Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Sir G J Bowker, L Fitzpatrick, R I George, P Harris, S M Hayes, A Holloway, Eldrydd M Jones, ET Morgan, JG Morris, GD Price, D R Price, D G Thomas, S L Williams ac E A York
Dywedodd y Cynghorydd Sir Pritchard fod y Cynghorydd Sir Ann Holloway wedi anfon ei dymuniadau gorau a dywedodd y Cynghorydd ei fod wedi anfon llythyr at y Cynghorydd Holloway yn dymuno adferiad cyflym iddi.
|
|||||
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 20 Ebrill, 11 Mai, 16 Mai a 16 Mehefin fel cofnodion cywir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Awdurdodwyd y Cadeirydd i arwyddo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 20 Ebrill, 11 Mai, 16 Mai a’r 16 Mehefin fel cofnodion cywir.
Gofynnodd y Cynghorydd Sir Joy Jones pryd y byddai’n cael ateb i gwestiwn y gofynnodd ym mis Chwefror am y swm o £25,000 a roddwyd i Gyngor Tref Y Trallwng. Dywedodd Cyfreithiwr y Cyngor y byddai’n cyflwyno’r wybodaeth i’r Cynghorydd Jones wedi’r cyfarfod.
|
|||||
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant Aelodau mewn cysylltiad ag eitemau sydd i’w hystyried ar yr agenda. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw ddatganiadau diddordeb eu hadrodd.
|
|||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau oddi wrth Gadeirydd y Cyngor. Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd amlinelliad o rai o’i ddigwyddiadau gan fynegi diolch i’r aelodau am ei gefnogi yn ei ginio dinesig.
|
|||||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. Cofnodion: Fe wnaeth yr Arweinydd longyfarch tîm cenedlaethol Cymru am eu camp aruthrol yn cyrraedd y rownd gynderfynol ym Mhencampwriaethau Pêl-droed Ewrop. Dywedodd y byddai’r integreiddio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael ei arddangos yn Sioe Frenhinol Cymru ac y byddai ap trafnidiaeth Powys sy’n cyflwyno gwybodaeth fyw ar deithio yn cael ei lansio yn y sioe. Rhoddodd sylw hefyd i ?yl y Dyn Gwyrdd yng Nghrughywel ym mis Awst a nodi y byddai Powys yn cynnal cam terfynol ras seiclo Taith Prydain ym mis medi. Dywedodd wrth y Cyngor hefyd fod cyflwyno cymunedol yn parhau gyda gwasanaethau a mwynderau yn trosglwyddo i gymunedau lleol.
|
|||||
Trosglwyddiadau yn y Gyllideb Ystyried cymeradwyo trosglwyddiadau o fwy na £500,000. Cofnodion: </6.1 |
|||||
Trosglwyddiad Cyfalaf ar gyfer Goleuadau Stryd PDF 65 KB Cofnodion: Trosglwyddo Cyfalaf ar gyfer Goleuadau Stryd
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid y byddai’r trosglwyddiad hwn yn dwyn y rhaglen i gyflwyno goleuadau LED ymlaen a fyddai’n cyflwyno £300,000 heb orfod troi unrhyw oleuadau ymaith.
Cafodd yr argymhelliad ei basio gan 52 pleidlais i 0.
|
|||||
Cofnodion: Esboniodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod angen y trosglwyddiad hwn yn dilyn trosglwyddo staff o Gefnogaeth Busnes i feysydd gwasanaeth.
Cafodd yr argymhelliad ei basio gyda 34 pleidlais i 3 gyda 8 Cynghorydd yn ymatal rhag pleidleisio.
|
|||||
Fframwaith Adrodd Blynyddol y Cyngor PDF 73 KB Derbyn ac ystyried adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Strategol Pobl ei phapur blynyddol fel y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2015 hyd at 31 Mawrth 2016. Wrth gyflwyno ei hadroddiad, esboniodd y Cyfarwyddwr y cyd-destun deddfwriaethol y caiff y gwasanaeth ei gyflwyno oddi mewn iddo, sef y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn bennaf sy’n rhoi unigolion a’u hanghenion wrth wraidd eu gofal. Roedd rhaid i’r gwasanaeth fod yn glir am ei amcanion, gan ofyn pa wahaniaeth yr oedd yn ei wneud a sut y gellid mesur hyn. Rhoddodd y Cyfarwyddwr amlinelliad o’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion a bennwyd ar gyfer y gwasanaeth a’r gwaith pellach i’w gynnal yn ystod 2016/17 gan gynnwys cyflwyno Timoedd Pobl mewn Oed integredig a newid sy’n gweddnewid o fewn Gwasanaethau Plant. Mynegodd ddiolch i staff rheng flaen a staff cefnogi am eu gwaith, y Cabinet ac aelodau lleol a’r Pwyllgor Craffu.
Mewn ymateb i gwestiynau oddi wrth aelodau, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod y gwasanaeth yn gweithio i sicrhau fod cleientiaid sy’n siarad Cymraeg yn cael eu cefnogi gan staff sy’n siarad Cymraeg. Rhoddodd amlinelliad o’r cynnydd ar integreiddio gyda’r Bwrdd Iechyd, gan gynnwys cyflwyno Timoedd Pobl mewn Oed a fyddai’n cael ei gynnal dros y 12 mis nesaf gydag integreiddio Gwasanaethau Anableddau Dysgu i ddilyn hyn. Nododd fod nifer y Plant mewn Gofal ym Mhowys ymysg yr isaf yng Nghymru oedd yn golygu fod dull ymyrraeth gynnar y Cyngor yn gweithio. Dywedodd nad oedd diffyg gofalwyr maeth yn gyffredinol er ei bod yn her i ganfod gofalwyr ar gyfer plant sydd ag anghenion mwy cymhleth, ac i gyfateb gofalwyr gyda lle’r oedd y galw, o ystyried natur wledig y sir. .
Cafodd yr argymhelliad ei basio gan 53 pleidlais i 2.
Fe adawodd y Cynghorwyr Sir S McNicholas a DH Williams y cyfarfod.
|
|||||
Cynllun Gwella Corfforaethol 2016 - 19 PDF 250 KB Derbyn ac ystyried y Cynllun Gwella Corfforaethol ar gyfer 2016-19. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd y Cynllun Gwella Corfforaethol ar gyfer 2016 – 2019 a oedd yn dod â Chynllun Powys yn Un, y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Strategaeth gweithlu ynghyd mewn un ddogfen.
Cafodd yr argymhelliad ei basio gan 46 pleidlais i 1 gydag 1 Cynghorydd yn ymatal rhag pleidleisio.
|
|||||
Lwfansau a Threuliau Aelodau 2015/16 PDF 71 KB Derbyn er gwybodaeth fanylion lwfansau a threuliau Aelodau a hawliwyd yn 2015/16. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor fanylion lwfansau a threuliau a hawliwyd gan Aelodau yn 2015/16. Wrth gyflwyno’r adroddiad, fe wnaeth yr Aelod Portffolio Cyllid gydnabod ymdrechion aelodau wrth gofleidio TG i dorri i lawr ar yr angen i deithio i gyfarfodydd oedd yn golygu fod arbedion o 13% ar dreuliau oddi ar y flwyddyn flaenorol. Roedd gofyn i’r Cyngor gyhoeddi’r wybodaeth erbyn y 30 Medi 2016.
|
|||||
Dyddiad Cyfarfod Blynyddol Cyngor 2017 PDF 69 KB Ystyried adroddiad Cyfreithiwr y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd i’r Cyngor ystyried dyddiad Cyfarfod Blynyddol y Cyngor yn dilyn etholiadau awdurdodau lleol yn 2017.
Cafodd yr argymhelliad ei basio gan 44 pleidlais i 0.
|
|||||
Penodiadau i Bwyllgorau Nodi’r penodiadau canlynol i Bwyllgorau gan grwpiau gwleidyddol, wedi’u cymeradwyo gan y Swyddog Monitro dan bwer dirprwyo cyffredinol a roddodd y Cyngor ar 16 Mai 2013:
Penodi’r Cynghorydd Sir Graham Jones i’r Panel Heddlu a Throsedd gan y Grwp Ceidwadol yn lle’r Cynghorydd Sir Tom Turner.
Penodi’r Cynghorydd Sir Garry Banks i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, y Pwyllgor Cyflogaeth ac Apeliadau a’r Pwyllgor Craffu Lle gan y Grwp Anwleidyddol i lenwi seddi gwag.
Penodi’r Cynghorydd Sir Peter Medlicott i’r Pwyllgor Archwilio gan y Grwp Annibynnol i lenwi sedd wag.
Penodi’r Cynghorydd Sir Joy Jones i’r Pwyllgor Craffu Pobl gan y Grwp Annibynnol i lenwi sedd ychwanegol ar y Pwyllgor.
Penodi’r Cynghorydd Sir Phil Pritchard i Bwyllgor Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gan y Grwp Annibynnol yn lle’r Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe.
Penodi’r Cynghorydd Sir Huw Williams i’r Pwyllgor Craffu Lle an y Gr?p Llafur i lenwi sedd ychwanegol ar y Pwyllgor. Cofnodion: Nododd y Cyngor y penodiadau canlynol ar wnaed ar bwyllgorau gan grwpiau gwleidyddol ac a gymeradwywyd gan y Swyddog Monitro dan bwerau dirprwyo cyffredinol a gyflwynwyd gan y Cyngor:
Penodwyd y Cynghorydd Sir Graham Jones ar Banel yr Heddlu a Throseddu gan y Gr?p Ceidwadol yn lle’r Cynghorydd Sir Tom Turner. Penodwyd y Cynghorydd Sir Garry Banks ar y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, y Pwyllgor Cyflogi ac Apeliadau a’r Pwyllgor Craffu Lle gan y Gr?p Anwleidyddol i lenwi swyddi gwag. Penodwyd y Cynghorydd Sir Peter Medlicott ar y Pwyllgor Archwilio gan y Gr?p Annibynnol i lenwi swydd wag. Penodwyd y Cynghorydd Sir Phil Pritchard ar Bwyllgor Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gan y Gr?p Annibynnol yn lle’r Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe. Penodwyd y Cynghorydd Sir Huw Williams ar y Pwyllgor Craffu Lle gan y Gr?p Llafur i lenwi sedd ychwanegol ar y Pwyllgor. Penodwyd y Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe ar y Pwyllgor Cyflogi ac Apeliadau gan y Gr?p Rhyddfrydol i lenwi lle ychwanegol ar y Pwyllgor.
|
|||||
Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad |
|||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio Adfywio a Chynllunio gan y Cynghorydd Sir Graham Jones PDF 52 KB Ganfy mod yn gwybod bod aelod o’r Cabinet a swyddog(ion) wedi bod ym Mrwsel yn ddiweddar, hoffwn wybod sawl cynrychiolydd aeth yno, a sut y talwyd am y trip, e.e. a wnaeth yr Awdurdod dalu, ynteu a wnaeth y rheiny a aeth i Frwsel dalu nail ai trwy gyfrannu at y gost neu drwy dalu’r swm llawn?
Cofnodion: O wybod fod aelod o’r Cabinet a swyddog(ion) wedi mynd i Frwsel yn ddiweddar, hoffwn wybod faint o gynrychiolwyr a fynychodd a sut y cafodd y daith hon ei hariannu h.y. ai’r Awdurdod a dalodd neu a wnaeth y sawl a fynychodd dalu trwy naill ai gyfrannu neu dalu’r swm llawn?
Teithiodd y Cyng. Avril York a Susan Bolter, Pennaeth Adfywio, Eiddo a Chomisiynu i Frwsel ar ddydd Mawrth 1 Mawrth gan ddychwelyd ar ddydd Iau 3 Mawrth, 2016. Roedd yr ymweliad hwn yn wahoddiad gan swyddfa Brwsel Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Fe wnaeth CLlLC ddarparu ar gyfer yr holl gostau oedd yn ymwneud â’r daith gydag un eithriad. Talodd Cyngor Sir Powys gostau’r daith ddychwelyd sef rhannu car rhwng Llandrindod a gorsaf reilffordd Birmingham.
Cafwyd cwestiwn ychwanegol gan y Cynghorydd Sir Graham Jones sef beth oedd y manteision amlwg a gyflawnwyd trwy’r ymweliad. Nid oedd yr Aelod Portffolio Adfywio a Chynllunio yn y cyfarfod felly cynigiodd yr Arweinydd y dylid llunio ymateb ysgrifenedig a’i ddosbarthu i’r holl aelodau.
|
|||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio Addysg a'r Prif Weithredwr gan y Cyngh Gwilym Williams PDF 52 KB A all Aelod y Cabinet â chyfrifoldeb am ysgolion, y Cynghorydd Arwel Jones, a’r Prif Weithredwr Jeremy Patterson, ddweud wrthyf i ac aelodau’r cyngor pryd y daethant i wybod yn gyntaf fod ysgol uwchradd Llanfyllin wedi defnyddio’i chyllideb ddirprwyedig i gynorthwyo â chludiant i’r ysgol? Cofnodion: A all y Cynghorydd Arwel Jones, aelod o’r Cabinet dros Ysgolion a Jeremy Patterson, Prif Weithredwr ddweud wrthyf i ac aelodau’r Cyngor, pryd y daethant yn ymwybodol gyntaf fod ysgol uwchradd Llanfyllin yn defnyddio ei chyllideb ddirprwyedig i gefnogi cludiant ysgol i’w hysgol? Y rheswm pam yr wyf yn gofyn i’r Prif Weithredwr yw gan mai ef yw’r pennaeth Ysgolion.
Aelod Portffolio Addysg Rwy’n cyfeirio at y cwestiwn a byddwn yn ateb mai dim ond yn gynnar ym mis Ionawr y des i’n ymwybodol o’r mater pan wrthododd Swyddfa Archwilio Cymru i arwyddo’r cyfrifon.
Prif Weithredwr Fe ddes i’n llwyr ymwybodol fod Ysgol Uwchradd Llanfyllin yn defnyddio eu cyllideb ddirprwyedig i sybsideiddio cludiant o’r cartref i’r ysgol pan dderbyniais yr Adroddiad Archwilio Mewnol yn cadarnhau’r ffaith yma. Lluniwyd yr adroddiad ar y 24 Chwefror 2016. Cafodd fy sylw ei dynnu’n gyntaf at y tebygolrwydd fod yr ysgol yn defnyddio eu cyllideb ddirprwyedig ar gyfer y diben hwn yng nghanol mis Rhagfyr 2015. Cefais fy nghynghori am y sefyllfa gan y Cyfarwyddwr Strategol Adnoddau.
Mewn ymateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Williams yngl?n â phlant yr Aelod Portffolio Addysg a fynychodd Ysgol Uwchradd Llanfyllin ac a oeddynt wedi gwneud defnydd o’r cludiant a ariannwyd o’r gyllideb ddirprwyedig, dywedodd yr Aelod Portffolio eu bod wedi mynychu ysgol fwydo ar gyfer Ysgol Uwchradd Llanfyllin.
|
|||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio Comisiynu a Chaffael gan y Cynghorydd Sir Gwilym Williams PDF 49 KB A all yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Gomisiynu a Chaffael ddweud wrthyf i ac aelodau’r cyngor faint o arbedion a wnaed yn ystod y 12 mis olaf o ran comisiynu a chaffael, ac a wnewch chi ddarparu rhywfaint o fanylion am yr arbedion yma?
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: A all yr aelod Cabinet dros Gomisiynu a Chaffael ddweud wrthyf i ac aelodau’r Cyngor, faint o arbedion sydd wedi cael eu gwneud dros y 12 mis diwethaf o ran Comisiynu a Chaffael, a allwch gyflwyno ychydig o fanylion ar yr arbedion hyn.
Cyfanswm yr arbedion a gafwyd yn 2015/16 oedd £1,324,117.96 gydag effaith blwyddyn lawn o £2,173,941.88. Mae’r atodiad yn nodi’r manylion.
Mewn ymateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Williams am arbedion ar filiau ffonau symudol, dywedodd yr Aelod Portffolio Comisiynu a Chaffael fod yr arbedion wedi cael eu cyflawni trwy ddileu nifer o gontractau.
|
|||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio Priffyrdd gan y Cynghorydd Sir Graham Jones PDF 50 KB Hoffwnwybod pryd y cyflwynwyd y tendrau cychwynnoI am y contrat gorri glaswellt, sawl cynnig a dderbyniwyd, a pham na lwyddodd y contractwr llwyddiannus i barhau â’r contract, nes bod angen cynnal proses aildendro. Hoffwn hefyd wybod pryd y dechreuodd y broses aildendro, nifer y cynnigion a dderbyniwyd, a’r canlyniad.
Cofnodion: Torri Glaswellt - Hoffwn wybod pryd y cafodd y tendrau cychwynnol eu cyflwyno ar gyfer y contract, faint o geisiadau y cafwyd a pham nad oedd y contractwr llwyddiannus yn gallu parhau gyda’r contract a arweiniodd at broses ail-dendro. Hoffwn wybod hefyd pryd y dechreuodd y broses ail-dendro, nifer y ceisiadau a dderbyniwyd a’r canlyniad.
Cyhoeddwyd y tendr Cynnal a Chadw Tiroedd ar yr 22 Ionawr 2016 fel proses agored. Mynegodd 30 o gyflenwyr ddiddordeb yn y tendr a chyflwynodd naw ohonynt geisiadau yn y pen draw yn erbyn yr eitemau amrywiol. O ran yr elfen ymylon priffyrdd gwledig o fewn y contract, derbyniwyd saith o ymatebion yn erbyn o leiaf un o’r tair eitem.
Cynhaliwyd cyfarfod cychwyn contract ar yr 2 Mehefin 2016 lle dywedodd y contractwr llwyddiannus ar gyfer yr eitemau priffyrdd gwledig fod eu prisio yn anghywir ac y byddai angen iddynt ddyblu eu cais. Nid oedd hyn yn llwyddiannus ar y sail ei fod yn effeithio ar ansawdd sgoriau prisiau o ran ymatebion y cyflenwyr, felly cafodd y contract ei gyflwyno i’r cyflenwr gyda’r sgôr nesaf orau ar gyfer yr eitemau penodol yr wythnos ganlynol.
Mewn ymateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Jones o ran a fu unrhyw wariant ychwanegol o ganlyniad i’r aildendro, dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd nad oedd yn credu y bu unrhyw wariant ychwanegol gan nad oedd angen aildendro ond y byddai’n gwirio hyn ac yn cynnig ymateb ysgrifenedig.
</AI18> <AI19>
|
|||||
Cynnig Brys gan y Cynghorydd Sir Aled Davies ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Gwilym Williams Bod y Cyngor Llawn yn cwrdd i drafod argymhellion yn gysylltiedig â chynigion Ysgolion Cynradd ac Uwchradd sy’n cael eu heffeithio gan Bolisi Trawsnewid y Cyngor a Pholisi Ad-drefnu Ysgolion 2015, i roi gwybod i’r Cabinet am farn y Cyngor cyn bod unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud gan y Cabinet.
Cofnodion: Fe wnaeth y Cyngor drafod y cynnig canlynol a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Aled Davies ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Gwilym Williams.
Y dylai’r Cyngor Llawn gyfarfod i drafod argymhellion sy’n ymwneud â chynigion Ysgolion Cynradd ac Uwchradd a effeithir gan Bolisi Trawsnewid y Cyngor a Pholisi Ad-drefnu Ysgolion 2015, er mwyn cyflwyno gwybodaeth i’r Cabinet am farn y Cyngor cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau gan y Cabinet.
Fe wnaeth y Cynghorydd Sir Aled Davies wrth gyflwyno’r cynnig a’r Cynghorydd Sir Gwilym Williams wrth eilio’r cynnig, gyfeirio at benderfyniad y Cabinet i gau Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Nantmel gan ddweud y dylai’r Cyngor llawn fod wedi cael y cyfle i roi eu barn ar argymhellion sy’n ymwneud ag ysgolion cynradd.
Gofynnodd y Cynghorydd Sir David Evans a’r Cynghorydd Sir Kelvyn Curry a ellid ailystyried y penderfyniad ar Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Nantmel. Dywedodd y Swyddog Monitro fod y penderfyniad wedi’i wneud yn gywir gan y Cabinet yn unol â’r Cyfansoddiad. Gellid herio’r penderfyniad trwy gyflwyno gwrthwynebiadau yn ystod y cyfnod gwrthwynebu oedd ar fynd. Fe wnaeth yr Arweinydd atgoffa’r Cyngor ei fod wedi cynnig cynnwys ysgolion cynradd yn y cynnig a ystyriwyd yn y cyfarfod ar 16 Mehefin. Dywedodd y Cynghorydd Sir Wynne Jones fod ei grwp yn barod i gefnogi’r cynnig gan fod angen symud ymlaen a gwneud penderfyniadau. Cyfeiriodd y Cyngor at yr adroddiad ar Falansau Ysgolion a ystyriwyd gan y Cabinet a oedd yn rhagweld y byddai 70% o ysgolion cynradd gyda diffyg yn eu cyllidebau o fewn tair blynedd.
Cafodd y cynnig ei basio gan 47 pleidlais i 5.
PENDERFYNWYD y dylai’r Cyngor Llawn gwrdd i drafod argymhellion sy’n ymwneud â chynigion am Ysgolion Cynradd ac Uwchradd a effeithir gan Bolisi Trawsnewid y Cyngor a Pholisi Ad-drefnu Ysgolion 2015, er mwyn cyflwyno safbwyntiau’r Cyngor i’r Cabinet cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau gan y Cabinet.
|
|||||
Cynnig Brys gan y Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir William Powell Rydymyn falch i fyw mewn cymdeithas amrywiol a goddefgar. Nid oes gan hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb unrhyw le yn ein gwlad ni. Mae ein cyngor yn condemnio’n hollol bendant unrhyw hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb. Ni fyddwn yn caniatáu i gasineb i fod yn rhywbeth sy’n cael ei dderbyn. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod cyrff a rhaglenni lleol yn cael y cymorth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ymladd ac atal hiliaeth a senoffobia. Rydym am sicrhau pawb sy’n byw yn yr ardal hon eu bod yn aelodau gwerthfawr o’n cymuned.
Cofnodion:
Fe wnaeth y Cyngor drafod y cynnig canlynol a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir William Powell.
Rydym yn falch o fyw mewn cymdeithas amrywiol a goddefgar. Nid oes lle i hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb yn ein sir. Mae ein Cyngor yn condemnio hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb yn ddiamwys. Ni fyddwn yn caniatáu i gasineb ddod yn dderbyniol. Byddwn yn gweithio i sicrhau fod gan gyrff a rhaglenni lleol y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ymladd ac atal hiliaeth a senoffobia. Rydym yn rhoi sicrwydd i’r holl bobl sy’n byw yn yr ardal hon eu bod yn aelodau gwerthfawr o’n cymuned.
Fe wnaeth y Cynghorydd Powell annog y Cyngor i fabwysiadu agwedd broactif trwy’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol, gan dynnu sylw at yr Ymgyrch Pin Cau (Safety Pin) fel ymroddiad i ddiogelwch y cyhoedd. Nodwyd fod y cynnig yn un amserol gan fod teulu o ffoaduriaid o Syria yn cyrraedd yn Ystradgynlais y diwrnod hwnnw. Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai’n edrych ar ffyrdd o gynnig cefnogaeth gyda swyddogion a chynigiodd drafod ffyrdd o gysylltu gyda Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu gyda’r Cynghorydd Powell.
Cafwyd cais am bleidlais wedi’i chofnodi. </AI20> <TRAILER_SECTION>
PENDERFYNWYD ein bod yn falch o fyw mewn cymdeithas amrywiol a goddefgar. Nid oes lle i hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb yn ein sir. Mae ein Cyngor yn condemnio hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb yn ddiamwys. Ni fyddwn yn caniatau i gasineb ddod yn dderbyniol. Byddwn yn gweithio i sicrhau fod gan gyrff a rhaglenni lleol y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ymladd ac atal hiliaeth a senoffobia. Rydym yn rhoi sicrwydd i’r holl bobl sy’n byw yn yr ardal hon eu bod yn aelodau gwerthfawr o’n cymuned.
Dywedodd nifer o aelodau nad oedd y system bleidleisio electronig wedi cofnodi eu pleidlais ond cafodd y cynnig ei basio yn unfrydol gan yr holl aelodau oedd yn bresennol.
|