Mae’n rhaid i ni gael y signal a’r cysylltedd angenrheidiol yng nghefn gwlad Cymru i gefnogi’r economi a’n cymunedau yn yr unfed ganrif ar hugain. Felly, mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ddiwygio mesurau cynllunio i wella signal ffonau symudol fel sail i economi modern a hyfyw. Bydd hyn yn cynnwys caniatau mastiau yng Nghymru i fod yn 25m (82tr) o uchder yn hytrach na’r 15m (50tr) sydd ar hyn o bryd, felly’n helpu i ddatblygu economi entrepreneuraidd ym Mhowys a chefn gwlad Cymru.
Cynigydd: Cynghorydd Elwyn Vaughan
Eilydd: Cynghorydd Bryn Davies