Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Sir S C Davies, L Fitzpatrick, D R Jones, P E Lewis, J Pugh, P Roberts a T J Van-Rees.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd gan y Cadeirydd yr awdurdod i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2017 fel cofnod cywir.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance ddiddordeb personol anragfarnus yn eitem 11, Trefniadau ar gyfer Craffu ar Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Powys fel aelod penodedig awdurdod lleol o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Datganodd y Cynghorydd Sir Roger Williams ddatganiad ariannol yn yr Hysbysiad o Gynnig ar fynd i’r afael â thlodi tanwydd oherwydd ei fod yn cymryd rhan mewn cynlluniau prynu ynni.
Dywedodd y Cynghorydd Sir Jackie Charlton efallai fod ganddi ddiddordeb yn yr Hysbysiad o Gynnig ar fynd i’r afael â thlodi tanwydd.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. Cofnodion: Derbyniodd y Cadeirydd gopi o’r Beibl gan y Gymdeithas Gideoniaid.
Atgoffodd y Deiliad Portffolio â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb yr aelodau ei bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb a chyflwynodd glip ffilm ar ddiffiniad troseddau casineb.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan Aelodau o'r Cyhoedd |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
A all yr Aelod Portffolio fy sicrhau i a thenantiaid Rhandiroedd y Drenewydd nad yw ein safle rhandiroedd yn addas ar gyfer datblygiad tai ac y dylid eu cadw i’w defnyddio fel rhandiroedd yn unig?
Cofnodion: Oes mod di Ddeiliad y Portffolio fy sicrhau i a thenantiaid Rhandiroedd y Drenewydd nad yw safle’n rhandir yn addas i ddatblygu tai ac y dylai gael ei gadw at ddefnydd rhandir yn unig?
Ateb Wedi i safle’r rhandir gael ei ddatgan yn weddill gan Wasanaeth Hamdden ac Adloniant y cyngor yn 2016, gwnaeth y Gwasanaeth Tai ddatgan diddordeb mewn meddiannu’r safle. Mae’r broses o drosglwyddo’r safle i’r Gwasanaeth Tai dal yn parhau ac ar hyn o bryd mae penderfyniadau dal yn cael eu gwneud a oes modd datblygu’r safle ai peidio. Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw gynlluniau arfaethedig wedi cael eu llunio hyd yn hyn oherwydd bod nifer sylweddol o safleoedd ar draws Powys yn cael eu hasesu ar hyn o bryd gan ein Tîm Tai Fforddiadwy. Ar hyn o bryd, mae’r Gwasanaeth Tai’n archwilio a oes unrhyw rwystr i atal datblygu cartrefi ar y safle, ac os mai dyma yw’r achos, ni fydd yn parhau i drosglwyddo’r safle. Os nad oes unrhyw gyfamodau cyfyngol ar waith sy’n atal y safle rhag cael ei ddefnyddio i ddarparu tai fforddiadwy mawr eu hangen yn y dref, byddai’r Gwasanaeth Tai’n darparu safle arall ar gyfer rhandiroedd ynghyd â chyfleusterau tebyg i’r rhai a ddarperir ar y safle presennol. Yn olaf, os bydd y Gwasanaeth Tai’n dewis defnyddio’r safle i ddarparu tai newydd yn y dyfodol, bydd angen iddo wneud cais am ganiatâd cynllunio. Fel gyda phob cais cynllunio, bydd gan unrhyw un yr effeithir arnynt gan y datblygiad arfaethedig y cyfle i gyflwyno sylwadau fel rhan o’r broses gynllunio. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau o’r fath, bydd y Gwasanaeth Tai’n cysylltu â deiliad y rhandir cyn cyflwyno’r cais cynllunio iddynt gael mynegi eu barn.
Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Adfywio a Chynllunio PDF 59 KB Yn dilyn penderfyniad rhagweithiol y Cyngor i annog trigolion i ofyn cwestiynau, hoffwn ofyn cwestiwn i'r Cynghorydd Martin Weale (Aelod Portffolio ar faterion Adfywio a Chynllunio).
Cofnodion: Mae llawer o breswylwyr wedi mwynhau ac wedi treulio amser ac egni sylweddol yn cefnogi’r Cyngor i ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol draft Powys fel sylfaen dystiolaeth i fesur ceisiadau cynllunio yn ei erbyn. Er bod y CDLl draft yn cynnwys dyraniad tir a chynigion datblygu digonol i ddiwallu anghenion tai Powys a ragamcanir drwy oes y cynllun, dengys adolygiad o Geisiadau Cynllunio ‘Datblygiad Sylweddol’ ar dudalennau gwe’r Cyngor fod cyfran weddol uchel o geisiadau cynllunio ar draws y sir yn ceisio datblygu safleoedd maes glas dros ac yn uwch na dyraniadau tir y CDLl. Wrth ystyried ceisiadau cynllunio y tu allan i ddatblygiadau arfaethedig y CDLl, nid yw ystyriaeth i safle unigol ynysig yn debygol o beri cynllunio strategol effeithiol. Beth yw ymateb strategol y Cyngor wrth barhau i gefnogi cenedlaethau’r dyfodol i sicrhau bod etifeddiaeth o ddatblygiadau tai cymeradwy’n parhau i fod yn gadarnhaol, ac nid, drwy amryfusedd, yn arwain at unrhyw orddatblygu cefn gwlad agored neu chwyddiant unrhyw gymunedau lleol a allai arwain at rai aelodau’r gymuned yn cael eu lleoli’n wael gan atal hawster mynediad iddynt i wasanaethau presennol?
Ateb Diolch am y cwestiwn. Myfi yw Deiliad y Portffolio dros y Gwasanaethau Cynllunio, sy’n cynnwys Rheoli Datblygu a Pholisi Cynllunio. Rwy’n croesawu ac y gwerthfawrogi mewnbwn a chefnogaeth trigolion ac rwyf yn y broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Powys. Mae’r CDLl bron â dod i ddiwedd ei archwiliad ac rwy’n rhagweld y bydd y Cyngor mewn sefyllfa i fabwysiadu’r CDLl ar ddechrau 2018 pan fydd yn disodli Cynllun Datblygu Unedig (CDU) Powys a bydd yn darparu’r polisïau cynllun datblygu ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio. Rwy’n ymwybodol bod y Cyngor wedi derbyn sawl cais cynllunio ar gyfer cynigion tai ar safleoedd nad ydynt wedi’u nodi yn y CDU presennol nac yn y CDLl. Mae’r ceisiadau hyn wedi ceisio cyfiawnhau eu hunain, yn fwy aml na pheidio, ar y sail y byddai caniatâd yn helpu gyda’r diffyg mewn cyflenwad tir tai sydd gan yr Awdurdod. Nid dyma sefyllfa sy’n unigryw i Bowys ac mae’r rhan fwyaf o awdurdodau yng Nghymru yn y sefyllfa hon. Er mwyn penderfynu ar geisiadau cynllunio, mae angen i’r Awdurdod farnu’n ofalus, yn drefnus ac yn gytbwys, gan ystyried y polisïau cynllunio datblygu cyffredinol ac ystyried yr holl ystyriaethau materol eraill. Darparwyd eglurhad gan Lywodraeth Cymru ar y mater gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar 23 Chwefror 2017 a hoffwn eich cyfeirio at hynny. (Dolen isod). Dyma ystyriaeth faterol yr ystyrir gan yr Awdurdod wrth benderfynu ar geisiadau o’r fath. Pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet yr angen i gynigion datblygu o’r fath, “…ymwneud yn dda â’r ffurf bresennol yr anheddiad a pheidio ag arwain ar effeithiau annerbyniol ar y seilwaith economaidd, cymdeithasol nad amgylcheddol lleol. Dylai egwyddorion datblygu cynaliadwy a chreu cymunedau cydlynus, sy’n sail i bolisi cynllunio Llywodraeth Cymru, barhau ac ni ddylent gael eu tanseilio gan yr angen i gynyddu cyflenwad tir tai”.
Dyma gwestiwn atodol Mr Anderson: “Yn eich ymateb i’m ... view the full Cofnodion text for item 5.2 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trafodaeth ar Wasanaethau Plant PDF 393 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwnaeth y Cyngor drafod adroddiad arolygiad yr AGGCC i’r Gwasanaethau Plant ym Mhowys a welodd fod y diffygion yn y gwasanaeth wedi peri risg i blant.
Esboniodd yr Arweinydd, Deiliad y Portffolio dros y Gwasanaethau Plant a’r Prif weithredwr, eu bod wedi derbyn yr argymhellion yn adroddiad yr AGGCC ac wedi amlinellu’r camau a oedd wedi cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad. Gwnaethant ymddiheuro i’r bobl ifanc a’u teuluoedd a oedd wedi cael eu trin yn wael gan y gwasanaeth. Gwnaethant roi ymrwymiad i’r Cyngor y byddant yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i wella’r Gwasanaethau Plant a sicrhau bod y plant diamddiffyn yn cael eu diogelu a’u cefnogi.
Derbyniodd y Cyngor gyngor fod cynllun gwella draft wedi cael ei baratoi a bod Bwrdd Gwella wedi cael ei sefydlu. Gyda chefnogaeth CLlLC, mae tîm o arbenigwyr wedi cael eu sefydlu i helpu’r Cyngor i ymateb i’r adroddiad a staff allweddol gan gynnwys recriwtio Pennaeth Gwasanaeth dros dro.
Siaradodd aelodau am eu siomedigaeth ynghylch yr adroddiad ond hefyd am eu cefnogaeth i staff rheng flaen y gwasanaeth a’u penderfyniad i helpu ym mha ffordd bynnag y gallent. Teimla’r aelodau fel bod y gwasanaeth wedi cael ei ansefydlogi drwy ailstrwythuro a thoriadau i’w gyllideb. Gwnaethant ofyn am fanylion a’u derbyn ar sut byddai’r £4m ychwanegol sy’n cael ei roi i’r gwasanaeth yn cael ei ariannu. Gwnaethant hefyd ofyn am adroddiadau rheolaidd yn ôl i’r Cyngor ar gynnydd wrth roi’r cynllun gwella ar waith. Gofynnodd aelodau hefyd am sicrwydd a’i dderbyn gan y Prif Weithredwr na fyddai unrhyw erledigaeth yn erbyn y datgelwyr camarfer ac y byddai aelodau’n cael mynediad llawn i’r amrywiaeth llawn o ddata perfformiad i’w galluogi i graffu ar y gwasanaeth. Gwnaeth nifer o aelodau fynegi’r farn y dylai’r Prif Weithredwr sefyll o’r neilltu o ran y broses wella. Cafwyd trafodaeth ar aelodaeth y Bwrdd Gwella ac awgrymwyd y gallai hyn gael ei ystyried gan arweinwyr y gr?p gwleidyddol. Cadarnhawyd y byddai’r Bwrdd Gwella’n cael ei gadeirio gan y person annibynnol a enwebwyd gan y Gweinidog dros y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus.
Gohiriwyd y Cyngor rhwng 13.03 a 13.49. Gadawodd y Cynghorwyr Sir E Durrant, E Jones a G Ratcliffe y cyfarfod.
Yn bresennol:
YN BRESENNOL Y Cynghorydd Sir D E Davies (Cadeirydd)
Y Cynghorwyr Sir MC Alexander, M Barnes, B Baynham, G Breeze, J Charlton, L V Corfield, K W Curry, A W Davies, B Davies, P Davies, M J Dorrance, E Durrant, D O Evans, J Evans, L George, J Gibson-Watt, M R Harris, S M Hayes, H Hulme, A Jenner, E A Jones, E Jones, G Jones, J R Jones, E M Jones, M J Jones, D Jones-Poston, F H Jump, K Laurie-Parry, H Lewis, K Lewis, S Lewis, MC Mackenzie, I McIntosh, S McNicholas, C Mills, G Morgan, JG Morris, N Morrison, R Powell, WD Powell, D ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. Cofnodion: Cyfeiriodd yr Arweinydd at lwyddiant gwobrau Busnes Powys. Gwnaeth hi hefyd sôn am gyfarfodydd gyda Vaughan Gething AC a Rebecca Evans AC, y Gweinidog dros y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd a Jake Berry AS, Is-ysgrifennydd Seneddol yn yr Adran dros Gymunedau a Llywodraeth Leol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Briff y Prif Weithredwr Derbyn briff gan y Prif Weithredwr. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Weithredwr y diweddaraf i’r Cyngor ar y rhaglen adeiladau ysgolion a dweud y byddai’r seremoni gosod carreg gopa ar gyfer hwb diwylliannol y Gaer yn cael ei chynnal ar 27 Hydref.
Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn newid trefn yr agenda i glywed y cwestiynau ar gyfer Deiliad y Portffolio dros y Gwasanaethau Plant nesaf oherwydd bod yn rhaid iddi adael i fynd i gyfarfod arall.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Gwasanaethau Plant gan y Cynghorydd Sir Huw Williams Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Faint o blant mewn angen, plant y mae eu henwau ar y gofrestr amddiffyn plant, plant sy’n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal sydd wedi’u cofnodi ym Mhowys ar hyn o bryd? Faint o blant sy’n derbyn gofal sydd wedi’u lleoli y tu allan i Bowys?
Ateb
Y Gofrestr Amddiffyn Plant
Ni ofynnodd y Cynghorydd Williams unrhyw gwestiynau atodol ond mynegodd ei siomedigaeth nad oedd wedi derbyn atebion i’w gwestiynau cyn ychydig cyn y cyfarfod a’i fod wedi gorfod cyflwyno cais rhyddid gwybodaeth i ddod o hyd i strwythur staffio’r Gwasanaethau Plant.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Gwasanaethau Plant gan y Cynghorydd Sir Huw Williams Mae’rgwaith o fewn Gwasanaethau Plant yn gosod galwadau trwm, dwys, emosiynol ac ar brydiau risg uchel ar staff o fewn Gwasanaethau Plant. Adroddir bod salwch staff wedi bod ar brydiau, rhwng 25% a 50% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n ymddangos bod yna gydberthynas rhwng lefelau salwch a’r galwadau cynyddol ar weithwyr i gefnogi pobl ifanc. Mae gweithiwr cymdeithasol yn cael ei neilltuo ar gyfer pob unigolyn ifanc ac mae’r diffyg dilyniant yn achosi niwed. Pa gymorth sy’n cael ei gynnig i’r aelodau hynny o staff o ran goruchwyliaeth, adnoddau a gwell lefelau staffio, felly y gallant gynnig cymorth cywir a diogel i’n pobl ifanc bregus. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mae’r gwaith i’r staff rheng flaen yn y Gwasanaethau Plant yn anodd yn emosiynol, yn ddwys ac yn risg uchel o bryd i’w gilydd. Adroddwyd y bu absenoldeb staff oherwydd salwch, ar adegau, rhwng 25% a 50% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ymddengys bod cydberthynas rhwng lefelau salwch a’r galw cynyddol a roddir ar weithwyr sy’n cefnogi pobl ifanc. Rhoddir gweithiwr cymdeithasol i bobl person ifanc ac mae’r diffyg dilyniant yn niweidiol. Pa gefnogaeth sy’n cael ei chynnig i’r aelodau hyn o ran goruchwyliaeth, adnoddau a lefelau staffio gwell, fel y gallant gefnogi’n pobl ifanc ddiamddiffyn yn gywir ac yn ddiogel?
Ateb O’n cofnodion, dyma’r achlysuron a’r ganran o absenoldeb salwch yn y Gwasanaethau Plant dros y flwyddyn ddiwethaf-
Mae’r gefnogaeth sydd ar gael i staff yn cynnwys y canlynol-
· Cyfarfodydd goruchwylio yr ymgymerir â hwy gan reolwyr llinell. · Ymgymerir â chyfarfodydd IPR a’u cofnodi ar Trent eu bod yn cymryd rhan. · Gweithio/ymddeol hyblyg- (patrwm gwaith 9 niwrnod mewn pythefnos i helpu gyda chydbwysedd cartref/gwaith.) · Cynlluniau TOIL/ Gwyliau Blynyddol/ Oriau Hyblyg · Polisi Absenoldeb Cynhwysfawr- Mamolaeth, Tadolaeth a Chefnogi Rhieni sy’n Gweithio · Proses Gallu Perfformiad os nad yw’n perfformio yn ei rôl – cefnogaeth i sicrhau ei fod yn gweithio i safon dderbyniol. · Hyfforddiant a mentora. · Hyfforddiant a datblygu staff. · Timau Lleol – mae Rheolwyr Tîm, Rheolwyr Tîm Cynorthwyol a swyddi eraill bellach wedi’u penodi yn y gwasanaeth i ddarparu adnoddau a chefnogaeth ychwanegol. · Mabwysiadu a Maethu – Ymgymerwyd â gwaith ailstrwythuro ac fel rhan o hyn, ystyriwyd capasiti yn y tîm a chaiff hwn ei adolygu’n barhaus. · Golwg y Bannau- Staff cefnogi ar wait hi helpu gyda’r diffyg staffio lle y bo angen. · Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso a phobl gefnogi drwy’r Radd Gwaith Cymdeithasol. · Cefnogi staff nad ydynt yn gymwys a’r opsiwn i ddechrau yn y maes Gwaith Cymdeithasol. · Lefelau Staffio – Cynhaliwyd adolygiadau yn yr holl lefelau gwasanaeth dros y 12 mis diwethaf ac mae mwy o waith yn cael ei wneud yn hyn o beth. Mae bylchau mewn swyddi’n defnyddio staff asiantaeth – rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei leihau a thalu sylw iddo yn y dyfodol.
Salwch
· Cyfathrebu â staff yn ystod absenoldeb salwch. · Ymgymerir â chyfarfodydd llesiant â staff yn unol â’r polisi absenoldeb salwch. · Cynigir mynediad i Wasanaeth Cwnsela’r PCC i’r holl staff. · Mynediad i’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol os oes angen. · Ymgymerir ag asesiadau risg â’r staff. · Cyfle i gymryd gwyliau blynyddol i barhau ... view the full Cofnodion text for item 8.2 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddiadau Cyfalaf sydd angen Caniatad y Cyngor Ystyried trosglwyddiadau sydd angen eu cymeradwyo gan y Cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddiad ar gyfer Cronfa Wrth Gefn Strategol Halen PDF 66 KB Cofnodion: Gofynnwyd i’r Cyngor gymeradwyo trosglwyddo’r gyllideb cronfa wrth gefn salt. Fe’i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Aled Davies a’i heilio gan y Cynghorydd Sir Michael Williams a chyda 58 o bleidleisiau o blaid 0 yn erbyn ac 1 ymataliad, penderfynwyd gwneud y canlynol
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain PDF 87 KB Cofnodion: Gofynnwyd i’r Cyngor gymeradwyo trosglwyddo cyllidebau Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Fe’i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Aled Davies a’i heilio gan y Cynghorydd Sir Myfanwy Alexander a chyda 55 o blaid 0 yn erbyn a 2 ymataliad, penderfynwyd gwneud y canlynol
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Parc Busnes Abermiwl PDF 66 KB Cofnodion: Gofynnwyd i’r Cyngor ystyried trosglwyddo cyllideb Parc Busnes Abermiwl. Fe’i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Aled Davies a’i heilio gan y Cynghorydd Sir Myfanwy Alexander a chyda 53 o blaid 3 yn erbyn a 3 ymataliad, penderfynwyd gwneud y canlynol
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Safle Sipsiwn Machynlleth PDF 65 KB Cofnodion: Gofynnwyd i’r Cyngor ystyried trosglwyddo’r gyllideb i ddarparu safle Sipsiwn a Theithwyr newydd ym Machynlleth. Fe’i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Aled Davies a’i heilio gan y Cynghorydd Sir Myfanwy Alexander a chyda 58 o blaid a 0 yn erbyn, penderfynwyd gwneud y canlynol
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ysgol Uwchradd Crughywel PDF 64 KB Cofnodion: Gofynnwyd i’r Cyngor ystyried cymeradwyo trosglwyddo’r gyllideb i ddarparu estyniad yn Ysgol Uwchradd Crughywel. Fe’i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Aled Davies a’i heilio gan y Cynghorydd Sir Myfanwy Alexander a chyda 52 o blaid a 0 yn erbyn, penderfynwyd gwneud y canlynol
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ystyried Gwerthusiad Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y Cyngor ystyried Gwerthusiad Perfformiad Blynyddol (GPB) draft 2016-17 sy’n nodi cynnydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys yn erbyn cyflwyno ymrwymiadau Cynllun Powys yn Un (2014 – 2017) yn ystod ei drydedd flwyddyn, sef ei flwyddyn olaf. Mae’r GPB hefyd yn odi cynnydd Cyngor Sir Powys wrth gyflwyno’r nodau yn ei Gynllun Gwella Corfforaethol 2016-2020. Gwnaeth y Cyngor ystyried bod angen i’r adran o’r adroddiad ar deuluoedd diamddiffyn gael ei diwygio ychydig yng ngoleuni adroddiad yr AGGCC ar y Gwasanaethau Plant.
Fe’i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Myfanwy Alexander a’i heilio gan y Cynghorydd Sir James Evans y dylai’r adroddiad gael ei ddosbarthu i holl aelodau’r Cyngor er mwyn derbyn sylwadau ganddynt i’w hystyried gan arweinwyr gr?p. Gyda 49 o bland a 0 yn erbyn ynghyd â 6 ymataliad, penderfynwyd gwneud y canlynol
Gadawodd y Cynghorwyd Sir Martin Weale a Gareth Morgan y cyfarfod am 3.00 p.m.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trefniadau ar gyfer Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys PDF 67 KB Ystyried adroddiad gan Gyfreithiwr y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir, Matthew Dorrance, fuddiant personol nad yw’n rhagfarnu fel aelod awdurdod lleol o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Gwnaeth y Cyngor ystyried cynigion i sefydlu Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cymeradwywyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Sir Myfanwy Alexander a’u heilio gan y Cynghorydd Sir Michael Williams a chyda 53 o blaid a 0 yn erbyn m penderfynwyd gwneud y canlynol
Cytunodd y Cadeirydd i ystyried yr eitem ganlynol fel eitem fusnes frys yng ngoleuni’r angen i ymateb i adolygiad Comisiwn Ffiniau etholaethau seneddol erbyn y dyddiad cau sef 11 Rhagfyr.
Adolygiad 2018 o Etholaethau Seneddol
Mae’r Comisiwn Ffiniau wedi cyhoeddi ei Gynigion Diwygiedig ar gyfer Adolygiad o Etholaethau Seneddol yng Nghymru. Argymhellwyd y dylai arweinwyr gr?p dderbyn awdurdod dirprwyedig i ymateb ar ran y Cyngor. Cymeradwywyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Sir Stephen Hayes a’u heilio gan y Cynghorydd Sir Michael Williams.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiad i Fwrdd Anabledd Powys Penodi un aelod i Fwrdd Anabledd Powys. Mae Anabledd Powys yn sefydliad hunan-eirioli sy'n cynrychioli anghenion pobl anabl sy'n byw yn y sir ac sy’n dod i'r sir. Maent yn lobïo ac yn cynorthwyo i ddatblygu gwell gwasanaethau i bobl anabl ac i wella dealltwriaeth o faterion anabledd ym Mhowys. Mae'r Bwrdd yn cwrdd tua 6 neu 7 gwaith y flwyddyn, fel arfer ar gyfer cyfarfodydd 2 awr o hyd yn Llandrindod.
Cofnodion: Ar ôl cynnal etholiad, penderfynwyd gwneud y canlynol
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig - Ehangder a Chysylltedd Symudol Rhaid inni gael ehangder a chysylltedd symudol yng Nghymru Wledig, mae ei angen arnom i gefnogi ein heconomi a'n cymunedau yn yr unfed ganrif ar hugain.
Eilydd y Cynghorydd Sir Bryn Davies
Cofnodion: Trafododd y Cyngor y cynnig canlynol a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan a’i eilio gan y Cynghorydd Sir Bryn Davies:
“Rhaid i ni gael y signal a’r cysylltedd y mae ei angen yng Nghymru Wledig i gefnogi’n heconomi a’n cymunedau yn y 21ain Ganrif.
Felly, mae’r Cyngor hwn yn gal war Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i gynllunio diwygiadau i alluogi signal cysylltedd ffonau symudol gwell fel Sylfaen economi fodern a bywiog. Dylai hyn gynnwys caniatáu i fastiau yng Nghymru fod yn 25m (82tr) yn lle’r 15m (50tr) fel ydyw ar hyn o bryd gan helpu i ddatblygu economi entrepreneuraidd ym Mhowys a Chymru Wledig.”
Cyflwynodd y Cynghorydd Sir, Matthew Dorrance, ddiwygiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Sir David Thomas:
“Mae’r Cyngor hwn yn croesawu cyhoeddiad Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol gan Lywodraeth Cymru ddydd Iau 5 Hydref 2017 sy’n nodi’r canlynol: 1. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil i lywio newidiadau i hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer cyfarpar telegyfathrebu i wella cysylltedd ffonau symudol. Bwriedir i’r ymchwil hon gael ei chwblhau erbyn Hydref 2017. 2. Bydd Llywodraeth Cymru’n adfywio Polisi Cynllunio Cymru i sicrhau ei fod yn amlygu’r berthynas gadarnhaol rhwng telegyfathrebu a’r economi. Bydd Polisi Cynllunio Cymru diwygiedig yn cael ei gyhoeddi er ymgynghoriad erbyn Gwanwyn 2018. 3. Bydd gweithredwyr rhwydwaith ffonau symudol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adolygu, ac os yw’n briodol, gadarnhau’r côd arfer gorau a’r Nodyn Cyngor Technegol ar ddatblygu seilwaith y rhwydwaith ffonau symudol.” Pleidleisiwyd ar y diwygiad a chollodd o 15 pleidlais i 29 gyda 6 ymataliad.
Pleidleisiwyd ar y diwygiad gwreiddiol ac fe’i pasiwyd gyda 43 o blaid, 6 yn erbyn a 4 ymataliad.
PENDERFYNWYD y byddai’r Cyngor yn gal war Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith o ran rhoi diwygiadau cynllunio ar wait hi wella signal cysylltedd ffonau symudol fel sail i economi fodern a bywiog. Bydd hyn yn cynnwys caniatáu i fastiau yng Nghymru fod yn 25m (82tr) yn hytrach na’r 15m (50tr) fel ydyw ar hyn o bryd gan helpu i ddatblygu economi entrepreneuraidd ym Mhowys a Chymru Wledig.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig - Caffael y Cyngor Mae'r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd menter ac economi gref fel sail ar gyfer hyfywedd ein cymunedau. Oherwydd pwysigrwydd y sector cyhoeddus ym Mhowys o ran cyflogaeth a gwariant yn yr economi leol, rydym yn galw ar y Cyngor i ymrwymo i gynyddu canran ei wariant o fewn y Sir a Chymru. Dylid cynyddu lefelau caffael gan ddarparwyr gwasanaethau ym Mhowys o 28% yn 2015-16 i 40%; ac o ddarparwyr yng Nghymru o 55% i 75%. Byddai hyn yn gyfystyr â buddsoddiad blynyddol o £18 miliwn i economi Powys. Dylai'r Aelod Portffolio ar faterion Economi gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Cyngor yn amlinellu'r cynnydd a wnaed i ddiwallu’r targedau hyn.
Cynigydd y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan Eilydd y Cynghorydd Sir Bryn Davies
Cofnodion: Trafododd y Cyngor y cynnig canlynol a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan a’i eilio gan y Cynghorydd Sir Bryn Davies:
“Mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd menter ac economi gref fel sail i hyfywedd yn ein cymunedau. Oherwydd pwysigrwydd y sector cyhoeddus ym Mhowys o ran cyflogaeth a gwariant yn yr economi leol, rydym yn galw ar y Cyngor i ymrwymo i gynyddu canran ei wariant yn y sir a Chymru. Dylai lefelau caffael gan ddarparwyr gwasanaeth ym Mhowys gynyddu o 28% yn 2015-16 i 40%; a chan ddarparwyr yng Nghymru o 55% i 75%. Byddai hyn gyfystyr â buddsoddiad blynyddol o £18 miliwn i economi Powys. Dylai Deiliad y Portffolio dros yr Economi roi adroddiad blynyddol i’r Cyngor yn amlinellu’r cynnydd a wnaed wrth fodloni’r targedau hyn.”
Dywedodd aelodau’r Cabinet eu bod yn cefnogi’r cynnig a’u bod yn ystyried ffyrdd o gynyddu canran gwariant y Cyngor yn y sir. Pleidleisiodd y Cyngor ar y cynnig a chyda 48 o blaid a 0 yn erbyn,
PENDERFYNWYD y dylai’r cyngor ymrwymo i gynyddu canran ei wariant yn y sir a Chymru. Dylai lefelau caffael gan ddarparwyr gwasanaethau ym Mhowys gynyddu o 28% yn 2015-16 i 40%; a chan ddarparwyr yng Nghymru o 55% i 75%. Byddai hyn gyfystyr â buddsoddiad blynyddol o £18 miliwn i economi Powys. Dylai Deiliad y Portffolio dros yr Economi roi adroddiad blynyddol i’r Cyngor yn amlinellu’r cynnydd a wnaed wrth fodloni’r targedau hyn.
Gadawodd y Cynghorydd Sir MJ Jones y cyfarfod am 15.34.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig - Mynd i'r Afael â Thlodi Tanwydd Bod y Cyngor yn nodi 1. Bod biliau ynni aelwydydd yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, tra bod incwm effeithiol aelwydydd yn cadw’r un fath neu’n gostwng. 2. Mae adroddiad diweddar gan moneysupermarket.com
wedi dangos bod 5 o'r darparwyr ynni "Big 6" (npower, E.ON, Scottish
Power, SSE ac EDF) wedi cyhoeddi cynnydd mewn prisiau ar gyfer y
rhai sydd ar brisiau newidiol safonol. 4. Y cynnydd pris cyfartalog yn 2017 yw £96.95 gan olygu mai pris y bil ynni blynyddol cyfartalog yw £1258.55. 5. Mae llawer o awdurdodau lleol eraill yn rhedeg cynlluniau newid cyflenwr ynni ar y cyd llwyddiannus. 6. Mae cynllun Cymru-gyfan, Cyd Cymru Wales
Together, eisoes yn bodoli
(https://cydcymru-collective.com/) 8. Canfu adroddiad 2008 fod 34.9% o aelwydydd yng Nghanolbarth Cymru mewn tlodi tanwydd. 9. Nid oes gan dros hanner yr aelwydydd ym
Mhowys cysylltiad â'r rhwydwaith nwy, sy’n golygu eu bod
yn dibynnu ar olew a thanwydd solet sydd â chost llawer uwch
i'r defnyddiwr.
Penderfyniad y Cyngor 1. Mae’r Cyngor yn credu y dylai
a. Gwneud cymaint ag y
mae’n gallu i helpu trigolion mewn tlodi tanwydd i liniaru'r
sefyllfa hon; 2. Gofyn i swyddogion ymchwilio i’r
posibilrwydd o weithredu ei gynllun ei hun neu ymuno â
chynllun Cyd Cymru.
Cynigydd: Cynghorydd Sir Huw
Williams
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir Roger Williams fuddiant ariannol oherwydd ei fod yn cymryd rhan mewn cynlluniai prynu ynni.
Trafododd y Cyngor yr hysbysiad canlynol o gynnig a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Huw Williams a’i eilio gan y Cynghorydd Sir Sarah Williams.
Nodiadau’r Cyngor 1. Mae biliau ynni cartrefi’n cynyddu bob blwyddyn, ac mae incwm cartrefi’n aros yr un peth neu’n lleihau. 2. Mae adroddiad diweddar gan moneysupermarket.com wedi dangos bod 5 o’r darparwyr ynni “Big 6” (npower, E.ON, Scottish Power, SSE ac EDF) wedi cyhoeddi codiad mewn prisiau i’r rhai hynny ar dariffau safonol amrywiol. 3. Mae 66% o gwsmeriaid ynni ar dariffau safonol amrywiol yn ôl Ofgem, gyda’r rhan fwyaf ohonynt erioed wedi newid cyflenwr. 4. Y codiad pris ar gyfartaledd yn 2017 yw £96.95 gan olygu mai pris bil ynni blynyddol arferol yw £1258.55. 5. Mae llawer o awdurdodau lleol eraill yn cynnal cynlluniau newid ynni tebyg ar y cyd. 6. Mae cynllun Cymru gyfan, Cyd Cymru Wales Together, eisoes yn bodoli (https://cydcymru-collective.com/) 7. Yn yr asesiad llesiant a gynhaliwyd gan Bowys, gwelwyd bod 16% o gartrefi mewn tlodi tanwydd, a ddiffinnir fel cartref sy’n gwario o leiaf 10% o’i incwm ar danwydd. 8. Yn ôl adroddiad 2008, gwelwyd yng nghanolbarth Cymru bod 34.9% o gartrefi mewn tlodi tanwydd. 9. Nid yw dros hanner y cartrefi ym Mhowys wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy, gan ddibynnu ar olew a thanwydd called sy’n llawer mwy drud i’r prynwr. 10.Mae Ceredigion yn cynnal “clybiau tanwydd”, lle mae cymunedau’n prynu olew mewn swmp ar gyfer cynhesu.
Mae’r Cyngor wedi penderfynu gwneud y canlynol 1. Cred y Cyngor y dylai a. Wneud cymaint ag y bo modd i helpu preswylwyr mewn tlodi tanwydd i liniaru’r sefyllfa; b. Byddai preswylwyr Powys yn elwa’n fawr o filiau ynni llai drwy gynllun newid ynni a gynhelir ar y cyd gan Gyngor Sir Powys; c. Gall yr awdurdod ymuno ag awdurdodau a sefydliadau eraill yng Nghymru drwy’r cynllun Cyd Cymru; ch. Mae’r cynllun a gynhelir gan Geredigion yn darparu model arfer gorau ar gyfer cynnal clybiau tanwydd o’r fath; d. Gall yr awdurdod arfer ei b?er o fargeinio ar y cyd ar gyfer cynlluniau prynu olew a thanwydd deuol. 2. Cyfarwyddo swyddogion i archwilio dichonoldeb rhoi ei gynllun ei hun ar waith neu ymuno â’r cynllun Cyd Cymru. 3. Cyfarwyddo swyddogion i archwilio dichonoldeb rhoi cynlluniau prynu olew ar waith ar draws Powys. 4. Gweithio gyda chymdeithasau tai lleol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, grwpiau gwirfoddol, cartrefi gofal a chartrefi ar draws Powys i gynyddu ymwybyddiaeth o’r cynlluniau hyn a’u hannog i gofrestru arnynt. Cynigiodd y Cynghorydd Sir, Aled Davies, ddiwygiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Sir, Myfanwy Alexander, i rannau 2 a 3 o’r cynnig gan ddisodli’r geiriau “Cyfarwyddo swyddogion …” gyda “Gofyn i’r Hyrwyddwr Gwrth-dlodi a’r Gr?p Gwrth-dlodi …”
Pleidleisiodd y Cyngor ar y diwygiad ac fe’i pasiwyd ... view the full Cofnodion text for item 15. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau yn unol â'r Cyfansoddiad |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Addysg gan y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance PDF 53 KB Pa asesiad a wnaed gan y Cyngor o Adroddiad Ysgolion 2017 Stonewall Cymru? Cofnodion: Pa asesiad y mae’r Cabinet wedi’i wneud o Adroddiad Ysgol Stonewall Cymru 2017?
Ateb Mae adroddiad blynyddol Stonewall yn ddeng mlwydd oed eleni ac mae wedi cael effaith sylweddol. Mae’r adroddiad yn nodi bod nifer yr ysgolion sy’n cofnodi bod bwlio homoffobig yn anghywir wedi treblu bron a bod sylwadau homoffobig yn llawer llai tebygol o gael eu clywed dros y cyfnod hwnnw. Mae’r adroddiad yn cynnig cyngor i ysgolion ar bolisïau a gweithdrefnau i atal bwlio ac iaith homoffobig, gan gynnwys cam-drin ar-lein. Mae cyngor allweddol yn cynnwys dangos arweinyddiaeth glir, creu amgylchedd dysgu cynhwysol i’r holl ddisgyblion, rhoi hyfforddiant i staff a dathlu amrywiaeth. Mae agen i ni barhau i gefnogi ysgolion drwy ein polisïau a’n gweithgareddau model gwrth-fwlio. Mae gwasanaethau ieuenctid ac ysgolion yn darparu cefnogaeth uniongyrchol i ddysgwyr ac mae angen i i barhau i roi gwybodaeth dda iddynt am sut i gefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd orau. Ym Mhowys, nododd Mynegai Cydraddoldeb Addysg 2016 fod y sir yn safle 28 o 50 o awdurdodau ym Mhrydain a gymerodd ran, gan sgorio 87 o 140 o farciau. Mae oddeutu hanner o ddysgwyr LGBT yn genedlaethol yn dal i brofi bwlio. Mae mwy i ni gyd ei wneud i sicrhau y gall pob person ifanc fod yn hapus, yn iach a derbyn cefnogaeth i wireddu eu potensial llawn.
I ateb cwestiwn atodol y Cynghorydd Sir Dorrance, rhoddodd Deiliad y Portffolio dros Addysg wybod y byddai’r Cyngor yn rhoi argymhellion adroddiad Stonewall ar waith.
Gadawodd y Cynghorydd Sir Kathryn Silk ar waith am 15.59.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pa asesiad a wnaed gan y Cyngor o’r Aarhus Confensiwn? Cofnodion: Pa asesiad y mae’r Cyngor wedi’i wneud o Gonfensiwn Aarhus?
Ateb Diolch am y cwestiwn. Rwyf wedi derbyn cyngor gan Brif Gyfreithiwr y Cyngor nad yw’n ymwybodol o ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i asesu Confensiwn Aarhus. Dyma ddogfen Comisiwn Economaidd y Cenhedloedd Unedig dros Ewrop a fabwysiadwyd ym 1998 sy’n sefydlu egwyddorion ar: fynediad i wybodaeth amgylcheddol; cyfranogiad cyhoeddus mewn gwneud penderfyniadau am yr amgylchedd; a mynediad i gyfiawnder. http://www.unece.org/env/pp/treatytext.html Fe’i mabwysiadwyd gan yr UE gan gynnwys y DU ac mae ei egwyddorion wedi’u hymgorffori mewn rheoliadau. Mae’r Cyngor yn cydymffurfio â rheoliadau sy’n ymwneud â mynediad i gyfranogiad cyhoeddus ar faterion amgylcheddol a rheolau’r llys ar gyfyngiadau costau mewn hawliau adolygiadau ynadol sy’n ymwneud â materion amgylcheddol megis tyrbinau gwynt.
Roedd Deiliad y Portffolio dros Adfywio a Chynllunio wedi gadael y cyfarfod ond byddai’n rhoi ateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Williams ar nifer y caniatadau cynllunio a heriwyd o ganlyniad i Gonfensiwn Aarhus, sawl un oedd wedi cael eu colli, faint roedd wedi’i gostio a’r hyn roedd y Cyngor yn ei wneud i fod yn fwy gwydn i heriau.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Sawl cais ar gyfer gwyro llwybrau troed cyhoeddus sydd wedi’u cofrestru gyda’r Cyngor ar hyn o bryd a sawl un sydd ar gyfer gwyriadau allan o fuarthau fferm gweithiol? Cofnodion: Sawlcais ar gyfer dargyfeiriadau llwybrau cyhoeddus mae’r Cyngor wedi’i gofrestru ar hyn o bryd a sawl un sy’n ddargyfeiriadau o ffermydd gweithiol?
Ateb Cefndir: Mae’r cwestiwn a ofynnwyd gan y Cynghorydd Williams yn cyfeirio at geisiadau i ddargyfeirio hawliau tramwy cyhoeddus. Cyflawnir dargyfeirio, diddymu a chreu hawliau tramwy cyhoeddus yn gyffredinol drwy Orchymyn Llwybr Cyhoeddus yn gyffredinol. Dyma’r math o Orchymyn gyfreithiol sy’n caniatáu gwneud newidiadau gwirfoddol i lwybr cyhoeddus, er na ellir ei defnyddio i newid cilffordd sydd ar agor i draffig.
Gall Gorchmynion Llwybr Cyhoeddus fod yn offeryn defnyddiol iawn i’r Cyngor, wrth reoli a gwella’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus. Fodd bynnag, mae gwneud y Gorchmynion hyn yn b?er dewisol, nid yn ddyletswydd statudol. Gall y Cyngor ddechrau’r cynnig ei hun; gall y Cyngor hefyd ddewis derbyn ceisiadau ar gyfer Gorchmynion Llwybr Cyhoeddus gan aelodau’r cyhoedd, ond nid oes rhaid iddo wneud hynny.
Nid yw’r gyfraith yn gosod unrhyw amserlen y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â cheisiadau unigol ar gyfer Gorchmynion Llwybr Cyhoeddus. Nid yw chwaith yn gorfod rhoi unrhyw sicrwydd y bydd ceisiadau’n llwyddiannus. Mae’r broses yn ddemocrataidd iawn ac yn agored i her ffurfiol, lle gall y penderfyniad gael ei wneud gan yr Arolygiaeth gynllunio (nid y Cyngor). Gall hyd yn oed cynigion heb wrthwynebiad a heb fod yn gymhleth gymryd hy at 6 mis i’w cwblhau, oherwydd y gweithdrefnau y mae’n rhaid eu dilyn.
Nid oes unrhyw swyddog dynodedig yn gweithio ar waith achos Gorchmynion Llwybr Cyhoeddus yn unig. Mae’n un o sawl galw sy’n cystadlu am amser swyddogion a rhaid i waith achos statudol gael ei flaenoriaethu. O ganlyniad, mae’r amser sydd ar gael i brosesu ceisiadau ar gyfer dargyfeirio hawl tramwy cyhoeddus wedi bod yn gyfyngedig ac yn parhau i fod yn gyfyngedig iawn. Yn anffodus, mae hyn wedi golygu ôl-groniad o geisiadau’n aros i gael eu prosesu.
Caiff achosion Gorchymyn Llwybr Cyhoeddus unigol gael eu dyrannu yn ôl blaenoriaeth, yn unol â’r ymagwedd at flaenoriaethu a gyflwynwyd gerbron y Pwyllgor Hawliau Tramwy yn 2010. Yn y cyfnod hwn, pan fo gofyn am gyngor cyn cyflwyno cais, cynghorir ymgeiswyr ar lefel gyffredinol y flaenoriaeth a roddir i bob math o gais a’r amserlen debygol ar gyfer ystyried eu cais. Rhoddir blaenoriaeth ganolig i ddargyfeirio llwybrau y tu allan i ffermydd gweithiol.
I geisio lleihau’r ôl-groniad o geisiadau a’r rhwystredigaeth a brofir gan ymgeiswyr, mae’r Gwasanaethau Cefn Gwlad wedi bod yn datblygu system i ddatblygwyr gynnal eu hymgynghoriad cychwynnol eu hunain, ar ôl cyfarfod safle gyda swyddogion. Oherwydd bod hynny wedi bod yn lled-lwyddiannus, mae bellach yn cael ei ehangu i ymgeiswyr eraill, gyda’r rhai sydd wedi bod yn aros hwyaf yn cael cynnig y cyfle hwnnw’n gyntaf.
Sefyllfa bresennol: Ar hyn o bryd, mae cyfanswm o 182 o geisiadau ar ... view the full Cofnodion text for item 16.3 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
O ystyried adroddiadau sy’n cyrraedd aelodau’r cyngor yn gyson am yr anawsterau mae defnyddwyr gwasanaeth yn y sir yn eu hwynebu yn ceisio cysylltu â’r staff Gofal Cymdeithasol i Oedolion perthnasol, a all yr aelod portffolio darparu dadansoddiad o’r swyddi gwag yn y gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fesul ardal ac ar draws y sir? Cofnodion: Yng ngoleuni adroddiadau’n cyrraedd aelodau’r Cyngor yn rheolaidd ynghylch yr anawsterau y mae defnyddwyr gwasanaethau yn y sir yn eu hwynebu wrth gysylltu â’r staff Gofal Cymdeithasol i Oedolion perthnasol, oed mod di ddeiliad y portffolio ddarparu crynodeb o swyddi gwag yn y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn ôl ardal ac ar draws y sir?
Ateb Dyma’r swyddi gwag cyfredol: Ystradgynlais Y Gwasanaeth Pobl H?n – dim swyddi gwag presennol Iechyd Meddwl – dim swyddi gwag presennol Anableddau’r De – dim swyddi gwag presennol
Aberhonddu Y Gwasanaeth Pobl H?n – 1x swydd Swyddog Cymorth Cymunedol tridiau yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd; 1 swydd uwch-ymarferydd Iechyd Meddwl – dim swyddi gwag Anableddau’r De – 1 swydd gweithiwr cymdeithasol, cyfweliadau ar hyn o bryd 1 swydd uwch-ymarferydd i gael ei hysbysebu
Llandrindod Y Gwasanaeth Pobl H?n – dim swyddi gwag gwaith cymdeithasol ar hyn o bryd Iechyd Meddwl – 2 swydd wag, 1 swydd gweithiwr cymdeithasol a 1 swydd uwch-ymarferydd yn cael eu hysbysebu Anableddau’r De – dim swyddi gwag
Y Drenewydd Y Gwasanaeth Pobl H?n – 1 swydd uwch-ymarferydd sy’n cael ei droi’n Rheolwr Tîm Cynorthwyol Iechyd meddwl – swydd gweithiwr cymdeithasol 0.8 wte yn cael ei hysbysebu Anableddau’r Gogledd – dim swyddi gwag
Y Trallwng Y Gwasanaethau Pobl H?n – dim swyddi gwag Iechyd Meddwl – dim swyddi gwag ar hyn o bryd Anableddau’r Gogledd – dim swyddi gwag ar hyn o bryd
Mewn ymateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Gibson-Watt am y rheswm y ceir cynifer o gwynion ynghylch anawsterau wrth gysylltu â gweithwyr cymdeithasol, dywedodd Deiliad y Portffolio er y cafwyd ymdrechion sylweddol i recriwtio swyddi gwaith cymdeithasol, roedd y nifer yn y sefydliad yn is nag y byddai’n eu dymuno ond bod hyn yn adlewyrchu amseroedd ariannol anodd.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Priffyrdd gan y Cynghorydd Sir David Selby PDF 50 KB A all yr Aelod Portffolio sôn am ba gamau a gymerwyd ganddo i wella gwasanaethau torri glaswellt y Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf?
Cofnodion: Oes modd i Ddeiliad y Portffolio nodi pa gamau mae’n eu cymryd i wella gwasanaethau torri glaswellt y Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf?
Ateb Mae torri glaswellt wedi bod yn un o’r prif faterion y mae’n rhaid i’r Cabinet a’r holl aelodau fynd i’r afael ag ef eleni ac efallai y cofiwch yr oeddwn yn llym iawn gyda darparwyr y gwasanaeth ym mis Mehefin eleni - a’r canlyniad oedd fy mod i wedi ymddangos ym mhapurau newydd y sir ac ar y BBC Online. Nid wyf yn difaru unrhyw beth ac rwy’n hapus i ddweud eu bod wedi gwrando ar yr yn yr ofynnais i amdano am wasanaeth gwell a chafwyd peth gwelliant. Fodd bynnag, ar hyn o bryd rwy’n cynnal adolygiad dwys ac yn ystyried yr holl gontractau ledled y sir gyda golwg i ystyried darparu’r gwasanaeth yn fewnol o fis Mawrth 2018. Byddai hon yn ymagwedd a ffefrir gan breswylwyr a chynghorwyr a fyddai’n hoffi gweld dychweliad i wasanaeth arferol cyn contractio’r gwasanaeth i gyflenwyr eraill. Dyma fy nharged uchelgeisiol ar hyn o bryd ac rwy’n edrych ymlaen at wneud cyhoeddiad Cyngor llawn yn y dyfodol agos.
Ni chafwyd unrhyw gwestiwn atodol ond mynegodd y Cynghorydd Selby siomedigaeth mai 5 aelod o’r Cabinet yn unig oedd yn bresennol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Addysg gan y Cynghorydd Sir Arwel Jones PDF 51 KB A all yr Aelod Portffolio rhoi gwybod i mi nifer y disgyblion sy’n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu ac Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt ym mis Medi 2017 ac hefyd nifer y disgyblion a aeth i mewn i’r ddwy ffrwd ym mis Medi 2017?
Cofnodion: Oes modd i Ddeiliad y Portffolio ddweud wrthyf nifer y disgyblion a oedd yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu ac Ysgol Uwchradd Llanelwedd ers mis Medi 2017 a hefyd y nifer y disgyblion a dderbynnir yn y ddwy ffrwd eto ym mis Medi 2017?
Ateb Nifer y disgyblion sydd wedi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu ac Ysgol uwchradd Llanelwedd ers mis Medi 2017:
Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pa ystyriaeth a roddwyd gan y Cabinet i effaith y newidiadau gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnad Unedig i’r Lwfans Tai Lleol ar lefelau digartrefedd ym Mhowys?
Cofnodion: Pa ystyriaethau y mae’r Cabinet wedi’u rhoi i effaith newidiadau gan Lywodraeth Geidwadol y DU i’r Lwfans Tai Lleol a’r lefelau digartrefedd ym Mhowys? Ateb Mae’r Cabinet yn ymwybodol o’r newidiadau presennol i’r Lwfans Tai Lleol sydd wedi cyfyngu pobl 35 oed ac iau i’r gyfradd llety a rennir ac wedi ystyried effaith y newid hwn ar y rheoliad Budd-daliadau ac estyniad cyfradd y Lwfans Tai Lleol i’r sector tai cymdeithasol ym mis Ebrill 2019 i’r lefel ddigartrefedd ym Mhowys. Mae’r ystyriaethau hyn yn rhan o broses gosod cyllideb oherwydd ein bod yn cydnabod yr angen i sicrhau ein bod yn dyrannu adnoddau digonol i weinyddiaeth cyfrifoldebau digartrefedd corfforaethol y cyngor.
Mae estyniad y gyfradd llety a rennir i bobl 35 oed ac iau wedi cael effaith anwastad ar ddigartrefedd ledled Powys a’r DU. Yn yr ardaloedd lle ceir cyflenwad cyfyngedig o lety a rennir a lefelau rhent weddol uchel, mae effaith y mesurau hyn wedi golygu cynnydd mewn digartrefedd a chysgu ar y stryd, yn arbennig unigolion sy’n anfodlon symud i gymunedau lle mae cyflenwa o lety o’r fath yn bodoli ac mae lefelau rhent yn fwy fforddiadwy. Yn nhref y Cynghorydd Matthew, yn ddiweddar rydym wedi profi cynnydd yn nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd oherwydd cyfradd weddol annigonol o lety a rennir, gyda’r lefelau rhent yn Aberhonddu’n sylweddol uwch na’r gyfradd Lwfans Tai Lleol llety a rennir a’u hamharodrwydd i symud i gymunedau eraill. Gallaf sicrhau’r Cynghorydd Matthew bod swyddogion yn parhau i weithio gyda phobl sy’n cysgu ar y stryd sy’n barod i gysylltu â’r gwasanaeth ac fel arfer mae modd sicrhau llety iddynt.
