Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Zoom - Neuadd y Sir. Gweld cyfeiriadau
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuridau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiadau o ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. Dogfennau ychwanegol: |
|
Briff gan y Prif Weithredwr Derbyn briff gan y Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Dogfennau ychwanegol: |
|
Cwestiwn i Aelod y Cabinet gyda chyfrifoldeb am Gyllid a Thrawsnewid gan Patrick Edwards PDF 67 KB A fydd y cyngor yn ad-dalu treth y cyngor i drethdalwyr y cyngor oherwydd y gwasanaethau sylweddol lleiedig a ddarparwyd gan y cyngor yn ystod pandemig Covid-19, yn enwedig gan fod y Llywodraeth wedi talu 80% o gyflogau llawer o weithwyr y cyngor trwy’r cynllun ffyrlo? Dogfennau ychwanegol: |
|
Cwestiwn i Aelod y Cabinet gyda chyfrifoldeb ar gyfer Powys sy'n Dysgu gan Catherine Evans PDF 81 KB Effeithiwyd ar blant ysgol i raddau anghymesur gan gyfnodau clo COVID a darpariaeth amrywiol gan ysgolion. Mae dyddiau DP ychwanegol i hwyluso cynllunio ar gyfer y cwricwlwm newydd wedi cael effaith bellach ar ddysgwyr.
A fydd CSP yn cynnig hawliau llawn i ddysgwyr i dderbyn 190 diwrnod ysgol y flwyddyn o hyn ymlaen?
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cwestiwn i Aelod y Cabinet gyda chyfrifoldeb am Gyllid a Thrawsnewid PDF 81 KB Ydy CS Powys yn bwriadu defnyddio ei bwerau disgresiwn i ddileu’r atebolrwydd am dreth y cyngor ychwanegol, fydd yn berthnasol i lawer iawn o fythynnod gwyliau ar ffermydd o ganlyniad i ddeddfwriaeth ddiweddar? CEFNDIR: DeddfwriaethDdiweddar: Mae Bythynnod Gwyliau ar Ffermydd, a ddyluniwyd yn bwrpasol, fel arfer wrth addasu adeiladau fferm segur, wedi cael eu cynnwys o dan ddeddfwriaeth ddiweddar Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o ddelio gydag ail gartrefi. Hwyrach y cewch eich synnu i glywed fod Llywodraeth Cymru’n gallu cynnwys busnesau nad ydynt, yn ôl eu diffiniad, yn ail gartrefi, ac nid yn aelwydydd. Serch hynny, mae’r ddeddfwriaeth bellach mewn grym. Byddbywoliaethau llawer o’r busnesau teuluol hirhoedlog a llwyddiannus hyn yn cael eu dinistrio, a bydd yn rhaid iddynt ail-wampio’r eiddo at ddefnydd masnachol amgen yn sgil y ddeddfwriaeth yma. Effaithar Dai: Ynunol â’r Cynllun Datblygu Lleol, mae eiddo felly’n cael eu hatal rhag eu defnyddio fel llety parhaus gan amodau cynllunio. Fel y cyfryw, mae’r eiddo hyn yn diogelu pwysau ar argaeledd tai lleol trwy dderbyn ymwelwyr mewn eiddo annomestig. Pan gaiff eiddo felly eu hail-ddefnyddio ar gyfer defnydd arall ar wahân i wyliau, bydd yr holl nosweithiau sy’n cael eu treulio ynddynt gan ymwelwyr yn cael eu dynodi i dai lleol, ac yn arwain at fwy o alw ar brisiau tai ac argaeledd llety ar rent. Dim Dewis: Er mwyn dangos effaith y ddeddfwriaeth ar fusnes nodweddiadol gyda 5 uned i’w gosod ar gyfer Gwyliau fferm: Bydd y busnes yn wynebu 5 bil Newydd am Dreth y Cyngor, ynghyd â bil treth cyfredol y perchennog ar elfen defnydd domestig o’r safle. Mae hyn yn golygu nid yn unig costau gweithredu ychwanegol i’r busnes, sy’n effeithio ar hyfywedd a’r gallu i gystadlu, ond mae hefyd yn golygu malltod ar yr eiddo. Bydd gan y cartref cyfanswm o 6 bil treth y cyngor, sy’n golygu nad yw’n bosibl ei werthu, neu’n ei ddibrisio’n sylweddol. Mae’n amlwg bod angen i berchnogion osgoi’r sefyllfa honno. Felly, bydd llawer o’r unedau gwyliau hyn sy’n ‘garedig i gartrefi lleol’ yn cael eu colli. Ni fydd yn creu unrhyw gartrefi domestig ychwanegol, a bydd yn trosglwyddo’r galw gan ymwelwyr i roi mwy o bwysau ar dai lleol. DileuAtebolrwydd i dalu Treth y Cyngor: Mae dros 90% o’r holl eiddo hunan-arlwyo ar restr trethi annomestig yng Nghymru wedi elwa o ryddhad rhag treth i fusnesau bach ar raddfa 100% ers nifer o flynyddoedd. Felly nid yw dileu’r atebolrwydd i dalu Treth y Cyngor ar fythynnod gwyliau fferm yn afresymol. Pe bai angen, gellir gwireddu hyn mewn ffordd niwtral o safbwynt refeniw trwy addasadiadau i bolisi Premiwm Treth y Cyngor. Dylanwaduar Gyfansoddiad Llety Gwyliau ym Mhowys: A wnewch chi ystyried gallu CS Powys i ddylanwadu ar ... gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem 7.3 Dogfennau ychwanegol: |
|
Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 3 MB I ystyried adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyfansoddiad - Adran 4 - Siarad ar Gynigion PDF 85 KB I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyfreithiol a Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyfarfodydd y Cyngor Darlledu PDF 76 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyfreithiol a Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig - Ambiwlans Awyr Mae’rambiwlans awyr, ers nifer o flynyddoedd, wedi darparu gwasanaeth hanfodol a gwerthfawr yng Nghanolbarth Cymru.
Mae’rbwriad arfaethedig i drosglwyddo safle’r ambiwlans awyr o’r Trallwng felly yn gam yn ôl, ac o bryder mawr i’n trigolion.
Mae’nhanfodol fod gwasanaeth yr un mor effeithlon yn ystyried natur wledig yr ardal, yr anawsterau o ran cael gafael ar ambiwlans cyffredin a’r opsiynau iechyd llai sydd ar gael yma.
Galwn felly am gadw safle’r ambiwlans awyr yn y Trallwng, ac i ystyried yr opsiwn o ymestyn oriau’r gwasanaeth.
Cynigydd: Y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan Eilydd: Y Cynghorydd Sir Gary Mitchell.
Sylw’r Adran Gyllid
Ni fydd unrhyw oblygiadau ariannol yn sgil y cynnig arfaethedig, oherwydd dim ond gohebiaeth fydd ei hangen gydag Ambiwlans Awyr Cymru. Ni ddisgwylir unrhyw gamau gweithredu na chostau eraill.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig - Cludiant Ysgol Yn ystod y misoedd diweddar, derbyniwyd nifer o apeliadau i’r Tîm Cludiant Ysgol, mewn perthynas â mynediad at gludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol. Mae trigolion wedi cysylltu â’u Cynghorwyr Sir a’u cynrychiolwyr yn y Senedd yn gofyn am gymorth. Yn amlach na pheidio, mae’r apeliadau’n deillio o newidiadau i ddyraniadau dalgylchoedd, cynseiliau hanesyddol a llai o hyblygrwydd, ond yn eu plith mae:
· Brodyr/chwiorydd iau yn derbyn cludiant am ddim i ysgol wahanol i frawd/chwaer h?n oherwydd newid y dalgylchoedd.
Effaith hyn yw creu straen diangen ar gyfer disgyblion a’u rhieni, a bydd mewn rhai achosion, pan fydd gan rieni’r amser a’r adnoddau ariannol, yn arwain at rieni yn dilyn y bws i’r ysgol, gan gynyddu olion traed carbon yn ddiangen.
Mae’r Cyngor yn galw ar y Gwasanaethau Cludiant Ysgol ac Addysg i sicrhau fod yr adolygiad cyfredol o Bolisi Cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol nid yn unig yn arwain at fwy o eglurder o ran hawl disgyblion/myfyrwyr i gludiant am ddim, ond hefyd mae’n ategu gwell dewis i rieni o safbwynt dethol ysgol, lle gellir gwneud hyn heb gynyddu’r gyllideb ar gyfer cludiant ysgol.
Cynigydd: Y Cynghorydd Sir Lucy Roberts Eilydd: Y Cynghorydd Sir Adrian Jones
Sylw’r Adran Gyllid Mae’r Gwasanaeth wedi cadarnhau, fel rhan o’r adolygiad o’r polisi cludiant rhwng y cartref a’r ysgol, y bydd yn cynnig eglurder i rieni i ganiatáu iddynt wneud dewis deallus yngylch yr ysgol, lle bydd y Cyngor yn darparu cludiant iddynt o gartref arferol y dysgwr.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig - Draenio a Llifogydd Ynsgil y cynnydd mewn tywydd drwg a llifogydd dros flynyddoedd diweddar, mae’n debyg nad yw cyflwr cyfredol ein draeniau a chwteri’n gallu ymdopi adeg glawiad cynyddol neu ddifrifol. Mae’r sefyllfa’n cael ei waethygu oherwydd diffyg clirio draeniau fel rhan o raglen oherwydd yr adnoddau cyfyngedig sydd gan Bowys. Dengys adborth gan ein trigolion, cynghorwyr eraill a chynghorau cymuned fod pobl o’r farn fod problemau mewn perthynas â chynnal a chadw ein ffyrdd yn cael eu gwaethygu gan y d?r cynyddol sy’n rhedeg lawr y ffyrdd, ac a ddylai fynd i’r draeniau a'r cwteri.
Yngynharach eleni, cafwyd llifogydd difrifol ar draws Powys. Er nad yw’n bosibl dileu’r risg o lifogydd adeg glawiad eithriadol, ac achoswyd llifogydd hefyd wrth i afonydd orlifo, mewn rhai ardaloedd effeithiwyd ar eiddo gan y llifogydd, oherwydd efallai diffyg clirio’r draeniau’n rheolaidd. Cartrefi yw’r rhain nad ydynt gerllaw afonydd neu nentydd, ond oherwydd d?r wyneb y ffordd yn llifo iddynt, heb unrhyw le arall i’r d?r fynd.
Cred Gr?p Ceidwadwyr Powys bod angen cael amserlen cynnal a chadw draeniau blynyddol ar gyfer ffyrdd y sir. Fodd bynnag, gwerthfawrogwn fod angen adnoddau digonol i ddarparu hyn. Dyna’r rheswm ein bod eisoes wedi annog Cyngor Powys i ddefnyddio cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin, Ffyniant Bro Llywodraeth y DU i wneud cais am gyllid ar gyfer o leiaf dau beiriant chwistrellu ychwanegol ym Mhowys. Tra bo proses SPF ar y gweill, mae angen gweithredu ar frys, cyn i’r Gaeaf gyrraedd, er mwyn adnabod a chlirio’r draeniau a’r cwteri lle mae’r risg mwyaf sy’n debygol o achosi llifogydd i eiddo lleol.
Mae’rCyngor hwn yn galw ar weinyddiaeth Cyngor Powys i:
1. Gyfarwyddorheolwyr y timau priffyrdd, ar y cyfle cynharaf posibl cyn misoedd y Gaeaf, i weithio gydag Aelodau Lleol i adnabod draeniau a chwteri lle mae angen gwaith clirio er mwyn atal llifogydd lleol. 2. Defnyddioadnoddau mewn ffordd briodol i sicrhau y caiff y draeniau dan sylw eu clirio a’u gwagio fel mater o frys cyn misoedd y Gaeaf.
Cynigydd: Y Cynghorydd Sir Amanda Jenner Eilydd: Y Cynghorydd Sir Jonathan Wilkinson
Sylw’rAdran Gyllid
1. Mae cyfarfodydd depo yn cael eu trefnu rhwng Hydref a Rhagfyr 2022 i gwrdd â'r holl aelodau i drafod yr holl faterion priffyrdd gan gynnwys draenio a gwagio rhigolau. Mae gan y Cyngor 4 peiriant ar draws y Sir i gefnogi ffyrdd sirol a chefnffyrdd. Byddwn yn ystyried pryderon aelodau' fel rhan o'r broses ymgysylltu hwn gan sicrhau bod y 4 peiriant yn cael eu blaenoriaethu yn briodol i sicrhau bod y rhigolau critigol yn cael eu clirio. Bydd hyn yn gadael rhigolau eraill a gafwyd eu glanhau yn hanesyddol pan oedd y gwasanaeth yn rhedeg 8 peiriant rhigolau.
2. Er y gwneir pob ymdrech i gynnwys y rhigolau hanfodol ledled y Sir yn seiliedig ar y 4 peiriant, ... gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem 13. Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig - Argyfwng Natur Rhagarweiniad At ddibenion y cynnig hwn mae ‘natur’ yn golygu pob organeb byw, a chymhlethdodau ecolegol (gan gynnwys elfennau nad ydynt yn fyw [megis aer, d?r, pridd] a phrosesau) maent yn rhan ohonynt. Mae’n cynnwys amrywiaeth o fewn rhywogaethau, ymhlith rhywogaethau ac ecosystemau; gwydnwch ecosystemau; y gwasanaethau maent yn eu darparu i gymdeithas, a’r ffordd mae bodau dynol yn rhyngweithio â natur.
Amlygodd adolygiad yr Athro Syr Partha Dasgupta i Economeg Bioamrywiaeth, a gomisiynwyd gan Drysorlys Ei Mawrhydi yn 2019 a diweddarwyd y llynedd, nad yw dynoliaeth yn bodoli ar ben ei hunan ac ar wahân i natur ond mae'n eistedd o'i fewn. Mae natur yn ased y mae pob agwedd o'n cymdeithas yn dibynnu arno a chyda bioamrywiaeth yn dirywio'n gyflymach nag ar unrhyw adeg yn hanes dynol, rydym yn tanseilio'r cynhyrchiant, y gwytnwch a'r addasedd y mae natur yn rhoi i’n cymdeithas. Mewn sir fel Powys, mae ein colled natur yn tanseilio cynhyrchiant, gwytnwch ac addasedd ein sectorau amaethyddol a choedwigaeth ochr yn ochr â'r rhyng-ddibyniaeth â’r diwydiant twristiaeth. Yn syml, mae Powys yn dibynnu ar fyd natur. Rydym yng nghanol argyfwng natur. Mae bron i hanner holl fywyd gwyllt y DU yn dirywio yn y tymor hir ac mae 15% o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu. Mae'r argyfwng hinsawdd ond yn prysuro'r dinistr hwn o'r amgylchedd naturiol, yn difrodi cynefinoedd ac amharu ar ecosystemau. Eto i gyd, yr union gynefinoedd hyn sydd â'r potensial i gloi carbon a brwydro'n ôl yn erbyn tymheredd byd-eang sy'n codi. Mae'n hanfodol ein bod nid yn unig yn diogelu'r gofodau hyn ond yn gadael iddyn nhw ffynnu – er lles pobl, y blaned a byd natur. Wrth i ni wella o argyfwng COVID-19, mae'r angen am fannau gwyrdd sy'n llawn natur lle rydym yn byw a gweithio yn gliriach nag erioed a bydd yn helpu iechyd, addysg a'r economi i adeiladu'n ôl yn gryfach.
Rydym yn cydnabod bod yn rhaid cymryd camau nawr i gywiro hyn a rhoi natur mewn adferiad ar lefel leol, i gefnogi gwaith rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol i wneud yr un peth.
Cyflwynodd adran 6 Rhan 1 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) ddyletswydd uwch (y ddyletswydd S6) ar awdurdodau cyhoeddus. Mae'r ddyletswydd S6 yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth yn gyson ynghyd ag arfer eu swyddogaethau'n briodol ac wrth wneud hynny hyrwyddo gwytnwch ecosystemau.
Mae Cyngor Sir Powys eisoes wedi gwneud llawer gan gynnwys penodi Swyddog Bioamrywiaeth o dan gyllid Mannau Lleol ar gyfer Natur gan Lywodraeth Cymru a'u prif ddyletswydd yw dosbarthu grantiau i gefnogi natur i grwpiau ym Mhowys. O fewn ei wasanaethau ei hun mae'r Cyngor yn cynnal prosiectau megis rheoli ymylon ffyrdd ar gyfer natur drwy newid eu trefniadau rheoli torri a chasglu.
Mae'r swydd Swyddog Bioamrywiaeth – a ariennir yn allanol – yn rhoi cymorth i'r Bartneriaeth Natur Leol gyfredol ym Mhowys, fforwm sy'n dwyn ynghyd nifer o sefydliadau sydd â diddordeb mewn adfer natur ac sydd wedi cyhoeddi Cynllun ... gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem 14. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad Dogfennau ychwanegol: |
|
Cwestiwn i Aelod y Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu gan y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan PDF 57 KB Faint o ddisgyblion Powys, o du allan i ardal Cwm Tawe, sy’n teithio i Ysgol Ystalyfera i dderbyn eu haddysg? Dogfennau ychwanegol: |
|
Cwestiwn i Aelod y Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys gan y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan PDF 66 KB O safbwynt yr argyfwng ynni sydd ar ddod, a’r cynnydd mewn costau i bawb, hoffwn dynnu eich sylw at gynigion yr Almaen –
· Uchafswmtymheredd o 9ºC mewn adeiladau cyhoeddus · Dim gwres mewn rhannau cymunedol o adeiladau cyhoeddus (e.e. coridorau) · Peidiogoleuo henebion ac adeiladau cyhoeddus. · Ni chaniateir cadw drysau siopau ar agor yn barhaus · Dim goleuo mewn ffenestri siopau nac ar fyrddau poster ar ôl 10 pm · Ni chaniateir gwresogi pyllau preifat gydag ynni o’r grid.
Fedrwnni fel awdurdod rhoi ar waith elfennau perthnasol y cynigion hyn, a thrwy hynny torri lawr ar ynni sy’n cael ei wastraffu, ond hefyd gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r amgylchedd?
Dogfennau ychwanegol: |
|
Ar ddiwedd y cyfarfod ffurfiol, cynhelir sesiwn briffio ar y Gwasanaethau Plant ac Addysg. Dogfennau ychwanegol: |
|
Canlyniadau'r Bleidlais Dogfennau ychwanegol: |