Mae
Llangatwg a Chrughywel 4 milltir yn unig o ffin Sir Fynwy a 6
milltir o ganolfan ailgylchu a gwastraff yn y Fenni. Mae trigolion y ddwy gymuned yn defnyddio Y Fenni
ar gyfer siopa, gweithgareddau diwylliannol, ymweliadau ysbyty a
llawer mwy. Mae trigolion Llangatwg a
Chrughywel yn gofyn yn gyson pam na allant ddefnyddio'r ganolfan
ailgylchu gwastraff yn y Fenni, a fyddai'n llawer haws, yn fwy
cynaliadwy ac yn gwneud synnwyr perffaith.
Mae Aberhonddu dros 15 milltir i ffwrdd (taith yn ol ac ymlaen o 30
milltir) ac i rai hyd at 25 milltir (taith yn ol ac ymlaen o 50)
ond mae’n rhaid i ni fynd ag unrhyw wastraff na ellir ei
gymryd yn yr ailgylchu wythnosol i'r orsaf wastraff yn
Aberhonddu.
Deallaf o ofyn am y mater hwn fod Powys a Sir Fynwy yn edrych ar drefn a fyddai'n galluogi ein preswylwyr i ddefnyddio'r safle yn y Fenni. Cafodd un o’n trigolion a oedd wedi bod yn ceisio trafod gyda Sir Fynwy i fynd a’u gwastraff i’r Fenni yr ymateb canlynol: -
“Dros amser, rydyn ni wedi defnyddio {Y Fenni} yn llai nag y gwnaethom pan symudon ni gyntaf ond oherwydd rhywfaint o waith adnewyddu t? yn ddiweddar rydym wedi cronni mwy o eitemau diangen, a ddoe gwnaethom lenwi cist y car gyda nhw, dim ond i ddarganfod nad oeddwn yn gallu defnyddio safle Llanfoist mwyach oherwydd ein bod yn byw ychydig y tu allan i Sir Fynyw. Felly fe wnaethom gael gair gyda swyddfa Powys y bore yma i weld ymhle mae ein cyfleuster agosaf ym Mhowys a dywedwyd wrthym mai Aberhonddu yw’r un agosaf sy’n 15 milltir i ffwrdd a’i fod ar gau heddiw ac yfory. Mae’n debyg bod y safle agosaf nesaf 40 milltir i ffwrdd yn Llandrindod a dim ond 5 (ry’n ni’n deall) o safleoedd yn yr ardal eang sydd o fewn awdurdod Powys.
Awgrymwydi ni gan y clerc yn swyddfa Powys y dylem gysylltu â Sir Fynwy i weld a allem fel ‘cymydog’ agos gael trwydded i ddefnyddio safle Llanfoist. Er mawr syndod i ni, rydyn ni wedi cael gwybod gan glerc yn swyddfa Sir Fynwy fod Sir Fynwy wedi bod yn ceisio’n frwd i drafod trefniadau ar gyfer trigolion nad ydynt yn byw yn Sir Fynwy i ddefnyddio ei safleoedd ond hyd yn hyn mae hyn wedi cael ei wrthod (gan Bowys)”.
A allech chi fy sicrhau bod Powys yn gweithio gyda Sir Fynwy i ddod o hyd i ateb?
Dogfennau ategol: