Rhoddodd y Gweinidog dros Addysg, Kirsty Williams y dewis i Awdurdodau Lleol bod staff ysgol yn gweithio pedwerydd wythnos ychwanegol ‘yn wirfoddol' ar ddiwedd mis Gorffennaf (gwyliau ysgol arferol) a chael pythefnos o wyliau ym mis Hydref - neu beidio.
Mae Cyngor Sir Powys yn un o dri awdurdod lleol sydd wedi cytuno i fabwysiadu hyn.
A yw'r Awdurdod hwn wedi ystyried yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar addysg pobl ifanc?
Mae’r system “Dal i fyny” cyfredol, yn cynnwys pellter cymdeithasol yn cyfateb i bobl ifanc yn mynychu ysgol unwaith yr wythnos ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb am dair neu bedair wythnos.
Ni fydd ysgolion ar agor am y bedwaredd wythnos ar ddiwedd mis Gorffennaf gan Awdurdodau Lleol eraill sydd ddim wedi derbyn y system hon ond bydd eu hysgolion yn agored am wythnos lawn ym mis Hydref ar gyfer eu holl bobl ifanc: pedwar diwrnod ychwanegol o fynychu'r ysgol.
Dogfennau ategol: