Lleoliad: Ar Teams - By Teams. Gweld cyfeiriadau
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. |
||
Awdurdodi'r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf fel cofnod cywir.
Dogfennau ychwanegol: |
||
Datganiadau o ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan Aelodau mewn perthynas ag eitemau i'w hystyried ar yr agenda.
|
||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. |
||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. |
||
Briff gan y Prif Weithredwr Derbyn briff gan y Prif Weithredwr.
|
||
Adroddiad Monitro Estyn PDF 156 KB Nodi canfyddiadau Ymweliad Monitro Estyn. |
||
Trosglwyddiadau'r Gyllideb PDF 737 KB Ystyried trosglwyddiadau’r gyllideb sydd angen cymeradwyaeth y Cyngor. Adrodd i’r Cabinet ynghylch pwysau cyllidebol yn y Gwasanaethau Plant, sydd ynghlwm. |
||
Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 2 MB Derbyn ac ystyried Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. |
||
Trefniadau ar gyfer datblygu, cyflwyno ac ystyried cynigion amgen ar gyfer y gyllideb PDF 473 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151. |
||
Diwygiadau i'r Cyfansoddiad PDF 180 KB Ystyried adroddiadau gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd. Dogfennau ychwanegol:
|
||
Diwygiadau i'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau o Bartneriaeth Pensiwn Cymru PDF 124 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol: |
||
Penodiadau i Gyrff a Phwyllgorau Allanol Nodi'r penodiadau canlynol a wnaed gan grwpiau gwleidyddol ac a gymeradwywyd gan y Swyddog Monitro:
Penodwyd y Cynghorydd Gwilym Williams i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lle'r Cynghorydd Jon Williams. Penodwyd y Cynghorydd Karl Lewis i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lle'r Cynghorydd Iain MacIntosh. Penodwyd y Cynghorydd Ange Williams i'r Pwyllgor Cyflogaeth ac Apeliadau yn lle'r Cynghorydd Jon Williams. |
||
Rhybudd o Gynnig - Cefnogaeth i'r Sector Amaethyddol PDF 251 KB Mae’r sector amaethyddol o’r pwys mwyaf i’n heconomi ac i gymunedau Powys fel y nodir ar y map hwn. Gyda 9.5 miliwn o ddefaid yng Nghymru mae’r prisiau a roddir am un o’r prif gynhyrchion naturiol, sef gwlân, wedi bod yn isel iawn yn ddiweddar.
Mae gennym ganolfannau graddio gwlân yn y Drenewydd ac Aberhonddu, ac mae’r sector defaid o bwysigrwydd enfawr ym Mhowys. Mae gwlân hefyd yn gynnyrch naturiol, sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd ac yn ddeunydd gwrth-dân.
O ystyried hyn, mae’r Cyngor yn cynnig bod yr awdurdod, fel rhan o fargen Twf Canolbarth Cymru, yn edrych ar gyfleoedd i ychwanegu gwerth at ein cynhyrchion amaethyddol ac yn benodol i weithio gyda’r undebau ffermio a Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain gyda’r bwriad o hwyluso sefydlu’r hyn sy’n cyfateb i WRONZ, Sefydliad Ymchwil Gwlân Seland Newydd yng Nghanolbarth Cymru, a thrwy hynny fod yn gatalydd ar gyfer syniadau a chynhyrchion arloesol a chwmnïau deilliedig masnachol gan ddefnyddio gwlân.
Cynigydd - Y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan Eilydd - Y Cynghorydd Sir Bryn Davies
|
||
Rhybudd o Gynnig - Coedwigo Cyfrifol - Dull Cynaliadwy ac nad yw'n ymelwa
Mae’rCyngor yn mynegi ei bryder ynghylch y ffaith fod cwmnïau rhyngwladol yn prynu ffermydd teuluol ym Mhowys ac yn ehangach i blannu coed at y diben o greu ‘credydau carbon’ sy’n cael eu gwerthu i gwmnïau sy’n llygru i gyrraedd eu targedau gwrthbwyso carbon.
Wrthdderbyn bod plannu coed ar raddfa fawr yn cael ei gydnabod fel un ffordd o frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, mae’r Cyngor yngresynu bod gwrthbwyso carbon yn caniatáu i’r cwmnïau hyn sy’n allyrru llawer o garbon barhau â'u hymddygiad anghynaliadwy.
Ymhellach, mae’r Cyngor yn nodi bod cwmnïau rhyngwladol eisoes wedi hawlio dros £1.3m o gyllid Llywodraeth Cymru trwy gronfa Glastir - Creu Coetir, sy'n golygu bod trethdalwyr Cymru yn sybsideiddio rhaglenni gwrthbwyso carbon cwmnïau o'r tu allan i Gymru.
Mae’rCyngor yn cefnogi’r egwyddor o goedwigo cyfrifol ond mae’n credu bod yn rhaid gwneud hyn mewn ymgynghoriad â chymunedau lleol, ac na ddylai gael effaith niweidiol ar gyflogaeth, diwylliant a hyfywedd cymunedol lleol.
Mae’rcyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i: · Sicrhaumai dim ond ffermwyr actif yng Nghymru a all hawlio cyllid trwy gynllun Glastir - Creu Coetir · Cyflwynodeddfwriaeth datblygu cynllunio i alluogi awdurdodau cynllunio lleol fel Powys i reoli prosiectau coedwigo, ac i osod terfyn ar gyfran y tir ar unrhyw fferm y gellir ei defnyddio ar gyfer coedwigo heb fod angen caniatâd cynllunio · Cyflawniei gynlluniau coedwigo trwy ddatblygu cwmni hyd braich dan berchnogaeth gyhoeddus i reoli coedwigaeth Cymru a helpu i gyrraedd targedau lleihau carbon Llywodraeth Cymru
Mae’rCyngor yn cydnabod barn ymgyrchwyr amgylcheddol nad ywplannu coed yn unig yn mynd i fod yn ddigon i osgoi newid yn yr hinsawdd ac mae’n cytuno mai dim ond gostyngiad cyflym mewn llosgi tanwydd ffosil sy'n gallu atal y cynnydd parhaus a brawychus mewn tymereddau byd-eang.
Cynigydd - y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan Eilydd - y Cynghorydd Sir Emily Durrant
|
||
Rhybudd o Gynnig - Newid Sylweddol o ran Gweithredu ynghylch yr Hinsawdd a Mabwysiadu'r Safon Un Blaned Mae'rCyngor hwn yn nodi: Mae gan y Cyngor gyfle i wneud newid sylweddol wrth ymdrin â’r argyfwng sy’n ein hwynebu; mae’r cynnydd wedi bod yn arafach nag yr oedd preswylwyr a rhanddeiliaid yn ei ragweld ac mae’r monitro a’r adborth wedi bod yn llai tryloyw nag y byddent wedi’i ddymuno. Mae angen gweithredu’n gyflymach ac yn fwy agored i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol. Bydd uchelgais ac arweinyddiaeth y Cyngor yn allweddol i fynd â’n rhanddeiliaid cymunedol a lleol gyda ni i gyrraedd y targed a osodwyd ym mis Medi 2020 o Sero Net erbyn 2030. Nid oedd gan bobl, yn dilyn cynhadledd ryngwladol COP26 yn Glasgow, unrhyw amheuaeth ynghylch difrifoldeb a natur argyfyngus y sefyllfa i gymunedau gartref a thramor. Nid yw ein hymateb yn gofyn am ddim llai na newid diwylliannol i’r sefydliad cyfan lle rydyn ni'n dweud yn glir beth rydyn ni'n ei wneud ac yn gwneud yr hyn rydyn ni'n ei ddweud, gan ysbrydoli eraill i weithredu hefyd. Mae Cyngor Abertawe yn treialu menter newydd - Safon Un Blaned, a lansiwyd mewn pryd ar gyfer COP26, sydd wedi’i chynllunio i gefnogi sefydliadau fel ein un ni i addasu ein gweithgareddau i gyd-fynd â'n dyheadau amgylcheddol. Gyda chefnogaeth Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, gallai’r Safon Un Blaned helpu Cyngor Powys i ddod yn effeithlon o ran ein defnydd o adnoddau, datblygu llwybrau economaidd cylchol gydag ymgysylltiad gweithwyr, cadwyni cyflenwi, cwsmeriaid ac unrhyw un y mae ein gweithgareddau yn effeithio arnynt. Mae’r Safon Un Blaned yn cefnogi gwelliant parhaus, gyda chylch o gamau syml sef Cynllunio> Gwneud> Gwirio> Gweithredu wedi’u gosod yn erbyn ein nodau, ein cerrig milltir a’n graddfeydd amser ein hunain. Yn ei hanfod, methodoleg integredig ydyw ar gyfer adrodd i gynorthwyo sefydliad i fesur, rhoi cyfrif am, a gwella effaith amgylcheddol ei weithgareddau. Byddai'r Safon Un Blaned yn cofleidio'r pum ffordd o weithio: TymorHir - cydbwyso anghenion tymor byr gyda diwallu anghenion tymor hir. Atal ? gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu, gan ddefnyddio'r egwyddor ragofalus. Integreiddio - ystyried sut mae holl weithredoedd Powys yn effeithio ar ei gilydd, ar y nodau cymdeithasol ac ecolegol, ac ar fuddiannau a gweithredoedd rhanddeiliaid. Cydweithio - gydag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau) a allai helpu Powys i gyflawni ei amcanion a'i nodau cymdeithasol ac ecolegol. Cynnwys- cynnwys ystod eang o bobl wrth gyflawni ei nodau cymdeithasol ac ecolegol, gan sicrhau bod y bobl hynny yn dod o Bowys ac yn adlewyrchu ei amrywiaeth. Bydd deall a mabwysiadu gofynion y Safon Un Blaned yn helpu’r Aelod Portffolio ar faterion yr hinsawdd a’r argyfwng ecolegol, ac aelodau eraill y Cabinet i bennu cyfeiriad strategol, a’r uwch dîm rheoli i weithredu newid, wrth helpu staff i newid y diwylliant corfforaethol. Bydd ein partneriaid a’n cwsmeriaid yn gwerthfawrogi ein huchelgeisiau yn well ... gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem 16. |
||
Rhybudd o Gynnig - Rhuban Gwyn: Diwylliant ac Ymarfer Mae'rCyfarfod Cyngor hwn yn nodi: - · Hyrwyddodd Joyce Watson, Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru achos y Rhuban Gwyn, fel arweinydd menter drawsbleidiol, yn gynnar yn y Pedwerydd Cynulliad / Senedd. Cynrychiolodd y Cynghorydd William Powell Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru mewn gwylnosau a digwyddiadau eraill ar ran Joyce Watson ac fe wnaeth gwrdd â llawer o bobl wahanol oedd wedi goroesi. Mae arweinyddiaeth barhaus Joyce gyda’r mater hwn hyd heddiw yn dal i fod yn rhan bwysig o fusnes y Senedd; · Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi codi proffil cam-drin domestig, rheolaeth orfodol a thrais yn erbyn menywod. Mae Prif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys, Richard Lewis, sydd ar hyn o bryd yn Brif Gwnstabl Cleveland, wedi nodi cam-drin domestig a materion cysylltiedig fel blaenoriaeth uchel; · Mae ffigurau’r ONS yn dangos y bydd bron i un o bob tair merch 16-59 oed yn profi cam-drin domestig yn ystod eu hoes, bod dwy fenyw yr wythnos yng Nghymru a Lloegr yn cael eu lladd gan bartner presennol neu gynbartner, bod dros hanner miliwn o fenywod yn cael eu treisio neu’n dioddef ymosodiad rhywiol bob blwyddyn a bod arolwg barn YouGov yn dangos bod traean o ferched wedi profi aflonyddu rhywiol mewn ysgolion; · mae’rpandemig byd-eang wedi arwain at y ffaith fod mwy o fenywod a merched yn agored i gam-drin domestig ac, yn ôl adroddiad newyddion gan y BBC ym mis Gorffennaf y llynedd, gwelodd tri mis cyntaf y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf gynnydd o 80% yn y galwadau i’r Llinell Genedlaethol Cam-drin Domestig; · maeadroddiad diweddar Cymdeithas Fawcett “Ymdrin ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle” - sy’n rhoi gwybod am gamau a gymerir gan gyflogwyr i atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol yn y gweithle, yn nodi bod dros 40% o fenywod wedi profi aflonyddu yn y gweithle a 45% wedi dioddef aflonyddu ar-lein o natur rywiol gyda’r cyfraddau ar eu huchaf ymhlith y rhai sydd â nodwedd warchodedig. · bod dioddefwyr, yn ôl arolwg trosedd a data eraill y llywodraeth, yn dod yn anghymesur o’r grwpiau hynny sydd eisoes yn profi anghydraddoldeb a heriau ychwanegol yn ein cymdeithas, gan gynnwys y rhai sydd o hil gymysg, sydd ag anableddau, neu sy'n drawsryweddol; · wrthi ni feddwl yn ôl at ddiwedd twrnamaint Ewro 2020 UEFA a ohiriwyd, dangosodd ymchwil flaenorol gan Brifysgol Lancaster fod digwyddiadau o gam-drin domestig y rhoddwyd gwybod amdanynt yn cynyddu pryd bynnag y bydd unrhyw un o’r cenhedloedd cartref yn chwarae mewn twrnamaint mawr, ac mae’r effaith yn arbennig o amlwg ar y dyddiau pan fydd y timau hynny’n colli; a · goblygiadauhynod ysgytiol achos Sarah Everard a’r datgeliadau wedi hynny o ymddygiad misogynistaidd ymhlith aelodau eraill yr heddlu. Mae'rCyfarfod Cyngor hwn yn nodi ymhellach:- · White Ribbon UK yw’r brif elusen sydd â chenhadaeth i ddiweddu traisdynion yn erbyn menywod ac mae’n rhan o’r mudiad Rhuban Gwyn byd-eang a ddeilliodd o ... gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem 17. |
||
Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad |
||
Nodafeich ymateb i gwestiwn ar unrhyw bryd y Cynghorydd Gareth Ratcliffe yn gynnar yn yr hydref am Ysgol Uwchradd Gwernyfed, lle gwnaethoch ddweud eich bod yn falch bod y tîm bellach yn gallu ailddechrau ar y gwaith ar brosiect Ysgol Uwchradd Gwernyfed.
Aallwch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf a’r amserlenni a ragwelir i’r cymunedau lleol ac i minnau?Wrth i ni symud ymlaen, rwy’n si?r y byddwch yn cytuno â mi bodeglurder a thryloywder yn hanfodol i sicrhau na chollircyfleoedd i symud y prosiect hwn yn ei flaen, cyn dyfodiad y purdah cyn yretholiadau ym mis Mai 2022.
|
||
Yn dilyn y ddadl
ddiweddar ar reoli cnofilod yn y
Cyngor Llawn a gyflwynwyd
gan Gr?p
Llafur Cymru a digwyddiadau dilynol
a adroddwyd
i mi yn
lleol, a allech chi egluro
os gwelwch
yn dda: · Pa drefniadau sydd ar waith gan Gyngor Sir Powys i ymdrin â’r goblygiadau o ran niwsans a niwed i iechyd cyhoeddus sy’n cael eu hachosi gan gnofilod mewn llety ar rent sy’n eiddo i’r Cyngor, yn benodol y rhai sydd wedi’u cynllunio ar gyfer pobl oedrannus neu fregus a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol neu’r rhai sy’n dioddef o bryder?
· Ydyadroddiadau ynghylch pla cnofilod gan breswylwyr yn cael eu trin fel materion brys a chyda gwaith traws-bortffolio effeithiol, gan y rhai sy'n gyfrifol am Amddiffyn y Cyhoedd a Thai?
· Ynddarostyngedig i ragofalon Covid-19 priodol, a fydd yr Aelod(au) Portffolio yn sicrhau eu bod ar gael i gwrdd â thrigolion yn ardal De Powys, sy’n cael eu heffeithio’n niweidiol gan y materion hyn? |
||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Addysg ac Eiddo gan y Cynghorydd Ratcliffe PDF 368 KB A allai’r Aelod Portffolio roi gwybodaeth am y costau cynnal a chadw cyffredinol yn ôl blwyddyn ers i’r ysgolion newydd agor i gynrychiolwyr clwstwr cynradd Gwernyfed (fesul ysgol)? Mae sawl ysgol yn wynebu’r un problemau / diffygion dylunio, sy’n effeithio ar gyllidebau'r ysgolion hyn. Addawodd y broses trawsnewid ysgolion y byddai gennym ysgolion addas at y diben, ac eto mae’r un problemau’n ymddangos sy’n tanlinellu problemau gydag adeiladu a dylunio gwael ar draws y dalgylch.
Aallai’r cyngor hefyd drefnu cyfarfod gyda phenaethiaid a chadeiryddion i drafod problemau sy’n parhau a nodi lle mae angen i Bowys roi cefnogaeth tuag at gostau’r effaith ariannol. Un enghraifft yw’r adeiladau newydd mewn ysgol a gafodd eu cymeradwyo fel rhai diogel, ond nodwyd bod caeadau ffenestri’r ceginau bellach yn rhai nad ydynt yn ddiogel rhag tân, felly nid ydynt yn addas at y diben. Os yw Cyngor Sir Powys o ddifrif ynghylch ei raglen ysgolion, yna mae asesiad o’r dalgylch hwn yn holl bwysig i sicrhau bod y rhaglen yn llwyddiant.
Dogfennau ychwanegol: |
||