Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Sir, Llandrindod
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Sir MJB Davies, MJ Dorrance, MR Harris, A Holloway, H Lewis a PC Pritchard.
Hysbyswyd yr Aelodau bod y Cynghorydd Sir Holloway yn mynd i’r ysbyty a gofynnwyd i’r Cadeirydd anfon dymuniadau gorau ati ar ran y Cyngor.
|
|||||
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau sy’n ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Sir MC Alexander, PE Lewis, WD Powell a DR Price fuddiannau personol a rhagfarnus yn eitem C88 – 2015 Hysbysiad o Gynnig Cyllid a Chymorth i Glybiau Ffermwyr Ifanc. Datganodd y Cynghorwyr PJ Ashton, DR Jones, DW Meredith, ET Morgan, RG Thomas, TJ Van Rees a GP Vaughan fuddiannau personol anrhagfarnus yn yr eitem hon.
|
|||||
Awdurdodi’rCadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf a 18 Medi 2015 fel cofnodion cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Awdurdodwyd y Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf a 18 Medi 2015 fel cofnodion cywir.
|
|||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. Cofnodion: Adroddodd Cadeirydd y Cyngor ar rai o’r gweithgareddau a ymgymerwyd ganddo. Diolchodd i’r swyddogion am eu gwaith ar arddangosfeydd y Cyngor yn Sioe Frenhinol Cymru ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod. Diolchodd y benodol i’w ysgrifennydd Elizabeth Protheroe am ei gwaith yn trefnu gorymdaith canmlwyddiant lwyddiannus y Gwarchodlu Cymreig yn Aberhonddu.
|
|||||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. Cofnodion: Yn ei gyhoeddiadau, cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at lwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol, a oedd wedi rhoi hwb o £7m i’r economi lleol ac a fynychwyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Prif Weinidog. Atgoffodd yr Aelodau o’r gwaith parhaus ar y gyllideb, gyda dwy seminar wedi eu cynnal eisoes a thrydydd i’w chynnal ar 18 Rhagfyr.
|
|||||
Briff gan y Prif Weithredwr Derbyn briff gan y Prif Weithredwr. . Cofnodion: Adroddodd y Prif Weithredwr bod 80 o geisiadau wedi dod gan fusnesau Powys dan gynllun grant Taleb Band Eang Llywodraeth Cymru. Talodd deyrnged i ddau o fabolgampwyr Powys, Rachel Atherton a oedd wedi ennill ei phedwerydd teitl rasio beic mynydd, a Chas Davies a oedd yn ail ym Mhencampwriaeth Superbike y Byd ar ôl ennill pum râs eleni. Hysbysodd yr Aelodau bod y Cyfarwyddwr Strategol, Adnoddau, wedi ei benodi i’r Panel Dyfodol Cyllid a sefydlwyd gan Leighton Andrews, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus. Amlygodd y Prif Weithredwr lwyddiannau nifer o aelodau staff, gan gynnwys staff o’r gwasanaethau Adeiladu, Arlwyo a Glanhau a oedd wedi eu dodi ar y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau cenedlaethol Rhagoriaeth y Gymdeithas Gwasanaethau Cyhoeddus a Nina Davies, Swyddog Mynediad Cefn Gwlad, a oedd wedi cwblhau Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol. Yn olaf, llongyfarchodd Neil Clutton o’r Gwasanaethau Eiddo, a oedd wedi beicio ar hyd yr Eidal yn codi arian i Cancer Research UK.
|
|||||
Trosglwyddiadau sydd angen eu Cymeradwyo gan y Cyngor PDF 46 KB Ystyriedcymeradwyo’r trosglwyddiadau yn y gyllideb cyfalaf. Cofnodion:
Holwyd Deiliad y Portffolio ar gyfer Addysg yngl?n â’r trosglwyddiad mewn perthynas ag oedi gyda’r estyniad yn Ysgol Glantwymyn pan roedd dangosyddion perfformiad yn dangos bod y prosiect ar y llwybr cywir. Dywedodd bod oedi wedi bod yn cyflwyno’r achos busnes ar gyfer y cynllun, ond y byddai’n cael ei wneud erbyn diwedd y flwyddyn. Byddai’n sicrhau bod y dangosydd perfformiad yn cael ei newid i adlewyrchu hyn ac y byddai’n hysbysu’r aelodau lleol o’r amserlen.
|
|||||
Gwerthusiad a Chrynodeb Perfformiad Blynyddol Cynllun Powys yn Un DRAFFT 2014 - 15 PDF 98 KB Ystyriedadroddiad blynyddol Cynllun Powys yn Un – gwerthusiad drafft. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Cyngor berfformiad, gwerthusiad a chrynodeb blynyddol drafft Cynllun Powys yn Un ar gyfer 2014/15.
|
|||||
Cynllun Datblygu Lleol Powys - Cytundeb Cyflwyno Diwygiedig PDF 100 KB Ystyriedadroddiad ar Gytundeb Cyflwyno Diwygiedig Cynllun Datblygu Lleol Powys Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbyswyd y Cyngor bod mwy na 900 o ymatebion wedi eu derbyn yn ystod y cyfnod ymgynghori adneuo a bod angen felly addasu’r amserlen cytundeb cyflawni i roddi amser i swyddogion ystyried y sylwadau. Gofynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy am sicrhad na fyddai’r Pwyllgor yn cael ei adael mewn sefyllfa fregus yn y cyfamser cyn mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol. Dywedodd Deiliad y Portffolio ar gyfer Adfywio a Chynllunio bod y gwasanaeth wedi holi Llywodraeth Cymru ac roedd yn hyderus y byddai’r CDU a’r papurau pwnc newydd yn ddigonol yn y cyfnod interim.
|
|||||
Argymhellion gan y Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 Ystyriedargymhellion y Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 ar gyfer: |
|||||
Adolygu Polisi Trwyddedu Powys PDF 64 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ystyriodd y Cyngor y Datganiad o Bolisi Trwyddedu ar gyfer Powys, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003.
|
|||||
Datganiad Egwyddorion Drafft, y Ddeddf Hapchwarae 2005 PDF 58 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor y Datganiad o Egwyddorion ar gyfer Deddf Gamblo 2005 fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003.
|
|||||
Proses ar gyfer penodi aelod annibynnol newydd i'r Pwyllgor Safonau PDF 99 KB Derbyn ac ystyried adroddiad y Cyfreithiwr i’r Cyngor a’r Swyddog Monitro. Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor y broses ar gyfer penodi aelod annibynnol newydd i’r Pwyllgor Safonau.
|
|||||
Rhybudd o Gynnig - Cyllid a Chymorth ar gyfer CFfI Ffermwyrifanc yw
dyfodolein cymunedau acrydym yn
creduy dylentgael yr hollgefnogaeth
angenrheidioli'w helpu i dyfu.
Mae diogelucyllid a
chefnogaethyn hanfodol i’r
clybiauhyn gan eu bodyn caniatáu
iglybiaucynnalrhaglenniaddysgiadol ar
gyferpobl ifanc sy'n bywym
Mhowys. Mae
Gr?pCeidwadwyr Cymru, Cyngor Sir
Powyswedi ymrwymoi
ddiogelucyllid achefnogaeth i Glybiau Ffermwyr
Ifancym Mhowys. Cofnodion: Gadawodd y Cynghorwyr Sir MC Alexander, WD Powell a DR Price y Siambr tra’r ystyriwyd yr eitem hon ar ôl iddynt ddatgan buddiannau personol a rhagfarnus.
Trafododd y Cyngor y cynnig canlynol a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir GD Price ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir AW Davies:
“Ffermwyr ifanc yw dyfodol ein cymunedau a chredwn y dylid rhoi’r holl gymorth angenrheidiol iddynt i’w helpu i ffynnu.
Y Clwb Ffermwyr Ifanc (CffI) yw’r mudiad ieuenctid gwledig mwyaf yng Nghymru. Ledled Cymru, mae’r mudiad hwn yn garreg gamu fawr i lawer o bobl ifanc ddechrau mewn ffermio ac yn gyfle i bobl ifanc ddysgu a datblygu sgiliau pwysig, cael hyfforddiant amhrisiadwy a chymryd rhan yn eu cymunedau lleol.
Mae diogelu cyllid a chymorth yn hanfodol i’r clybiau hyn gan eu bod yn caniatáu i’r clybiau gynnal rhaglenni addysgol i bobl ifanc sy’n byw ym Mhowys. Mae gan Gr?p Ceidwadwyr Cymru ar Gyngor Sir Powys ymrwymiad i ddiogelu cyllid a chymorth i Glybiau Ffermwyr Ifanc ym Mhowys.
Rydym felly’n cynnig bod cyllid a chymorth i’r dyfodol yn aros ar y lefel bresennol i holl Glybiau Ffermwyr Ifanc ym Mhowys.”
Cyflwynodd y Cynghorydd Sir RG Brown, a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir WT Jones y gwelliant canlynol:
“Bod y Cyngor yn cydnabod y rhan hanfodol a chwaraeir ar hyn o bryd gan y mudiad CFfI, fel rhan o’r Gwasanaeth Ieuenctid rhagorol sydd ar gael ar hyn o bryd ym Mhowys. Fodd bynnag, gyda’r Cyngor yn gorfod canfod arbedion o £27m o leiaf yn y 3 blynedd nesaf, mae disgwyl i bob gwasanaeth wneud cyfraniad i’r targed arbedion heriol hwn. Cyn belled ag y mae dyfodol y Gwasanaeth Ieuenctid yn y cwestiwn, mae trafodaethau ar y gweill ar hyn o bryd gyda rhanddeiliaid perthnasol ym Mhowys, er mwyn ail-fodelu’r gwasanaeth yn llwyr. Mae’r Cyngor yn cydnabod ac yn croesawu cynhwysiad y mudiad CFfI yn y trafodaethau hyn, ynghyd â darparwyr eraill a fydd, gobeithio, yn arwain at Wasanaeth Ieuentid rhagorol wedi ei ailwampio, sy’n medru gwasanaethu holl bobl ifanc Powys, y medrwn oll ymfalchïo ynddo.” Ni chafodd cais am bleidlais gofnodedig y nifer gofynnol yn cefnogi. Bod y Cyngor yn cydnabod y rhan hanfodol a chwaraeir ar hyn o bryd gan y mudiad CFfI, fel rhan o’r Gwasanaeth Ieuenctid rhagorol sydd ar gael ar hyn o bryd ym Mhowys. Fodd bynnag, gyda’r Cyngor yn gorfod canfod arbedion o £27m o leiaf yn y 3 blynedd nesaf, mae disgwyl i bob gwasanaeth wneud cyfraniad i’r targed arbedion heriol hwn. Cyn belled ag y mae dyfodol y Gwasanaeth Ieuenctid yn y cwestiwn, mae trafodaethau ar y gweill ar hyn o bryd gyda rhanddeiliaid perthnasol ym Mhowys, er mwyn ail-fodelu’r gwasanaeth yn llwyr. Mae’r Cyngor yn cydnabod ac yn croesawu cynhwysiad y mudiad CFfI yn y trafodaethau hyn, ynghyd â darparwyr erail a fydd, gobeithio, yn arwain at Wasanaeth Ieuentid rhagorol wedi ei ailwampio, sy’n medru gwasanaethu holl bobl ifanc Powys, y medrwn oll ymfalchïo ynddo.”
|
|||||
Personal Statement Cofnodion: Gwnaeth y Cynghorydd Sir RG Thomas ddatganiad personol i’r Cyngor yn ei hysbysu o’i ymddiswyddiad fel Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Lle.
|
|||||
Urgent Notice of Motion Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn yr hysbysiad o gynnig canlynol ac wedi cytuno ei ganiatáu fel eitem frys:
“Yn wyneb yr achos llys yn ddiweddar a’r ddedfryd ddilynol, er mwyn amddiffyn uniondeb y Cyngor a phrosesau Archwilio, bod y Cyngor felly yn tynnu’r Cynghorydd Aled Davies o’r Pwyllgor Archwilio.”
Cynigiwr Y Cyngh. Sandra C Davies
Eilyddion Y Cyngh. Wynne Jones, Y Cyngh. RG Brown, Y Cyngh. WB Thomas
Hysbysodd y Cynghorydd Davies y Cyngor o amgylchiadau’r ddedfryd.
Yn wyneb yr achos llys yn ddiweddar a’r ddedfryd ddilynol, er mwyn amddiffyn uniondeb y Cyngor a phrosesau Archwilio, bod y Cyngor felly yn tynnu’r Cynghorydd Aled Davies o’r Pwyllgor Archwilio
|
|||||
Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad |
|||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio dros Addysg gan y Cynghorydd Sir John Morris PDF 64 KB Ym mis Ionawr a mis Mawrth eleni fe'n
hysbyswyd bod y cabinet yn cyflwyno polisi moderneiddio ysgol
uwchradd ar gyfer Powys a fyddai'n mynd i'r afael â'r
gorwariant mewn cyllidebau dirprwyedig ysgolion yn y dyfodol agos
ac yn cynnig ystod dda o gyfleoedd addysgol i'n holl ddisgyblion
oedran ysgol uwchradd.
Cofnodion: Ym misoedd Ionawr a Mawrth eleni, fe’n hysbyswyd bod y cabinet yn cyflwyno polisi moderneiddio ysgolion uwchradd ar gyfer Powys a fyddai’n delio â’r gorwario ar gyllidebau dirprwyedig ysgolion yn y dyfodol agos ac yn cynnig amrediad eang o gyfleoedd addysgol i bob un o’n disgyblion oedran ysgol uwchradd. Ar ôl y drafodaeth ddiweddar yn y cabinet, ymddengys nawr y bu newidiadau sylfaenol i’r agwedd bolisi hon a all beryglu cyfeiriad cyfan holl ysgolion uwchradd ym Mhowys yn y dyfodol.
Ymddengys nawr nad oes unrhyw gyfeiriad, amserlen na chostau gweladwy a dim polisi moderneiddio ysgolion uwchradd yn bodoli ym Mhowys. Mae hyn wedi achosi llawer iawn o bryder i ysgolion a rhieni fel ei gilydd.
A fedrwch chi ein hysbysu o statws ac amserlen bresennol y polisi moderneiddo ysgolion uwchradd, gyda chyfeiriad penodol at sut rydych yn bwriadu ariannu’r model presennol yn y cyfamser a sut rydych yn bwriadu diogelu a gwella lefelau perfformiad ein disgyblion ysgol uwchradd yn wyneb y toriadau difrifol i gyllidebau ysgol a gynigir?
Medraf eich sicrhau bod yna Gynllun Rhaglen clir ar gyfer y Rhaglen Ad-drefnu Ysgolion Uwchradd. Tra rwy’n cydnabod y bu peth llithriant yn amserlenni’r Rhaglen er mwyn ystyried canlyniad arolygiadau gan y Cabinet, nid yw’r rhain yn effeithio’r amserlenni cyffredinol y byddai eu hangen er mwyn cael unrhyw newid strwythurol. Byddwch hefyd yn ymwybodol bod hwn yn faes gwaith cymhleth iawn, ac mae angen i’r Awdurdod gymryd yr amser priodol i sicrhau bod y broses ddyledus yn cael ei dilyn yn y cyfnodau cynnar, i osgoi oedi pellach yn ddiweddarach. Amlinellir diweddariad ar bob un o’r blaenoriaethau isod:
Blaenoriaeth 1: Campws Dysgu’r Bannau. Cymeradwwyd yr achos amlinell strategol gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2015 a gofynnwyd i’r Awdurdod ddatblygu achos busnes amlinell, cam nesaf y broses dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Fodd bynnag, er mwyn cydymffurfio’n llwyr â pholisi ac osgoi heriau cyfreithiol yn y dyfodol, mae’r prosiect ar hyn o bryd yn y cyfnod ‘oedi ac arolygu’. Mae’r cynnig gwreiddiol i gau Ysgolion Uwchradd Gwernyfed ac Aberhonddu erbyn Medi 2017 yn cael ei adolygu ynghyd ag amrywiol opsiynau eraill, yn unol â Chyfnod 1 y Broses Adolygu Ysgolion yn y Polisi Gweddnewid Ysgolion 2014. Cwblheir y cyfnod hwn yn yr ychydig fisoedd nesaf, a bydd argymhelliad newydd yn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet at ddiwedd y flwyddyn. Bydd ymgynghoriad ffurfiol (yn dibynnu ar yr argymhelliad a gytunir) yn digwydd yn Nhymor y Gwanwyn 2016 gyda’r penderfyniad terfynol i’w wneud erbyn Gorffennaf 2016. Y cynharaf y gallai unrhyw newid strwythurol/gweithdrefnol ddigwydd fydd mis Medi 2017 – dyma’r union amserlen ag a gynigiwyd yn wreiddiol.
Ar ôl cwblhau’r cyfnod hwn yn y broses, cyflwynir achos busnes amlinell i Lywodraeth Cymru, yn adlewyrchu’r argymhellion newydd, heb beryglu canlyniad unrhyw ymgynghoriad ffurfiol, er mwyn i ni fedru sicrhau’r cyllid cyfalaf sydd mawr ei angen.
Blaenoriaeth 2: Arolwg Canolbarth Powys. Mae’r holl opsiynau ar gyfer Ysgolion Uwchradd Llandrindod a Llanfair ym Muallt yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd, yn unol â ... view the full Cofnodion text for item CC89- 2015a |
|||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd gan y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance PDF 52 KB A all yr Aelod Cabinet rhoi datganiad ar gynlluniau’r Cyngor ar gyfer Marchnad Aberhonddu?
Cofnodion: A fedr yr Aelod Cabinet roi datganiad ar gynlluniau’r Cyngor ar gyfer Marchnad Aberhonddu?
Mae nifer o opsiynau sydd angen eu trafod mewn perthynas â dyfodol Neuadd y Farchnad Aberhonddu. Mae’n amlwg bod angen buddsoddiad arwyddocaol ar Neuadd y Farchnad i sicrhau ei dyfodol hirdymor. At hyn, bu adfywio Aberhonddu yn destun trafodaeth am lawer o flynyddoedd ac wrth i’r prosiect Cyfrwng a Gefnogir gan Asedau Lleol gyrraedd cyfnod critigol yn yr ychydig wythnosau nesaf, bydd posibiliadau i adfywio eiddo yn Aberhonddu yn dod yn gliriach. Cynhwysir y mater hwn ym Mhortffolio Aelod y Cabinet ar gyfer Adfywio, ac mae gwaith y CGALl yn torri ar draws llawer o bortffolios eraill, gan gynnwys Priffyrdd. Fel y mae’r Cynghorydd Durrance yn gwybod, trefnwyd cyfarfod ar gyfer Dydd Mawrth 3 Tachwedd gydag Aelodau Lleol, Deiliaid Portffolios priodol ac Uwch Swyddogion i drafod opsiynau ar gyfer y dyfodol a sut gellir symud ymlaen gyda’r rhain. Rwy’n edrych ymlaen at y cyfarfod ar 3 Tachwedd, a byddaf yn cysylltu ag Aelodau Lleol i esbonio’r posibiliadau hyn a sut gellir eu gwireddu o ystyried yr heriau ariannol y mae’r Cyngor yn eu wynebu.
Nid oedd cwestiwn atodol.
|
|||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio dros Wasanaethau Plant gan y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance Sutmae’r Cyngor yn gweithio i ymdrin â thlodi plant yn Ward Sant Ioan?
Cofnodion: Sut mae'r Cyngor yn gweithio i ddelio â thlodi plant yn Ward St John?
Ein Hagwedd Strategol
Mae’r Cyngor (a’i bartneriaid) yn delio’n strategol â’i gyfrifoldebau gwrth-dlodi trwy Gynllun Powys yn Un, yn hytrach na chael Strategaeth Gwrth-Dlodi ar wahân. Mae tlodi yn fater traws-faes yng Nghynllun Powys yn Un 2014-17 i’r holl bartneriaid ym Mhowys ar gyfer dinasyddion o bob oedran. Mae hyn yn caniatáu i effeithiau tlodi gael eu hystyried a’u trin mewn modd cydweithredol a strategol yn hytrach na fesul un.
Hyrwyddwr Gwrth-dlodi a Gr?p Ymchwil Cymdeithasol Gwrth-dlodi traws-bleidiol Fel yr argymhellwyd trwy’r Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi, rhan o Raglen Llywodraeth Cymru, penododd yr Arweinydd y Cynghorydd Joy Jones fel Hyrwyddwr Gwrth-dlodi’r Cyngor.
I gefnogi gwaith y Cynghorydd Jones, mae’r cyn ‘Gr?p Strategaeth Gwrth-dlodi’ wedi ail-ystyried ei gylch gorchwyl i roddi mwy o bwyslais ar ymgysylltiad a chasglu tystiolaeth o dlodi ac effaith tlodi yn ein cymunedau.
Wrth fesur cyflawniad y rhaglen gwrth-dlodi sydd o fewn Cynllun Powys yn Un 2014-17 ynghyd â gofyniad Llywodraeth Cymru i adrodd mewn cysylltiad â’i Gynllun Trechu Tlodi, cydnabyddir bod angen mwy o waith i gasglu, yn fwy effeithiol, y camau a’r gwelliannau amrywiol a ymgymerwyd gan y cyngor yn ei wasanaethau, wrth gyflawni ei raglen gwrth-dlodi ledled y Sir.
I helpu i gyflawni hyn, mae ‘Fframwaith Atebolrwydd Trechu Tlodi’ yn cael ei ddatblygu a bydd yn darparu cynllun gwaith cydgysylltiedig i’r Gr?p Ymchwil Cymdeithasol Gwrth-dlodi ei werthuso a herio effeithiolrwydd gweithgareddau’r cyngor, a rhoi sicrhad i’r aelodau.
Tlodi Plant
Mae ymyriadau wedi eu hanelu’n benodol tuag at leihau effeithiau tlodi plant yn cael eu cynllunio a’u cyflawni trwy’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc.
Mae’r Cynllun Teuluoedd yn Gyntaf yn nodi ein blaenoriaethau i drechu anfantais a thlodi i blant a’u teuluoedd hyd at 2017. Mae’n cynnwys amrywiaeth o wasanaethau/brosiectau a gomisiynwyd i roddi cymorth ac ymyriad cynnar i blant, pobl ifanc a theuluoedd lle mae tlodi yn debygol o fod yn ffactor allweddol sy’n effeithio eu bywydau.
Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaethau Iechyd Meddwl a Llesiant, cymorth i Deuluoedd ac Ymddygiad ac Anabledd. Mae’r cynllun hefyd yn amlinellu’r blociau adeiladu seilwaith rydym yn eu trefnu i sicrhau bod anghenion teuluoedd yn cael eu hadnabod a’u hasesu mor gynnar ag y bo modd a’u bod yn cael mynediad at wasanaethau ar y lefel briodol, ar yr adeg briodol iddyn’ nhw.
Mae gan Bowys hefyd y Gwasanaeth Dechrau’n Deg yn y wardiau mwyaf difreintiedig yn Ystradgynlais, Aberhonddu (gan gynnwys Ward St Johns), Llandrindod, y Drenewydd a’r Trallwng. Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig cymorth ychwanegol a gofal plant am ddim i deuluoedd yn yr ardaloedd hyn gyda phlant dan 4 oed.
Mae’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc (PPPhI) yn monitro ei pherfformiad yn chwarterol trwy ei chynlluniau gwaith a’i cherdyn adroddiad Atebolrwydd Seiliedig ar Ganlyniadau.
Mae’r cerdyn adrodd hwn yn cynnwys dangosyddion allweddol mewn perthynas â thlodi ym Mhowys, gan gynnwys:
|
|||||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio dros Addysg gan y Cynghorydd Sir David Meredith A all yr Aelod Portffolio Addysg rhoi gwybod i ni beth oedd y cynsail a ddefnyddiwyd ganddo a arweiniodd iddo roi cludiant am ddim i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg o Aberhonddu i Lanfair-ym-Muallt?
Cofnodion: A fedr Deiliad y Portffolio Addysg ddweud pa gynsail a ddefnyddiodd a arweiniodd ato’n rhoi cludiant am ddim i Fyfyrwyr Cyfrwng Cymraeg o Aberhonddu i Lanfair-ym-Muallt?
Hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Meredith am y cwestiwn.
Gosodwyd y cynsail ym mis Mehefin 2009 pan roedd plentyn wedi gwneud cais i fynychu Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt a oedd yn Ysgol Uwchradd Ddwyieithog Categori 2a yn hytrach nag Ysgol Uwchradd Aberhonddu a oedd yn Gategori 3.
Bryd hynny, cydnabodd y Rheolwr Moderneiddio Ysgolion nad oedd Aberhonddu yn darparu’r lefel a’r dilyniant yn y Ddarpariaeth Iaith Gymraeg a ddisgwyliwyd gan y rhieni, ac felly cytunwyd caniatáu’r apêl
Nid oedd cwestiwn atodol.
|
|||||
Cwestiwn i'r Arweinydd gan y Cynghorydd Sir Gary Price Gyda Chyngor Sir Powys yn gwneud cymaint o doriadau i nifer y staff a’r disgwyliad iddynt ymgymryd â mwy o waith, a all yr Arweinydd cyfiawnhau pam ei fod yn credu ei fod yn dderbyniol i gynyddu ei Gabinet o 9 i 10 o aelodau sy’n golygu cynnydd yn y taliadau SRA o £21,535 ar gyfer 2014/15 ynghyd â chynnydd yr Uwch Reolwyr a Phrif Swyddogion?
Cofnodion: Pa fo Cyngor Sir Powys yn gwneud cymaint o doriadau i niferoedd staff ac yn disgwyl iddynt gael baich gwaith mwy, a fedr yr Arweinydd gyfiawnhau pam yr oedd yn credu ei bod yn dderbyniol iddo gynyddu ei Gabinet o 9 i 10 aelod, gan arwain at gynnydd mewn taliadau SRA o £21,535 ar gyfer 2014/15 ynghyd â chynnydd mewn Uwch Reolwyr a Phrif Swyddogion?
Mae cyfiawnhad i aelod ychwanegol ar y Cabinet oherwydd yr amgylchiadau rydym ynddynt fel Cyngor yn wynebu’r her o gyflwyno gwasanaethau gyda chyllideb lawer llai. Teimlais bod angen dod â Deiliad Portffolio arall ar y Cabinet er mwyn i mi ildio’r cyfrifoldebau portffolio roedd gennyf cynt er mwyn canolbwyntio ar roddi cyfeiriad strategol i’r Cabinet ac ar weithio gyda phartneriaid eraill. Roedd nifer o ffactorau y tu ôl i’r cynnydd mewn taliadau cyflogau uwch, gan gynnwys gweithredu’r cynnydd IRPW mewn cyflogau sylfaenol sy’n elfen o gyflogau uwch. Cost cynyddu’r Cabinet o 9 i 10 oedd rhyw £3,398 yn 2014/15 ond roedd hyn eisoes yng nghyllideb y Cyngor, a gytunwyd. Nifer yr Uwch Reolwyr ac uwch ar 27ain Chwefror, 2015 oedd 41. Ar 26ain Mehefin 2015 cynyddodd hyn i 42, ond ar 30ain Medi, 2015 roedd y nifer wedi gostwng i 41. Nid oedd cwestiwn atodol.
|
|||||
Urgent Question from County Councillor Gary Price to the Portfolio Holder for Property Buildings and Housing Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi cytuno caniatáu’r cwestiwn brys canlynol.
Faint y mae Cyngor Sir Powys wedi ei dderbyn mewn ffïoedd Trwyddedu Tai Aml-ddeiliad ers ei gyflwyniad a faint sydd wedi, ac sy’n debygol o gael ei ad-dalu i Landlordiaid ar ôl y cyfarfod diweddar a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir?
Ers pan gyflwynwyd y Cynllun Trwyddedu Tai Aml-ddeiliad Ychwanegol yn Llandrindod ym mis Ionawr 2011, mae’r cyngor wedi casglu £10,220 mewn incwm ffïoedd gan landlordiaid, yr oedd eu heiddo ar y pryd yn rhai a oedd angen trwydded.
Ar 19eg Hydref, mae trefniadau wedi eu gwneud i ad-dalu dau landlord gyfanswm o £480, ar ôl archwilio 6 o Dai Aml-ddeiliad gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd a Swyddog Tân. O’r chwe eiddo, aseswyd bod pedwar i’w heithrio o’r cynllun ac maent wedi cael tystysgrifau eithrio.
Mae’n amhosibl amcangyfrif cyfanswm yr incwm ffïoedd a fydd angen ei ad-dalu i landlordiaid, gan ei fod yn dibynnu ar ddau ffactor. Yn gyntaf, cyflwr pob eiddo pan gaiff ei archwilio, ac yn ail, unrhyw incwm ffïoedd sy’n ddyledus i’r cyngor gan unrhyw landlord, ar gyfer eiddo nad yw wedi ei eithrio o’r cynllun.
Mewn ymateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Price, cytunodd Deiliad y Portffolio ystyried a fyddai unrhyw log yn cael ei dalu i landlordiaid a oedd wedi cael ad-daliad, ac a fyddent yn cael ad-daliad am unrhyw waith di-angen y gofynnwyd iddynt ei wneud.
|