Rwyf am ofyn beth y mae Cyngor Sir Powys yn ei wneud er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd presennol mae ein planed yn dioddef?
Er enghraifft:
O ran ailgylchu – i le mae e’n mynd yn y pen draw?? A yw e’n cael ei ailgylchu i gyd mewn gwirionedd?
Gwastraff cyffredinol - sut mae tirlenwi'n ymdopi??
Ynni adnewyddadwy - a yw Powys yn buddsoddi mewn ffermydd gwynt, cynlluniau hydro (ry’n ni’n cael digon o law!), pympiau gwres o'r ddaear ac ati ...
A oes safonau eco penodol yn cael eu gosod ar bob adeilad newydd fel eu bod yn niwtral o ran carbon?
Pam mae ein harchfarchnadoedd ym Mhowys yn dal i ddefnyddio CYMAINT o blastig untro???
Pam mai dim ond llond dwrn o siopau 'ail-lenwi' sydd gennym?? Dylai pob archfarchnad roi'r dewis i ni ail-lenwi ein siamp?, sebon dwylo, hylif golchi llestri, powdr golchi, powdr golchi llestri, pasta, reis, coffi ac ati (ac yn sgil hynny lleihau plastig)
Dewch mlan Powys dylai ein sir werdd ffrwythlon fod yn arwain y ffordd o ran newid yn yr hinsawdd i weddill Cymru a gweddill y DU.
Buddsoddwch fwy yn y diwydiant coedwigaeth. Mae angen plannu mwy o goed i amsugno mwy o CO2 ac i gynhyrchu fwy o ocsigen. Mae gan Bowys yr arwynebedd. Dewch i ni fynd ati i blannu.
A ydych yn mynd i wneud yn si?r bod newid yn yr hinsawdd a gwyddoniaeth amgylcheddol yn dod yn bwnc allweddol yn ein system addysg o'r cyfnod cyn ysgol i'r Brifysgol?
Dogfennau ategol: