Rydymwedi clywed trwy ddatganiad i’r wasg eich bod yn bwriadu adolygu’r penderfyniad i godi taliadau mewn 9 maes parcio ym mherchnogaeth y cyngor oedd am ddim yn flaenorol. Ar hyn o bryd mae anghysondeb ar draws Powys gyda rhai meysydd parcio gyda’r drefn talu ac arddangos a rhai am ddim. Er mwyn bod yn deg ac yn gyfartal i holl drethdalwyr Powys ac i gefnogi’r economi a fyddwch yn ymestyn eich cylch gwaith i adolygu polisi taliadau meysydd parcio ar draws Powys gyfan?
Cofnodion:
Rydym wedi dysgu drwy ddatganiad i’r wasg eich bod yn bwriadu adolygu’r penderfyniad i godi tâl mewn 9 maes parcio sy’n eiddo i’r cyngor a oedd am ddim o’r blaen. Ceir anghysondeb ar hyn o bryd ar draws Powys gyda rhai meysydd parcio yn rhai talu ac arddangos a rhai am ddim. Er mwyn tegwch a chydraddoldeb i holl dalwyr y dreth gyngor ar draws Powys ac i gefnogi’r economi, a wnewch ymestyn eich cylch gorchwyl i adolygu’r polisi codi tâl mewn meysydd parcio ar draws Powys gyfan?
Ateb
Diolch ichi am eich cwestiwn ac rwy’n ddiolchgar am ichi ei ofyn gan ei bod yn bwysig bod ein penderfyniadau yn gyfiawn a theg ar draws y sir gyfan.
Bwriad fy adolygiad yw edrych i ddechrau ar hyfywedd y naw maes parcio y penderfynodd y Cabinet na ddylent fod am ddim mwyach. Bydd yr adolygiad hwn yn edrych ar y materion penodol a godwyd gan y cymunedau (yr elfen gwerth cymdeithasol) yn ogystal â’r incwm a ragwelir o’i gymharu â’r costau (yr elfen dadansoddi cost a budd). Ar ôl cwblhau’r adolygiad hwn, byddaf yn cychwyn adolygiad pellach o’r holl feysydd parcio i benderfynu ar ddefnydd yr ardaloedd parcio hyn i’r dyfodol a’u hyfywedd a sut orau i’w rheoli, eto yn seiliedig ar y gwerth cymdeithasol i’r gymuned a’r dadansoddiad o gost a budd. “Meddwl yn Glyfar” yw hyn ac mae’n ein galluogi i wneud penderfyniadau llawer gwell i’n cymdogaethau a’n trigolion niferus wrth i’r effaith ar y gymuned gael ei hystyried ochr yn ochr â’r ystyriaethau ariannol - cysyniad newydd y mae fy nghydweithwyr yn y Cabinet yn ymwybodol ohono. Dyma’r ffordd orau, yn fy marn i, i ganiatáu inni gynnig ateb cyfiawn a theg.
Mae pob punt a ddaw i mewn i Bowys drwy feysydd parcio o fudd i’n heconomi gyfan. Mae punt ym maes parcio’r Gelli yn helpu’r ysgol newydd sbon yn y Gelli yn anuniongyrchol – rhywbeth nad ydym o bosibl yn meddwl digon amdano fel gwleidyddion ym Mhowys.
Mae’r Gwasanaeth Parcio yn ffurfio rhan hanfodol o gyllideb y Cyngor ac os na ellir cynnal neu gynyddu incwm mewn meysydd eraill yr wyf yn eu cynrychioli, gallai unrhyw ostyngiad mewn incwm effeithio ar wasanaethau eraill a ddarperir gan y cyngor. Fel nifer o wasanaethau’r wyf yn gyfrifol amdanynt – megis glanhau strydoedd, toiledau cyhoeddus, tyllau ffyrdd, trwsio ein ffyrdd, pontydd ac adeiladau – mae’r rhain yn wasanaethau’r ydym yn eu cymryd yn ganiataol yn ein cymdogaethau bob dydd ac mae ein holl drigolion, gan gynnwys myfi, yn sylwi arnynt bob dydd. Y gwasanaethau hyn, yr wyf fi’n eu cynrychioli’n awr, a drawyd galetaf yn y cyngor ac mewn dwy flynedd mae Powys wedi dioddef toriadau o 53.6 y cant, pan fo gwasanaethau tebyg ledled y DU wedi dioddef toriadau o 20 y cant ar gyfartaledd. Cyfle inni oll yw hyn, nid problem, ac rwy’n ddiolchgar am fewnbwn y cynghorwyr cyn belled yngl?n â sut gall y gwasanaethwella’r cymdogaethau a gynrychiolant. Mae’r cabinet newydd hwn yn gwbl ymwybodol o ba mor hanfodol yw’r gwasanaethau hyn i’n Cymdogaethau.
Byddwch wrth gwrs yn ymwybodol fy mod wedi gorfod dechrau ag agwedd galed yn fy rôl newydd i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu cyflenwi i’r safon a ddisgwyliwn oll, ac yr oeddem yn eu cymryd yn ganiataol hyd at ddwy flynedd yn ôl, hyd yn oed er i’r gwasanaeth torri glaswellt gael ei gwtogi’n aruthrol. Felly, cymaint ag y byddwn yn hoffi adolygiad ar unwaith o’r holl feysydd parcio talu ac arddangos presennol, ni chaiff ei gynnal y tro hwn, ond edrychaf ymlaen at wneud hynny yn y dyfodol agos. Er hynny, mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wrthi’n edrych ar draws fy ngwasanaeth cyfan i gynyddu refeniw a gallaf eich sicrhau, os bydd refeniw yn cynyddu, y byddai’n fwriad gennyf ystyried hyn yn llawer cynt yn seiliedig ar y cysyniad “meddwl yn glyfar” yr amlinellais uchod.
Cwestiwn atodol y Cynghorydd Morris oedd gofyn i’r Deilydd Portffolio gynnal adolygiad cyfannol o’r holl feysydd parcio a llunio polisi Powys gyfan a gofyn faint o’r ffioedd parcio ceir o £93,000 a godwyd yng Nghrucywel yn 2016/17 a wariwyd yn yr ardal. Amlinellodd y Deilydd Portffolio Priffyrdd y camau yr oedd yn bwriadu eu cymryd gan gynnwys sicrhau bod cyfyngiadau parcio yn cael eu gorfodi mewn ardaloedd gwledig yn ogystal ag ardaloedd trefol, gan godi’r moratoriwm ar orchmynion rheoleiddio traffig a dywedodd y byddai’n ystyried gwerthu meysydd parcio nad oeddent yn dwyn refeniw i mewn. Addawodd ddarparu i’r Cynghorydd Morris fanylion y gwariant HTR yng Nghrucywel.
Dogfennau ategol: