Yndilyn cwestiynau a godwyd gan drigolion bod tâl yn cael ei godi arnyn nhw am rentu lein ddillad a’u bod yn gorfod rhannu gyda thenantiaid eraill, yn ogystal â gwasanaeth galwadau larwm nad oes ganddyn nhw wedi’i sefydlu ar fanylion eu rhent wythnosol, a all yr aelod portffolio darparu dadansoddiad o’r taliadau y gellir eu codi ar denantiaid y cyngor (yn cynnwys y gost) a sut y gallant optio allan o’r taliadau hyn os nad ydynt yn derbyn y gwasanaeth neu os nad ydynt am dderbyn y gwasanaeth fel rhan o’u rhent?
Cofnodion:
Cwestiwn
Yn dilyn ymholiadau a godwyd gan drigolion bod ffioedd yn cael eu codi arnynt am rentu lein ddillad a’u bod yn gorfod rhannu â thenantiaid eraill, ynghyd â thaliad galwadau larwm nad ydynt wedi gofyn amdanynt hyd yn oed, ar eu manylion rhent wythnosol, a all y portffolio ddarparu dadansoddiad o’r rhestr o faint y gellir ei godi ar denantiaid cyngor (gan gynnwys y gost) a sut roeddent yn gallu optio allan o’r ffioedd hyn os nad ydynt yn eu cael neu ddim eisiau eu cael fel rhan o’u rhent?
Ateb
Cyn blwyddyn ariannol 2016/17, roedd costau rheoli a chynnal tai cyngor yn cael eu rhannu’n gyfartal ar draws yr holl denantiaid ni waeth pa wasanaethau a gaent. Pan gyflwynwyd Deddf Tai (Cymru) 2014, roedd gofyn i awdurdodau lleol gyflwyno ffioedd gwasanaeth i denantiaid sy’n derbyn gwasanaethau ychwanegol. Cyflwynwyd hyn gan Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth i newidiadau a gyflwynwyd i’r system Budd-dal Tai, gan Lywodraeth y DU, a olygai nad oedd rhai mathau o ffioedd yn gymwys mwyach am Fudd-dal Tai. Felly, er 2016/2017 mae’r Cyngor, i gydymffurfio â Deddf 2014, wedi gorfod gwahanu costau gwasanaethau ychwanegol a chodi ar denantiaid a lesddeiliaid am y ‘gwasanaethau ychwanegol’, ar ffurf ffi wasanaeth. Felly, os yw’r Cyngor yn darparu leiniau dillad, gall tenantiaid ddisgwyl gorfod talu am y gwasanaeth hwn.
Ni all tenantiaid unigol, yn gyffredinol, optio allan o dalu ffioedd gwasanaeth, fodd bynnag, os yw tenantiaid ar y cyd yn gallu cynnig ateb gwahanol, mae’n bosibl y rhoddir ystyriaeth i hyn.
Mae’r wybodaeth yn y tabl isod yn dangos manylion y Ffioedd Gwasanaeth a godir yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
Gwasanaeth |
Ffi Wythnosol Uchaf |
Ffi Wythnosol Isaf lle’i codir (DS ni chodir dim ffi ar lawer o drigolion am y rhan fwyaf o eitemau) |
Sut caiff y ffi ei Chyfrifo |
||
|
16/17 |
17/18 |
16/17 |
17/18 |
|
Cynnal a chadw tir (fflatiau a byngalos yn unig) |
£2.10 |
£1.33 |
£.04 |
0.04 |
Caiff ei chyfrifo fesul safle, ar sail yr union fetrau a chost y contract. |
Glanhau mannau cyffredin |
£1.15 |
£1.20 |
£1.15 |
£1.20 |
Ar sail cost y contract cyfan wedi’i rannu â phawb sy’n derbyn y gwasanaeth |
Gwres a goleuadau cyffredin |
£1.01 |
£0.73 |
£1.01 |
£0.73 |
Ar sail cost y gwasanaeth cyfan wedi’i rannu â’r holl dderbynwyr. |
Gwaith Diogelwch Tân |
£1.61 |
£1.66 |
£0.21 |
£0.08 |
Ar sail costau gwirioneddol pob bloc wedi’u rhannu â holl drigolion y bloc. |
Erialau teledu |
£0.52 |
£0.17 |
£0.01 |
£0.04 |
Ar sail y costau sy’n gysylltiedig â phob erial ac wedi’u rhannu â’r holl dderbynwyr posibl |
Trwsio Drysau Mynedfeydd |
£5.13 |
£1.84 |
£.0.06 |
£0.06 |
Ar sail costau gwirioneddol pob bloc wedi’u rhannu â holl drigolion y bloc. |
Leiniau Dillad Cyffredin |
£.05 |
£0.26 |
£0.04 |
£0.03 |
Ar sail costau gwirioneddol pob bloc wedi’u rhannu â holl drigolion y bloc. |
Triniaeth Garthffosiaeth
|
Amh |
£4.62 |
Amh |
£4.62 |
Ar sail cost y contract gwasanaethau ar gyfer 2017/18 (defnyddir ffigur y flwyddyn hon gan nad oedd ffigur 2016/17 yn gystadleuol). Ychwanegir costau gwaith trwsio ychwanegol yn 2016/17, a chaiff y gost ei rhannu dros 5 mlynedd. Y costau rhedeg hy trydan a chynnal a chadw’r tir. Rhennir yr holl gostau rhwng holl dderbynwyr y gwasanaeth, felly codir yr un ffi ar bob defnyddiwr. |
Cynnal a Chadw Lifftiau
|
Amh |
£6.49 |
Amh |
£6.49 |
Rhennir y costau’n gyfartal rhwng pob tenant |
Hysbyswyd yr holl denantiaid o’r ffioedd hyn, ynghyd â’u rhent, 4 wythnos cyn dechrau’r flwyddyn ariannol newydd. Mae’r Gwasanaeth Tai yn cynhyrchu datganiadau rhent i denantiaid os gofynnant. Mae’r datganiad yn rhoi manylion y ffioedd ar eu cyfrif a’r taliadau a dderbyniwyd. Arferem wneud datganiadau rhent chwarterol ond ein bod wedi symud i’w gwneud ar gais, oherwydd y costau postio a’r ffaith bod tenantiaid wedi gofyn am y wybodaeth hon mewn fformatau gwahanol ee drwy e-bost.
O ran larymau cymunedol, gosodwyd y rhain yn yr holl eiddo i drigolion h?n ac fe’u hystyrir fel un o nodweddion yr eiddo. Felly, ni thynnir y larymau o’r eiddo ac yn y dyfodol agos byddwn yn adnewyddu’r larymau yn holl letyau’r cyngor i bobl h?n.
Os yw tenant yn dewis peidio â defnyddio’r gwasanaeth yna eu dewis nhw ydy hynny, ond byddant yn dal i orfod talu’r ffi wythnosol. I’r tenantiaid hynny sy’n derbyn Budd-dal Tai llawn, mae cost y larwm yn cael ei thalu drwy Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl, ac felly ni fydd y tenantiaid hynny’n cyfrannu dim.
I ateb cwestiwn atodol y Cynghorydd Ratcliffe yngl?n ag a wnaed asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb cyn i’r penderfyniad gael ei wneud ac a ellid ei rannu gyda’r aelodau, dywedodd y Deilydd Portffolio y byddai’n holi ac yn rhoi gwybod i’r aelodau.
Dogfennau ategol: