Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 10 Hydref a 20 Rhagfyr 2019 fel cofnodion cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiadau o ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. Dogfennau ychwanegol: |
|
Briff gan y Prif Weithredwr Derbyn briff gan y Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Dogfennau ychwanegol: |
|
Allwch chi gadarnhau faint mae Cyngor Sir Powys yn ei dalu am gludiant ysgol i blant o ardal dalgylch Aberhonddu i fynychu addysg Gymraeg yn Ysgolion Calon Cymru neu Ystalyfera pan mai eu darpariaeth agosaf yw’r ysgol newydd yn Aberhonddu?
Mae’r plant yn mynd ar wasanaeth bws lle nad yw’r teithwyr wedi cael archwiliad DBS ac mae achosion lle mae’r bysys yn llawn a lle mae’r plant yn sefyll am gyfnod y daith.
Os na fyddai’r cludiant hwn bellach yn cael ei ariannu gan y cyngor, rwy’n amau y byddai’r niferoedd yn Aberhonddu yn cynyddu, ac yn sgil hynny byddai’r pynciau a ddarperir a’r safonau felly yn cynyddu. Dogfennau ychwanegol: |
|
Trosglwyddiadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Trosglwyddiadau ar gyfer Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu PDF 123 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Trosglwyddiad o Dy Ladywell i'r Gronfa Datblygu Economaidd PDF 124 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Cynhadledd Gwella Estyn yr Awdurdod Lleol PDF 187 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Sir Phyl Davies, Aelod Portffolio ar faterion Addysg ac Eiddo. Dogfennau ychwanegol: |
|
Swydd Wag i Ddod ar gyfer Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau PDF 10 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cynrychiolaeth ar Bwyllgorau a Chyrff Allanol PDF 203 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: |
|
Argymhellion gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd PDF 214 KB Ystyried argymhellion gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig O ystyried y ffaith nad yw cael cyfarfodydd llawn y Cyngor yn ofyniad cyfreithiol fel rhan o drawsnewid ysgolion, ac nad yw’n cyflwyno unrhyw beth i’r broses, a chyda’r ffaith fod gwneud y defnydd gorau o adnoddau staff a pheidio â gwastraffu arian yn bwysig, mae’r Cyngor yn cytuno i ddileu’r gofyniad i’r Cyngor llawn gwrdd i drawsnewid ysgolion, ac i ddefnyddio cyfarfodydd a chyfleoedd eraill sy’n ffurfio rhan o’r prosesau cyfreithiol yn hytrach na hyn.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Phyl Davies
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad Dogfennau ychwanegol: |
|
Rwy’ndeall fod Powys wedi derbyn grant o £3 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Defnyddiwydrhan o’r grant hwn i brynu 20 o fysys newydd ar gyfer gweithredwyr o fewn Powys tuag at gludiant cyhoeddus.
A all yr aelod portffolio roi gwybod i mi a’r aelodau, a yw Powys wedi prynu bysys ail-law oddi wrth rai gweithredwyr? A allwch gadarnhau a yw hyn yn gywir a pham? Dogfennau ychwanegol: |
|
MewnBwletin Gwella a Sicrwydd diweddar, ysgrifennwyd fod, ‘goruchwyliaeth yn y gweithle (Gwasanaethau Plant) yn hanfodol mewn amrywiaeth cyflawn o ffyrdd. Mae lefelau cydymffurfiaeth presennol yn isel, er eu bod yn cynyddu ychydig, a nawr fod y strwythur ar waith, rhaid trafod hyn fel mater brys’. A all yr aelod portffolio, felly, gyflwyno adroddiad cynnydd cymharol, o fis Medi 2019 hyd at fis Rhagfyr, gan gynnwys: i) tystiolaeth o nifer y gweithwyr cymdeithasol cymwys, gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso a gweithwyr cymdeithasol asiantaeth sy’n derbyn lefel briodol, reolaidd ac wedi’i strwythuro o oruchwyliaeth o fewn y gweithle, a ii) bethyw llwyth achosion presennol pob gweithiwr ar gyfartaledd ac a yw’r gwaith yn briodol i lefel cymwysterau a hyfforddiant pob gweithiwr?
