Lleoliad: Ar Teams - By Teams. Gweld cyfeiriadau
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb </AI1> <AI2>
|
|
Awdurdodi'r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 25 Chwefror, 4 Mawrth, 19 Mawrth, 30 Ebrill a 13 Mai 2021 yn gofnodion cywir. (Tudalennau 7 - 88)
Dogfennau ychwanegol:
|
|
Datganiadau o fuddiant Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan Aelodau sy'n gysylltiedig ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda.
|
|
Cyhoeddiadau’r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor
|
|
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd.
|
|
Briff gan y Prif Weithredwr Derbyn briff y Prif Weithredwr
|
|
GWELEDIGAETH 2025: ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDO AR EIN CYNLLUN GWELLA CORFFORAETHOL PDF 153 KB Ystyried Gweledigaeth 2025: Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar ein Cynllun Gwella Corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol: |
|
TROSGLWYDDIADAU REFENIW A CHYFALAF PDF 136 KB Ystyried trosglwyddianau refeniw a chyfalaf sydd angen cymeradwyaeth y Cyngor.
|
|
DATGANIAD AMRYWIAETH MEWN DEMOCRATIAETH PDF 30 KB Adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Lwfansau a Threuliau Aelodau 2020/21 PDF 211 KB Derbyn adroddiad gan Bennaeth Cyllid er gwybodaeth.
Dogfennau ychwanegol: |
|
PENODIADAU I GYRFF ALLANOL A PHWYLLGORAU |
|
Penodi i Gyngor Iechyd Cymunedol Powys Penodi aelod i Gyngor Iechyd Cymuned Powys yn lle'r Cynghorydd Sir Beverley Baynham sydd yn rhoi’r gorau i’w swydd Mae’r CIC wedi rhoi gwybod bod tangynrychiolaeth o Ganol Powys (ardaloedd Llanwrtyd, Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod, Tref-y-Clawdd a Llanandras).
|
|
Penodiadau gan Grwpiau Gwleidyddol gyda chymeradwyaeth y Swyddog Monitro Nodi’r penodiadau canlynol gan grwpiau gwleidyddol gyda chymeradwyaeth y Swyddog Monitro:
Penodwyd y Cynghorydd Sir Graham Breeze i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn lle'r Cynghorydd Sir Beverley Baynham.
|
|
RHYBUDD O GYNNIG - Y GWASANAETHAU AMBIWLANS Yn rhy aml o lawer mae ein hambiwlansys yn aros y tu allan i’r prif ysbytai yn Telford, Amwythig neu Wrecsam, sy'n arwain at ambiwlansys yn cael eu galw i mewn o rannau eraill o Sir Drefaldwyn i liniaru'r pwysau yn y Trallwng neu’r Drenewydd, ond trwy wneud hyn maent yn tanseilio’r gwasanaeth sydd ar gael mewn lleoedd fel Machynlleth, Llanfyllin neu Lanidloes. Mae hyn yn broblem benodol min nos pan fydd criw o Fachynlleth yn cael eu galw i'r Drenewydd ac yn y pen draw yn mynd i’r ysbyty yn Telford neu hyd yn oed Henffordd yn achos cleifion o Dref-y-Clawdd neu Lanandras.
Mae sefyllfa eisoes yn bodoli lle mae gorsafoedd ambiwlans Llanfyllin a Llanidloes ar gau min nos. Rydym yn deall bod bygythiad go iawn y bydd hynny’n digwydd ym Machynlleth hefyd maes o law, sy’n golygu na fydd gan Sir Drefaldwyn nemor ddim gwasanaeth ar gael min nos. O gofio bod gorsafoedd Tywyn a’r Bala hefyd ynghau dros nos a bod ambiwlans Dolgellau’n cael ei alw i hanner gogleddol Gwynedd, mae’n golygu bod y rhan fwyaf o ardaloedd De Gwynedd a Gogledd Powys heb nemor ddim gwasanaeth min nos.
Rydym felly yn galw ar yr Ymddiriedolaeth Ambiwlans: · I drefnu bod holl orsafoedd Ambiwlans Powys yn rhai 24 awr, gan gynnwys: · ymestyn oriau gorsafoedd Llanidloes a Llanfyllin i 24 awr · cadw Machynlleth yn orsaf 24 awr a pheidio â chwtogi ar yr oriau fel sy'n cael ei fygwth ar hyn o bryd · darparu ambiwlans ychwanegol i'r Drenewydd a’r Trallwng Rydym am gael dull cydgysylltiedig a synhwyrol sy'n sicrhau bod gan ein holl gymunedau gwledig yr un lefel gwasanaeth ag sydd gan y lleoliadau trefol. Nid yw hyn yn golygu cost enfawr, ond mae’n sicrhau y bydd bywydau’n cael eu harbed.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Bryn Davies
|
|
RHYBUDD O GYNNIG - RHEOLI PLÂU 1. Gall llygod mawr a phlâu gludo afiechydon, achosi niwed i eiddo ac ni fydd y problemau ond yn gwaethygu os na chânt eu trin. 2. Cyngor Sir Powys sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu Gwasanaeth Rheoli Plâu ledled y sir, a cham gwag oedd y penderfyniad yn 2014 i roi’r gorau i ddarparu Gwasanaeth Rheoli Plâu. 3. Bydd ardaloedd preswyl yn aml yn dioddef problemau sylweddol gyda llygod mawr a phlâu; 4. Mae rôl Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd wrth ddarparu cyngor a chanllawiau i gymunedau yn cael ei chydnabod, ac nid yw hurio contractwr preifat i drin llygod mawr a phlâu yn fforddiadwy i ormod o bobl.
Penderfyniad y Cyngor hwn yw: 1. Y dylid sefydlu gwasanaeth rheoli plâu sy'n cael ei redeg gan Gyngor Sir Powys i wasanaethu’n cymunedau, a dylid cynghori’r Cabinet o ewyllys y Cyngor a gofyn iddynt roi ei benderfyniad ar waith.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Sandra C Davies Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance
|
|
Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad |
|
Mae iaith mewn ysgolion dan ystyriaeth ar hyn o bryd, ac mae ymgynghoriadau ar y gweill ar gyfer newidiadau.
Mae’n ymddangos nad oes gan Gyngor Sir Powys bolisi eglur ynghylch niferoedd disgyblion ac ysgolion dwy ffrwd.
A ellid ystyried llunio polisi i egluro faint o blant (naill ai’n rhai Saesneg eu hiaith neu’n rhai Cymraeg eu hiaith) sydd eu hangen mewn ysgol cyn i’r ysgol honno gael ei galw’n ysgol ffrwd ddeuol?
|
|
Rwy’n ymwybodol o gynnydd mewn troseddu, ymddygiad gwrth-gymdeithasol a digwyddiadau’n gysylltiedig â chyffuriau yn fy nghymuned i.
Sut ydych chi fel aelodau Powys o’r Panel Heddlu a Throseddu yn dal y Comisiynydd a’i gynllun heddlu a throseddu i gyfrif i sicrhau bod cymunedau fel f’un i yn cael digono adnoddau ac yn cael eu blaenoriaethu gan Heddlu Dyfed Powys?
Dogfennau ychwanegol: |
|
Sut y mae Aelod Portffolio’r Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol yn sicrhau bod y Cyngor yn ymateb i anghenion pobl yn Aberhonddu, Ward St John, ac yn cymryd camau gweithredu i drin effaith troseddu ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol?
|
|
O ran Ysgol y Dolau, rhoddodd arolwg diweddaraf Estyn yr ysgol yn y categori gwyrdd, sy'n golygu bod safon yr addysg yno yn uchel. Nid yw’r ddwy ysgol gynradd agosaf yn y categori gwyrdd, felly a all yr Aelod Portffolio â chyfrifoldeb am Addysg esbonio i mi ac i’r aelodau a yw’n anghyfreithlon i blant o Ysgol Dolau gael eu hanfon i naill ai un neu'r llall o’r ysgolion cynradd hyn nad ydynt yn y categori gwyrdd?
|
|
Oherwydd y pandemig cyfredol, rhoddwyd y gorau i droi pobl allan o’u cartrefi, ac mae’r sefyllfa hon i ddod i ben yn fuan. A all yr aelod portffolio roi gwybod i mi a’r aelodau pa ddarpariaethau, gan gynnwys nifer yr eiddo sydd ar gael ar gyfer y cynnydd tebygol pan godir y cyfyngiad yma? Peidiwch â chynnwys yn y niferoedd yr eiddo sy’n cael eu hatgyweirio neu eu gwella.
|
|
Pa asesiad wnaeth yr Aelod Portffolio â chyfrifoldeb am Addysg o’r Polisi Addysg Ol-16 newydd o ran cadw disgyblion Ol-16 yn Ysgolion a Cholegau Powys?
|
|
1. Os yw hawliau dysgwyr yn ffactor pwysig yn y broses hon, pam ei bod yn dderbyniol symud plant sydd eisoes yn derbyn lefel uwch o hawliau dysgwyr sy’n cynhyrchu plant eang eu haddysg, ac yn codi safon yn Ysgol Calon Cymru, i ysgolion eraill? Sut y mae hyn yn gwella hawliau dysgwyr? Oni ddylai hawliau dysgwyr gael eu hystyried yn safonau addysgol gan ddefnyddio barn safonedig ESTYN ac ERW ac nid galwadau ffôn goddrychol a di-sylwedd i benaethiaid?
|
|
Mae gwarged yng nghyllid yr awdurdod lleol, pam rydym yn gorfodi’n cymunedau i ddioddef hyn, yn enwedig yng nghyd-destun Covid. Dywedwyd bod y 18 mis diwethaf yma wedi rhoi pobl dan y straen fwyaf, nid yn unig y disgyblion ond hefyd yr athrawon a’r rhieni. Pam nad yw’r timau trawsnewid ac addysg yn gwrando ar y negeseuon eglur y mae ASau/AS, y cynghorwyr a llywodraeth Cymru yn eu rhoi?
|
|
A wnaiff yr Aelod Portffolio amlinellu’r camau a gymerwyd gan Gyngor Sir Powys i sicrhau bod unrhyw eiddo o fewn stad yr Awdurdod sy’n destun dynodiad treftadaeth Cadw yn cael ei fonitro’n rheolaidd?
Yng ngoleuni canfyddiadau monitro o’r fath, sut y mae buddsoddiad sy'n cael ei ddyrannu i ddiogelu'r ased, i’r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol, yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar dreftadaeth a’r amgylchedd adeiledig?
|
|
Eitemau wedi’u heithrio Mae'r Swyddog Monitro wedi penderfynu bod yr eitem ganlynol yn destun categori 1 y Rheolau Trefn Mynediad at Wybodaeth. Ei farn o ran prawf lles y cyhoedd (wedi ystyried darpariaethau Rheol 11.8, Rheolau Mynediad at Wybodaeth y Cyngor), oedd y byddai gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus yn groes i egwyddorion y Ddeddf Gwarchod Data ac yn datgelu data personol yn ymwneud ag unigolyn. Oherwydd hyn a chan nad oedd yn ymddangos bod yna galw mawr ymhlith y cyhoedd am ddatgelu'r data personol yma, roedd o'r farn bod diddordeb y cyhoedd wrth gadw'r eithriad yn fwy pwysig na diddordeb y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth. Gofynnir i Aelodau ystyried y ffactorau hyn wrth benderfynu ar brawf lles y cyhoedd, a dylent benderfynu hyn wrth iddynt ystyried eithrio'r cyhoedd o'r rhan hon o'r cyfarfod.
|
|
Materion staffio Ystyried adroddiad gan y Prif Weithredwr.
|
|