Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Zoom - Neuadd y Sir. Gweld cyfeiriadau
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 24 Chwefror ac ailalwyd ar 3 Mawrth, a 26 Mai 2022 fel cofnodion cywir.
Dogfennau ychwanegol:
|
|
Datganiadau o fudd Derbyn unrhyw ddatganiadau o fudd gan Aelodau o ran eitemau sydd i’w trafod ar yr agenda.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyhoeddiadau’r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Briff gan y Prif Weithredwr Derbyn briff gan y Prif Weithredwr.
Dogfennau ychwanegol: |
|
ADRODDIAD HUNAN-ASESU BLYNYDDOL PDF 349 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd ac Aelod Portffolio ar gyfer Powys Agored a Thryloyw. (Tudalennau 97 - 244)
Dogfennau ychwanegol: |
|
ADRODDIAD AR SEFYDLOGRWYDD Y FARCHNAD – GWASANAETHAU CYMDEITHSOL 2022 PDF 523 KB Ystyried adroddiad gan Sian Cox, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar a’r Cynghorydd Sandra Davies a’r Cynghorydd Susan McNicholas, Aelodau Cabinet ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Trosglwyddiadau Refeniw PDF 81 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Lwfansau a Threuliau Aelodau 2021-22 PDF 312 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Aelodaeth o Bwyllgorau PDF 300 KB Nodi penodi aelodau ar bwyllgorau.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Penodi Aelod (Lleyg) Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau PDF 79 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Penodi Cynghorwyr i Gyrff Allanol PDF 48 KB Ystyried gwneud penodiadau i’r cyrff allanol canlynol:
Ymddiriedolaeth Pritchard – 1 penodiad. Mae’r ymddiriedolaeth elusennol hon yn gysylltiedig â champws Ysgol Canol Cymru Llanfair-ym-Muallt.
Ymddiriedolaeth Evanst – 1 penodiad. Mae’r ymddiriedolaeth elusennol hon yn gysylltiedig â champws Ysgol Canol Cymru Llanfair-ym-Muallt.
The Reserve Forces’ and Cadets’ Association for Wales – 1 penodiad.
Bwrdd Canolfan Gelfyddydau Wyeside– 2 benodiad. Mae disgrifiad o’r rol wedi’i atodi.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaearn PDF 819 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig – Cau Ysgolion
Dechreuodd y rhaglen bresennol o gau ysgolion pan roedd gweinyddiaeth flaenorol y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol mewn p?er gyda Kirsty Williams fel Gweinidol Addysg. Ers hynny, mae awdurdodau lleol trwy Gymru gyfan wedi gwneud penderfyniadau i gau ysgolion cynradd. Mae’r tair ysgol ganlynol yn destun cau ym Mhowys:
Ysgol Gynradd Cradoc Ysgol Gynradd Llanfihangel Rhydeithon Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr
Yn ystod y broses cau, aeth y cynigion i gau’r dair ysgol uchod trwy’r Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau, gan gadeiryddiaeth y Cynghorydd Pete Roberts, Democratiaid Rhyddfrydol.
Ar 8 Rhagfyr, cyfarfu’r gr?p craffu Dysgu a Sgiliau i ystyried cau Ysgol Gynradd Cradoc: 2021-12-08 Scrutiny Recs to Cabinet - Cradoc and Mount Street v2.pdf (moderngov.co.uk). Ni wnaeth y Cadeirydd unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig gan gyflwyno sylwadau gyda phedwar argymhelliad ychwanegol.
Ar 22 Medi, cyfarfu’r gr?p craffu Dysgu a Sgiliau i ystyried cau Ysgol Gynradd Llanfihangel Rhydeithon: 2021-09-22 Scrutiny Recs to Cabinet - Llanfihangel Rhydithon.pdf (moderngov.co.uk). Ni wnaeth y Cadeirydd unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig gan gyflwyno sylwadau i gynnwys y sylw canlynol “Roedd y Pwyllgor yn fodlon fod cyfiawnhad i fwyafrif y dadleuon a nodir yn y ddogfen, ar bob sail.”
Ar 4 Tachwedd, cyfaru’r gr?p craffu Dysgu a Sgiliau i ystyried cau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr; 2021-11-04 Scrutiny Recs to Cabinet - Llanbedr.pdf (moderngov.co.uk). Ni wnaeth y Cadeirydd unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig gan gyflwyno sylwadau i gynnwys y sylw canlynol: “Nid yw’r gr?p craffu’n gwneud unrhyw argymhellion i’r cabinet.”
Er gwaethaf y ffaith bod Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau’n ymddangos yn fodlon gyda’r cynnig i gau tair ysgol gynradd, yn ystod ymgyrch etholiadau diweddaraf y cyngor sir, roedd ymgeiswyr Democratiaid Rhyddfrydol Cymru sydd erbyn hyn wedi ffurfio gweinyddiaeth newydd Cyngor Sir Powys, wedi ymgyrchu ac ymrwymo i wrthdroi’r penderfyniad i gau ysgolion cynradd ym Mhowys.
Ar 29 Ionawr 2022, 13 Chwefror 2022 ac 14 Mai 2022, ymunodd nifer o ymgeiswyr Democratiaid Rhyddfrydol, Cynghorwyr ac aelodau presennol y Cabinet â thrigolion Powys ar brotestiadau a diwrnodau ymgyrchu i ymladd y penderfyniad i gau’r ysgolion uchod. Ar 23 Ionawr 2022, ymunodd nifer o ymgeiswyr Llafur, Cynghorwyr ac aelod presennol o’r Cabinet â thrigolion Powys ar daith gerdded i ymladd y penderfyniad i gau Ysgol Gynradd Cradoc, Ysgol Fabanod Mount Street ac Ysgol Gynradd Mount Street. Yn ystod ymgyrch etholiadol y cyngor sir eleni, dywedodd ymgeiswyr Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol trwy ddeunydd ymgyrchu, cyfryngau cymdeithasol a sgyrsiau wyneb yn wyneb, pe byddent yn cael eu hethol, ac yn rheoli’r awdurdod hwn, byddent yn rhoi diwedd ar gau’r ysgolion uchod. Ers cymryd rheolaeth dros yr awdurdod hwn ym mis Mai, mae’r weinyddiaeth newydd wedi methu gwireddu’r addewid hwn i drigolion Powys. Yn lle hynny, cyhoeddodd yr Arweinydd y byddai’r penderfyniad i gau Llanfihangel Rhydeithol a Llanbedr yn cael ei ohirio am flwyddyn galendr, gan gynnig gobaith ffug i rieni, athrawon a phlant, gan fod swyddogion y cyngor wedi cadarnhau y bydd y ddwy ysgol yn dal i gau.
Erbyn hyn mae’r ... gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem 15. Dogfennau ychwanegol: |
|
RHYBUDD O GYNNIG – CYNLLUN GOSTWNG TRETH TANWYDD MEWN ARDALOEDD GWLEDIG. Yn anffodus mae diffyg seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu nad oes dewis gan nifer o drigolion Powys ar gyfer teithiau hanfodol, ac yn dibynnu ar ddefnyddio’r car. Ar 80%, Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o bobl yn teithio i’r gwaith mewn car o’i gymharu ag ardaloedd Lloegr neu’r Alban. Ar hyn o bryd nid yw ardaloedd gwledig Cymru’n derbyn cefnogaeth er ateb bron pob un o’r meini prawf. Rhaid ad-drefnu’r cynllun i ystyried mynediad at rwydweithiau trafnidiaeth cyhoeddus lleol yn ogystal â sicrwydd i gynnwys rhannau o Gymru yn y cynllun hwn. Yn hynny o beth, mae’r Cyngor –
- yn cefnogi galwadau i gefn gwlad Cymru gael eu cynnwys yn y Cynllun Gostwng Treth Tanwydd mewn Ardaloedd Gwledig; - yn pwyso ar Drysorlys ei Mawrhydi i ddiweddaru meini prawf y cynllun - ac yn gofyn i Aelodau Seneddol Powys weithio gydag Aelodau Seneddol gwrthbleidiau Canolbarth Cymru i sicrhau un llais wrth bwyso’r achos yn San Steffan.
Cynigiwyd gan: Cyng Elwyn Vaughan Eiliwyd gan: Cyng Bryn Davies
Gofynion o ran adnoddau Mae’r cynnig yn gofyn i’r cyngor ysgrifennu at Lywodraeth y DU am y rhwydweithiau trafnidiaeth yn ardaloedd gwledig. Ychydig iawn o effaith ariannol sydd i’r cynnig hwn heblaw am amser swyddogion wrth ddrafftio llythyron sy’n mynd i’r afael â’r pwnc hwn. Daw’r costau hyn o gyllidebau presennol.
Dogfennau ychwanegol: |
|
RHYBUDD O GYNNIG - DYDD GŴYL DEWI A) Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet gydnabod Dydd G?yl Dewi yn swyddogol trwy roi diwrnod o wyliau i’w weithlu er mwyn dathlu dydd ein Nawdd Sant ar 1 Mawrth 2023 a bob blwyddyn wedi hynny. B) Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli’r p?er i Lywodraeth Cymru greu gwyliau banc i Gymru (trwy Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971) – fel sydd eisoes yn digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Cynigiwyd gan: Cyng Elwyn Vaughan Eiliwyd gan: Cyng Bryn Davies
?Gofynion o ran adnoddau ?A) Byddai effaith go iawn g?yl banc ychwanegol yn cael effaith sylweddol ar gynhyrchiant. Er enghraifft, roedd y g?yl banc diweddar i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines ar ddydd Gwener 3 Mehefin 2022 wedi golygu fod hawl gan bob aelod staff i wyliau a derbyn cyflog diwrnod arferol ar y g?yl banc ychwanegol. Serch hynny, roedd rhaid i’r Cyngor sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau, gyda gweithwyr fu’n gweithio’r diwrnod hwnnw â hawl i daliadau uwch neu ddiwrnod i ffwrdd yn lle. Gan gymryd hwn fel enghraifft, gallwn ddarparu’r canlynol:-
Mae costau staff ar gyfer y g?yl banc ychwanegol ar 3 Mehefin 2022 fel syrthio i ddwy elfen: 1. Amser anghynhyrchiol lle roedd y staff ar wyliau ar 3 Mehefin neu ar ddiwrnod arall nes ymlaen. 2. Talu cyflog uwch i staff fu’n gweithio’r diwrnod hwnnw.
Y ffordd gyflymaf i gyfrifo costau staffio ar gyfer diwrnod o amser anghynhyrchiol, yn seiliedig ar 1/260 o fil cyflogau’r Cyngor, yw tua £700k, ond i gael y ffigwr go iawn o edrych ar batrymau gwaith, byddai’n cymryd llawer o amser i gyfrifo hyn yn fwy cywir. I’r rhai hynny fu’n gweithio ar 3 Mehefin 2022, mae rhai wedi cyflwyno hawliadau amser ar gyfer cyflogres Mehefin 2022 a’r cyfanswm yw £6k gan gynnwys costau. Ond mae staff yn tueddu i hawlio mis yn hwyrach, felly mae’n debyg y bydd mwy o hawliadau, ond yn annebygol o fod yn berthnasol iawn.
Yn ogystal, mae staff gofal yn ein tenantiaethau â chymorth, gofal cartref a chartrefi plant â hawl i gyflog uwch ar y diwrnod hwnnw. Amcangyfrif o gostau ychwanegol hynny yw £72k.
Mae hefyd yn werth nodi fod g?yl banc y Jiwbilî wedi digwydd yn ystod hanner tymor ysgolion a’r diwrnod yn lle hynny i staff ysgolion yw dydd Llun 18 Gorffennaf 2022 (mae’r rhain wedi’u cynnwys yn yr amcangyfrif o amser anghynhyrchiol).
Fodd bynnag, i nifer o staff cyflogedig, byddai unrhyw waith na wnaed y diwrnod hwnnw yn cael ei wneud wrth iddynt ddychwelyd, a’i reoli o fewn eu gwaith arferol a’u trefniadau gweithio’n hyblyg dros yr wythnosau canlynol. Felly yn y rhan fwyaf o achosion ni fyddai yna faich ariannol ychwanegol, er colli’r oriau gwaith. Efallai y byddai rhai costau’n cael eu harbed o gael diwrnod ychwanegol i ffwrdd o’r gwaith e.e. costau cyfleustodau, a fyddai angen eu hystyried.
B) Prin iawn fydd yr effaith ar adnoddau o ran y cais i ysgrifennu ... gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem 17. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad PDF 78 KB Mae Cyfrifiad 2011 yn dangos fud tua 19% o boblogaeth Powys yn hollol ddwyieithog h.y. Cymraeg a Saesneg.
Eto ym mis Mawrth 2022 fe wnaeth y Comisiynydd Iaith adolygu arolwg cwsmer o 4 wythnos yn dangos o 17 o alwadau i Bowys, dim ond 1 ddywedodd fod gwasanaeth Cymraeg ar gael, ac o’r 15 o alwadau a atebwyd gan staff, dim ond 3 oedd yn gallu ateb anghenion y galwr yn rhugl yn Gymraeg. Hefyd, mae data cyflogaeth yn dangos mai dim ond 7.59% o staff Powys sy’n hollol ddwyieithog yn 2021-22 gyda’r adrannau tai a datblygu cymunedol mor isel â 5.04%
Eto, rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022, o’r 1,271 o swyddi a hysbysebwyd, dim ond 64, neu 5% oedd yn galw am yr angen i fod yn hollol ddwyieithog.
O ystyried y ffaith nad yw’r awdurdod yn adlewyrchu ein cymdeithas, heb sôn am ateb ei rwymedigaethau cyfreithiol, ac felly’n galw am archwiliad radical o’r sefyllfa, beth yw eich cynigion i fynd i’r afael â’r diffyg cydbwysedd hwn?
Dogfennau ychwanegol: |
|
Canlyniadau'r Bleidlais PDF 125 KB Dogfennau ychwanegol: |