Dogfennau ychwanegol: |
|
Derbynioddtrigolion yn wardiau Tawe Uchaf, Aber-craf, Ystradgynlais, Ynyscedwyn a Chwmtwrch wasanaeth casglu deunyddiau ailgylchu gwaeth na gwael dros gyfnod y Nadolig. Y rheswm dros hyn oedd diffyg cynllunio strategol a chyfathrebu gan y Cyngor gyda Chynghorwyr a’r gymuned. Beth fydd y Cyngor yn ei wneud i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto? Dogfennau ychwanegol: |
|
Fel y mae banciau yn encilio o gymunedau Powys ac mae tâl yn cael ei godi ar rai cymunedau i dynnu arian o beiriannau arian parod lleol, pryd fydd Cyngor Sir Powys yn dechrau cyflwyno systemau taliadau gyda chardiau led led y sir er mwyn cefnogi busnesau gan ei bod hi’n anoddach trin a thrafod arian parod?
Dogfennau ychwanegol: |
|
Yndilyn pryderon a fynegwyd gan drigolion Y Gelli Gandryll eu bod yn gweld cynnydd mewn ail gartrefi yn dod yn “fusnesau” er mwyn trafod a mynd i’r afael gyda’r cynnydd yn nhreth y cyngor, a fydd y cyngor yn gallu adolygu effaith ail gartrefi ar gymunedau er mwyn cefnogi trigolion lleol ynghyd â’r gymuned fusnes i sicrhau ein bod yn cael tymor 12 mis ac nad yw cartrefi yn cael eu gadael yn wag am rannau mawr o’r flwyddyn gan atgyfnerthu ein cymunedau felly ar gyfer heriau’r dyfodol? Dogfennau ychwanegol: |
|
Mae nifer o drigolion wedi darllen neges ar Gyfryngau Cymdeithasol lle mae Cyngor Sir arall wedi adrodd am arbedion ariannol o ran Torri Glaswellt, trwy blannu blodau gwyllt sy’n ddeniadol iawn i’r llygad, ac yn annog cynnal pili-palaod, gwenyn ac ati. Lle mae ymylon glaswellt ac argloddiau llydan iawn, mae trigolion wedi gofyn am ystyried a fyddai’n arbed costau ac yn rheolaeth well ar amser i weithwyr dorri glaswellt ar 3 troedfedd o ymylon y ffyrdd yn unig a chaniatáu i flodau gwyllt a blannwyd eisoes i barhau i dyfu? Oni fyddai hyn yn rhyddhau amser, er mwyn i Weithwyr Llaw yr Adran Briffyrdd, gynnal gwaith cynnal a chadw mawr ei angen a ddynodwyd ar ffyrdd Dosbarth ‘B’, ffyrdd ymylol a draeniau cysylltiedig?
Dogfennau ychwanegol: |
|
Mae pryderondifrifol gan nifer o drigolion yn fy Ward o ran y toriadau gyda goleuadau stryd. Mae hyn yn fwy dychrynllyd, yn benodol, mewn ardaloedd lle mae pobl mewn oed yn byw, sy’n ofni am eu diogelwch yn ystod y nos, oherwydd penderfyniad y Cyngor Sir i droi rhai goleuadau stryd i ffwrdd. Fe wnaf gyflwyno Neuadd Terrace, Bronllys fel un enghraifft.
Mae diogelwch a lles trigolion mewn oed a thrigolion diamddiffyn, yn benodol, yn arbennig o bwysig, felly a all yr Aelod Portffolio awgrymu sut y gallwn ganfod y costau i sicrhau fod anghenion ein trigolion pryderus yn cael eu diwallu?
