Lleoliad arfaethedig: Ar Zoom - By Zoom. Gweld cyfeiriadau
Cyswllt: E-bost: nicola.williams@powys.gov.uk E-bost: julie.williams2@powys.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Welcome and Introductions / Croeso a Rhagymadrodd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chafwyd cyflwyniadau byr o amgylch y bwrdd.
|
|
Apologies / Ymddiheuriadau Cofnodion:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Pwyllgor - CSP - Debby Jones, Arweinydd Proffesiynol - Cyfreithiol CSC - Elin Prysor, Swyddog Monitro a Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyfreithiol a Llywodraethu
|
|
Disclosures of Interest / Datgeliadau o Ddiddordeb Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant i'w datgan yn ymwneud â materion i'w hystyried ar yr agenda.
|
|
Minutes of last Meeting / Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf PDF 120 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cadeirydd fod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2022 yn cael eu llofnodi fel cofnod cywir ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd James Gibson-Watt.
|
|
Membership of the Sub-Committees / Aelodaeth yr Is-Bwyllgorau PDF 247 KB Cofnodion: Roedd Aelodaeth yr Is-bwyllgorau yn cael ei chyflwyno i’r CBC/CJC i’w gymeradwyo.
Mae ychydig o leoedd gwag o dan yr Is-bwyllgorau Safonau, Trosolwg a Chraffu ar y Cyd a Llywodraethu ac Archwilio bellach wedi'u llenwi. Disgwylir am ddau enwebiad gan APCBB mewn perthynas â'r Is-bwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio.
· GWEITHREDU: Y Cynghorydd Gareth Ratcliffe i hysbysu'r Swyddog Monitro am yr enwebiadau ar gyfer yr Is-bwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio.
Cadarnhawyd y bydd penodiadau’n cael eu gwneud yn ystod cyfarfod nesaf APCBB a bydd y Swyddog Monitro yn cael ei hysbysu yn unol â hynny ac yn rhoi adroddiad yng nghyfarfod nesaf y CBC/CJC.
Dywedwyd y gallai’r CBC/CJC awdurdodi’r Swyddog Monitro i dderbyn yr enwebiadau hynny neu gellid eu penodi'n ffurfiol yn y cyfarfod nesaf.
· ARGYMHELLWYD y dylid dirprwyo'r Swyddog Monitro i dderbyn enwebiadau gan APCBB ar gyfer yr Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
· PENDERFYNWYD bod y Swyddog Monitro yn derbyn enwebiadau APCBB ar gyfer yr Is-Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac yn rhoi adroddiad am hyn yng nghyfarfod nesaf y CBC/CJC.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad ar ran yr Is-bwyllgor Cynllunio Datblygu Strategol (CDS) gan y Cynghorydd Jake Berriman, Cadeirydd Is-bwyllgor y CDS.
Gofynnir am adborth gan aelodau’r CBC/CJC mewn perthynas â gohebiaeth (a ddosbarthwyd y bore yma) gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyllid ar gyfer Cynlluniau Datblygu Strategol.
Trosolwg byr
Mae gan y CBC/CJC rwymedigaeth i baratoi Cynllun Datblygu Strategol ar draws Canolbarth Cymru i ddod â chynllun ynghyd trwy aelodau perthnasol y CBC/CJC gyda'r Awdurdodau Lleol cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Cyfarfu’r is-bwyllgor ar 14 Hydref a 2 Rhagfyr. Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl ac roedd llythyr wedi'i ysgrifennu at Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd. Roedd y llythyr yn amlinellu’r sefyllfa ac yn gofyn am ganiatâd i Bowys gael yr hawl i beidio â chadw at ei ddyddiad gorffen terfynol o ran ei gynllun datblygu lleol mabwysiedig presennol, er mwyn gallu neilltuo adnoddau ar gyfer cynhyrchu'r cynllun newydd.
Yn y cyfarfod ar 2 Rhagfyr, nododd ymateb gan y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn amharod i gael gwared ar y dyddiad cau terfynol ar gyfer Powys, gan nodi bod angen i Bowys barhau i baratoi’r cynllun datblygu lleol.
Bydd yr aelodau’n ymwybodol o gost y gwaith a chynhyrchwyd papur opsiynau gyda chwe opsiwn yn canolbwyntio ar opsiwn 2 sef sut i ddechrau’r Cynllun Datblygu Strategol ochr yn ochr â'r cynlluniau datblygu lleol.
Mae'r Awdurdodau Lleol mewn gwahanol sefyllfaoedd gyda Cheredigion a'r Parc Cenedlaethol wedi gohirio eu cynlluniau datblygu lleol am amrywiaeth o resymau.
Cytunwyd i ganolbwyntio ar opsiwn 2 gyda chafeat y byddai Cadeirydd y Cynllun Datblygu Strategol yn ysgrifennu eto at y Gweinidog i dynnu sylw at y ffaith bod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ynghlwm wrth dri Chynllun Datblygu Strategol yn ychwanegol at ei gynllun newydd ei hun, ac nad oes unrhyw adnoddau newydd ar gael, a bod Powys eisoes wedi ymrwymo i gynllun newydd costus heb unrhyw ddewis heblaw parhau â’r hyn a ddarperir gan y Llywodraeth.
Roedd Cadeirydd y CBC/CJC yn dymuno nodi dau bwynt -
1. O ran y llythyr at Julie James, y Gweinidog, wrth gydnabod sefyllfa Cadeirydd Is-bwyllgor y Cynllun Datblygu Strategol, argymhellodd y Cadeirydd y byddai wedi bod yn ddefnyddiol gweld y llythyr cyn iddo gael ei anfon.
Dymunai Cadeirydd y CBC/CJC gael gwybod am unrhyw ohebiaeth at y Gweinidogion yn y dyfodol oddi wrth y CBC/CJC neu unrhyw un o’r Is-bwyllgorau.
2. O ran y llythyr a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru y bore yma, a oes rhaid i aelodau’r CBC/CJC neu’r Cadeirydd ymateb i’r llythyr hwnnw?
Cydnabuwyd y byddai gan Gadeirydd y CBC/CJC gopi o unrhyw ohebiaeth fel hyn yn y dyfodol.
Dywedwyd bod y pwysau nawr ar fwrw ymlaen â’r RTP yn gyntaf cyn y Cynllun Datblygu Strategol. Mae canllawiau’r RTP ar fin ymddangos gyda llawlyfr y Cynllun Datblygu Strategol i gael ei gyhoeddi erbyn diwedd eleni.
Cydnabyddir bod y llawlyfr i’w gyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn a disgwylir i’r CBC/CJC lofnodi Cytundeb Cyflawni gyda Llywodraeth Cymru ynghylch yr amserlen ar gyfer cynhyrchu Cynllun Datblygu Strategol erbyn diwedd y flwyddyn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CJC Annual Return 2021-22 / Ffurflen Flynyddol CJC 2021-22 PDF 67 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd Dychweleb Flynyddol y CBC/CJC gan y Swyddog Adran 151. Gyda’r CBC/CJC yn bodoli yn 2021/22 ac na wariwyd unrhyw wariant ac na chafwyd unrhyw drafodion adroddwyd felly nad oedd dim i’w adrodd i Archwilio Cymru.
|
|
CJC Budget 2023-24 / Cyllideb CJC 2023-24 PDF 93 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwyno Adroddiad Cyllideb y CBC/CJC ar gyfer 2023/24 sy’n cynnwys cynllunio strategol ac elfen graidd fel y nodir yn Rheoliadau’r CBC/CJC. Cyllideb arfaethedig o £175,000 sy'n gynnydd bychan ar y flwyddyn gyfredol sef £160,000. Pwyntiau allweddol perthnasol - Mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru yn endid cyfreithiol ar wahân ac felly'n gweithredu er ei fudd ei hun. Mae materion heb eu datrys yn cynnwys TAW, materion Treth Gorfforaeth a Thrysorlys EM. Mae’r rhain yn agos at gael eu cwblhau ac mae rhai heriau gweithredol hefyd o ystyried bod y CBC/CJC yn endid cyfreithiol ar wahân. Nodwyd trafodaethau’r Cynllun Datblygu Strategol yn gynharach a chynghorwyd nad dyma’r amser i dyfu Cyllideb y CBC/CJC hyd nes y bydd cyfeiriad pendant yn cael ei gadarnhau. Cafwyd trafodaethau ynghylch y cworwm sydd ei angen ar gyfer y cyfarfod a mynegwyd pryderon ynghylch capasiti yn APCBB.
Crynodeb Cyllideb gyffredinol o £175,000, wedi’i rhannu’n elfen cynllunio strategol ac yn elfen o’r gyllideb gyffredinol graidd fel y nodir yn y rheoliadau ac oherwydd yr ansicrwydd o ran gofynion a chyfarwyddiadau ac ati a lefelau hyder o ran gwerth am arian pan ddaw at y Cynllun Datblygu Strategol a’r RTP a drafodwyd yn gynharach. Roedd cyllideb y llynedd yn £160,000 felly dim ond cynnydd bach sydd yna. Nodwyd bod gallu o fewn y rheoliadau i adolygu’r gyllideb o fewn blwyddyn ariannol felly os bydd angen yn 2023/24 lle mae rhai o ofynion y dyfodol yn dod yn gliriach a’n bod yn fodlon ar y cyfeiriad yr ydym yn mynd iddo, gan gymryd i ystyriaeth yr heriau sylweddol o ran y cyllidebau ym mhob awdurdod, rydym yn gallu cynyddu'r gyllideb o fewn y flwyddyn os oes angen. Byddai unrhyw danwariant gan y CBC/CJC ar ddiwedd y flwyddyn yn mynd i gyfrif Cronfa Wrth Gefn CBC/CJC Canolbarth Cymru a byddai angen ei rannu'n elfen cynllunio strategol ac yn elfen gyffredinol. Cronfa Bensiwn Mae angen enwebiadau ar gyfer gweinyddu pensiwn ar gyfer y CBC/CJC. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn dod o dan Gronfa Bensiwn Dyfed a weinyddir gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac ni fyddai’n briodol i’r gronfa bensiwn fod yn awdurdod gweinyddu ar gyfer CBC/CJC Canolbarth Cymru gan nad yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhan o’r CBC/CJC ei hun ac felly yn ddiofyn Cronfa Bensiwn Powys fyddai’r Corff Gweinyddu mwyaf amlwg ar gyfer y Gronfa Bensiwn. Dylid ymateb i Lywodraeth Cymru ar y sail pe bai’r CBC/CJC yn dod yn gyflogwr ar ryw adeg yn y dyfodol yna Cronfa Bensiwn Powys fyddai’r Pensiwn dynodedig. Mae Atodiad A yr adroddiad yn nodi manylion y £175,000, wedi’i rannu i ychydig dros £131,000 sef y gyllideb gyffredinol ac ychydig o dan £44,000 sef yr elfen cynllunio strategol. Mae’n ariannu dwy ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Any other business / Unrhyw fater arall Cofnodion: Nid oedd unrhyw fater arall i’w adrodd i’r pwyllgor heddiw.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a'u cyfraniadau a daeth y cyfarfod i ben.
|