Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Sir G J Bowker, M J B Davies, C J Gibson-Watt, G G Hopkins, Eldrydd M. Jones, D W Meredith a J G Shearer.
Gofynnodd y Cynghorwyr i'r Cadeirydd ysgrifennu at y Cynghorydd Bowker yn ei llongyfarch ar enedigaeth ei merch.
|
|||||||||||||
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2016 fel cofnod cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Awdurdodwyd y Cadeirydd i arwyddo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2016 fel cofnod cywir.
|
|||||||||||||
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadua o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir T J Van-Rees fuddiant sy'n rhagfarnu pan fyddai Stad Ffermydd y Sir yn cael ei drafod fel rhan o'r drafodaeth ar y Rhaglen Gyfalaf.
|
|||||||||||||
Datganiad Blynyddol y Ddarpariaeth Lleiafswm Refeniw Diwygiedig 2016/17 PDF 125 KB Ystyried Datganiad Blynyddol y Ddarpariaeth Lleiafswm Refeniw Diwygiedig ar gyfer 2016/17.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor y dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw (MRP) ar gyfer 2016/17. Esboniodd yr Aelod Portffolio - Cyllid mai'r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw oedd y tâl blynyddol y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ei wneud ar gyfer ad-dalu atebolrwydd am ddyled. Dylid ystyried hyn yng nghyd-destun y gofyniad cyllido cyfalaf sy'n wariant cyfalaf nad yw'n cael ei ariannu o adnoddau refeniw, grantiau cyfalaf neu dderbynebau, ond o fenthyca. Cynigiwyd newid y dull o gyfrifo'r MRP o gyfradd o 4% ar sail ostyngol i 2% ar sail llinell syth. Cafwyd cyngor proffesiynol annibynnol manwl a nodwyd bod Archwilydd Cyffredinol Swyddfa Archwilio Cymru wedi ysgrifennu'n ddiweddar at holl awdurdodau Cymru yn cadarnhau bod yr addasiad i'r polisi yn fater i'w benderfynu'n lleol. Eglurodd yr Aelod Portffolio - Cyllid y byddai hyn yn byrhau'r cyfnod dros yr hwn y byddai benthyciadau yn cael eu had-dalu ac yn dod â mwy o sicrwydd ynghylch y cyfnod o amser y byddai angen gwneud taliadau yn y dyfodol. Amcangyfrifwyd y byddai newid i'r dull hwn yn arbed £3 miliwn yn 2016/17.
|
|||||||||||||
Ystyried y gyllideb ar gyfer 2016/17, y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2016-2021.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor y gyllideb ar gyfer 2016/17, Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2016/2019 a Rhaglen Gyfalaf 2016/2021. (Mae copi wedi'i ffeilio gyda'r cofnodion a arwyddwyd).
Esboniodd yr Aelod Portffolio - Cyllid fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn ogystal â chyflwyno cyllideb gytbwys ar gyfer 2016/17, yn nodi cynigion dros dro hyd at 31ain Mawrth 2019, gan roi sefyllfa gytbwys dros dair blynedd. Wrth gyflwyno'r adroddiad diolchodd yr Aelod Portffolio i'w gydweithwyr ar y Cabinet, aelodau'r Pwyllgor Craffu a swyddogion am eu gwaith wrth lunio'r gyllideb. Cydnabu hefyd y cyllid ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a chefnogaeth Aelodau'r Cynulliad yn lobïo am hyn a oedd yn golygu nad oedd yn rhaid i'r Cabinet gyflwyno nifer o doriadau i wasanaethau a oedd wedi bod dan ystyriaeth. Atgoffodd yr Aelod Portffolio - Cyllid y Cyngor am yr arbedion a gyflawnwyd eisoes ac am yr arbedion sydd i'w gwneud o hyd at 2020. Er gwaetha'r angen i wneud arbedion roedd y Cabinet yn argymell amddiffyn y gyllideb ysgolion o £1.273 miliwn a rhoi cyllid ychwanegol o 2% ar gyfer cyllideb y Gofal Cymdeithasol i Oedolion gan fod y cyhoedd wedi rhoi cefnogaeth glir i hyn yn yr ymgynghoriad. Esboniodd yr Aelod Portffolio - Cyllid mai'r dull a gymerwyd gan y Cabinet oedd cyflwyno cyllideb ar gyfer newid oedd yn cadw gwasanaethau rheng flaen heb eu cwtogi drwy gefnogi'r agenda trawsnewid. Roedd y Cabinet yn argymell cynnydd o 4.25% yn Nhreth y Cyngor ac esboniodd yr Aelod Portffolio - Cyllid fod £500,000 wedi cael ei gymryd o'r cronfeydd wrth gefn i leihau'r cynnydd a argymhellwyd o 5%.
Atebodd yr Aelodau Portffolio gwestiynau gan yr Aelodau. Mewn ymateb i'r sylwadau am yr Asesiadau Effaith Integredig Sengl (SIIAs), cytunodd yr Aelod Portffolio - Cyllid fod angen iddynt gael eu cwblhau yn fwy cyson a chywir. Dywedodd y byddai hyfforddiant a chanllawiau yn cael eu rhoi i swyddogion fyddai yn eu cwblhau. Byddai hyfforddiant yn cael ei roi hefyd i aelodau portffolio gan fod angen iddynt eu llofnodi. Byddai gwaith ar SIIAs y flwyddyn nesaf yn dechrau ym mis Ebrill a mis Mai.
Mynegodd nifer o Aelodau bryderon ynghylch rhai o'r arbedion arfaethedig a heriwyd yr Aelodau Portffolio ynghylch effaith arbedion ar wasanaethau. Esboniodd yr Aelod Portffolio - Cyllid fod toriadau ar y raddfa roedd yn rhaid i'r Cyngor eu cyflwyno yn gofyn am ailfeddwl ynghylch sut y caiff gwasanaethau eu darparu gan gynnwys trosglwyddo gwasanaethau i gymunedau fel dewis yn hytrach na'u dileu. Dadleuodd nifer o aelodau fod lefel arfaethedig Treth y Cyngor yn anfforddiadwy, a bod y fformiwla ariannu yn annheg. Dywedodd yr Aelod Portffolio - Cyllid y byddai gosod Treth y Cyngor yn is yn peryglu unrhyw gymorth gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol a'i fod ar ddeall bod y fformiwla ariannu yn cael ei hadolygu.
Gadawodd y Cynghorydd Sir P Harris am 11:58 a.m. Cyrhaeddodd y Cynghorydd Sir W D Powell am 12:35 p.m.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir D R Price ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir A G Thomas ... view the full Cofnodion text for item CC19- 2016 |
|||||||||||||
Penodiad ar gyfer Gofal a Thrwsio Ystyried penodi aelod i wasanaethu ar Ofal a Thrwsio.
Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cyngor ystyried gwneud apwyntiad i Gofal a Thrwsio. Enwebwyd y Cynghorwyr Sir G. M. Jones a K.M. Roberts-Jones. Yn dilyn pleidlais
|
|||||||||||||
1. A all yr aelod portffolio rhoi gwybod faint o aelwydydd sy’n dal i gael casgliadau sachau porffor a’r rhesymeg tu ol i’r pris am ragor o sachau porffor?
2. A all yr aelod portffolio rhoi gwybod beth yw costau cynghorau eraill sydd ar y system sachau?
Cofnodion: 1. A allai'r aelod portffolio roi gwybodaeth am nifer yr aelwydydd sy'n dal ar gasgliadau sachau porffor ac esbonio'r penderfyniad a wnaed ynghylch costau prynu sachau porffor newydd?
2. A allai'r aelod portffolio nodi'r costau a godir gan gynghorau eraill sy'n gweithredu'r system sachau?
1. Ar hyn o bryd mae 13,700 eiddo yn cael eu gwastraff gweddilliol wedi ei gasglu mewn sachau porffor. Mae'r rhain yn gartrefi a ystyrir yn anaddas ar gyfer biniau olwynog, sef y dewis a ffafrir lle gellir trefnu hynny. Mae pob eiddo yn derbyn dyraniad blynyddol o sachau porffor am ddim (3 rholyn o 26 o fagiau) sy'n cyfateb i fin olwynog 180 litr safonol llawn wedi ei gasglu bob tair wythnos. Mae hyn yn golygu bod gan bob eiddo, p'run a ydynt ar sachau porffor neu finiau olwynog, yr un capasiti ar gyfer eu gwastraff gweddilliol dros gyfnod o ddeuddeg mis. Os oes ar drigolion angen capasiti ychwanegol mae'n rhaid iddynt brynu sachau porffor ychwanegol.
Mae cost y sachau ychwanegol (£51.88 am bob rholyn o 26) yn mynd tuag at dalu am y costau casglu a gwaredu a hefyd yn annog preswylwyr i gynyddu faint y maent yn ei ailgylchu ac felly leihau unrhyw angen am gapasiti gweddilliol ychwanegol. Nid oes cyfyngiad ar nifer y cynwysyddion ailgylchu y gallai aelwydydd eu cael a'u rhoi allan.
2. Mae awdurdodau ar draws Cymru yn cynnig nifer o systemau gwahanol ar gyfer casglu gwastraff gweddilliol sy'n gwneud cymharu costau'r bagiau yn anodd. Mae gan Gyngor Dinas Caerdydd system debyg gyda thâl am gapasiti ychwanegol (£10 am y pum bag cyntaf a £1.85 y bag ar ôl hynny), tâl sy'n debyg i dâl Powys.
Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.
Materion Eraill Roedd y Cyngor yn falch o nodi llwyddiant CFfI Dyffryn Tanat a Bro Ddyfi yng Ng?yl Ddrama CFfI Sir Drefaldwyn.
|