Dogfennau ychwanegol: |
|
O ystyried y pryderon cynyddol am ddefnyddio Glyffosad (Glyphosate) fel chwynladdwr o fewn ein cymunedau, a’r ffaith y bu nifer o achosion ymgyfreithio proffil uchel llwyddiannus sydd werth miliynau o bunnoedd yn erbyn Monsanto, a bod adroddiadau o 18,400 o achosion cyfreithiol ar y gweill yn erbyn Bayer, oherwydd adroddiadau o bryderon iechyd am y defnydd o Glyffosad, a’r pryderon am effaith y defnydd o Glyffosad ar yr amgylchedd, a all yr aelod portffolio ymgymryd i gynnal arolwg brys ar y defnydd o Glyffosad gan yr awdurdod ac unrhyw un o’i gontractwyr, gan edrych ar enghreifftiau eraill o arfer gorau ac adrodd yn ôl i’r Cyngor ymhen amser gydag argymhellion pendant?
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cwestiwn i'r Arweinydd oddi wrth y Cynghorydd Sir William Powell PDF 101 KB Tra’n cydnabod yr adnoddau, boed yn ariannol ac mewn ymdrechion dynol, sy’n cael eu hymrwymo gan Gyngor Sir Powys i’w Weithgor Allanol ar Brexit a’r gweithio sylweddol ac arwyddocaol a gyflawnir mewn partneriaeth, gydag asiantaethau’r sector cyhoeddus a phreifat ac aelodau etholedig, mae un maes lle y gallwn – a lle y gellir dadlau y dylwn – wneud mwy.
Gan fod Llywodraeth newydd etholedig y DU yn gwrthod cyflwyno hawliau ymgartrefu/preswylio awtomatig i Wladolion yr Undeb Ewropeaidd a gafodd eu haddo gan yr Ymgyrch Pleidleisio dros Adael yn Refferendwm 2016, a bod yr holl ddiwygiadau i’r Mesur Gadael yn ailbennu’r hawliau hyn – ac i greu mecanwaith apelio hyd yn oed – wedi cael eu gwrthod gan Lywodraeth Ei Mawrhydi, mae nifer o Wladolion Swistir a Gwladolion yr Undeb Ewropeaidd a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd ym Mhowys a led led Cymru yn wynebu her enfawr wrth geisio sicrhau Statws Preswylydd Sefydlog oddi wrth y Swyddfa Gartref.
Rwy’n ymwybodol fod dolen wybodaeth ar y Statws Preswylydd Sefydlog ar wefan Cyngor Sir Powys sy’n tywys tuag at Gov.UK – a hefyd yn ymwybodol o lawlyfr ‘y cyntaf i’r felin’ ar gyfer cynghorwyr sydd â diddordeb. Fodd bynnag, o ystyried yr her enfawr yr ydym wedi’i chydnabod dros amser ar Gofrestr Risg Corfforaethol Cyngor Sir Powys o ran y dirywiad llym mewn trigolion ym Mhowys o oedran gweithio, oni fyddai’n briodol, heb amheuaeth, i’r Awdurdod fabwysiadu dull ‘y gorau o fewn y dosbarth’ tuag at gefnogi’r categori hanfodol hwn o weithwyr. Mae mesurau rhagweithiol wedi’u cymryd o fewn awdurdodau cyfagos, yn fwyaf nodedig, Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin a dros y ffin yn Swydd Henffordd, sy’n cynnwys sesiynau galw heibio, cyfarfodydd cymunedol a chyswllt â’r gwasanaethau llyfrgelloedd perthynol, er mwyn mynd ati oll i gefnogi Gwladolion yr Undeb Ewropeaidd sy’n dymuno parhau i fyw, gweithio a chyfrannu tuag at ein cymunedau.
A fydd yr Arweinydd yn rhoi ystyriaeth i raglen fwy rhagweithiol o gefnogaeth, yn unol ag enw da Powys ar gyfer lletygarwch, dyngarwch a chwarae teg?
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cais am Gyfnod o Absenoldeb Dogfennau ychwanegol: |
|
Ar ddiwedd y cyfarfod ffurfiol bydd sesiwn briffio ar Fargen Twf Canolbarth Cymru. Dogfennau ychwanegol: |
|
Canlyniadau'r Bleidlais PDF 412 KB Dogfennau ychwanegol: |