Credafmai un o’r materion pwysicaf y dylai’r cyngor fod yn mynd i’r afael ag ef ar hyn o bryd yw Newid yn yr Hinsawdd. Dylem fod yn arwain y ffordd ac yn dangos ein hymrwymiad i’n trigolion, yn enwedig ein plant a phobl ifanc sy’n debygol o ddioddef fwyaf os nad yw ein byd yn newid. Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar blastig un-tro lle’n bosibl ac mae hynny’n ddechreuad, ond mae cymaint mwy y gallwn ei wneud. Un cam amlwg i’r cyfeiriad cywir fyddai i sicrhau bod pob adeilad newydd sy’n cael ei adeiladu gan y cyngor, yn cynnwys tai / fflatiau ac ysgolion yn cael eu hadeiladu i safonau carbon niwtral. Un arall fyddai i wneud yn si?r fod pob adeilad y cyngor yn defnyddio ynni o ffynonellau cynaliadwy. A all yr arweinydd cadarnhau bod hyn eisoes yn digwydd, ac os na, a allith hi roi sicrwydd y bydd mesurau o’r fath yn cael eu cymryd yn y dyfodol. A allith hi hefyd roi ymrwymiad y bydd y cyngor yn gweithio tuag at fod yn garbon niwtral ar draws pob gwasanaeth, gan osod esiampl i gynghorau eraill, mewn da bryd cyn dyddiad terfyn Llywodraeth y DU o 2050?
Dogfennau ategol: