Lleoliad: Ar Teams - By Teams. Gweld cyfeiriadau
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Sir Heulwen Hulme. |
|
Datganiadau o ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. |
|
Trawsnewid Dalgylch Llanfyllin PDF 348 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Sir Phyl Davies, Aelod Portffolio ar faterion Addysg ac Eiddo. |
|
Diwygiadau i Gytundeb Rhyng Awdurdod Tyfu Canolbarth Cymru PDF 634 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet drydydd fersiwn y Cytundeb Rhyng-Awdurdod a oedd yn nodi egwyddor llywodraethu a rheoli Bargen Twf Canolbarth Cymru. Bwriad IAA3 oedd dechrau ar ôl i’r Cytundeb Bargen Derfynol gael ei lofnodi rhwng y ddau Gyngor. Byddai'n parhau mewn grym ac yn weithredol am gyfnod y Fargen Dwf. Byddai Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru’n parhau fel y cydbwyllgor gweithredol o hyd gyda'r aelodaeth yn cynnwys deg aelod etholedig o gynrychiolwyr gan y Cynghorau (pump yr un). Ail-sefydlwyd holl baneli cynghori Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru mewn rhinwedd ymgynghorol i roi cyngor i'r Bwrdd.
Roedd y Gr?p Strategaeth Economaidd blaenorol wedi'i ailgyfansoddi fel y Gr?p Cynghori Economaidd gyda chylch gorchwyl newydd. Nid oedd gan y Cadeirydd hawliau pleidleisio ar Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru (y Bwrdd) mwyach.
Nid oedd cylch gorchwyl y Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu a'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol wedi newid i raddau helaeth o IAA2.
Roedd cylch gorchwyl Gr?p Rheoli Tyfu Canolbarth Cymru, a sefydlwyd o dan IAA1 i gydlynu cyngor a rheolaeth swyddogion proffesiynol i'r Bwrdd, wedi'i esblygu i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Fargen. Roedd ei aelodaeth yn cynnwys uwch swyddogion o'r ddau Gyngor, gydag arsylwyr o'r ddwy Lywodraeth.
Roedd rôl a swyddogaeth y Swyddfa Rheoli Portffolio yng nghyd-destun Bargen Twf Canolbarth Cymru bellach wedi'u diffinio o fewn IAA3. Roeddent yn rhoi cymorth a chyngor proffesiynol i'r Bwrdd ar ddarparu'r Portffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru.
Roedd Cynllun Dirprwyo yn Atodlen 1 i IAA3 hefyd yn nodi'r materion hynny a oedd ar gyfer y Gr?p Rheoli, ar gyfer y Bwrdd ac a gadwyd yn ôl ar gyfer y Cynghorau.
PENDERFYNWYD cymeradwyo IAA3 yn unol â'r drafft a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.
|
|
Eitemau wedi'u Heithrio Mae'r Swyddog Monitro wedi penderfynu bod yr adroddiad canlynol yn destun categori 1 y Rheolau Trefn Mynediad at Wybodaeth. Ei farn o ran prawf lles y cyhoedd (wedi ystyried darpariaethau Rheol 14.8, Rheolau Mynediad at Wybodaeth y Cyngor), oedd y byddai gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus yn groes i egwyddorion y Ddeddf Gwarchod Data ac yn datgelu data personol yn ymwneud ag unigolyn. Oherwydd hyn a chan nad oedd yn ymddangos bod yna galw mawr ymhlith y cyhoedd am ddatgelu'r data personol yma, roedd o'r farn bod diddordeb y cyhoedd wrth gadw'r eithriad yn fwy pwysig na diddordeb y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth. Gofynnir i Aelodau ystyried y ffactorau hyn wrth benderfynu ar brawf lles y cyhoedd, a dylent benderfynu hyn wrth iddynt ystyried eithrio'r cyhoedd o'r rhan hon o'r cyfarfod. Cofnodion: PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem ganlynol ar y sail y byddai’n datgelu gwybodaeth eithriedig iddynt o dan gategori 1 Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007).
|
|
Symud Ymlaen - Ailddylunio Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Powys Ystyried adroddiad yr Arweinydd, y Cynghorydd Sir Rosemarie Harris. Dogfennau ychwanegol:
|