Her arall i’r awdurdod yw estyniad cyfraddau Lwfans Tai Lleol i’r sector tai cymdeithasol yn 2019, sy’n debygol o weld cynnydd sylweddol mewn ôl-ddyledion rhent yn y Cyfrif Refeniw Tai a stoc y gymdeithas tai sy’n debygol o arwain at gynnydd mewn digartrefedd, yn ogystal â chreu anawsterau fforddadwyedd i gael cartref ar draws y sir. Bydd hwn hefyd yn cael ei ystyried gan y Cabinet pan fydd rhenti Lwfans Tai Lleol yn cael eu gosod ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Yn ogystal, mewn cyfarfod o Rwydwaith Aelodau Cabinet Tai Cymru, mi wnes i ynghyd â’r holl Aelodau Cabinet a oedd yn bresennol yn y cyfarfod gytuno i anfon llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn iddo ailystyried cyflwyno’r Credit Cynhwysol llawn a’r newidiadau i’r Lwfans Tai Lleol er mwyn cydnabod y problemau y mae’r newidiadau hyn yn eu cael yn genedlaethol a’r cynnydd mewn pobl sy’n cysgu ar y stryd o ganlyniad iddynt.
Mewn ymateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Dorrance ar yr adnoddau y byddai eu hangen i ddiweddu pobl yn cysgu ar y stryd ym Mhowys, dywedodd Deiliad y Portffolio fod swyddogion yn gwneud popeth y gallent i helpu pobl sy’n byw ar y stryd os oeddent yn barod i dderbyn cymorth.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mae gennym broblem yn y sir nad oes digon o eiddo ‘fforddiadwy’ yn cael eu hadeiladu ar gyfer ein pobl ifanc. Rydym yn gwybod bod enillion ym Mhowys yn draddodiadol o isel. Mae gennym hefyd weledigaeth o gadw ein pobl ifanc yn y sir a hyd yn oed denu rhagor o bobl ifanc i symud i mewn. Nid wyf yn credu y bydd hyn yn digwydd tra nad oes gennym dai addas. Mae nifer o bobl ifanc dal efo’r uchelgais o alli brynu eu heiddo eu hunain, ond yn sicr o fewn fy ward i mae’r rhan fwyaf o’r eiddo sy’n cael ei adeiladu yn gartrefi moethus sy’n sicr ddim o fewn cyrraedd y mwyafrif. Rwy’n ymwybodol o gais cynllunio lleol sydd wedi cael ei gyflwyno fel cais ‘fforddiadwy’ ond fel t? ar wahân gyda thair ystafell wely a garej ddwbl a fydd yn debygol o fynd ar y farchnad am o leiaf £250,000. A oes yna unrhyw beth y gall y Cyngor ei wneud i wella’r sefyllfa? Cofnodion: Mae gennym broblem yn y sir nad oes digon o eiddo ‘fforddiadwy’ yn cael eu hadeiladu ar gyfer pobl ifanc. Rydym yn gwybod y Mhowys bod enillion yn draddodiadol yn isel. Mae gennym weledigaeth i gadw’n pobl ifanc yn y sir a hyd yn oed denu mwy ohonynt i symud yma. Nid wyf yn credu y bydd hyn yn digwydd heb dai cynaliadwy. Mae gan lawer o bobl ifanc yr uchelgais o hyd i allu prynu eu heiddo eu hunain, ond yn sicr yn fy ward i, mae’r rhan fwyaf o’r tai sy’n cael eu hadeiladu’n gartrefi moethus y tu hwnt i’w gallu i brynu. Mae hyn yn oed y tai ‘fforddiadwy’ y tu hwnt i afael y rhan fwyaf. Rwy’n ymwybodol o gais cynllunio lleol sydd wedi’i gyflwyno fel ‘fforddiadwy’, ond bydd t? ar wahân â their ystafell wely a garej dwbl si?r o fod yn mynd ar y farchnad am o leiaf £250,000. Oes unrhyw beth y gallwn ei wneud fel Cyngor Sir i wella’r sefyllfa?
Ateb Bydd Cynghorwyr Sir yn ymwybodol bod cynllunio ym Mhowys yn fater i ddau awdurdod, sef Cyngor Sir Powys ac Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a bod hwn yn golygu dau bolisi ar wahân. Fodd bynnag, mae’r ddau’n ceisio caffael y swm uchaf posib o gartrefi fforddiadwy i gael eu hadeiladu. Mae Polisi Cynllunio Cenedlaethol yn caniatáu datblygu safleoedd eithriadol mewn ardaloedd gwledig h.y. y rhai nad ydynt wedi’u dyrannu neu’n dod o fewn ffiniau datblygu Cynllun Datblygu’r Awdurdod. Mae Polisi Cenedlaethol hefyd yn gofyn i bob awdurdod cynllunio gaffael cyfraniadau tai fforddiadwy gan yr holl ddatblygwyr tai lle y bo’n briodol ac yn ddichonadwy dan Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae gan y ddau awdurdod gynlluniau ar waith sy’n diwallu’r anghenion hyn, fodd bynnag, mae sawl factor sy’n caniatáu i ddatblygwyr herio’r gofynion. Un her fynych yw datblygiadau moethus lle nad yw datblygwr am gynnwys cartrefi llai fforddiadwy’ neu gartrefi o ddaliadaeth wahanol megis rhent cymdeithasol. Yn yr achos rydych yn tynnu sylw ato, mae’r datblygwr si?r o fod yn defnyddio’r opsiwn o gynnig y cartref am 69% o werth y farchnad, y mae Cynllun Datblygu Unedig Powys yn ei ddiffinio’n fforddiadwy. Eir i’r afael â’r anghysondeb hwn gan y CDLl unwaith y bydd ar waith y flwyddyn nesaf. Mater negyddol arall o’r safbwynt cynllunio yw cytundebau Adran 106 sy’n cael eu cytuno ac yna nail ai’n peidio â chael eu datblygu neu’n cael eu herio’n ddiweddarach a’u hatal wrth i amgylchiadau ariannol a/neu eraill newid. Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn ceisio mynd i’r afael â’r holl faterion hyn a mwyafu nifer y cartrefi fforddiadwy a ddarperir drwy sawl ffordd, gan gynnwys cyfyngu ar faint a gwerth i lefelau realistig sy’n debyg i’r rhai a roddir gan Lywodraeth Cymru ar ddatblygiadau tai cymdeithasol. Fel cyngor, rydym yn cydnabod bod diffyg llety fforddiadwy ar draws y sir ac rydym yn gweithio i fynd i’r afael â yn y ffyrdd canlynol. Yn gyntaf mewn partneriaeth â chymdeithasau ... view the full Cofnodion text for item 16.8 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Priffyrdd gan y Cynghorydd Sir Lucy Roberts PDF 59 KB Erfy mod yn deall yn iawn y diffyg cyllid ar gyfer Priffyrdd, a’r angen i flaenoriaethu’r ffyrdd a ddefnyddir amlaf, mae gennyf bryder am ddyfodol tymor hir nifer o’r lonydd di-ddosbarth. Mae maint a phwysau cynyddol peiriannau amaethyddol yn torri asgwrn cefn rhai o’r lonydd hyn ac mae eraill yn colli wyneb y ffordd ac yn dod yn fwyfwy anwastad. Nid dim ond tyllau yn y ffordd ry'n ni'n sôn amdanynt yn y cyd-destun yma. A oes unrhyw gynllun tymor hir ar gyfer cynnal a chadw’r ffyrdd hyn neu a fydd trigolion yn gorfod derbyn y bydd hi’n angenrheidiol cael cerbydau pedair olwyn yn y dyfodol? Cofnodion: Er fy mod yn deal y diffyg ariannu ar gyfer Priffyrdd, a’r angen i flaenoriaethu’r ffyrdd a ddefnyddir fwyaf, mae gennyf breeder ynghylch dyfodol tymor hir llawer o’r lonydd annosbarthedig. Mae maint a phwysau cynyddol peiriannau amaethyddol yn torri cefn rhai lonydd ac mae rhai eraill yn collie u harwyneb ac yn troi’n fwyfwy garw. Nid ydym yn sôn am y tyllau’n unig yma. Oes unrhyw gynllun tymor hir ar gyfer cynnal a chadw’r ffyrdd hyn neu a fydd rhaid i breswylwyr dderbyn, rhywbryd yn y dyfodol, y bydd meddu ar gerbydau sy’n cael eu gyrru ar bedair olwyn yn hanfodol?
Ateb Mae rhwydwaith presennol Powys yn cynnwys oddeutu 5000km o briffordd ag arwyneb, gydag 17% yn ffurfio’r rhwydwaith prysurach mwy strategol, gyda’r gweddill yn rhwydwaith ffyrdd llai. Mae gan yr ased priffordd hwn werth amcangyfrifedig o £4.4 biliwn ac rydym yn amcangyfrif bod ôl-groniad presennol o waith priffyrdd gwerth dros £40m. Yr her i’r Cabinet a gwasanaeth priffyrdd y Cyngor yw monitro data ariannu a chyflwr er mwyn targedu gwaith yn effeithio ac yn briodol. Mae arian cyfalaf o oddeutu £12m wedi cael ei ddarparu ar gyfer gwella asedau priffyrdd, gan godi’r cyfanswm i oddeutu £6.5m y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf. Fel y byddwch yn gwerthfawrogi, mae’r arian hwn yn cael ei flaenoriaethu fel ei fod yn cael ei dargedu lle mae ei angen fwyaf a lle bydd yn cael yr effaith fwyaf o ran diogelwch a chost hyd oes. Er y bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu, dylai gael ei ystyried yng nghyd-destun rheoli dirywiad cyffredinol parhaus yng nghyflwr y rhwydwaith ffyrdd hyd eithaf ein gallu gyda’r adnoddau a’r arian sydd ar gael. Yn amlwg, rhaid i’n ffocws fod ar ein llwybrau strategol sy’n derbyn symiau uwch o draffig cyflymach gyda chynnydd amlwg mewn risg. Fodd bynnag, mae ein rhwydwaith ffyrdd bychain yn parhau if od yn hanfodol bwysig i Bowys, gan barhau if od yn agored i fuddsoddiad mewnol oherwydd ei fod yn debygol o gael ei ddefnyddio gan y rhan fwyaf ohonom fel rhan gyntaf ac olaf ein taith i’r rhwydwaith strategol ac oddi yno. Yr her rydym yn ei hwynebu yw ei gynnal i gyflwr addas drwy ddulliau cynnal a chadw arloesol ac effeithlon. Un enghraifft yw’r cyfarpar clytio jet a fydd yn ein helpu i fynd i’r afael ag atgyweiriadau ffyrdd yn fwy effeithlon. Er nad yr ateb i bob mathau o atgyweirio yw hwn, bydd yr effeithlonrwydd y bydd yn ei gyflwyno’n ein galluogi i drwsio mwy gan wario’r un faint o arian. Ar hyn o bryd mae gwaith yn cael ei wneud i ddiweddaru’r Cynllun Rheoli Asedau’r Briffordd ac rydym yn gweithio ar y cyd ag Awdurdodau Lleol eraill drwy Gymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru a CLlLC i godi materion tebyg i’r rhai a nodwyd gennych i lobïo Llywodraeth Cymru i ennill mwy o arian yn derbyn i’r arian Menter Benthyca Llywodraeth Leol a dderbyniwyd rhwng 2012/13 a 2014/15. Yn syml, mae toriadau ledled y DU ac yng Nghymru i ... view the full Cofnodion text for item 16.9 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Arweinydd gan y Cynghorydd Sir Jackie Charlton Hoffwnofyn cwestiwn i Rosemarie Harris, yr Arweinydd am Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ‘Gwasanaethau sy’n addas i’r dyfodol’ sy’n amlinellu newidiadau i’r ffordd y bydd ansawdd a llywodraethu yn cael eu mesur a’u cyflwyno yn y dyfodol. Mae un o’r cynigion yn ymwneud â ‘chyd-gynhyrchu’ (ffordd arall o ddweud partneriaethau) yn enwedig rhwng gweithwyr proffesiynol a’r bobl hynny sy’n defnyddio gwahanol wasanaethau. Elfen o hyn yw dod o hyd i ffordd fwy cydweithredol ac effeithlon o gyflwyno fframwaith gyda gwiriadau a dulliau o gadw cydbwysedd ar gyfer cleifion a chleientiaid o’r ddau faes cyflwyno, iechyd a gofal cymdeithasol.
Y cynnig sydd o ddiddordeb mwyaf i mi fel cynghorydd ac aelod o Gyngor Iechyd Cymunedol Powys yw cael ‘corff annibynnol’ newydd yn lle’r Cynghorau Iechyd Cymunedol presennol a fydd yn gyfrifol am ddod ag archwilio/rheoleiddio a gwrando ar lais dinasyddion at ei gilydd. Mae Cyngor Iechyd Cymunedol Powys yn ymateb yn annibynnol felly mae’n debygol y bydd y Bwrdd Iechyd a Chyngor Sir Powys wedi ymateb hefyd.
Fynghwestiynnau:-
Cofnodion: Hoffwn ofyn cwestiwn i Rosemarie Harris fel Arweinydd ynghylch Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ‘Gwasanaethau sy’n addas i’r dyfodol’ sy’n amlinellu’r newidiadau i’r ffordd y mesurir ansawdd a llywodraethu a’u cyflwyno yn y dyfodol. Mae un o’r cynigion yn cynnwys ‘cyd-gyd-gynhyrchu’ (ffordd arall o ddweud partneriaethau) yn enwedig rhwng gweithwyr proffesiynol a’r bobl hynny sy’n defnyddio gwasanaethau gwahanol. Elfen o hon yw dod o hyd i ffordd fwy cydweithiol ac effeithlon o gyflwyno fframwaith gyda gwiriadau a chydbwysau i gleifion a chleientiaid y ddau faes cyflwyno, sef iechyd a gofal cymdeithasol.
Y cynnig sydd o fwyaf diddordeb i mi fel cynghorydd ac aelod o Gyngor Iechyd Cymunedol Powys yw disodli Cynghorau Iechyd Cymunedol Powys presennol gyda ‘chorff annibynnol’ a fydd â’r cyfrifoldeb o uno arolygu/rheoliad a chlywed llais y dinesydd. Mae Cyngor Iechyd Cymunedol Powys yn ymateb yn annibynnol, felly bydd Bwrdd Iechyd Powys a Chyngor Sir Powys wedi ymateb hefyd.
Fy nghwestiynau:-
1. Hoffwn wybod beth mae Cyngor Sir Powys wedi’i ddweud mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn a ddaeth i ben ar 29 Medi 2017. 2. Yn ail, mae’r syniad bod arolygu a rheoliad yr un peth â chlywed llais y dinesydd yn ofidiol. Nid ydynt yr un peth. Beth yw’ch barn chi fel cyn Gadeirydd y Cyngor Iechyd Cymunedol ac fel Arweinydd Cyngor Sir Powys sy’n cyflwyno gofal cymdeithasol ac sydd am gael integreiddiad yn y dyfodol ym Mwrdd Iechyd Lleol Powys?
Ateb 1. Ymatebodd y gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion i’r ymgynghoriad. Byddaf yn trefnu i gopi o’r ymateb gael ei anfon at yr aelodau.
2. Nid yw’r Cyngor Iechyd Cymunedol yn mynd i’r afael â Gofal Cymdeithasol mewn unrhyw ffordd. Y nhw yw corff gwarchod y GIG o safbwynt y claf/dinesydd. Hefyd, rôl Arweinydd y Cyngor Sir yw arwain ar faterion Awdurdod Lleol. Byddai’n anarferol i’r Arweinydd ateb cwestiynau ar swydd a ddelir y tu allan i’r Cyngor ac mewn blynyddoedd blaenorol.
Ar yr achlysur hwn, byddaf yn ateb.
Mewn gwirionedd, dylai’r Cyngor Iechyd Cymunedol fod yn gyswllt pwysig iawn rhwng y GIG, y rhai sy’n eu rheoleiddio a llais y rhai sy’n defnyddio’r GIG.
Yn gyntaf, hoffwn ddweud fy mod yn credu’n gryf bod angen sefydliad fel y Cyngor Iechyd Cymunedol fel corff gwarchod y GIG ar ran y claf/dinesydd.
Nid oes unrhyw sefydliad sydd â llais ar ran y claf. Credaf, ymhell o ddiddymu Cynghorau Iechyd Cymunedol, dylai eu rôl gael ei chryfhau. Maent yn gyrff statudol ac mae’r cryfder hwnnw, dan y statud, eisoes wedi cael ei ddiddymu yn Lloegr - sy’n niweidiol yn fy marn i.
Ar hyn o bryd, mae gan Gynghorau Iechyd Cymunedol ganiatâd i ymweld â meddygfeydd meddyg teulu, ysbytai, gorsafoedd ambiwlans ac unrhyw le y darperir gwasanaethau’r GIG. Yn aml, cynhelir arolygiadau ar y cyd ag AGIC gydag un sefydliad yn arolygu darpariaeth glinigol a’r llall yn arolygu o safbwynt y claf. Nid yw Cynghorau Iechyd Cymunedol erioed wedi cael arolygu/ymweld â sefydliadau lle darperir gofal cymdeithasol yn unig. Mae Cyngor Iechyd Cymunedol Powys a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymunedol Cymru ... view the full Cofnodion text for item 16.10 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pa asesiad a wnaed o berthnasedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ar bolisiau Cyngor Sir Powys yn ymwneud â rheoli a gwaredu asedau? Yn benodol, a fyddai Aelod y Cabinet yn ystyried adnewyddu dull presennol y Cyngor o weithio, er mwyn cynnwys cynghorau Tref a Chymuned yn fwy ar gam cynharach yn y broses? Mae lleoliaeth yn ganolog i ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru ac felly, pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud am waredu a defnyddio asedau mewn ffordd wahanol, oni fyddai’n gwrtais ac eglur ond hefyd synnwyr cyffredin i ddefnyddio’r wybodaeth ac arbenigedd lleol sydd ar gael yn ein cymunedau. Cofnodion: Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o berthnasedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i bolisïau Cyngor Sir Powys ynghylch rheoli a gwaredu asedau? Yn benodol, a fydd aelod y Cabinet yn ceisio adfywio ymagwedd bresennol y Cyngor, er mwyn cynnwys cynghorau Tref a Chymuned yn llawnach gam yn gynharach yn y broses?
Mae lleoliaeth yn ganolog i ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru ac felly, pan fo penderfyniadau’n cael eu gwneud ynghylch gwaredu ac ailddefnyddio asedau, byddai nid yn unig yn gwrtais ac yn dryloyw ond yn synnwyr cyffredin defnyddio’r wybodaeth a’r arbenigedd lleol sydd ar gael yn ein cymunedau. Ateb Fel rwy’n si?r y mae’r Cynghorydd Powell yn ymwybodol o ddarllen y dogfennau polisi ar y fewnrwyd, mae’r Cynllun Rheoli Asedau Strategol (StAMP) a gymeradwywyd gan y Cabinet ar ddechrau’r flwyddyn wedi’i alinio i’n polisïau corfforaethol a’r cyd-destun statudol (gweler isod). Cymuned yw un agwedd ar hyn ond rhaid i ni hefyd gydbwyso nodau eraill - ffyniant, iechyd a gwydnwch a meddwl am ddiogelu’r Cyngor a dinasyddion yn eu cyfanrwydd dros y dyfodol tymor hir. Cynhaliodd y tîm Eiddo gyfres o weithdai ‘lle’ yn ystod 2016/17 a gwahoddwyd aelodau lleol (a oedd yn cynrychioli eu cymunedau) i ddod. Yn anffodus, roedd presenoldeb aelodau’n isel iawn (oddeutu 30%) er gwaethaf sawl ymgais i hyrwyddo’r gweithdai (yn ystod diwrnodau datblygu aelodau a sesiynau’r Cabinet). Yn ogystal, mi wnaeth gwahoddiad i gyflwyno sylwdau ysgrifenedig i’r rhai nad oeddent yn gallu dod fethu cael ymateb. Nawr, gyda Chyngor newydd, rydym yn cynnig cynnal set arall o weithdai'r gwanwyn nesaf a byddwn yn annog cynifer o aelodau lleol â phosib i ddod. Dylai’r aelodau hyn ymgynghori â’u cynghorau tref a chymuned a rhoi adborth iddynt.
Ers i mi ymuno â’r Cyngor, rwyf wedi ymweld â sawl cyngor tref ac wedi bod mewn deialog actif â hwy ac maent wedi mynegi diddordeb yn yr asedau a ddelir gennym yn eu cymunedau ar draws Powys gan gynnwys Llandrindod, y Gelli, y Drenewydd, Llanandras a Llanfair Caereinion. Rwy’n hapus i ymweld ag unrhyw gymuned sy’n dymuno trafod materion sy’n ymwneud ag eiddo yn eu hardal.
Er hawster cyfeirio, mae’r polisi’n nodi’r canlynol:
“Cyd-destun Strategol Mae’r StAMP wedi alinio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. O’r saith nod, mae’r StAMP yn cyfrannu’n uniongyrchol at y canlynol: · Cymru lewyrchus - datblygu ein hystâd fasnachol · Cymru o gymunedau cydlynus – mae meddu ar ymagwedd ‘le’ yn cydnabod pwysigrwydd cymunedau a dylai wella cyfranogiad a chynnwys cymunedau · Cymru iachach – gweithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i rannu asedau i alluogi cyflwyno gwasanaethau’n well; hefyd darparu cyfleoedd i’r rhai sydd am gael cyflogaeth · Cymru gydnerth- mannau gwyrdd cymunedol/mwy o effeithlonrwydd ynni Yn ogystal, mae’r StAMP yn ei natur yn cyfrannu at yr egwyddorion cynaladwyedd a nodir yn y Ddeddf: · Tymor hir – diogelu asedau ar gyfer anghenion tymor hir yn hytrach nag enillion tymor byr · Integreiddio - gweithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a phartneriaid eraill · Cydweithio – gweithio gyda’r holl wasanaethau, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, cymunedau a ... view the full Cofnodion text for item 16.11 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Oes modd i ddeiliad y portffolio ddweud wrthyf sawl aelod o staff sydd wedi gadael Cyngor Sir Powys ar draws yr holl adrannau ac wedi mynd i’r bwrdd iechyd nawr ein bod yn gweithio’n agosach gyda’n gilydd? A all y ffigur hwn fod ers dechrau’r bartneriaeth oddeutu mis Hydref y llynedd gyda’r bwrdd iechyd?
Ateb Ni does gan AD yr wybodaeth hon, ond deallaf fod wyth aelod o staff wedi trosglwyddo dros y ddwy flynedd ddiwethaf, y rhan fwyaf ar lefel rheolwyr canol i uwch.
Er mwyn ateb cwestiwn atodol y Cynghorydd Williams, dywedodd Deiliad y Portffolio fod chwe aelod o staff mewn rolau ar y cyd.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Priffyrdd gan y Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe PDF 48 KB Cofnodion: Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Cabinet wedi cefnogi parcio am ddim mewn meysydd parcio talu ac arddangos ar draws y sir i gefnogi masnachwyr lleol yn y cyfnod cyn y Nadolig. A fydd y Cabinet newydd yn cyflwyno cynllun tebyg eleni?
Ateb Mae’r Nadolig yn gyfnod pwysig i ni gyd lle bynnag rydym yn byw ym Mhowys ac yn arbennig o bwysig i’n busnesau yn ein trefi a’n pentrefi sydd efallai’n dibynnu ar fasnach y Nadolig i’w helpu drwy'r misoedd tawel. Mae gweledigaeth newydd y Cabinet y canolbwyntio ar yr economi a’n parodrwydd i fod yn agored ac yn fentrus ac i helpu ein preswylwyr a’n cymunedau. Nid yw’n briodol ei drafod yn awr ond rwy’n hapus i ddweud y byddaf yn gwneud cyhoeddiad ar sut bydd y Cyngor yn helpu ein holl drefi a’n pentrefi pan fyddwn yn croesawu Joanna Lumley i Aberhonddu i gynnau’r goleuadau Nadolig ym mis Tachwedd.
Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Cyllid gan y Cynghorydd Sir David Jones PDF 58 KB Arstad dyddynnod Garth y Cyngor Sir yng Nghegidfa mae dau d? sydd wedi bod yn segur am gryn amser. Un am dair blynedd a’r llall am ddwy flynedd. Faint mae cronfa treth y cyngor wedi derbyn am y ddau eiddo yma hyd at 30 Medi eleni?
Cofnodion: Ar ystâd tyddyn y Garth y Cyngor Sir yng Nghegidfa, mae dau d? sydd wedi bod yn wag ers peth amser. Un am dair blynedd ac un am ddwy flynedd. Faint mae’r gronfa treth y cyngor wedi derbyn ar gyfer y ddau eiddo hyn hyd at 30 Medi eleni?
Ateb Mae’r ddau eiddo yn y Garth yn rhan o gyfadeilad mwy o adeiladau, gan gynnwys amrywiaeth sylweddol o adeiladau fferm model gradd II. Ein bwriad yw gwerthu’r safle ynghyd â chaniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad preswyl. Nid yw sicrhau caniatâd cynllunio wedi bod yn syml - tynnwyd caniatâd cynllunio a gyflwynwyd fis Hydref diwethaf er mwyn adolygu manylion mynediad a dylunio, ynghyd â mwy o waith ymgynghori gyda CADW, cyn ailgyflwyno. Roedd yr eiddo’n rhan o unedau fferm mwy – yn y ddau achos mae tir wedi cael ei uno ag unedau cyfagos; mae’r ddau eiddo, adeiladau’r fferm a’r tir amwynderau amgylchynol (oll i’w gwerthu fel eitemau unigol wrth benderfynu ar y cais cynllunio) yn parhau if od yn fewnol fel rhan o’r Portffolio Ffermydd Sir nes cael eu datgan yn weddill yn ffurfiol a bod marchnata’n dechrau. Amlinellir treth y cyngor a dalwyd gan y Gwasanaeth Ffermydd Sir ar gyfer y ddau eiddo ers iddynt fod yn wag isod: 1. Tyddyn y Garth, Cegidfa, y Trallwng, Powys SY21 9BX Band F Gwag (yn wag a heb ddodrefn) ers 24.3.2016 Defnyddiwyd yr eithriad 6 mis cyntaf Yna hyd at 31 Mawrth 2017 Tâl llawn @ £975.36 1 Ebrill 2017 ymlaen Talwyd premiwm am y flwyddyn gyfan @£2950.56 Y cyfanswm a dalwyd hyd at 31.3.2018 £3925.92
2. Heylin, Cegidfa, y Trallwng, Powys SY21 9BX Band E Gwag ( yn wag a heb ddodrefn) ers 31.12.2014 Defnyddiwyd yr eithriad 6 is cyntaf Hyd at 31 Mawrth 2017 Tâl llawn @ £2753.49 Ebrill 2017 ymlaen Talwyd premiwm am y flwyddyn gyfan@ £2496.63 Y cyfanswm a dalwyd hyd at 31.3.2018 £5250.12
Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Arstad tyddynnod Garth y Cyngor Sir mae ystod o adeiladau fferm Fictoraidd sydd wedi bod yn segur am gyfnod hir. Dros y blynyddoedd mae’r cyngor sir wedi cyflwyno dau gais cynllunio ar gyfer yr adeiladau hyn ond mae’r ddau wedi cael eu tynnu’n ôl yn weddol hwyr yn y broses. Faint mae’r adran tyddynnod wedi talu am y ddau gais cynllunio, dau gais Adeilad Rhestredig, ffioedd proffesiynol ac amser Swyddog a hynny i gyd yn ofer? Cofnodion: Ar ystâd tyddyn y Garth y Cyngor Sir ceir amrywiaeth o adeiladau fferm Fictoraidd sydd wedi bod yn wag ers amser hir. Dros y blynyddoedd, mae’r cyngor sir wedi cyflwyno dau gais cynllunio ar gyfer yr adeiladu hyn ond mae’r ddau wedi cael eu tynnu’n ôl yn y camau olaf. Faint mae’r adran tyddynnau wedi’i dalu am y ddau gais cynllunio, dau gais adeiladau rhestredig, ffioedd proffesiynol ac amser swyddogion heb unrhyw ganlyniad?
Ateb Nid oedd y trefniadau mynediad a gynigwyd yng nghais 2007 wedi cael eu cefnogi gan y Rheolaeth Datblygu priffyrdd, ac nid oedd y mynediad amgen i’r B4392 yn cael ei gefnogi gan CADW oherwydd yr effaith ar y tir islaw’r safle sy’n ffurfio rhan o’r ‘Parc a Gardd Cofrestredig o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig’. Roedd cais 2016 yn cynnig mynediad newydd i’r A490, gan ddefnyddio llwybr fferm bresennol a oedd yn mynd o amgylch yr ardd â wal o’i chwmpas. Fodd bynnag, unwaith eto, mae CADW wedi nodi bod ganddynt bryderon am effaith y mynediad arfaethedig ar y dirwedd; yn y cyfamser, mae’r Swyddog Treftadaeth Adeiledig wedi gwrthwynebu rhai manylion dylunio penodol y cynigion. Fe’i hystyriwyd yn briodol tynnu’r cais yn ôl a mynd i’r afael â’r materion hyn ar ôl sgwrs arall gyda CADW a’r Swyddog Treftadaeth Adeiledig. Mae’r adeiladau yn y Garth yn sylweddol (roedd cais cynllunio 2016 yn cynnig 7 uned breswyl) ac yn llawer mwy na’r hyn a ofynnir fel adeiladau domestig/amwynderau i’w gwerthu gyda’i gilydd â’r ddwy annedd bresennol. Dylai lleoliad dymunol y safle a chymeriad yr adeiladau gyfuno i wneud yr adeiladau gorffenedig yn ddeniadol i brynwyr. Fodd bynnag, cydnabyddir bod y farchnad ar gyfer ysguboriau i’w trosi’n dawel ac mae wedi bod ers rhai blynyddoedd. Fodd bynnag, bydd unrhyw un sy’n prynu’r safle’n debygol o ystyried datblygu’r adeiladau, at ddefnydd preswyl neu fasnachol; bydd cynnig yr adeiladau ar werth â chaniatâd cynllunio yn sicrhau prynwyr y gall yr adeiladau gael eu datblygu gan ehangu apêl y safle i’r farchnad.
Mae ffioedd a thaliadau proffesiynol o £20,067.97 wedi cael eu cronni o ran cais 2016, ynghyd â ffi ymgeisio o £2,660. Nid oes unrhyw ffioedd ymgeisio’n daladwy ar gyfer Ceisiadau Adeiladau Rhestredig. Y ffi ymgeisio ar gyfer cais 2007 oedd £1,896. Nid yw’r ffioedd proffesiynol mewn perthynas â’r cais hwn wedi’u heitemeiddio yn y ffigurau sydd gennym gan ei wneud yn anodd dod o hyd i’r wybodaeth berthnasol heb fynd drwy ffeiliau’r archifau a fydd yn annhebygol o ddarparu gwybodaeth gadarn ar safleoedd penodol ta beth (oherwydd bod y prosiect yn ymwneud â sawl safle).
Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
2018 Review of Parliamentary Constituencies PDF 2 MB To consider a report by the Solicitor to the Council. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Canlyniadau'r Bleidlais PDF 75 KB Dogfennau ychwanegol:
|