanaethau’r cyngor.
Mae’r aelodau portffolio wrth gwrs yn ymwybodol o’r problemau o gyfathrebu’r negeseuon hyn ac yn gweithio’n agos â'r Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu a’r Tîm Cyfathrebu i roi cyhoeddusrwydd effeithiol i unrhyw newidiadau, p’un ai’n rhai a gynlluniwyd neu beidio.
Nid oedd unrhyw gwestiwn ychwanegol.
Dogfennau ategol: