Mewn Asesiad Lles a gynhaliwyd gan swyddogion Powys, gwelwyd bod 16% o aelwydydd Powys yn profi tlodi tanwydd. Diffinnir hyn fel aelwyd sy’n gwario o leiaf 10% o’i incwm ar danwydd. Derbyniodd y Cyngor Rhybudd o Gynnig gan y Blaid Lafur yn 2016 yn cytuno bod yn ‘rhaid iddo wneud cymaint ag y gall i helpu trigolion sy’n dioddef tlodi tanwydd i liniaru’r sefyllfa’. Hefyd, yn ddiweddar cyhoeddodd y Cynulliad Cenedlaethol ganllawiau yn amlinellu’r prif ffynonellau cyllid, a chyngor sydd ar gael i etholwyr sydd am wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.
O ystyried y Rhybudd o Gynnig a chanllawiau Cynulliad Cymru a all yr Aelod Portffolio rhoi diweddariad ar waith cyfredol y Cyngor i fynd i’r afael â thlodi tanwydd?
Dogfennau ategol: