Yn dilyn penderfyniad rhagweithiol y Cyngor i annog trigolion i ofyn cwestiynau, hoffwn ofyn cwestiwn i'r Cynghorydd Martin Weale (Aelod Portffolio ar faterion Adfywio a Chynllunio).
Mae llawer o drigolion wedi mwynhau ac wedi treulio cryn amser ac
egni yn cefnogi'r Cyngor i ddatblygu drafft o Gynllun Datblygu
Lleol Powys fel cynllun sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ystyried
ceisiadau cynllunio. Er bod y
CDLl drafft yn cynnwys digon o
ddyraniad tir a chynigion datblygu i ddiwallu anghenion tai
rhagamcanol Powys trwy gydol oes y
cynllun, mae adolygiad o Geisiadau Cynllunio 'Datblygiadau Mawr' ar
dudalennau gwe'r Cyngor yn dangos bod cyfran gymharol uchel o
geisiadau cynllunio cyfredol ar draws y sir yn ceisio datblygu
safleoedd Maes Glas yn ychwanegol at ddyraniadau tir y CDLl.
Wrth ystyried ceisiadau cynllunio y tu allan i ddatblygiadau
arfaethedig y CDLl, nid yw ystyriaeth
unigol o safleoedd yn debygol o greu cynllunio strategol
effeithiol. Beth yw ymateb strategol y Cyngor wrth barhau i gefnogi
cenedlaethau'r dyfodol i sicrhau bod yr etifeddiaeth o
ddatblygiadau tai sy’n cael eu caniatau yn parhau i fod yn gadarnhaol ac nad yw'n
arwain at or-ddatblygiad anfwriadol o
gefn gwlad agored neu i ledaeniad unrhyw gymunedau lleol a
allai olygu lleoliad gwael ar gyfer
rhai aelodau o'r gymuned gan atal
mynediad hawdd at wasanaethau presennol?
Cofnodion:
Mae llawer o breswylwyr wedi mwynhau ac wedi treulio amser ac egni sylweddol yn cefnogi’r Cyngor i ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol draft Powys fel sylfaen dystiolaeth i fesur ceisiadau cynllunio yn ei erbyn. Er bod y CDLl draft yn cynnwys dyraniad tir a chynigion datblygu digonol i ddiwallu anghenion tai Powys a ragamcanir drwy oes y cynllun, dengys adolygiad o Geisiadau Cynllunio ‘Datblygiad Sylweddol’ ar dudalennau gwe’r Cyngor fod cyfran weddol uchel o geisiadau cynllunio ar draws y sir yn ceisio datblygu safleoedd maes glas dros ac yn uwch na dyraniadau tir y CDLl.
Wrth ystyried ceisiadau cynllunio y tu allan i ddatblygiadau arfaethedig y CDLl, nid yw ystyriaeth i safle unigol ynysig yn debygol o beri cynllunio strategol effeithiol. Beth yw ymateb strategol y Cyngor wrth barhau i gefnogi cenedlaethau’r dyfodol i sicrhau bod etifeddiaeth o ddatblygiadau tai cymeradwy’n parhau i fod yn gadarnhaol, ac nid, drwy amryfusedd, yn arwain at unrhyw orddatblygu cefn gwlad agored neu chwyddiant unrhyw gymunedau lleol a allai arwain at rai aelodau’r gymuned yn cael eu lleoli’n wael gan atal hawster mynediad iddynt i wasanaethau presennol?
Ateb
Diolch am y cwestiwn. Myfi yw Deiliad y Portffolio dros y Gwasanaethau Cynllunio, sy’n cynnwys Rheoli Datblygu a Pholisi Cynllunio. Rwy’n croesawu ac y gwerthfawrogi mewnbwn a chefnogaeth trigolion ac rwyf yn y broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Powys. Mae’r CDLl bron â dod i ddiwedd ei archwiliad ac rwy’n rhagweld y bydd y Cyngor mewn sefyllfa i fabwysiadu’r CDLl ar ddechrau 2018 pan fydd yn disodli Cynllun Datblygu Unedig (CDU) Powys a bydd yn darparu’r polisïau cynllun datblygu ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio.
Rwy’n ymwybodol bod y Cyngor wedi derbyn sawl cais cynllunio ar gyfer cynigion tai ar safleoedd nad ydynt wedi’u nodi yn y CDU presennol nac yn y CDLl. Mae’r ceisiadau hyn wedi ceisio cyfiawnhau eu hunain, yn fwy aml na pheidio, ar y sail y byddai caniatâd yn helpu gyda’r diffyg mewn cyflenwad tir tai sydd gan yr Awdurdod. Nid dyma sefyllfa sy’n unigryw i Bowys ac mae’r rhan fwyaf o awdurdodau yng Nghymru yn y sefyllfa hon.
Er mwyn penderfynu ar geisiadau cynllunio, mae angen i’r Awdurdod farnu’n ofalus, yn drefnus ac yn gytbwys, gan ystyried y polisïau cynllunio datblygu cyffredinol ac ystyried yr holl ystyriaethau materol eraill. Darparwyd eglurhad gan Lywodraeth Cymru ar y mater gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar 23 Chwefror 2017 a hoffwn eich cyfeirio at hynny. (Dolen isod). Dyma ystyriaeth faterol yr ystyrir gan yr Awdurdod wrth benderfynu ar geisiadau o’r fath. Pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet yr angen i gynigion datblygu o’r fath, “…ymwneud yn dda â’r ffurf bresennol yr anheddiad a pheidio ag arwain ar effeithiau annerbyniol ar y seilwaith economaidd, cymdeithasol nad amgylcheddol lleol. Dylai egwyddorion datblygu cynaliadwy a chreu cymunedau cydlynus, sy’n sail i bolisi cynllunio Llywodraeth Cymru, barhau ac ni ddylent gael eu tanseilio gan yr angen i gynyddu cyflenwad tir tai”.
Dyma gwestiwn atodol Mr Anderson: “Yn eich ymateb i’m cwestiwn, gwnaethoch dynnu sylw at y ffaith bod angen i gynghorau sy’n ystyried ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau nad ydynt wedi’u cefnogi yn eu CDLl draft sicrhau bod unrhyw geisiadau cymeradwy’n ymberthyn yn dda 'i ffurf bresennol yr anheddiad'. Byddwn yn ddiolchgar iawn am fwy o eglurder ynghylch yr hyn mae yn ei olygu yng ngoleuni gofynion Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Oes modd i chi gadarnhau na fydd ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau tai sylweddol yn y cefn gwlad agored y tu allan i aneddiadau presennol ac nad ydynt yn cael eu cefnogi yn y CDLl draft, yn bodloni’r gofyniad hwnnw?”
Darparodd yr Arweinydd Proffesiynol - Polisi Cynllunio ymateb: Caiff ceisiadau cynllunio a gyflwynir i’r Cyngor eu penderfynu yn unol â deddfwriaeth fel a nodir yn Neddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Adran 38, 6) sy’n nodi’r canlynol “… dylai unrhyw benderfyniad gael ei wneud yn unol â’r cynllun oni bai fod ystyriaethau materol yn nodi fel arall.” Felly, rhoddir ystyriaeth i’r cynllun datblygu cyffredinol ac i’r holl ystyriaethau materol perthnasol eraill a fyddai’n cynnwys sut mae lleoliad a nodweddion safle’n ymwneud â ffurf a phatrwm anheddiadau presennol ond hefyd is awl ystyriaeth arall megis cyflenwad tir tai blynyddol y Cyngor. Mae Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru’n esbonio ym Mhennod 4 sut mae’r system gynllunio’n cyflawni datblygu cynaliadwy yn unol â dyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Dogfennau ategol: