Cofnodion:
Gwnaeth y Cyngor drafod adroddiad arolygiad yr AGGCC i’r Gwasanaethau Plant ym Mhowys a welodd fod y diffygion yn y gwasanaeth wedi peri risg i blant.
Esboniodd yr Arweinydd, Deiliad y Portffolio dros y Gwasanaethau Plant a’r Prif weithredwr, eu bod wedi derbyn yr argymhellion yn adroddiad yr AGGCC ac wedi amlinellu’r camau a oedd wedi cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad. Gwnaethant ymddiheuro i’r bobl ifanc a’u teuluoedd a oedd wedi cael eu trin yn wael gan y gwasanaeth. Gwnaethant roi ymrwymiad i’r Cyngor y byddant yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i wella’r Gwasanaethau Plant a sicrhau bod y plant diamddiffyn yn cael eu diogelu a’u cefnogi.
Derbyniodd y Cyngor gyngor fod cynllun gwella draft wedi cael ei baratoi a bod Bwrdd Gwella wedi cael ei sefydlu. Gyda chefnogaeth CLlLC, mae tîm o arbenigwyr wedi cael eu sefydlu i helpu’r Cyngor i ymateb i’r adroddiad a staff allweddol gan gynnwys recriwtio Pennaeth Gwasanaeth dros dro.
Siaradodd aelodau am eu siomedigaeth ynghylch yr adroddiad ond hefyd am eu cefnogaeth i staff rheng flaen y gwasanaeth a’u penderfyniad i helpu ym mha ffordd bynnag y gallent. Teimla’r aelodau fel bod y gwasanaeth wedi cael ei ansefydlogi drwy ailstrwythuro a thoriadau i’w gyllideb. Gwnaethant ofyn am fanylion a’u derbyn ar sut byddai’r £4m ychwanegol sy’n cael ei roi i’r gwasanaeth yn cael ei ariannu. Gwnaethant hefyd ofyn am adroddiadau rheolaidd yn ôl i’r Cyngor ar gynnydd wrth roi’r cynllun gwella ar waith. Gofynnodd aelodau hefyd am sicrwydd a’i dderbyn gan y Prif Weithredwr na fyddai unrhyw erledigaeth yn erbyn y datgelwyr camarfer ac y byddai aelodau’n cael mynediad llawn i’r amrywiaeth llawn o ddata perfformiad i’w galluogi i graffu ar y gwasanaeth. Gwnaeth nifer o aelodau fynegi’r farn y dylai’r Prif Weithredwr sefyll o’r neilltu o ran y broses wella. Cafwyd trafodaeth ar aelodaeth y Bwrdd Gwella ac awgrymwyd y gallai hyn gael ei ystyried gan arweinwyr y gr?p gwleidyddol. Cadarnhawyd y byddai’r Bwrdd Gwella’n cael ei gadeirio gan y person annibynnol a enwebwyd gan y Gweinidog dros y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus.
Gohiriwyd y Cyngor rhwng 13.03 a 13.49. Gadawodd y Cynghorwyr Sir E Durrant, E Jones a G Ratcliffe y cyfarfod.
Yn bresennol:
YN BRESENNOL
Y Cynghorydd Sir D E Davies (Cadeirydd)
Y Cynghorwyr Sir MC Alexander, M Barnes, B Baynham, G Breeze, J Charlton, L V Corfield, K W Curry, A W Davies, B Davies, P Davies, M J Dorrance, E Durrant, D O Evans, J Evans, L George, J Gibson-Watt, M R Harris, S M Hayes, H Hulme, A Jenner, E A Jones, E Jones, G Jones, J R Jones, E M Jones, M J Jones, D Jones-Poston, F H Jump, K Laurie-Parry, H Lewis, K Lewis, S Lewis, MC Mackenzie, I McIntosh, S McNicholas, C Mills, G Morgan, JG Morris, N Morrison, R Powell, WD Powell, D R Price, GD Price, P C Pritchard, G Pugh, G W Ratcliffe, L Roberts, K M Roberts-Jones, E Roderick, D Rowlands, D Selby, K S Silk, D A Thomas, R G Thomas, E Vaughan, M Weale, J Wilkinson, A Williams, G I S Williams, D H Williams, J Williams, J M Williams, R Williams ac S L Williams
Dogfennau ategol: